Mae’n bwysicach nag erioed bod gan fudiadau gwirfoddol y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i gyllid ac amrywio’u hincwm. Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn gweithio i sicrhau trydydd sector ffyniannus a chynaliadwy, lle mae mudiadau yn diogelu ac yn cynhyrchu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddod drwyddi, ffynnu a pharhau i fod yn berthnasol yn y dyfodol.
Waeth a ydych chi’n chwilio am gyllid neu eisiau rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o godi arian, mae’r cyrsiau hyn yma i’ch helpu chi.
Cyrsiau Cyllid Cynaliadwy
Cyrsiau yn ôl piler
Adnoddau Cyllid Cynaliadwy i chi
Datblygu Tendr Llwyddiannus
Mae contractau’n cael eu hennill, a’u colli, ar ansawdd y bidiau a gyflwynir felly mae gallu ysgrifennu tendr da yn hanfodol. Bwriad y daflen wybodaeth hon yw rhoi darlun cryno o sut mae datblygu tendr llwyddiannus.
Prisio eich Tendr
Mae sawl peth i’w ystyried wrth brisio tendr. Bwriad y daflen wybodaeth hon yw rhoi darlun cyffredinol o’r materion allweddol i’w hystyried.
Pecyn Cymorth Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion
Mae’r pecyn cymorth etifeddol hwn wedi’i ddatblygu ar sail gwersi a ddysgwyd o’r gweithgareddau ehangu rhwydweithiau i gefnogi gwaith mudiadau eraill ar gynyddu amrywiaeth o fewn eu gwaith.