Codi Arian – Rhoddion

Trosolwg

Cyflwyniad

Mae sawl ffordd o godi arian gan unigolion. Bydd y daflen wybodaeth hon yn canolbwyntio ar roi yn rheolaidd, casgliadau (gan gynnwys codi arian wyneb yn wyneb) a loterïau.

Fel gyda phob gweithgaredd codi arian, cymerwch amser i feddwl yn strategol am y dulliau sydd fwyaf priodol i’ch mudiadau.

Ystyriwch pwy yw eich cynulleidfaoedd targed, y ffordd orau o’u cyrraedd a’u hysbrydoli i roi, a pha adnoddau sydd gennych neu sydd eu hangen arnoch i gyflawni’r gweithgareddau a nodwyd gennych.

Codi Arian – Cymynroddion

Mae adnodd ar wahân ar gyfer Codi Arian drwy Gymynroddion

Codi Arian – Cymynroddion

Yn yr un modd â phob dull codi arian, mae’n bwysig sicrhau bod eich gweithgaredd codi arian yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Codi Arian. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle rydych yn ymgysylltu â rhoddwyr mewn lleoliadau cyhoeddus. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddwch chi’n ymhél â rhoddwyr mewn lleoliadau cyhoeddus.

Darllenwch adrannau perthnasol y Cod yn llawn cyn ymrwymo i unrhyw weithgareddau codi arian. Mae angen i chi hefyd ystyried pa drwyddedau a chaniatâd ychwanegol y gall fod eu hangen ar gyfer eich gweithgareddau.

Rhoi yn Rheolaidd

Mae rhoi yn rheolaidd yn aml yn cael ei ystyried yn greal sanctaidd yn y maes codi arian; incwm dibynadwy, rheolaidd heb gyfyngiadau y gallwch chi ddibynnu arno sy’n eich galluogi i gyllidebu ymlaen llaw.

Mae llawer o fudiadau sy’n codi arian yn defnyddio amrywiadau ar syniad y Pyramid Codi Arian i feddwl am sut y gallant ddatblygu neu “stiwardio” darpar roddwyr (yn y pen draw unrhyw un y mae eich mudiad yn dod i gysylltiad ag ef) yn rhoddwyr go iawn, a’u gwthio i fyny’r ysgol i roi yn rheolaidd, rhoi rhoddion mawr a chymynroddion.

Mae ystyried GDPR yn bwysig iawn drwy gydol y broses hon; mae angen i chi sicrhau eich bod yn cael caniatâd priodol a hysbysu eich rhanddeiliaid ynghylch sut rydych yn defnyddio eu data.

  1. Meddyliwch am y cyfleoedd sydd gennych i gasglu gwybodaeth am eich darpar roddwyr a rhoddwyr presennol (er enghraifft mewn digwyddiadau). Gallwch gasglu enwau a manylion cyswllt gan bobl sy’n noddi pobl sy’n codi arian i chi (eto, sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â rheolau GDPR).
  2. Defnyddiwch system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid neu ewch ati i greu cronfa ddata sy’n cydymffurfio â GDPR (gallai hyn fod mor syml â thaenlen) o’ch rhoddwyr – pobl sydd wedi cynnal digwyddiad noddedig i chi, sydd wedi rhoi rhodd unwaith yn unig neu wedi defnyddio llwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol (fel Facebook ac Instagram) i godi arian i chi ar eu pen-blwydd ac ati. Neu gallai hyn fod yn bobl sy’n rhoi sylwadau/rhannu postiadau rydych chi’n eu gwneud yn rheolaidd. Gall fod angen llawer o adnoddau i gasglu data o’r fath, felly ystyriwch beth yw’r defnydd mwyaf effeithiol o’ch amser.
  3. Cadwch gofnod o pryd rydych chi’n cyfathrebu, pwy wnaeth gyfathrebu â nhw a beth rydych chi’n ei gyfathrebu, i ba ddigwyddiadau maen nhw’n dod neu’r rhoddion maen nhw’n eu gwneud. Mae hyn yn helpu gyda chysondeb ac yn osgoi dyblygu a all gwylltio darpar roddwr.
  4. Os bydd rhywun yn tynnu ei ganiatâd i chi gysylltu ag ef/hi yn ôl, neu’n gofyn i chi gysylltu ag ef/hi drwy ddull penodol yn unig (e.e. neges destun neu e-bost yn unig), gwnewch yn siŵr bod hyn yn cael ei gofnodi a’i ddilyn.
  5. Meddyliwch am sut y gallwch chi feithrin perthynas â’ch rhoddwyr a’u symud yn raddol i fyny’r pyramid fel y bo’n briodol. Gallai hyn fod yn negeseuon e-bost at gyfranogwyr digwyddiadau i ofyn iddynt ystyried bod yn rhoddwyr rheolaidd, neu hyd yn oed gadael ffurflenni cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol ar ddiwedd eich cylchlythyr i roi’r opsiwn i ddarllenwyr fod yn rhoddwyr rheolaidd. Cofiwch atgoffa pobl o’r effaith y mae eu rhodd yn ei chael a beth allai’r swm ychwanegol ei gynnig.
  6. Cofiwch fod pobl sydd eisoes yn eich cefnogi yn llawer mwy tebygol o wneud rhodd ddilynol/mwy o gymharu â chyswllt newydd. Dyma pam ei bod mor bwysig adeiladu rhestr o gysylltiadau ‘cynnes’.
  7. Yn yr un modd â phob gohebiaeth codi arian, mae’n bwysig bod gennych achos da er mwyn dangos i’ch rhoddwyr pam y dylent roi, a’r effaith y bydd yn ei chael ar eich buddiolwyr. Mae astudiaethau achos o unigolion penodol, gyda lluniau, yn helpu i ddod â’r effaith yn fyw.

Casgliadau

Rhybudd – mae casgliadau gan elusennau yn arwain at lawer o gamdriniaeth ddamweiniol a bwriadol, ac mae’n hanfodol bod mudiadau gwirfoddol yn arbennig o ofalus wrth gynnal unrhyw gasgliad neu gyflogi eraill i ymgymryd â chasgliad ar eu rhan. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw at reolau a chanllawiau a ddyfynnir yn y Cod Ymarfer Codi Arian wrth gynnal casgliadau. Gellir cael eich mudiad ac unrhyw drydydd parti sy’n cynnal casgliadau ar eich rhan yn euog o dorri’r Cod os gwneir unrhyw gwynion.

Beth yw casgliad?

Mae casgliadau ar y stryd, casgliadau o dŷ i dŷ, casgliadau ar safleoedd preifat, a blychau casglu statig i gyd yn dod o dan y pennawd cyffredinol ‘casgliadau’. Mae nifer o reoliadau (Deddf Hapchwarae 2005 yn bennaf), caniatadau arbennig ac arferion da, sy’n berthnasol i bob casgliad. Gall casgliadau ategu gweithgareddau codi arian eraill, yn enwedig digwyddiadau, i sicrhau’r incwm mwyaf posibl. Er enghraifft, gallai cynnal casgliadau bwced neu roi blychau casglu statig mewn digwyddiadau fel carnifalau, teithiau cerdded noddedig, teithiau beicio a chyngherddau annog cyfranogwyr i roi arian ychwanegol. Rhaid i leiafswm o 20% o’r elw fynd i’r elusen.

Bydd rhai siopau yn caniatáu i chi adael tuniau casglu ar eu safle. Sicrhewch eich bod yn eu casglu’n rheolaidd, eu bod wedi’u cau’n dynn, a byddwch yn ymwybodol bod rhai achosion o dorri i mewn yn digwydd lle mae lladron yn targedu tuniau casglu.

Beth yw’r manteision?

I lawer o fudiadau gwirfoddol, cynnal casgliad cyhoeddus yw un o’r ffyrdd pwysicaf y gallant godi arian anghyfyngedig. Y rheolau sylfaenol ar gasgliadau:

  • Trwyddedau – mae angen trwydded ar gyfer casgliadau ar y stryd a chasgliadau o dŷ i dŷ (gweler isod).
  • Eithriadau – nid oes angen trwydded arnoch, ond bydd angen caniatâd y perchennog neu’r landlord arnoch os byddwch yn trefnu casgliad.
    • Mewn digwyddiadau lle y codir tâl mynediad.
    • Ar safleoedd preifat eraill fel tafarndai, swyddfeydd, ysgolion a chanolfannau siopa preifat.
  • Mudiadau nad ydynt yn elusen – nid oes rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig i gynnal casgliad; gellir rhoi trwydded i fudiadau gwirfoddol eraill yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol.

Arferion da

Dyn ifanc a menyw ifanc wrth ddrws menyw hŷn sy'n rhoi arian mewn tin casglu

Dyma rai awgrymiadau:

  • Mae dyddiadau’n bwysig
    • Oni bai eich bod yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen debyg, ceisiwch osgoi gwrthdaro â chasgliadau eraill oherwydd efallai na fydd y naill na’r llall yn gwneud yn dda (dim ond ychydig o gasgliadau y mae rhai awdurdodau lleol yn eu trwyddedu bob blwyddyn).
    • Mae diwrnodau siopa prysur yn boblogaidd gyda chasglwyr, felly gwnewch gais am eich trwydded ymhell ymlaen llaw.
  • Hysbyswch yr heddlu ble a phryd y byddwch yn casglu – nid yw hyn yn hanfodol, ond gall helpu’r heddlu i atal casgliadau anawdurdodedig
  • Gwirfoddolwyr – gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o bobl sy’n fodlon gwneud casgliadau; nid yw rhai gwirfoddolwyr yn hoffi’r gwaith hwn, felly holwch sut maen nhw’n teimlo a rhowch ddigon o wybodaeth iddynt
  • Denu rhoddion – ni chaniateir i gasglwyr ysgwyd eu tuniau na gofyn i bobl am roddion, ond gall gwisg neu iwnifform a gwên gyfeillgar weithio
  • Cyfyngu’r amser – peidiwch â gofyn i gasglwyr sefyll yn y stryd am fwy na dwy awr; dim ond slot o awr y bydd y rhan fwyaf o bobl ei eisiau
  • Canolfan i gasglwyr – ceisiwch drefnu swyddfa neu siop fel canolfan ar gyfer casgliadau stryd lle y gall casglwyr gasglu tuniau, trwyddedau a chyfarwyddiadau a dychwelyd tuniau wedi hynny (mae hyn yn rhoi gwell rheolaeth i’r trefnwyr ac yn osgoi gorfod casglu tuniau coll).
  • Sicrhewch fod unrhyw un sy’n gweithio ar eich casgliad yn gwisgo manylion adnabod sy’n dangos ei fod yn casglu ar ran eich elusen.
  • Sicrhewch fod yr holl fwcedi/tuniau casglu wedi’u selio’n iawn yn ystod y casgliad. Efallai y gallech ystyried defnyddio tuniau â thema i ddenu sylw; er enghraifft tun y tu mewn i gi blewog ar gyfer casgliad elusen cŵn.
  • Darparu gwybodaeth – wrth wneud casgliadau ar y stryd, sicrhewch fod gwybodaeth am eich achos i’w gweld yn glir ar daflenni i’w dosbarthu. Os nad yw pobl yn gwybod am eich gwaith, nid ydynt yn debygol o roi arian.
  • Dewiswch y lle ar gyfer casglu yn ofalus. Dewch o hyd i ardaloedd prysur, ond nid mannau lle gallech chi fod yn y ffordd.

Trwyddedau

Gellir cael trwyddedau gan Swyddog Trwyddedu eich awdurdod lleol (cyngor sir). Cofiwch, gellir erlyn hyrwyddwyr am fethu â chynnal casgliad yn iawn.

  • Gwnewch gais mewn da bryd (o leiaf ddau fis ymlaen llaw, er bod rhai cynghorau’n nodi cyfnod hwy); gellir llacio’r trefniadau mewn amgylchiadau eithriadol fel apeliadau trychineb, ond peidiwch â dibynnu ar hynny
  • Rhaid i’r hyrwyddwr fod yn “berson addas a phriodol” – dylai’r awdurdod sicrhau hyn, a gall wrthod rhoi trwyddedau os na fydd yn fodlon ar hyn
  • Y wybodaeth y mae’n rhaid i’r noddwr ei darparu yw:
    • Enw a chyfeiriad yr hyrwyddwr. Enw, cyfeiriad, amcanion (a rhif elusen gofrestredig os yw’n berthnasol) y mudiad fydd yn cael budd.
    • Lleoedd a dyddiadau penodol y casgliad (y mae’n rhaid cadw atynt).

Gofal wrth drin arian

Mae’r Cod Ymarfer Codi Arian ar gael gan y Rheoleiddiwr Codi Arian ac maent yn amlinellu:

  • Dim ond tuniau wedi’u selio y dylid eu defnyddio ar gyfer casgliadau – mae bwcedi agored yn anghyfreithlon.
  • Dylai’r rhoddwr gau amlenni casglu.
  • Ni ddylai unrhyw gasglwr agor ei dun na’i amlenni.
  • Dylai’r hyrwyddwr neu’r trefnydd agor y tuniau casglu ym mhresenoldeb y casglwr, a chofnodi’r swm ar wahân ar gyfer pob casglwr.
  • Dylid cadw cofnodion o safleoedd da a gwirfoddolwyr brwdfrydig er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
  • A chofiwch ddiolch i bawb a helpodd – maent yn ei haeddu, ac efallai y bydd eu hangen arnoch eto.

Taliadau nad ydynt yn arian parod

Mae llai a llai o bobl yn cario arian parod o ddydd i ddydd. Os ydych chi’n bwriadu cynnal casgliadau yn rheolaidd, neu ddefnyddio blychau casglu statig fel ffynhonnell incwm reolaidd, mae’n werth ymchwilio i flychau rhoi digyffwrdd a buddsoddi ynddynt (e.e. y rhai sy’n gweithio ar drafodion cerdyn/ffôn). Dylech o leiaf gael Cod QR y gall pobl ei sganio i wneud taliad dros y ffôn drwy wefan.

Rhodd Cymorth

Cofiwch ystyried Rhodd Cymorth pan fyddwch yn codi arian o roddion unigol. Cynllun yw Rhodd Cymorth sy’n caniatáu i elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CChAC) hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) am bob £1 a roddir gan drethdalwr cymwys. I fod yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth, rhaid i’r mudiad sy’n derbyn y rhodd a’r rhoddwr fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.

Cyflwyniad i Rodd Cymorth

Am ragor o wybodaeth ar Gymorth Rhodd edrychwch ar yr adnodd hon.

Cyflwyniad i Rodd Cymorth

Loterïau a Rafflau

Beth yw loteri? Diffinnir loteri fel “dosbarthu gwobrau ar hap pan fydd y bobl sy’n cymryd rhan, neu nifer sylweddol ohonynt, yn gwneud taliad yn gyfnewid am y siawns o gael gwobr” (meini prawf Tŷ’r Arglwyddi).

Mae loterïau yn ffordd hynod boblogaidd o godi arian. Gallant fod yn effeithiol, ond mae’r rheoliadau’n ddigon cymhleth i fynnu astudiaeth ofalus.

Mae’r term “loteri” yn cynnwys eitemau megis tocynnau loteri, tocynnau raffl a chardiau crafu. Rheoliadau ar gyfer gwahanol fathau o loteri: Mae gwahanol reoliadau’n berthnasol yn dibynnu’n fras ar eu maint a ble mae’r tocynnau’n cael eu gwerthu.

Mae’r gwahaniaethau y mae’n rhaid i fudiadau gwirfoddol fod yn ymwybodol ohonynt fel a ganlyn:

  • Nid oes angen cofrestru loterïau bach (h.y. rafflau) ar yr amod:
    • Y gwerthir tocynnau ar y safle yn ystod digwyddiad elusennol (fel basâr, ffair, cinio neu ddawns) ac fel rhan o’r digwyddiad hwnnw.
    • Nid yw’r gwariant ar wobrau yn fwy na £250 (ond nid oes cyfyngiad ar werth eitemau a roddir).
    • Ni ddyfernir unrhyw wobrau ariannol.
  • Nid oes gan loterïau preifat unrhyw derfynau ar fath na gwerth gwobrau, ac nid oes angen i chi fod wedi cofrestru, ond mae nifer o gyfyngiadau yn berthnasol, gan gynnwys y safle lle maent yn cael eu gwerthu
  • Loterïau cymdeithas (cyhoeddus) – gellir gwerthu tocynnau mewn mannau cyhoeddus, ond rhaid cofrestru’r loteri gyda’r Comisiwn Hapchwarae neu eich cyngor sir lleol, ac mae nifer o gyfyngiadau yn berthnasol.

Llywodraethu

A yw eich dogfen lywodraethu yn caniatáu loterïau? Y peth cyntaf i’w gadarnhau yw a yw dogfen lywodraethu eich mudiad yn caniatáu i chi gymryd rhan mewn gamblo. Mae rhai elusennau yn ei wahardd yn benodol, felly efallai na fydd modd i chi gynnal digwyddiadau bingo a loterïau. Cofiwch ei bod yn bosibl diweddaru eich dogfen lywodraethu (dylai’r broses ar gyfer gwneud hynny gael ei hamlinellu yn y ddogfen lywodraethu), yn enwedig os oes gennych achos busnes da dros gynnal loteri fel llif incwm ychwanegol; yn 2018, cafodd hosbis plant Tŷ Hafan dros £2m drwy ei loteri Crackerjackpot.

Mae hefyd yn werth ystyried cael polisi o fewn eich mudiad ar foeseg derbyn rhoddion.

Rhai cyfyngiadau a rheoliadau cyffredinol

Mae nifer y cwynion a wneir gan y cyhoedd am loterïau a chasgliadau cyhoeddus yn debyg. Sicrhewch eich bod yn gwneud popeth yn gywir:

  • Os yw’r mudiad yn elusen gofrestredig, rhaid i’r tocyn loteri nodi hynny o dan gyfraith elusennau (os ydych yn defnyddio tocynnau ystafell gotiau, mae’n dderbyniol rhoi enw a rhif yr elusen arnynt gan ddefnyddio stamp rwber).
  • Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un o dan 16 oed werthu tocynnau loteri – felly dim ond mewn amlenni wedi’u selio y dylai cymdeithasau rhieni ac athrawon anfon tocynnau raffl at rieni.
  • Os ydych yn gwerthu tocynnau loteri ar y stryd, mae’n rhaid i chi wneud hynny o giosg neu fwth.
  • Os yw alcohol yn rhan o’r wobr, mae’n rhaid i chi gael trwyddedau gwirod priodol.
  • Cadarnhewch gyda’r Comisiwn Hapchwarae bob amser cyn cynnal raffl i helpu unigolyn – nid yw codi arian i unigolion yn elusennol, a gall fod yna oblygiadau o ran treth a budd-daliadau.

Loterïau ar-lein

Mae llawer o gwmnïau a fydd yn rhedeg loteri ar eich rhan neu y gall chwaraewyr ei chwarae, ac mae eu harian (neu gyfran ohono) yn cael ei roi i’ch elusen. Gall y loterïau hyn gael gwared ar lawer o’r gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig â rhedeg loteri a’ch galluogi i gyrraedd cynulleidfa lawer mwy. Fodd bynnag, ni fydd cymaint o’r arian yn mynd tuag at eich achos gan y bydd y cwmni sy’n gweithredu’r loteri yn cymryd ffi.

Canllawiau Pellach

Gellir cael canllawiau pellach am faterion statudol a rheoleiddiol gan y mudiadau canlynol:

Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig)

Y Rheoleiddiwr Codi Arian – Cod Ymarfer Codi Arian (Saesneg yn unig) (Yn cynnwys adrannau ar Ddata Personol a Chodi Arian, Rafflau a Loterïau, Casgliadau Statig a Chasgliadau Cyhoeddus)

Y Comisiwn Hapchware (Saesneg yn unig)

Y Sefydliad Codi Arian (Saesneg yn unig)