Amdanom ni

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r sector gwirfoddol cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Rydym yn gweithio gyda dinasyddion, gwirfoddolwyr a grwpiau sector gwirfoddol i ganfod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac i weithredu yn unol â hynny. Mae ein gweithgareddau craidd i gryfhau’r sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Galluogi a chefnogi
  • Bod yn gatalydd
  • Ymgysylltu a dylanwadu

English

I gyflawni nod y rhwydwaith, rydym yn cydweithio â phartneriaid allweddol eraill yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus, byd busnes, ymchwil a chyllidwyr.

Mae gennym bedair colofn o weithgaredd sy’n llunio’r hyn rydym yn ei gynnig, dyma’r pedair colofn:

  • Gwirfoddoli
  • Llywodraethu Da
  • Cyllid Cynaliadwy
  • Ymgysylltu a Dylanwadu

“Mae’r trydydd sector wedi bod yn ganolog erioed i newidiadau positif a gyda’r hinsawdd anodd sydd ohoni, mae rolau ein mudiadau amrywiol yn awr yn bwysicach nag erioed. Rhaid inni sefyll dros eraill a helpu ein gilydd i barhau i gyflawni.”

@CGGCCymru #gofod3

Jane Hutt, Dirprwy Prif Weinidog a Prif Chwip

Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n fras ar y themâu cyffredin canlynol:

  • Gwybodaeth a chyngor
  • Dysgu a datblygu
  • Rhwydweithio a chyfathrebu
  • Siapio, dylanwadu ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chydnerthedd y sector
  • Codi proffil y sector

Pam dewis Hwb Gwybodaeth?

Mae’r Hwb Gwybodaeth yn fan lle gallwch ddysgu a chysylltu ag eraill yn union fel chi ar draws y sector gwirfoddol. Mae’r Hwb Gwybodaeth yn darparu ystod o wybodaeth ddigidol ac adnoddau dysgu i’ch helpu:

  • Cadw i fyny â meddwl cyfredol
  • Gwella eich sgiliau a’ch arbenigedd
  • Cysylltu â phobl fel chi ac arbenigwyr i rwydweithio â nhw
  • Rhannu’r hyn sy’n gweithio gydag eraill
  • Rhwydweithio a chydweithio â chyfoedion

Cofrestrwch yn rhad ac am ddim heddiw.


Sut allwn ni helpu?

Archwilio llwyfannau digidol TSSW eraill

Funding Wales Logo

Cyllido Cymru

Dod o hyd i gyllid i’ch elusen, grŵp cymunedol neu fenter gymdeitghasol gan ddefnyddio ein chwilota ar-lein am ddim.

Cyllido Cymru
Volunteering Wales Logo

Gwirfoddoli Cymru

Mae Gwirfoddoli Cymru yn cysylltu gwirfoddolwyr â’r mudiadau sydd eu hangen.

Gwirfoddoli Cymru
infoengine Logo

infoengine

Infoengine yw’r cyfeirlyfr ar gyfer gwasanaethau gwirfoddol, chymunedol a trydydd sector yng Nghymru.

infoengine