Offeryn ar-lein am ddim yw Hanfodion Elusennau sydd wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer elusennau fel modd o wneud gwiriad iechyd sylfaenol ar sut mae eich mudiad yn perfformio, ei gryfderau a’r meysydd sydd angen eu datblygu.

Mae’r fersiwn ddwyieithog hon o’r offeryn Hanfodion Elusennau wedi’i chreu mewn partneriaeth â’n chwaer-gyngor yn Lloegr, NCVO.

Mae’r offeryn am ddim hwn yn meincnodi eich gwaith mewn 10 maes allweddol – bydd yn helpu i asesu’r effaith rydych chi’n ei chael ar lawr gwlad ac a ydych chi’n gwneud y defnydd gorau o’ch adnoddau.

Mae pob cwestiwn yn cynnwys eglurhad byr i gefnogi eich trafodaethau ac yn gofyn i chi bennu i ba raddau mae eich grŵp neu’ch elusen yn rhoi sylw i bob cwestiwn. Pan fyddwch chi’n nodi meysydd i’w datblygu, byddwch chi wedyn yn datblygu cynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r meysydd hyn i’w gwella.

Gellir defnyddio Hanfodion Elusennau:

  • fel ffordd o wneud ‘gwiriad iechyd’ sylfaenol ar sut mae eich mudiad yn perfformio ac yn cyflawni eich cenhadaeth.
  • fel offeryn i gynnwys pawb yn eich mudiad mewn trafodaethau ynghylch eich gwaith.
  • fel ffordd o gynnwys amrediad o randdeiliaid pwysig yn eich gwaith.
  • os ydych chi eisiau symud ymlaen i ddefnyddio safon ansawdd lawn yr Elusen Ddibynadwy yn y dyfodol.