Mae’r trydydd sector yn dibynnu ar gael staff cyflogedig a gwirfoddolwyr sydd â’r wybodaeth angenrheidiol i reoli eu mudiad a gwasanaethu eu cymuned. Mae hyn yn creu’r angen i sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf, eich bod yn ymwybodol o’r datblygiadau cyfredol a bod gennych chi wybodaeth weithiol am amrediad o bynciau. Mae galluogi a chefnogi pobl i wella eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn eu grymuso i ddefnyddio’u sgiliau a’u doniau i ddatblygu grwpiau cymunedol newydd a chryfhau’r rheini sydd eisoes yn bodoli.

Ni fu gwybodaeth a dysgu erioed mor bwysig mewn byd sy’n newid mor gyflym. Ein nod fel Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw cynnig amrywiaeth o adnoddau dwyieithog am ddim o safon uchel sy’n hawdd cael gafael arnyn nhw. Bydd y rhain yn ymwneud â phynciau sydd o werth i’r sector ac yn berthnasol iddo, y gallwch chi eu defnyddio pryd bynnag sydd eu hangen.
Caiff ein hadnoddau eu llunio gan arbenigwyr sy’n ymroddedig i werthoedd y trydydd sector yng Nghymru. Os oes gennych chi ofynion mynediad penodol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected] ac fe wnawn ni weithio gyda chi i wneud yn siŵr bod ein hadnoddau mor hygyrch â phosibl.
Gallwch chi hidlo ein hadnoddau fesul piler (prif bwnc), eu gosod yn nhrefn yr wyddor neu eu trefnu yn ôl pryd gawsant eu hychwanegu at y wefan. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth penodol, defnyddiwch y cyfleuster chwilio cyffredinol ar frig y dudalen i chwilio yn ôl geiriau allweddol a bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Yn seiliedig ar eich diddordebau
Rhoi corfforaethol – Gofyn
Gall rhoi corfforaethol ddarparu ffynhonnell dda o incwm anghyfyngedig, ond bydd yn dibynnu ar eich gallu chi i ddatblygu a chynnal perthynas gadarnhaol â’r busnes.
Codi arian deallusrwydd artiffisial (Templed)
To get the best results from using AI in fundraising it is highly advisable to provide the information in a clear format which will reduce the likelihood of AI making up/misinterpreting the information you provide.
Deallusrwydd Artiffisial a chyllid
Mae’r arweiniad hwn yn canolbwyntio ar ddulliau arfer da o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial a fydd yn berthnasol hyd yn oed wrth i’r dechnoleg barhau i ddatblygu.