Mae cael mwy o bobl i wirfoddoli yn allweddol i lesiant unigolion, cymunedau a Chymru fel cenedl. Nod Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwirfoddoli a helpu mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i recriwtio a chefnogi eu gwirfoddolwyr.
Waeth a ydych chi’n ystyried gwirfoddoli, eisoes yn wirfoddolwr neu’n fudiad sydd eisiau gwella’r ffordd rydych chi’n rheoli gwirfoddolwyr, mae’r cyrsiau hyn yma i’ch helpu chi.
Cyrsiau Gwirfoddoli
Cyrsiau yn ôl piler
Adnoddau gwirfoddoli i chi

Prisio eich tendr
Mae mudiadau trydydd sector yn ceisio amrywio eu ffynonellau incwm fwy a mwy drwy gynnwys strategaethau a thechnegau i gyflawni sylfaen gyllido gynaliadwy.

Cyflwyniad i Rodd Cymorth
Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy’n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob £1 a roddir gan drethdalwr cymwys.

Adennill Costau Llawn
Dull o gyllidebu ar gyfer prosiectau neu wasanaethau yw adennill costau llawn sy’n galluogi mudiadau i adennill yr holl gostau sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r prosiect neu’r gwasanaeth pan fyddant yn gwneud cais i gyllidwyr neu’n cyflwyno tendrau.