Mae rôl y sector mewn ymgysylltu a dylanwadu wedi cynyddu yng ngŵydd cyllidebau sy’n lleihau yn y sector cyhoeddus lleol a chenedlaethol a deddfwriaeth sy’n gofyn i’r sector fod yn rhan o lywodraethu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Nod Cefnogi Trydydd Sector Cymru o ran ymgysylltu a dylanwadu yw gwella polisïau a gwasanaethau cyhoeddus.
Waeth a ydych chi eisiau chwarae rhan weithredol mewn ymgysylltu â chymunedau, eisiau i’ch llais gael ei glywed neu eisiau datblygu eich sgiliau er mwyn dylanwadu’n effeithiol ar bolisi a’i lunio, mae’r cyrsiau hyn yma i’ch helpu chi.
Cyrsiau Ymgysylltu a Dylanwadu
Cyrsiau yn ôl piler
Adnoddau Ymgysylltu a Dylanwadu i chi
Diwygio’r senedd
Ar ôl etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026, bydd y Senedd yn destun diwygiadau mawr. Bydd yn symud i system o 16 etholaeth, pob un yn ethol chwe Aelod o’r Senedd (ASau).
Canllawiau ar Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol
Dogfennau canllaw ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol.
Mesur effaith eich gwaith
Bydd y daflen wybodaeth hon yn eich helpu i ddeall pwysigrwydd adrodd effaith a rhai egwyddorion ynghylch sut i fynd ati i’w chofnodi.