Mesur effaith eich gwaith

Trosolwg

Cyflwyniad

Tri pherson yn cydweithio ac yn adolygu dogfennau gyda’i gilydd

Mae’r rhan fwyaf o fudiadau wedi arfer cofnodi ac adrodd ar dargedau prosiect a chanlyniadau eu gwaith, fel gofynion ar gyfer derbyn cyllid yn aml. Yr hyn a all fod yn fwy heriol yw mesur effaith y gwaith hwn neu sut mae’n effeithio ar y cymunedau y mae mudiadau yn ceisio eu cefnogi. Bydd y daflen wybodaeth hon yn eich helpu i ddeall pwysigrwydd adrodd effaith a rhai egwyddorion ynghylch sut i fynd ati i’w chofnodi.

Beth yw effaith?

Mae effaith yn mynd y tu hwnt i fesur allbynnau a chanlyniadau eich gwaith ac mae’n edrych ar y newid tymor hwy ac ehangach sy’n deillio oherwydd gwaith eich mudiad.

Er enghraifft:

  • Allbwn fyddai: Cyflawni rhaglen hyfforddiant ar gyfer swydd dros gyfnod o chwe mis.
  • Gallai’r hyn a ganlyn fod yn ganlyniad: Mae rhaglen hyfforddiant ar gyfer swydd yn arwain at 70% o gyfranogwyr yn cael cyflogaeth o fewn chwe mis.
  • A byddai’r hyn a ganlyn yn effaith: Mae rhaglen hyfforddiant ar gyfer swydd yn cyfrannu at sefydlogrwydd ariannol hirdymor, llai o ddibyniaeth ar fudd-daliadau, a gwell llesiant cymunedol.

Pam mae mesur effaith yn bwysig

Hyfforddwr chwaraeon yn trafod tactegau gyda grŵp o chwaraewyr ar gae chwaraeon

Mae mesur effaith yn bwysig i fudiadau er mwyn sicrhau eu bod yn deall effeithiolrwydd eu gwaith a’u bod yn cyflawni newid gwirioneddol a chadarnhaol i’w buddiolwyr. Heb ddealltwriaeth glir o’r effaith, mae’n anodd gwybod a yw adnoddau yn cael eu defnyddio’n effeithlon neu a oes angen gwneud addasiadau i wella’r canlyniadau.

Mae mesur effaith yn chwarae rhan hanfodol wrth wella gwasanaethau, sicrhau cyllid, a dangos llwyddiant. Trwy nodi’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y mae angen ei wella, gall mudiadau fireinio eu gwasanaethau i ddiwallu anghenion buddiolwyr yn well, gan sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio’n effeithiol. Bydd integreiddio’r effaith yn eich cylch cynllunio yn sicrhau ei bod yn dod yn rhan reolaidd o’ch adroddiadau yn hytrach na gweithgaredd untro. Bydd cael y math hwn o fewnbwn rheolaidd yn dangos sut yr ydych yn gwneud gwahaniaeth dros gyfnod hirach o amser ac yn deall sut mae unrhyw newidiadau yn eich gwasanaeth yn effeithio ar yr effaith yr ydych yn ei gwneud.

Hefyd, mae cyllidwyr eisiau gwybod sut mae eu harian wedi gwneud gwahaniaeth, ac wrth wneud cais i gyllidwr, mae’r cyllidwr hefyd eisiau gallu gweld eich bod yn effeithiol yn yr hyn yr ydych yn ei gyflawni.

Mae hefyd yn helpu mudiadau i feithrin ymddiriedaeth gyda rhoddwyr, rhanddeiliaid, a’r gymuned ehangach drwy arddangos canlyniadau diriaethol a pharhaol.

Sut ydym yn mesur effaith?

Nid oes unrhyw reolau pendant ar sut i fesur na beth i’w fesur – bydd yn amrywio gan ddibynnu ar natur eich gwaith, yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni a phwy yw’r buddiolwyr. Ond yr hyn sy’n bwysig yw nodi’r newid y mae eich mudiad yn dymuno ei wneud ac yna nodi sut y gellir ei gofnodi. Mae hyn yn nodweddiadol drwy osod ychydig o ddangosyddion sy’n cynrychioli’r newid tymor hwy yr ydych yn dymuno ei fesur yn eich cymuned; gallai hyn fod yn ostyngiad mewn ynysigrwydd, gwell llesiant meddwl neu fwy o gadernid ariannol.

Mae Theori Newid ac Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad yn ddwy fethodoleg a ddefnyddir yn gyffredin sy’n rhoi fframwaith penodol i weithio ynddo.

Theori newid

Fframwaith strwythuredig sy’n amlinellu sut mae gweithgareddau mudiad yn arwain at yr effaith gymdeithasol a ddymunir yw Theori Newid. Mae’n mapio’r broses gam wrth gam o newid, gan gysylltu mewnbynnau (adnoddau) ag allbynnau (gweithgareddau), canlyniadau (newidiadau tymor byr a chanolig), a’r effaith derfynol (newid hirdymor).

Offeryn defnyddiol ydynt sy’n helpu mewn llawer o feysydd gwaith mudiad:

  • Eglurder a Strategaeth: Helpu i ddiffinio nodau yn glir a dangos sut mae gwaith yn arwain at newid ystyrlon.
  • Ceisiadau am Gyllid: Darparu rhesymeg gref sy’n seiliedig ar dystiolaeth i argyhoeddi cyllidwyr bod y mudiad yn effeithiol.
  • Monitro a Gwerthuso: Sefydlu dangosyddion clir i fesur a thystio’r cynnydd ac asesu’r effaith.
  • Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Helpu i gyfathrebu dull y mudiad o ymdrin â buddiolwyr, cyllidwyr a phartneriaid.
  • Addasu a Dysgu: Nodi heriau posibl a meysydd i’w gwella wrth ddarparu gwasanaethau

Mae’r erthygl hon gan Data Orchard a ysgrifennwyd ar gyfer prosiect Newid: Digidol ar Gyfer y Trydydd Sector yn rhoi enghraifft go iawn o’r modd y gellir cymhwyso theori newid i fesur effaith.

Beth yw enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad?

Dull a ddefnyddir i fesur a chyfathrebu’r gwerth cymdeithasol, amgylcheddol, ac economaidd a grëir gan weithgareddau mudiad yw Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad. Mae’n mynd y tu hwnt i fetrigau ariannol drwy neilltuo gwerth ariannol i fuddion cymdeithasol, gan helpu elusennau a chyllidwyr i ddeall effaith lawn eu gwaith.

Mae Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad yn helpu i fesur effaith drwy wneud yr hyn a ganlyn:

  • Meintioli Gwerth Cymdeithasol: Trosi canlyniadau (ee, gwell iechyd meddwl, mwy o gyflogadwyedd) yn dermau ariannol, gan wneud effaith fesuradwy.
  • Cryfhau Ceisiadau am Gyllid: Dangos manteision diriaethol, gan ddangos enillion clir ar fuddsoddiad i gyllidwyr am eu cymorth.
  • Gwella’r Proses o Wneud Penderfyniadau: Helpu mudiadau i ddyrannu adnoddau yn effeithiol yn seiliedig ar yr hyn sy’n cyflawni’r gwerth mwyaf.
  • Gwella Atebolrwydd a Thryloywder: Darparu adroddiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i randdeiliaid, gan sicrhau bod rhaglenni yn cyflawni newid ystyrlon.
  • Cefnogi Twf Strategol: Nodi ymyriadau llwyddiannus, gan alluogi elusennau i raddio gweithgareddau effeithiol.

Gosod dangosyddion allweddol

Pobl yn adolygu siartiau ac adroddiadau yn ystod cyfarfod

Nid yw’r newidiadau hirdymor y mae mudiadau yn eu gwneud, megis lefelau unigrwydd neu gadernid ariannol, yn rhwydd eu mesur bob amser; felly, gallwn osod dangosyddion ein hunain sy’n cynrychioli’r newidiadau hyn.

Mae dangosyddion yn arfer yn cael eu gosod gan ddefnyddio mesurau meintiol, hynny yw, y rhai y gellir eu cyfrif. Gallai nifer o’ch canlyniadau gyfrannu at yr effaith yr ydych yn ei gwneud. ‘Dangosyddion’ ydynt i ddarparu ffordd gyflym/rhwydd o olrhain y cynnydd, er enghraifft:

Ar gyfer lleihau unigrwydd, gallech gyfrif:

  • Nifer y bobl sy’n defnyddio clwb cinio
  • Nifer y bobl sy’n defnyddio cynllun car cymunedol i fynd i weithgaredd cymdeithasol
  • Nifer y bobl newydd sy’n mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol

Er mwyn ategu’r data hyn, byddai’r gwerthusiad wedyn yn archwilio hyn yn ddyfnach â chwestiynau uniongyrchol i fuddiolwyr, i fesur effaith y gwaith ar fynd i’r afael ag unigrwydd.

Gyda system sy’n gadael ichi gyfrif y defnyddwyr gwasanaeth unigryw (ee, – cyfrif unwaith ni waeth faint o weithiau y maent yn cael cymorth) byddai hyn wedyn yn dweud wrthych faint o bobl sydd wedi lleihau eu hunigrwydd. Gellir ailadrodd hyn bob blwyddyn a byddai’n dangos sut mae eich mudiad yn effeithio ar unigrwydd pobl.

Er mwyn ategu’r mesurau meintiol hyn, defnyddir mesurau ansoddol hefyd i roi cynrychiolaeth fwy disgrifiadol o newidiadau, a allai fod drwy astudiaethau achos a straeon personol, sylwadau neu arsylwadau, a chyfweliadau. Mae’r rhain yn rhoi ymdeimlad mwy dynol ac emosiynol o’r effaith yr ydych wedi ei gwneud.

Cofiwch adolygu’r dangosyddion yr ydych yn eu defnyddio i sicrhau eu bod yn dal yn briodol ac yn gallu cipio’r effaith yr ydych yn dymuno ei hadrodd.

Dulliau casglu data

Mae llawer o ffyrdd y gellir casglu data, megis arolygon a holiaduron, cyfweliadau a grwpiau pwyslais, astudiaethau achos a thystebau, monitro’r defnydd o’r gwasanaeth, a hyd yn oed olrhain y cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu digidol. Ond mae’n bwysig cofio defnyddio dulliau y gellir eu hailadrodd ac na fydd yn rhy gymhleth, yn rhy ddrud, nac yn cymryd gormod o amser i’w defnyddio.

Gall arolygon roi gwybodaeth fwy penodol ichi am effaith drwy ofyn yn uniongyrchol am yr effaith y mae gwaith y mudiad wedi ei chael ar rywun. Fodd bynnag, mae arolygon yn cymryd mwy o amser ac adnoddau i’w cynhyrchu, i’w cylchredeg ac i echdynnu data ohonynt. Gellir defnyddio dangosyddion fel ffordd llawer haws a chyflymach o fesur yr effaith. Fodd bynnag, mae arolygon yn offeryn da i atgyfnerthu canfyddiadau y dangosyddion a byddant yn rhoi dealltwriaeth mwy manwl o’r effaith ichi.

Dim ond y data sydd eu hangen arnoch y dylech eu casglu; mae hyn yn bwysig ar gyfer cydymffurfiaeth GDPR a’ch amser/ymdrech hefyd.

Gall gormod o ddata dynnu eich sylw a’ch arwain i golli golwg ar yr union beth yr oeddech yn dymuno ei fesur a’i ddeall.

Oherwydd bod mesur effaith yn gofyn ichi ddangos newid sydd wedi ei gyflawni, mae’n ddefnyddiol casglu data sylfaenol. Trwy gasglu data ar ddechrau eich prosiect/gweithgaredd, gallwch ddangos ‘llinell sylfaen’ neu fan cychwyn pobl ac yna mesur yr un dangosydd eto ar ôl hynny (ac yn ystod y broses o bosibl gan ddibynnu ar hyd yr ymyrraeth), gan roi cyfle ichi ddangos y newid a gyflawnwyd rhwng dechrau a diwedd eich gwaith.

Dadansoddi ac adrodd yr effaith

Ar ôl ichi gael y data, ystyriwch sut y byddwch yn eu defnyddio.

Dechreuwch drwy drefnu’r data yn feysydd allweddol a gwahanu’r data meintiol (niferoedd, canrannau) a’r data ansoddol (straeon, tystebau). Yna gallwch eu cymharu â’r data sylfaenol neu ddata y blynyddoedd blaenorol ac ag unrhyw dargedau yr ydych wedi eu pennu.

Chwiliwch am unrhyw dueddiadau neu batrymau allweddol yn y data; a yw’r lefelau wedi cynyddu neu ostwng? Ai hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl? Os nage, efallai y bydd angen ichi ymchwilio ymhellach i’r rhesymau i ddeall pam fo/nad yw rhywbeth wedi digwydd. A fu unrhyw ganlyniadau anfwriadol (cadarnhaol neu negyddol) ar eich gwaith?

Gan ddibynnu ar y data a gasglwyd, efallai y byddwch hefyd yn gallu cymharu’r effaith ar wahanol grwpiau (ee, oedran, rhywedd, lleoliad) er mwyn nodi gwahaniaethau mewn canlyniadau.

Efallai yr hoffech adrodd hefyd ar gost-effeithiolrwydd eich gwasanaeth; gallai hyn fod y gost fesul buddiolwr neu’r Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad. Efallai yr hoffech nodi hefyd a yw eich gwaith wedi eich helpu i ddenu mwy o gyllid neu ddatblygu partneriaethau newydd.

Cyfathrebu’r effaith

Meddyliwch am wahanol ffyrdd y gallwch gyfathrebu eich effaith â gwahanol gynulleidfaoedd e.e. rhannu’r ffeithluniau fel delweddau cyfryngau cymdeithasol.

Ysgrifennwch adroddiad ar yr effaith y gallwch ei rannu â chyllidwyr, rhanddeiliaid, a chefnogwyr a’i gynnwys yn eich adroddiad blynyddol. Cadwch hyn yn gryno—mae 1-2 dudalen yn ddigon i gyfleu effaith y pennawd a dangos pa mor dda yr ydych yn gwneud yr hyn yr ydych yn ei wneud. Meddyliwch am wahanol ffyrdd y gallwch gyfathrebu eich effaith â gwahanol gynulleidfaoedd ee, gall rhannu’r ffeithluniau fel delweddau cyfryngau cymdeithasol a defnyddio clipiau byrrach o unrhyw fideos fod yn ffordd wych o gyrraedd pobl na fyddai’n arfer yn gweld eich adroddiad blynyddol neu’n dymuno darllen y ddogfen hirach.

Gwnewch yr adroddiad yn rhwydd ei ddarllen a defnyddiwch ffeithluniau (siartiau, ystadegau, a graffeg i wneud data yn dreuliadwy), lluniau, ac astudiaethau achos i ddangos pobl go iawn y mae eich gwaith wedi effeithio arnynt a gwneud i’r effaith deimlo’n bersonol. Mae dyfyniadau a thystebau hefyd yn helpu i roi adroddiadau uniongyrchol o’r effaith.

Gellir eu gwneud gan ddefnyddio offer megis Canva drwy gynnwys lluniau/dyfyniadau.

Canva

Efallai yr hoffech hefyd ddefnyddio fideo i adrodd a rhannu’r effaith, sy’n rhoi cyfle ichi gynnwys straeon unigol pobl. Nid oes rhaid i fideos gymryd llawer o amser bob amser. Gall offer deallusrwydd artiffisial wneud fideo o rywfaint o destun hyd yn oed.

Dylech ddefnyddio’r data hyn i lywio strategaethau yn y dyfodol ac i ddatblygu gwasanaethau hefyd, yn ogystal ag adolygu’r broses a gymerwyd a nodi sut y gellid ei gwella yn y dyfodol.

Offer a meddalwedd

Mae llawer o offer a meddalwedd ar gael (y mae llawer ohonynt yn ddi-dâl) a all eich helpu i Fesur ac Adrodd yr Effaith. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:

  • Offer Arolygu: Google Forms, SurveyMonkey, Typeform, Tripetto, MS Forms
  • Systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid: Salesforce, Beacon, Charitylog (i olrhain rhyngweithiadau rhwng rhoddwyr a buddiolwyr) Newid, gan ddefnyddio Airtable (a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru)
  • Dadansoddi Data: Microsoft Excel, Power BI, Google Data Studio
  • Dylunio Ffeithluniau ac Adroddiadau: Canva, Piktochart, Visme

Awgrym gwych

Archwilio pa swyddogaethau sydd eisoes ar gael ichi yn eich systemau presennol, yn enwedig os yw eich gweithle yn defnyddio Microsoft 365 neu Google Workspace

Adnoddau eraill

Gwybodaeth ac adnoddau

New Philanthropy Capital: Theory of Change

https://wcva.cymru/wp-content/uploads/2020/01/Impact-Measurement-Starter.pdf

Social Value Cymru

https://mantellgwynedd.com/eng/svc/social-value-cymru.html

Social Change UK, SROI

http://social-change.co.uk/files/Social_Change_-_Introduction_to_SROI_1.pdf

Adnoddau impact resources

https://www.thinknpc.org/resource-hub/the-inspiring-impact-programme/ (Nodwch os gwelwch yn dda nad yw prosiect Inspiring Impact yn fyw mwyach, ond bod adnoddau a ddatblygwyd yn ystod y rhaglen ar gael o hyd yn y ddolen hon)

Newid: Digidol ar Gyfer y Trydydd Sector

Ffyrdd syml o ddangos effaith gan ddefnyddio offer digidol

Hyfforddiant

WCVA – A theory of Chance approach to evaluation:
https://wcva.cymru/training-info/impact-and-evaluation/ 

Enghreifftiau o adroddiad ar yr effaith

Charity digital – six inspiring impact reports

https://charitydigital.org.uk/topics/six-impact-reports-to-inspire-you-9941