Canllawiau ar Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol
Trosolwg
Mae presgripsiynu cymdeithasol wedi bod yn rhan o’r dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ers peth amser bellach. Yn y Fframwaith, caiff ei ddiffinio fel ‘term cyffredinol sy’n disgrifio dull person canolog o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol’, fel grwpiau a gwasanaethau yn y sector gwirfoddol.
Gallai’r gwasanaethau hyn gael eu darparu ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gallai pobl hunan-atgyfeirio i’r mudiadau hyn, neu gael eu hatgyfeirio neu eu cyfeirio gan feddygon teulu, gwasanaethau statudol neu’r sector gwirfoddol.
Diben y Fframwaith yw:
- Sicrhau bod yr holl gydberthnasau sydd wrth wraidd y ddarpariaeth yn ddiogel ac yn saff
- Datblygu dealltwriaeth a rennir o’r problemau sy’n arwain pobl i chwilio am help
- Cefnogi gweithluoedd lleol i chwarae eu rôl mewn pregripsiynu cymdeithasol yn llawn a datblygu sgiliau
- Gwella ansawdd y ddarpariaeth bresennol, a monitro a gwerthuso atgyfeiriadau a’u canlyniadau
- Mynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldeb ac annhegwch a allai fodoli o fewn y maes presgripsiynu cymdeithasol ar hyn o bryd
Lawrlwythwch y fframwaith cymhwysedd ar gyfer ymarferwyr rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru 2023 – dogfen ategol a chymwyseddau yma