Mae rôl y sector mewn ymgysylltu a dylanwadu wedi cynyddu yng ngŵydd cyllidebau sy’n lleihau yn y sector cyhoeddus lleol a chenedlaethol a deddfwriaeth sy’n gofyn i’r sector fod yn rhan o lywodraethu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Nod Cefnogi Trydydd Sector Cymru o ran ymgysylltu a dylanwadu yw gwella polisïau a gwasanaethau cyhoeddus.
Waeth a ydych chi eisiau chwarae rhan weithredol mewn ymgysylltu â chymunedau, eisiau i’ch llais gael ei glywed neu eisiau datblygu eich sgiliau er mwyn dylanwadu’n effeithiol ar bolisi a’i lunio, mae’r cyrsiau hyn yma i’ch helpu chi.
Cyrsiau Ymgysylltu a Dylanwadu
Cyrsiau yn ôl piler
Adnoddau Ymgysylltu a Dylanwadu i chi
Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn sianel ryngweithiol, ddigidol sy’n hwyluso’r broses o greu neu rannu gwybodaeth, syniadau, diddordebau gyrfa, a mathau eraill o fynegiant drwy gymunedau a rhwydweithiau rhithwir. Mae llawer o gyfryngau traddodiadol yn cyflwyno gwybodaeth i gynulleidfaoedd ond yn rhoi ychydig iawn o allu iddynt roi eu barn ar fater.
Egwyddorion Cenedlaethol ar Gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru
Mae’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru yn grŵp o ddeng egwyddor ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau.
Egwyddorion Cenedlaethol ar Gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru – Fersiwn hawdd ei darllen
Mae’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru yn grŵp o ddeng egwyddor ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau.