Paratoi ar gyfer croesawu gwirfoddolwyr
Siaradwch â phobl eraill
Gall croesawu gwirfoddolwyr i’ch mudiad ddod â llawer o fuddion i chi, ond mae hefyd yn gofyn am ymrwymiad i greu cyfleoedd ystyrlon a dymunol. Bydd hyn yn golygu defnyddio adnoddau – amser ac arian – felly mae angen i chi fod yn siŵr bod gennych chi’r capasiti i wneud hyn yn dda.
Cymerwch yr amser i siarad â’r bobl yn eich mudiad a fydd yn cael eu heffeithio pan fyddwch chi’n cyflwyno gwirfoddolwyr. Mae hefyd yn bwysig bod gennych chi gefnogaeth eich bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli. Sicrhewch eich bod yn gwybod beth sydd ei angen.
Beth mae canolfannau gwirfoddoli yn ei wneud yng Nghymru?
I gael dealltwriaeth o’r help sydd ar gael yn lleol, edrychwch ar ein taflen wybodaeth ‘Beth mae canolfannau gwirfoddoli yn ei wneud yng Nghymru?’
Ewch ati i lunio eich strategaeth gwirfoddoli
Unwaith y byddwch chi wedi siarad â phobl a dod i gytundeb o ran pam a sut y byddwch chi’n cynnwys gwirfoddolwyr, gallwch chi gofnodi hyn a llunio eich strategaeth gwirfoddoli.
Mae strategaeth gwirfoddoli yn nodi’r hyn rydych chi eisiau ei gyflawni o ran gwirfoddoli a sut bydd gwirfoddolwyr yn cyfrannu at nodau’r mudiad. Mae hefyd yn nodi’r egwyddorion cyffredinol y byddwch chi’n eu dilyn i ddod o hyd i wirfoddolwyr, eu recriwtio a’u cynorthwyo. (Bydd y manylion ynghylch sut byddwch chi’n mynd ati i wneud hyn yn eich polisi gwirfoddoli y byddwn ni’n rhoi sylw iddo yn ein hadran Llunio eich polisi gwirfoddoli).
Datblygu Strategaeth Wirfoddoli
Mae gennym ni daflen wybodaeth, Datblygu Strategaeth Wirfoddoli, sy’n nodi’r prif gwestiynau y dylech chi weithio drwyddynt i lunio eich strategaeth.
Sicrhewch eich bod yn deall y gyfraith
Mae nifer o ystyriaethau cyfreithiol yn berthnasol i’r gydberthynas rhwng mudiad a’i wirfoddolwyr. Er nad oes gan wirfoddolwyr statws cyfreithiol penodol yng nghyfraith y DU (ac felly’n methu ag elwa ar yr un diogelwch â chyflogeion), bydd angen i chi ystyried buddiannau gwirfoddolwyr wrth lunio eich polisïau a gweithdrefnau.
Mewn rhai meysydd allweddol, bydd gennych chi gyfrifoldeb tuag at wirfoddolwyr, neu bydd angen i chi ystyried y sefyllfa gyfreithiol er mwyn datblygu arferion gorau wrth reoli gwirfoddolwyr:
- Iechyd a diogelwch – bydd gennych chi gyfrifoldeb tuag at wirfoddolwyr, naill ai o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch neu ddyletswydd i ofalu cyffredinol
- Diogelu data – rhaid i chi gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data pan fyddwch chi’n ymdrin â data personol gwirfoddolwyr
- Diogelu – mae eich cyfrifoldebau diogelu yn cynnwys gwirfoddolwyr
- Hawlfraint – mae angen i chi ddeall y gyfraith o ran cynnwys sy’n cael ei greu gan wirfoddolwyr
- Treuliau a buddion anariannol – mae’n bwysig ad-dalu gwirfoddolwyr am eu costau gwirioneddol, ond mae angen i chi ddeall y rheolau er mwyn osgoi creu unrhyw fath o gydberthynas gontractiol
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Dyluniwyd Deddf Cydraddoldeb 2010 i fynd i’r afael â gwahaniaethu annheg, aflonyddwch ac erledigaeth. Mae’n cyflwyno fframwaith cyfreithiol i ddiogelu unigolion rhag triniaeth annheg ac yn hybu cymdeithas deg a mwy cyfartal. Mae angen i chi ddeall sut bydd y darpariaethau hyn yn berthnasol i wirfoddolwyr o fewn eich mudiad.
Efallai y bydd gan rai gwirfoddolwyr gontract i wneud gwaith i chi’n bersonol a derbyn mwy na dim ond eu treuliau parod yn gyfnewid am hyn. Os yw hyn yn berthnasol i’ch gwirfoddolwyr chi, yna gallai Deddf Cydraddoldeb 2010 eu diogelu fel pe bai nhw’n cael eu cyflogi gennych chi, a dylech ddarllen canllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) i weld beth mae’r gyfraith gydraddoldeb yn ei golygu i gyflogwyr.
Os nad yw hyn yn berthnasol i’ch gwirfoddolwyr, yna mae’n bosibl, pan fyddwch chi’n cynnig cyfle gwirfoddoli i rywun, y bydd yn cyfri fel cynnig gwasanaeth iddyn nhw.
Mae hyn yn golygu bod Deddf Cydraddoldeb 2010 mor gymwys i’ch gwirfoddolwyr ag yw i’ch defnyddwyr gwasanaethau neu gleientiaid eraill. Ni ddylech ddangos gwahaniaethu anghyfreithlon yn y ffordd rydych chi’n trin gwirfoddolwyr.
Waeth beth yw ei statws cyfreithiol, mae’n bur debyg y byddai gwirfoddolwr sy’n darparu eich gwasanaeth chi yn gweithredu ar eich rhan pe bai’n gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn cleient neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Os felly, gallech, yn ôl y gyfraith, fod yn gyfrifol am yr hyn a wnaeth. Dyma fyddai’r achos hyd yn oed os nad oeddech chi’n ymwybodol o’r ymddygiad a heb ei gymeradwyo.
Mae hyn yn golygu felly ei bod hi’n bwysig dilyn deddfwriaeth gydraddoldeb yn y ffordd rydych chi’n trin gwirfoddolwyr, ac yn y ffordd y mae gwirfoddolwyr yn cyflwyno gweithgareddau eich mudiad.
Rhagor o wybodaeth
I gael cyflwyniad i’r materion cyfreithiol y dylech chi feddwl amdanynt, edrychwch ar ein taflen wybodaeth Gwirfoddolwyr a’r Gyfraith.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data, iechyd a diogelwch a llunio polisïau yn ein hadran Rhedeg eich mudiad.
Mae ein taflen wybodaeth, Cadw Gwirfoddolwyr yn Ddiogel a’n hadran Diogelu yn rhoi rhagor o wybodaeth am y camau y dylech chi eu cymryd i gadw gwirfoddolwyr yn ddiogel.
Mae gennym ni hefyd daflen wybodaeth i’ch helpu chi gyda Threuliau Gwirfoddolwyr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Cydraddoldeb a sut i greu mudiad cynhwysol i wirfoddolwyr yn ein taflen wybodaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Gwirfoddoli.
Ffynonellau eraill o gymorth
Mae gan NCVO adran fanwl ar eu gwefan (Saesneg yn unig) sy’n cyflwyno cyfrifoldebau cyfreithiol mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr.
Gwiriwch eich yswiriant
Mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich gwirfoddolwyr wedi’u cynnwys ar eich yswiriant, a’ch bod chi’n deall, ac yn cyfathrebu, unrhyw gyfyngiadau ar lefel y diogelwch.
Mae ein taflen wybodaeth, Gwirfoddolwyr ac Yswiriant, yn amlinellu’r gwahanol fathau o yswiriant sy’n cynnwys gwirfoddolwyr a lleoedd eraill y gallwch chi fynd am ragor o wybodaeth.
Gallwch chi hefyd edrych ar ein hadran Rhedeg eich mudiad sy’n cynnwys rhai pwyntiau allweddol ynghylch rheoli risg ac yswiriant.
Llunio eich polisi gwirfoddoli
Mae polisi gwirfoddoli yn nodi’r egwyddorion a’r arferion rydych chi’n eu dilyn wrth gynnwys gwirfoddolwyr yn eich mudiad. Mae’n berthnasol i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff (os oes gennych chi rai). Mae’r polisi yn adeiladu ar eich strategaeth wirfoddoli drosfwaol i egluro’r rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal o ran rheoli gwirfoddolwyr.
Dylai polisi gwirfoddoli gynnwys y canlynol:
- sut bydd eich mudiad yn recriwtio gwirfoddolwyr
- sut bydd yn gwneud yn siŵr ei fod yn trin pob gwirfoddolwr mewn modd teg a pharchus
- proses gynefino a hyfforddi gwirfoddolwyr
- sut bydd yn talu treuliau gwirfoddolwyr
- y broses ar gyfer goruchwylio a chynorthwyo gwirfoddolwyr
- gweithdrefnau datrys problemau a chwynion ar gyfer gwirfoddolwyr.
Dylai eich polisi gwirfoddoli hefyd gysylltu â pholisïau sefydliadol allweddol eraill sy’n berthnasol i wirfoddolwyr – er enghraifft, iechyd a diogelwch a diogelu data.
Rydyn ni wedi llunio canllawiau ar gyfer Creu Polisi Gwirfoddoli a thempled o Bolisi Gwirfoddoli y gallwch chi ei addasu ar gyfer eich mudiad. Mae’r polisi hwn wedi’i ysgrifennu fel pe bai gennych chi aelod staff a fydd yn cymryd yr awenau o ran cydlynu gwirfoddolwyr. Os nad oes gennych chi aelod staff a all ymgymryd â’r rôl hon, dylech benodi gwirfoddolwyr neu ymddiriedolwr arall i wneud y rôl hon a diwygio’r polisi i adlewyrchu hyn. Efallai y bydd rhai pethau yn y polisi nad ydych chi’n credu y gall eich mudiad ymrwymo iddynt eto, ac mae hynny’n iawn, ond mae’r templed yn dangos y pethau y dylech weithio tuag atynt fel eich bod yn dilyn arferion gorau wrth reoli gwirfoddolwyr.
Creu disgrifiadau rôl gwirfoddolwyr
Mae’n arfer da i greu disgrifiadau rôl ar gyfer pob un o’ch cyfleoedd gwirfoddoli. Mae hyn yn sicrhau bod dealltwriaeth glir o beth y mae’r rôl yn ei chynnwys. Dylai disgrifiadau rôl fod yn gyson ar draws eich mudiad a dilyn eich polisi gwirfoddoli.
Cofiwch eich bod chi eisiau i’ch cyfle gwirfoddoli fod yn ddeniadol i wirfoddolwyr, felly mae’n bwysig creu rolau sy’n hyblyg. Ceisiwch beidio â bod yn rhy gaeth i’r ymrwymiad amser rydych chi’n gofyn amdano (oni bai ei fod yn gwbl hanfodol i’r rôl) a byddwch yn barod i wneud addasiadau i’r rôl i gyd-fynd â diddordebau, galluoedd ac uchelgeisiau eich gwirfoddolwyr unigol.
Mae ein taflen wybodaeth, Datblygu Strategaeth Wirfoddoli, yn cynnwys adran ar ddisgrifiadau rôl, a gallwch chi ddefnyddio ein Templed Disgrifiad Rôl Gwirfoddolwr i lunio’r disgrifiadau ar gyfer eich cyfleoedd gwirfoddoli.
Dylech feddwl am sut bydd eich cyfleoedd gwirfoddoli yn denu pobl o wahanol oedrannau, rhyw, cefndiroedd, galluoedd a diddordebau. Bydd ein taflen wybodaeth, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Gwirfoddoli yn eich helpu gyda hyn.
Deall Gwirfoddoli
Mae gennym ni ddau gwrs e-ddysgu am ddim hefyd sy’n rhoi trosolwg o’r prif faterion sydd angen i chi roi sylw iddynt pan fyddwch chi’n cyflwyno gwirfoddolwyr i’ch mudiad.
Ffynonellau eraill o gymorth
Mae’r Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (Saesneg yn unig) yn ganllaw defnyddiol i arferion da mewn gwirfoddoli a rheoli gwirfoddolwyr, ac mae am ddim i’w lawrlwytho