Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm
Wedi diweddaru Hydref 2025
Trosolwg
- Cynhyrchu Incwm
- Pam gwneud Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm?
- Pa gwestiynau y dylai gwiriad iechyd eu cynnwys?
- Sut y dylid defnyddio’r gwiriad iechyd
- Sut dylai gwiriad iechyd edrych?
- Cwestiynau allweddol i’w cynnwys yn eich Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm
- Templed
Mae’r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm. Drwy gynnal y gwiriad iechyd hwn, gallwch chi sicrhau bod gennych chi’r polisïau, y gweithdrefnau a’r offer cywir ar waith i gryfhau galluoedd cynhyrchu incwm eich mudiad a gwella eich siawns o ddod ag incwm ychwanegol i mewn i’ch mudiad.
Cynhyrchu Incwm
Pan fyddwn yn siarad am gynhyrchu incwm, rydym yn cyfeirio at unrhyw weithgaredd sy’n codi arian i’ch sefydliad, yn amrywio o weithgareddau codi arian “traddodiadol” fel rhoddion ac etifeddiaethau, rafflau a boreau coffi, nawdd hyd at geisiadau am grantiau, masnachu a chontractau. Gyda chystadleuaeth gynyddol am arian, ac adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i gefnogi cynhyrchu incwm, bydd cynnal gwiriad iechyd yn helpu i gryfhau eich gallu i gynhyrchu arian o ffynonellau mwy a mwy amrywiol.
Pam gwneud Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm?
Mae’r rhan fwyaf o fudiadau’r sector gwirfoddol yn dibynnu ar weithgareddau cynhyrchu incwm o ryw fath; mae codi arian yn her barhaus.
Mae gwiriad iechyd, y cyfeirir ato hefyd fel archwiliad, adolygiad neu wiriad cryfder, yn ymarfer hunanasesu gyda rhestr o gwestiynau i’w hateb, er mwyn sicrhau eich bod yn y sefyllfa orau i allu cynhyrchu incwm. Mae nifer o bethau a ddylai fod ar waith gennych i wneud y broses o gynhyrchu incwm, mewn unrhyw ffordd, yn haws ac yn fwy effeithlon. Bydd cwblhau gwiriad iechyd a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau y byddwch yn eu nodi drwyddo yn helpu i wneud eich gweithgareddau cynhyrchu incwm mor ddidrafferth â phosibl, ac yn helpu eich mudiad i wneud y defnydd gorau o’i allu i gynhyrchu incwm.
Mae gwiriadau iechyd hefyd yn helpu i nodi meysydd i’w datblygu drwy dynnu sylw at wendidau a chyfleoedd. Gellir datblygu camau gweithredu ar gyfer y meysydd hyn yn gynllun i weithio arno dros gyfnod o amser sy’n gweithio i chi ac mewn ffordd sy’n briodol i’ch mudiad.
Pa gwestiynau y dylai gwiriad iechyd eu cynnwys?
Mae’r gwiriad iechyd yn cydnabod bod cynhyrchu incwm yn weithgaredd sy’n effeithio ar y mudiad cyfan. Dylai unrhyw weithgareddau cynhyrchu incwm gael eu llywio gan gynlluniau strategol a sefyllfa ariannol bresennol y mudiad, a dylent wneud y defnydd gorau o adnoddau presennol.
Mae’r gwiriad iechyd yn cynnwys ystod o gwestiynau sy’n eich herio i fyfyrio ar y trefniadau presennol, a nodi camau gweithredu y gallwch chi weithio arnynt i wneud gwelliannau.
Mae enghreifftiau o’r meysydd i’w cwmpasu wedi’u nodi yn adran olaf y daflen wybodaeth hon, ac maent yn cynnwys pynciau fel llywodraethu, sefyllfa ariannol, sut mae gweithgarwch codi arian wedi’i wreiddio yn y mudiad, gweithgaredd tîm, rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, marchnata a rheoli risg.
Sut y dylid defnyddio’r gwiriad iechyd
Mae cynhyrchu incwm yn weithgaredd a ddylai gynnwys y mudiad cyfan, ac felly dylid ystyried y gwiriad iechyd yn weithgaredd tîm sy’n cynnwys staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a buddiolwyr (fel y bo’n berthnasol) i gael amrywiaeth o safbwyntiau ac i wneud y gorau o’r sgiliau a’r profiadau amrywiol yn eich mudiad. Er enghraifft:
- Mae staff y prosiect, pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth a buddiolwyr yn hanfodol i adeiladu’r achos dros gefnogi a deall y gwahaniaeth sy’n cael ei wneud.
- Gall cyllid ddarparu gwybodaeth ariannol a gosod cyllidebau sy’n llywio eich targedau codi arian.
- Bydd yr arweinydd marchnata yn helpu i feithrin dealltwriaeth o bwy yw eich cynulleidfaoedd a sut rydych chi’n cyfathrebu â nhw.
Defnyddiwch fylchau a nodwyd yn y gwiriad iechyd i ddatblygu camau gweithredu a fydd yn eich helpu i adeiladu sylfaen well ar gyfer eich gweithgareddau cynhyrchu incwm. Anelwch at wneud cynnydd araf a chyson drwy greu tasgau hylaw y gellir eu cyflawni’n realistig. Nid oes angen i chi wneud y cyfan ar unwaith!
Cynlluniwch amser i edrych ar y camau gweithredu eto, gwneud yn siŵr nad yw pethau wedi disgyn ar fin y ffordd, a diweddaru’r gwiriad iechyd a’r camau gweithredu wrth i bethau newid.
Unwaith y byddwch wedi datblygu’r pwyntiau gweithredu a nodwyd gan y gwiriad iechyd, meddyliwch sut y gallai’r rhain fod yn gam cyntaf tuag at ddatblygu strategaeth codi arian, os nad oes gennych un yn barod.
Peidiwch ag aros nes eich bod mewn sefyllfa newydd neu ar fin colli swm mawr o gyllid. Gellir gwneud y gwiriad iechyd unrhyw bryd – mae’n ymwneud â sicrhau bod gennych chi’r blociau adeiladu ar waith fel bod popeth sydd ei angen arnoch yn barod pan fydd angen i chi gwblhau cais neu gynnal ymgyrch.
Sut dylai gwiriad iechyd edrych?
Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer gwiriad iechyd, ond dylai fod yn glir a dylai ddarparu cynllun gweithredu defnyddiol. Bwriedir iddo fod yn ddogfen weithio y gallwch chi gyfeirio ati a’i diweddaru wrth i chi symud ymlaen. Mae enghraifft o fformat wedi’i nodi isod, ond gallwch chi ei addasu i weddu i’ch mudiad.
| CWESTIWN | ATEB | TYSTIOLAETH AWGRYMEDIG | SYLW / CAM GWEITHREDU SYDD EI ANGEN | ||
| Ie | Na | Yn rhannol / Arall (rhowch fanylion) | |||
Awgrym da – dylai pob cam gweithredu fod yn CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol). Bydd hyn yn eich helpu i fod yn atebol am eu cwblhau.
Cwestiynau allweddol i’w cynnwys yn eich Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm
Gwybodaeth llywodraethu
- A ydym yn deall ein gweledigaeth a’n cenhadaeth ac yn eu mynegi’n glir?
Pam? Bydd eich gweledigaethau a’ch cenhadaeth yn llywio eich cynlluniau cynhyrchu incwm, gan helpu i osgoi ehangu amcanion a darparu’r ysbrydoliaeth ar gyfer gweithgareddau.
- A yw’r Bwrdd / Pwyllgor Rheoli yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol?
Pam? Er na fydd y Bwrdd efallai yn ymwneud â gweithgareddau cynhyrchu incwm o ddydd i ddydd, y Bwrdd sy’n gyfrifol yn y pen draw.
- A ydym yn adrodd yn rheolaidd i’r Bwrdd / Pwyllgor Rheoli ar gynhyrchu incwm?
Pam? Bydd angen gwybodaeth ar y Bwrdd i sicrhau ei fod yn cynnal trosolwg effeithiol o’r incwm a gynhyrchir. Gallai hyn gynnwys llwyddiannau a methiannau, gwersi a ddysgwyd, a chyfleoedd a bygythiadau.
- A ydym yn deall darpariaethau cynhyrchu incwm ein dogfen lywodraethu?
Pam? Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau ar y gweithgareddau cynhyrchu incwm y gallwch eu cyflawni e.e. cyllid benthyciad a chyfyngiadau buddsoddi
- A oes gennym y set graidd o bolisïau sydd eu hangen i gefnogi cynhyrchu incwm a dangos bod ein mudiad yn cael ei redeg yn dda?
Pam? Bydd rhai cyllidwyr yn mynnu bod polisïau allweddol ar waith, ac mae angen eraill i amddiffyn y mudiad a’i randdeiliaid. Byddem yn argymell y canlynol yn benodol i gefnogi eich gweithgareddau codi arian – cylch gorchwyl ar gyfer grwpiau codi arian, trin arian parod, cronfeydd wrth gefn, diogelu, cyfle cyfartal a rheoli gwirfoddolwyr.
- A yw ein hyswiriant yn cynnwys ein gweithgareddau cynhyrchu incwm?
Pam? Mae’n bwysig amddiffyn eich staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, cyfranogwyr a buddiolwyr.
- A yw ein hanes ffeilio yn dda?
Pam? Gall cyllidwyr wirio hanes ffeilio gyda chyrff rheoleiddio (e.e. Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau). Mae cael hanes o ffeilio rheolaidd ac amserol yn dangos bod eich mudiad yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau adrodd.
Sefyllfa ariannol
- A ydym yn deall ein sefyllfa ariannol bresennol, ac a allwn ddangos tystiolaeth ohoni?
Pam? Mae hyn yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer unrhyw weithgarwch codi arian ac efallai y bydd cyllidwyr yn gofyn am gael gweld eich cyfrifon diweddar.
- A ydym wedi nodi ac asesu ein ffrydiau incwm o ran sicrwydd a hyd?
Pam? Mae’n helpu i nodi cryfderau a gwendidau llinynnau cynhyrchu incwm presennol a llinellau amser ar gyfer gweithgareddau cynhyrchu incwm newydd.
- A oes llwybr clir rhwng ein prosiectau ac unrhyw geisiadau am gyllid parhad/adnewyddu?
Pam? Mae hyn yn cefnogi rheolaeth briodol ar lif arian a’r defnydd effeithiol o adnoddau sydd eu hangen i baratoi ceisiadau, ac mae’n sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar wasanaethau.
- A oes gennym reolaethau a systemau ariannol cadarn ar waith i reoli’r incwm a gynhyrchir?
Pam? Er mwyn amddiffyn y mudiad, gwneud y defnydd gorau o’r incwm a gynhyrchir, a dangos i randdeiliaid a chyllidwyr bod y mudiad yn cael ei redeg yn dda.
- A ydym yn cofnodi grantiau a rhoddion a wnaed, gan bwy a’u gwerth?
Pam? Mae cadw cofnod o grantiau a rhoddion yn eich helpu i reoli eich perthynas â chyllidwyr a rhoddwyr. Er enghraifft, mae gan rai cyllidwyr gyfyngiadau o ran pryd y byddant yn derbyn ceisiadau pellach. Mae gwybod pwy sydd wedi rhoi beth yn eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn gofyn yn briodol iddynt yn y dyfodol, ac yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â GDPR.
- A oes gennym ddarlun clir o faint y mae angen i brosiect gyfrannu at ein gorbenion er mwyn iddo fod yn hyfyw?
Pam? Er mwyn deall a fydd prosiect a ariennir yn dod ag adnoddau ychwanegol, yn adennill costau, neu angen buddsoddiad, a pha mor fforddiadwy a gwerth chweil yw’r buddsoddiad hwnnw.
- A oes gennym ddulliau ar waith ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr / Pwyllgor Rheoli?
Pam? Mae gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb cyfreithiol am hyfywedd ariannol y mudiad ac mae angen y wybodaeth hon arnynt i wneud penderfyniadau effeithiol.
Achos dros gefnogaeth
- A ydym wedi creu ‘Achos dros gefnogaeth’ sy’n gryf ac yn berthnasol?
Pam? Mae ‘achos dros gefnogaeth’ yn ddogfen sy’n nodi eich dadl ynghylch pam y dylai cyllidwyr a rhoddwyr eich cynorthwyo. Dylai roi dealltwriaeth glir i ddarpar gefnogwyr o’r hyn rydych yn ei wneud, yr angen am eich gwaith a pham y dylent eich cefnogi. Gellir addasu achos da dros gefnogaeth i’w ddefnyddio ar draws eich dulliau cynhyrchu incwm ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
- A ydym yn casglu data da am ein gweithgareddau a’n heffaith?
Pam? Dylai gwybodaeth monitro, gwerthuso ac effaith lywio a chryfhau eich achos dros gefnogaeth. Bydd hyn yn eich galluogi i ddangos effaith eich gwaith a pham y dylid ei gefnogi’n ariannol.
- A yw pawb ar draws y mudiad (gwirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr) yn gwybod ein hachos dros gefnogaeth?
Pam? Os gall pawb (staff/gwirfoddolwyr/ymddiriedolwyr) siarad am eich mudiad, yr effaith mae’n ei chael a’i anghenion cymorth, bydd pob cyswllt sydd gan y bobl hynny â phobl o’r tu allan i’ch mudiad yn gyfle i ennill eu cefnogaeth, boed yn ariannol neu o ran eu hamser neu sgiliau.
Rhodd Cymorth (os ydych yn derbyn unrhyw fath o rodd)
- A ydym wedi cofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth ac a oes gennym y prosesau ar waith i wneud hawliadau Rhodd Cymorth?
Pam? Gall elusen yn y DU gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth i wneud y mwyaf o’r incwm a roddwyd drwy adennill 25% ychwanegol mewn treth ar bob rhodd gymwys a wneir gan drethdalwr yn y DU.
Ymrwymiad y tîm
- A yw pobl o bob rhan o’n mudiad yn cyfrannu at ein gweithgareddau cynhyrchu incwm?
Pam? Ni ddylai cynhyrchu incwm weithredu mewn seilo ac mae angen iddo gael ei integreiddio i weithgareddau eich mudiad i’w wneud yn fwy effeithiol. Po fwyaf y bobl sy’n meddwl amdano, gorau oll fydd y syniadau! Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl yn y mudiad ddatblygu sgiliau newydd.
- A oes unrhyw un mewnol (cydweithwyr neu aelodau Bwrdd) yn prawfddarllen ceisiadau grant?
Pam? Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd eich ceisiadau, ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o weithgareddau cynhyrchu incwm ar draws y mudiad.
Perthnasoedd a brandio
- A oes gennym ni broses (neu system) ar waith i reoli a chofnodi ein gohebiaeth â chefnogwyr?
Pam? Bydd dod i adnabod eich cefnogwyr a rheoli gohebiaeth yn dda yn eich helpu i “stiwardio” rhoddwyr a darpar roddwyr i wahanol fathau o roi a’ch helpu i feithrin perthnasoedd cadarn, tymor hwy. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â GDPR. (Gallech chi gyfuno’r wybodaeth hon â rhoddion a grantiau fel yr uchod)
- A ydym yn defnyddio dulliau brandio cyson ar draws ein mudiad?
Pam? Bydd hyn yn helpu i adeiladu cydnabyddiaeth rhwng eich gwasanaethau a’ch digwyddiadau codi arian – cyswllt pwysig os oes angen cymorth y cyhoedd arnoch i ariannu’r gwasanaethau hynny.
- A yw eich staff/ymddiriedolwyr/gwirfoddolwyr yn rhwydweithio â mudiadau eraill?
Pam? Gall cael perthynas â mudiadau eraill fod yn fuddiol mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft ceisiadau grant neu weithgareddau codi arian ar y cyd, rhannu adnoddau a nodi cyfleoedd nad ydynt yn addas ar gyfer un mudiad, ond a allai weithio i fudiad arall.
Rheoli Risgiau
- A yw eich gweithgareddau cynhyrchu incwm ar gofrestr risg ein mudiad?
Pam? Dylid cymhwyso dulliau rheoli risg i gynhyrchu incwm yn union fel pob agwedd arall ar eich mudiad. Bydd cofnodi a gwerthuso risgiau yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble i ddefnyddio adnoddau ar gyfer cynhyrchu incwm, a lliniaru’r risgiau a ddaw yn eu sgil.
Cydymffurfedd
- A yw ein gweithgareddau cynhyrchu incwm yn dilyn y Cod Ymarfer Codi Arian?
Pam? Mae’r Cod hwn, a ddelir gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, yn amlinellu’r hyn y ‘dylech’ (arfer da) a’r hyn y mae’n ‘rhaid’ (gofynion cyfreithiol) i chi ei wneud i sicrhau bod eich gweithgareddau codi arian yn cydymffurfio â chyfraith elusennau ac arfer da. Gallai methu â dilyn y Cod arwain at niwed i enw da neu achos cyfreithiol. Byrddau Ymddiriedolwyr sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol terfynol ac felly dylent fod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau.
Templed
| CWESTIWN | ATEB | TYSTIOLAETH AWGRYMEDIG | SYLW / CAM GWEITHREDU SYDD EI ANGEN | ||
| Ie | Na | Yn rhannol / Arall (rhowch fanylion) | |||
| A ydym yn deall ein gweledigaeth a’n cenhadaeth ac yn eu mynegi’n glir? | |||||
| A ydym yn deall darpariaethau cynhyrchu incwm ein dogfen lywodraethu? | |||||
| A oes gennym y set graidd o bolisïau sydd eu hangen i gefnogi cynhyrchu incwm a dangos bod ein mudiad yn cael ei redeg yn dda? | |||||
| A ydym yn deall ein sefyllfa ariannol bresennol, ac a allwn ddangos tystiolaeth ohoni? | |||||
| A ydym wedi nodi ac asesu ein ffrydiau incwm o ran sicrwydd a hyd? | |||||
| A oes llwybr clir rhwng ein prosiectau ac unrhyw geisiadau am gyllid parhad/adnewyddu? | |||||
| A oes gennym reolaethau a systemau ariannol cadarn ar waith i reoli’r incwm a gynhyrchir? | |||||
| A oes gennym ddarlun clir o faint mae angen i brosiect gyfrannu at ein gorbenion er mwyn iddo fod yn hyfyw? | |||||
| A oes gennym ddulliau ar waith ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr / Pwyllgor Rheoli? | |||||
| A ydym wedi creu ‘Achos dros gefnogaeth’ sy’n gryf ac yn berthnasol? | |||||
| A ddefnyddir gwybodaeth monitro, gwerthuso ac effaith gan staff y prosiect i lywio ein hachos dros gefnogaeth? | |||||
| A yw pawb ar draws y mudiad (gwirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr) yn gwybod ein hachos dros gefnogaeth? | |||||
| A yw’r Bwrdd / Pwyllgor Rheoli yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol? | |||||
| A ydym yn adrodd yn rheolaidd i’r Bwrdd / Pwyllgor Rheoli ar gynhyrchu incwm? | |||||
| A ydym wedi cofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth ac a oes gennym y prosesau ar waith i wneud hawliadau Rhodd Cymorth? | |||||
| A yw pobl o bob rhan o’n mudiad yn cyfrannu at ein gweithgareddau cynhyrchu incwm? | |||||
| A oes unrhyw un mewnol (cydweithwyr neu aelodau Bwrdd) yn prawfddarllen ceisiadau grant? | |||||
| A oes gennym ni broses (neu system) ar waith i reoli a chofnodi ein gohebiaeth â chefnogwyr? | |||||
| A ydym yn defnyddio dulliau brandio cyson ar draws ein mudiad? | |||||
| A yw eich gweithgareddau cynhyrchu incwm ar gofrestr risg ein mudiad? | |||||
| A yw ein gweithgareddau cynhyrchu incwm yn dilyn y Cod Ymarfer Codi Arian? | |||||