Hidlo yn ôl Piler

Hybu’r Gymraeg drwy wirfoddoli
Mae Cymru’n wlad ddwyieithog ac mae ganddi uchelgais gref i gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg.

Croesawu gwirfoddolwyr sydd â phrofiad o afiechyd meddwl
Cynlluniwyd y daflen wybodaeth hon i helpu eich mudiad i gydnabod gwerth croesawu gwirfoddolwyr sydd â phrofiad o afiechyd meddwl a chynnig cyngor ymarferol ar sut i greu amgylcheddau cynhwysol a chroesawgar.

Creu Polisi Gwirfoddoli
Mae'r dudalen wybodaeth hon ar gyfer sefydliadau sydd â dealltwriaeth glir o sut, pam, a ble maent yn cynnwys gwirfoddolwyr ac sydd wedi cynllunio adnoddau digonol.

Datblygu eich Strategaeth Wirfoddoli
Mae'r dudalen wybodaeth hon wedi'i chynllunio i’ch tywys trwy gyfres o gwestiynau ac ystyriaethau i'ch galluogi i lunio Strategaeth Wirfoddoli ar gyfer eich mudiad.

Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr
Mae'r daflen wybodaeth hon wedi'i chynllunio i helpu eich sefydliad i gydnabod gwerth cynnwys pobl ifanc (14–25 oed) fel gwirfoddolwyr a chynnig cyngor ymarferol ar sut i greu amgylchedd cynhwysol, sy'n gyfeillgar i ieuenctid.

Cyflwyniad i Rodd Cymorth
Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy’n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob £1 a roddir gan drethdalwr cymwys.

Prisio eich tendr
Mae mudiadau trydydd sector yn ceisio amrywio eu ffynonellau incwm fwy a mwy drwy gynnwys strategaethau a thechnegau i gyflawni sylfaen gyllido gynaliadwy.

Adennill Costau Llawn
Dull o gyllidebu ar gyfer prosiectau neu wasanaethau yw adennill costau llawn sy’n galluogi mudiadau i adennill yr holl gostau sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r prosiect neu’r gwasanaeth pan fyddant yn gwneud cais i gyllidwyr neu’n cyflwyno tendrau.

Cyflwyniad i Dendro
Mae mwy a mwy o fudiadau sector gwirfoddol yn ceisio amrywio eu ffynonellau incwm drwy ymgorffori strategaethau a thechnegau a fydd yn sicrhau sylfaen gynaliadwy o gyllid iddynt. Mae tendro ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau dan delerau contract yn un o’r nifer o ddewisiadau y gellir ei ystyried er mwyn creu incwm

Meddwl am Wirfoddoli
Gall gwirfoddoli fod yn brofiad gwych. Defnyddiwch eich sgiliau ac ennill rhai newydd wrth i chi helpu i wella eich cymuned leol drwy wirfoddoli.

Pecyn Cymorth Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion
Mae'r pecyn cymorth etifeddol hwn wedi'i ddatblygu ar sail gwersi a ddysgwyd o'r gweithgareddau ehangu rhwydweithiau i gefnogi gwaith mudiadau eraill ar gynyddu amrywiaeth o fewn eu gwaith.

Academi Iechyd a Gofal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Cynorthwyo Gwirfoddolwyr a Gofalwyr
Cafodd y prosiect ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru CGGC, i adeiladu ar waith a gafodd ei wneud yn 2021 yn llunio’r adroddiad Dyfodol Gwirfoddoli ym Mhowys, y Strategaeth Wirfoddoli gysylltiedig.