Mae’r trydydd sector yn dibynnu ar gael staff cyflogedig a gwirfoddolwyr sydd â’r wybodaeth angenrheidiol i reoli eu mudiad a gwasanaethu eu cymuned. Mae hyn yn creu’r angen i sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf, eich bod yn ymwybodol o’r datblygiadau cyfredol a bod gennych chi wybodaeth weithiol am amrediad o bynciau. Mae galluogi a chefnogi pobl i wella eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn eu grymuso i ddefnyddio’u sgiliau a’u doniau i ddatblygu grwpiau cymunedol newydd a chryfhau’r rheini sydd eisoes yn bodoli.

Volunteering in the pandemic

Ni fu gwybodaeth a dysgu erioed mor bwysig mewn byd sy’n newid mor gyflym. Ein nod fel Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw cynnig amrywiaeth o adnoddau dwyieithog am ddim o safon uchel sy’n hawdd cael gafael arnyn nhw. Bydd y rhain yn ymwneud â phynciau sydd o werth i’r sector ac yn berthnasol iddo, y gallwch chi eu defnyddio pryd bynnag sydd eu hangen.

Caiff ein hadnoddau eu llunio gan arbenigwyr sy’n ymroddedig i werthoedd y trydydd sector yng Nghymru. Os oes gennych chi ofynion mynediad penodol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected] ac fe wnawn ni weithio gyda chi i wneud yn siŵr bod ein hadnoddau mor hygyrch â phosibl.

Gallwch chi hidlo ein hadnoddau fesul piler (prif bwnc), eu gosod yn nhrefn yr wyddor neu eu trefnu yn ôl pryd gawsant eu hychwanegu at y wefan. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth penodol, defnyddiwch y cyfleuster chwilio cyffredinol ar frig y dudalen i chwilio yn ôl geiriau allweddol a bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r adnoddau sydd eu hangen arnoch.

Yn seiliedig ar eich diddordebau

Gwiriad Iechyd Llywodraeth TSSW
Llywodraethu Da

Gwiriad Iechyd Llywodraeth TSSW

Gwiriad Iechyd Llywodraeth TSSW
Cyngor Sir Fynwy - Gwerthusiad a chanfyddiadau prosiect Byddwch Gymuned a Mwy
Gwirfoddoli

Cyngor Sir Fynwy – Gwerthusiad a chanfyddiadau prosiect Byddwch Gymuned a Mwy

Cyngor Sir Fynwy – Gwerthusiad a chanfyddiadau prosiect Byddwch Gymuned a Mwy
MS Society - Llais Niwro gwerthusiad o’r prosiect adroddiad terfynol
Gwirfoddoli

MS Society – Llais Niwro gwerthusiad o’r prosiect adroddiad terfynol

MS Society – Llais Niwro gwerthusiad o’r prosiect adroddiad terfynol

Adnoddau fesul piler

Grŵp yn llunio dogfennau

Llywodraethu Da

Eich helpu chi i arwain a rheoli eich mudiad

Llywodraethu Da
Llaw gefnogol

Gwirfoddoli

Adeiladu cymunedau gwell drwy wirfoddoli

Gwirfoddoli
Llaw i gefnogi planhigyn sy’n tyfu

Cyllid Cynaliadwy

Creu trydydd sector cynaliadwy sy’n ffynnu

Cyllid Cynaliadwy
Grŵp o bobl yn cymryd rhan drwy ddal dwylo

Ymgysylltu a Dylanwadu

Cyfathrebu a Dylanwadu i effeithio ar newid

Ymgysylltu a Dylanwadu