Mae llywodraethu da yn hanfodol i lwyddiant mudiadau gwirfoddol. Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cynorthwyo mudiadau i roi arferion gorau ar waith o ran llywodraethu, diogelu a rheoli, gan eu galluogi i weithredu’n gyfreithiol ac yn effeithiol.
Yn yr adran hon, byddwch chi’n dod o hyd i adnoddau sy’n egluro egwyddorion llywodraethu da, cymorth â recriwtio a rheoli staff, canllawiau diogelu a thempledi polisïau i’ch helpu chi i redeg eich mudiad.
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr elusen gofrestredig, yn Brif Weithredwr, yn aelod o gorff llywodraethu, yn gyfarwyddwr menter gymdeithasol neu’n aelod o bwyllgor grŵp gwirfoddol lleol, mae’r adnoddau hyn yma i’ch helpu.
Yn seiliedig ar eich diddordebau

Polisi Iechyd a Diogelwch
Templed o ddogfen yw hwn, i’w ddiwygio a’i ddefnyddio fel y bo’n briodol. Awgrymwn eich bod yn llunio’r ddogfen gyda’ch logo a’ch brandio eich hun.

Gwiriad Iechyd Llywodraeth TSSW
Offeryn hunanasesu ar gyfer sefydliadau elusennol.

Gwiriadau’r DBS a hanes o euogfarnau – arfer da
Mae gan 12.5 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig gofnod troseddol (euogfarnau), sy’n gyfartal ag oddeutu 25% o’r boblogaeth oed gweithio. Nid yw meddu ar gofnod troseddol o reidrwydd yn golygu nad yw rhywun yn addas i’w gyflogi nac i wirfoddoli mewn rôl benodol.