Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i fudiadau trydydd sector ymgysylltu ag amrediad o randdeiliaid a dylanwadu arnyn nhw – boed hynny ar lefel unigol neu gymunedol neu’n fwy eang. Mae rôl y sector o ran ymgysylltu a dylanwadu wedi cynyddu wrth i gyllidebau’r sector cyhoeddus lleol a chenedlaethol leihau ac wrth i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno sy’n gofyn i’r sector fod yn rhan o lywodraethu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Nod Cefnogi Trydydd Sector Cymru ar gyfer ymgysylltu a dylanwadu yw darparu cymorth fel y gall lleisiau mudiadau’r trydydd sector gael eu clywed.

Yn yr adran hon, byddwch chi’n dod o hyd i adnoddau sy’n egluro’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru, a chanllawiau ymarferol ar frandio a chyfathrebiadau digidol er mwyn eich helpu chi i gyfleu eich neges.

Waeth a ydych chi eisiau chwarae rhan weithredol mewn dylanwadu ar bolisïau a’u llywio, neu ymgysylltu â gwirfoddolwyr, buddiolwyr neu eich cymuned ehangach, mae’r adnoddau hyn yma i’ch helpu.

Yn seiliedig ar eich diddordebau

Diwygio'r senedd
Ymgysylltu a Dylanwadu Ymgysylltu a Dylanwadu

Diwygio’r senedd

Ar ôl etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026, bydd y Senedd yn destun diwygiadau mawr. Bydd yn symud i system o 16 etholaeth, pob un yn ethol chwe Aelod o’r Senedd (ASau).

Diwygio’r senedd
Canllawiau ar Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol
Gwirfoddoli

Canllawiau ar Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol

Dogfennau canllaw ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol.

Canllawiau ar Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol
Mesur effaith eich gwaith
Ymgysylltu a Dylanwadu

Mesur effaith eich gwaith

Bydd y daflen wybodaeth hon yn eich helpu i ddeall pwysigrwydd adrodd effaith a rhai egwyddorion ynghylch sut i fynd ati i’w chofnodi.

Mesur effaith eich gwaith

Adnoddau fesul piler

Grŵp yn llunio dogfennau

Llywodraethu Da

Eich helpu chi i arwain a rheoli eich mudiad

Llywodraethu Da
Llaw gefnogol

Gwirfoddoli

Adeiladu cymunedau gwell drwy wirfoddoli

Gwirfoddoli
Llaw i gefnogi planhigyn sy’n tyfu

Cyllid Cynaliadwy

Creu trydydd sector cynaliadwy sy’n ffynnu

Cyllid Cynaliadwy