Canllaw i ddenu rhoddwyr rheolaidd

Overview

Beth yw rhoddwyr rheolaidd?

Gwirfoddolwyr yn casglu rhoddion wrth ddrws tŷ, yn siarad â phreswylydd ac yn dal cynhwysydd casglu

Unigolion sy’n rhoi cefnogaeth ariannol i’ch achos yn rheolaidd, trwy ddebyd uniongyrchol awtomatig bob mis fel arfer.

Pam rhoddwyr rheolaidd?

Maen nhw’n rhoi incwm misol dibynadwy a sefydlog sy’n caniatáu i elusennau gynllunio’n well, a gallant ddatblygu’n symiau ystyrlon o arian yn fuan.

Pwy yw rhoddwyr rheolaidd?

Cefnogwyr hirdymor yw’r rhain sydd â pherthynas gref â’r mudiad ac sy’n aml yn llysgenhadon ar gyfer y gwaith.

Mae’r rhai sy’n trefnu rhoddion debyd uniongyrchol yn debygol iawn o fod wedi cefnogi’r achos o’r blaen. Gallwch chi arwain rhoddwyr untro, codwyr arian, gwirfoddolwyr, buddiolwyr a staff i gymryd y cam nesaf a chefnogi gyda rhodd reolaidd.

Awgrymiadau

Os gallwch chi, ceisiwch ddarganfod resymau pobl dros roi – oes ganddyn nhw gysylltiad personol, ai oherwydd eich bod chi’n lleol iddyn nhw, er enghraifft. Gorau po fwyaf rydych chi’n ei wybod ynglŷn â pham maen nhw’n cyfrannu. Gallwch chi wedyn deilwra gohebiaeth benodol i apelio at eu diddordebau yn y dyfodol.

Maint debydau uniongyrchol

Y rhodd fisol leiaf a awgrymir yw £2 ac mae’n bwysig hawlio Rhodd Cymorth ar yr holl roddion cymwys. Mae gan lawer o elusennau gynllun aelodaeth sy’n cynnwys rhoi gwahanol symiau. Mae rhoddion o wahanol feintiau yn cyfateb i wahanol fuddion a lefelau cyfathrebu. Fodd bynnag, po fwyaf cymhleth yw’r cynllun aelodaeth, y mwyaf o waith gweinyddol fydd ei angen arno.

Gwobrau debydau uniongyrchol

Mae buddion a gynigir weithiau yn gyfnewid am gymorth misol yn cynnwys digwyddiad blynyddol, profiadau y tu ôl i’r llenni a chylchlythyrau. Gall buddion arwain at oblygiadau o ran Rhodd Cymorth (Gweler y daflen wybodaeth Cyflwyniad i Rodd Cymorth). Dylai elusennau fuddsoddi amser mewn meithrin perthynas â darpar roddwyr a rhoddwyr lefel uchel i gynyddu’r tebygolrwydd y byddan nhw’n gwneud taliadau rheolaidd.

Canlyniadau diriaethol

Gallwch chi gynyddu ymddiriedaeth trwy nodi’n glir yr hyn fydd yn gallu digwydd o ganlyniad i roddion misol. Gallan nhw fod yn helpu nifer penodol o bobl neu’n mynd tuag at wasanaeth penodol. Sicrhewch fod y rhodd yn gymesur â’r newid fydd yn digwydd.

Sut i ofyn

Dau berson yn sgwrsio, yn gwrando’n astud yn ystod trafodaeth

Lluniwch negeseuon perthnasol a phersonol. Cysylltwch ar lefel emosiynol (ond peidiwch â gwneud i bobl deimlo’n euog), gan ddangos effaith gydag astudiaethau achos a thystiolaeth. Anogwch daliadau rheolaidd eraill i gael eu talu fel debyd uniongyrchol, megis aelodaeth blynyddol i gyfeillion neu danysgrifiadau wythnosol. Dylech annog cyfraniadau gan y rhai sy’n cael help am ddim. Gallwch chi hefyd ddweud sut y bydd rhodd cymorth yn ychwanegu gwerth at unrhyw rodd a wneir.

Beth i’w ofyn

Tynnwch sylw at ba mor hawdd yw rhoi, e.e. dim ond un coffi yr wythnos yw £10 y mis. Pwysleisiwch mai cymorth misol yw’r hyn sy’n osgoi cau’r drws ar unrhyw un ac sy’n helpu i baratoi ar gyfer y cyfle nesaf. Arweiniwch gefnogwyr presennol at y lefel nesaf o gyfranogiad a gofyn iddyn nhw hyrwyddo’r ‘gofyn’. Dylech deilwra eich negeseuon diolch, rhannu uchelgeisiau a thynnu sylw at yr effaith hirdymor, gan fod y rhoddwyr hyn yn buddsoddi yn nyfodol yr elusen.

Rhowch wybod iddyn nhw

Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch rhoddwyr. Cofiwch eu hatgoffa pa mor bwysig yw eu cefnogaeth a rhannwch y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau a datblygiadau a sut mae eich gwaith yn effeithio ar fywydau pobl.
Mae pobl yn rhoi oherwydd eu bod nhw’n hoffi’r hyn rydych chi’n ei wneud; felly mae’n bwysig parhau i roi’r wybodaeth hon iddyn nhw i gadw eu cefnogaeth yn y dyfodol.

Adnoddau

Local giving

www.localgiving.org

Canllaw i godwyr arian

https://knowledgehub.cymru/cy/resources/canllaw-i-godwyr-arian/

Canllaw i apeliadau cyllido torfol

https://knowledgehub.cymru/cy/resources/canllaw-i-apeliadau-cyllido-torfol/

Codi arian deallusrwydd artiffisial (Templed)

https://knowledgehub.cymru/cy/resources/codi-arian-deallusrwydd-artiffisial-templed/