Codi arian deallusrwydd artiffisial (Templed)

Er mwyn cael y canlyniadau gorau wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i godi arian, argymhellir yn fawr y dylid darparu’r wybodaeth mewn fformat clir a fydd yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd Deallusrwydd Artiffisial yn creu/camddehongli’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu.

Nid oes angen ichi gael yr holl wybodaeth hon, ond po fwyaf y byddwch yn ei darparu, y gorau fydd yr ymateb a gewch.

1. Manylion y mudiad

  • Cryno ond addysgiadol (2–3 brawddeg fesul adran).
  • Nodwch yn glir enw a statws eich mudiad, yr hyn y mae eich mudiad yn ei wneud a pham ei fod yn gredadwy.
  • Os nad yw’r cyllidwr yn gyfarwydd â’ch gwaith, darperwch hanes byr ac amlygwch gyflawniadau mawr. Gallai hyn gynnwys unrhyw farciau ansawdd hefyd

2. Crynodeb o’r prosiect

  • Byr ac uniongyrchol (4–6 brawddeg)—fel crynodeb sydyn.
  • Dylech gynnwys pwy, beth, ble, pryd, a pham mewn un paragraff.

3. Yr angen am y prosiect

Pobl o amgylch bwrdd yn pwyntio at graffiau a dogfennau papur
  • Yn fanwl ac yn seiliedig ar dystiolaeth (1–2 baragraff).
  • Nodwch pwy fydd y buddiolwyr
  • Dylech gynnwys ystadegau, astudiaethau achos, neu dystebau i brofi bod y broblem yn bodoli.
  • Esboniwch pam nad yw’r gwasanaethau presennol yn ddigon a sut mae eich prosiect yn llenwi’r bwlch.
  • Sut y cynhwyswyd y gymuned wrth nodi’r angen am y gwaith?
  • Pam fod angen y prosiect yn awr?
  • A oes dysg o waith yn y gorffennol neu o’ch gwaith monitro y gallwch ei darparu?

4. Gweithgareddau y prosiect

  • Rhagor o fanylion (pwyntiau bwled neu 1–2 baragraff fesul gweithgaredd allweddol).
  • Amlinellwch yn union beth fydd yn digwydd, pa mor aml, a phwy fydd yn ei gyflawni.
  • Mae cyllidwyr eisiau darlun clir o sut y bydd eu harian yn cael ei ddefnyddio.
  • Beth yw’r amserlenni ar gyfer cyflawni

5. Y canlyniadau disgwyliedig a’r effaith

  • Yn glir ac yn fesuradwy (1–2 baragraff a phwyntiau bwled os oes angen).
  • Beth fydd gwella i’r buddiolwyr?
  • Defnyddiwch ganlyniadau SMART (Penodol Mesuradwy Cyraeddadwy Realistig Amser-gyfyngedig).
  • Enghraifft: “Bydd 100 o ffoaduriaid yn derbyn cymorth cyfreithiol, a bydd 70% yn llwyddo i sicrhau statws lloches o fewn 12 mis.”

6. Sut y bydd canlyniadau yn cael eu cofnodi a’u hadrodd

  • Sut bydd y canlyniadau yn cael eu cofnodi, ac unrhyw ddangosyddion prosiect.
  • Sut y bydd gwybodaeth yn cael ei hadrodd a’i defnyddio i gefnogi’r broses o ddysgu yn y dyfodol

7. Beth yw sgiliau pobl sy’n rhedeg y mudiad

  • Trosolwg byr o’r bobl allweddol sy’n rhedeg y mudiad (1–2 baragraff a phwyntiau bwled os oes angen).
  • Dylech gynnwys, er enghraifft, y ffaith eich bod yn cael eich arwain gan bobl sy’n elwa o’r gwasanaeth

8. Yr hyn sy’n gwneud y prosiect a/neu’r mudiadau yn arbennig 

  • Unrhyw beth sy’n eich gosod ar wahân i fudiadau tebyg (1-2 frawddeg neu bwyntiau bwled)

9. Dadansoddiad o’r gyllideb

  • Mae angen union ffigurau.
  • Tablau sy’n gweithio orau i ddangos dadansoddiad clir o’r gost.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn glir pa rannau o’r gyllideb y bydd cyllid cyfatebol yn talu amdanynt (os o gwbl).
  • Mae rhai cyllidwyr hefyd yn gofyn am gyfiawnhad dros gostau mawr (ee, pam fod cyflog staff o £40,000 yn hanfodol).

10. Cynaliadwyedd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

  • 1–2 baragraff sy’n esbonio sut y bydd y prosiect yn para y tu hwnt i’r grant.
  • Mae cyllidwyr yn hoffi gweld na fydd eu buddsoddiad yn cael ei wastraffu ar ôl i’r cyllid ddod i ben.
  • Dangoswch gynlluniau ar gyfer cyllid, partneriaethau neu gynhyrchu incwm ychwanegol.