Canllaw i apeliadau cyllido torfol

Trosolwg

Pam codi arian ar-lein?

Mae rhoi ar-lein yn gyflym ac yn hawdd i’w wneud, ac mae rhoddion ar-lein ddwywaith cymaint â rhoddion all-lein ar gyfartaledd.

Beth yw apêl cyllido torfol?

Llaw yn dal eginblanhigyn gwyrdd ifanc yn tyfu o bridd

Ymgyrch (ar-lein fel arfer) sy’n canolbwyntio ar fater penodol, dros gyfnod penodol, a hynny ar frys. Maen nhw’n canolbwyntio ar gael llawer o roddion bach gan lawer o bobl yn hytrach nag ychydig o roddion mawr. Fel arfer, maen nhw’n defnyddio platfformau arbenigol i reoli a hyrwyddo’ch ymgyrch.

Mae dau fath sylfaenol o apêl cyllido torfol:

“Popeth-neu-ddim”

Dim ond os byddwch chi’n cyrraedd eich targed codi arian neu’n rhagori arno y byddwch chi’n cadw’r arian. Os na fyddwch chi’n cyrraedd y nod, caiff yr holl gyfraniadau eu dychwelyd at y rhoddwyr. Mantais hyn yw ei fod yn creu ymdeimlad o frys ac yn annog cefnogwyr i fynd ati i hyrwyddo’r ymgyrch.

Cadw-beth-rydych-chi’n-ei-godi

Byddwch chi’n cadw’r holl arian sy’n cael ei godi ni waeth a fyddwch chi wedi cyrraedd y targed ai peidio. Mae’r rhain fel arfer yn addas pan fydd pob ceiniog o gyllid yn helpu i symud y prosiect yn ei flaen. Mae llai o risg ynghlwm wrth y rhain gan y byddwch chi’n derbyn rhoddion hyd yn oed os na fyddwch chi’n cyrraedd y targed llawn.

Mae dewis rhwng yr opsiynau hyn yn dibynnu ar eich strategaeth codi arian, pa mor hyblyg yw nodau eich prosiect a pha mor gyflym y mae angen eu cyflawni.

Platfformau cyllido torfol

Mae yna lawer o wahanol blatfformau a all reoli eich ymgyrch. Bydd y rhain yn ei gwneud hi’n haws i ddarpar gefnogwyr ddod o hyd i’ch ymgyrch, yn ogystal â helpu i olrhain cynnydd a rheoli’r gwaith o gasglu rhoddion. Fodd bynnag, codir tâl am hyn, a all gynnwys ffi benodol, ynghyd â chanran o’r swm a godir. Gyda chynifer o wahanol blatfformau ar gael, gallwch chi siopa o gwmpas i ddod o hyd i’r un sydd fwyaf addas i chi. Mae Shopify, er enghraifft, yn darparu canllaw i’r 10 safle cyllido torfol gorau yn y DU.

Mae CrowdSpace Directory yn cynnig cyfeiriadur cynhwysfawr o blatfformau cyllido torfol yn y DU sy’n eich galluogi i hidlo yn ôl math o fuddsoddiad, ffocws y diwydiant, a blynyddoedd ar y farchnad.

CrowdSpace directory

Mae Charity Digital wedi llunio rhestr o blatfformau, gan gynnwys adnodd cymharu prisiau y gellir ei lawrlwytho er mwyn helpu i wneud penderfyniadau.

Charity digital

Pam cyllido torfol?

Mae cyllido torfol yn codi 70% yn fwy mewn rhoddion na gweithgareddau codi arian. Maen nhw’n ennyn hyder pobl ac yn dryloyw ynglŷn â ble mae rhoddion yn mynd. Bydd 27% o roddwyr cyllido torfol yn mynd ymlaen i wirfoddoli dros yr achos a bydd 90% yn hyrwyddo’r prosiect.

Targed codi arian

Menyw yn dal ffôn wrth fwrdd wrth ymyl pentwr o arian a chyfrifiannell

Esboniwch yr angen, y gwaith a’r canlyniad y bydd cefnogaeth y rhoddwr yn ei gael yn glir. Pennwch darged o rhwng £500 a £5,000 ar gyfer apêl gyntaf er mwyn annog rhoddwyr lefel is a sicrhau gwell siawns o lwyddiant.

Mae’n bosibl sefydlu ymgyrch cyllido torfol yn gyflym iawn; fodd bynnag, i wneud hynny’n dda ac i fod yn llwyddiannus, bydd angen cynllunio a pharatoi’n drylwyr a threulio amser ar yr ymgyrch. Felly, er y bydd manteision cyhoeddusrwydd a chodi ymwybyddiaeth ychwanegol o’ch ymgyrch, byddwch yn ymwybodol o gost/budd yr hyn rydych chi’n ei gynllunio i sicrhau eich bod chi’n gwneud y defnydd gorau o’ch amser a’ch adnoddau.

Wrth chwilio am blatfform i’w ddefnyddio, mae’r hyn i’w ystyried yn cynnwys y ffioedd a godir, a ydyn nhw’n casglu Rhodd Cymorth, a ydyn nhw’n canolbwyntio ar genre penodol (celf, technoleg, lles ac ati), cyrhaeddiad

PlatfformPoblogrwydd a ffocwsPa mor hawdd yw ei ddefnyddio?Yn cefnogi rhodd cymorth?Model ariannu
JustGivingPlatfform blaenllaw yn y DU ar gyfer achosion elusennol, wedi codi dros £4 biliwn ers 2001.Hawdd ei ddefnyddio ac mae’n hawdd  creu a rhannu ymgyrchoedd.Ydy – Mae’n cefnogi Rhodd Cymorth yn awtomatig.Cadw-Beth-Rydych- Chi’n-Ei-Godi
GoFundMePlatfform sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang ar gyfer codi arian yn bersonol ac ar gyfer elusennau.Yn reddfol i’w osod, rhannu cymdeithasol yn  gryf.Na – Rhaid hawlio Rhodd Cymorth ar wahân.Cadw-Beth-Rydych- Chi’n-Ei-Godi
Crowdfunder UKPoblogaidd ar gyfer prosiectau cymunedol a mentrau cymdeithasol yn y DU.Hawdd ei osod, adnoddau ar gyfer llwyddiant ymgyrchoedd.Ydy – Mae’n cefnogi Rhodd Cymorth ar gyfer elusennau cymwys.Dewisiadau Popeth-neu-Ddim a Cadw-Beth-Rydych-Chi’n-Ei-Godi
KickstarterYn adnabyddus am brosiectau creadigol; presenoldeb rhyngwladol cryf.Canllawiau cynhwysfawr a chefnogaeth ar gyfer prosiectau.Na – Mentrau creadigol yn bennaf.Popeth-neu-Ddim


Indiegogo 

Yn canolbwyntio ar brosiectau creadigol ac entrepreneuraidd; cyrhaeddiad byd-eang.
Offer ymgyrchu hyblyg a nodweddion hyrwyddo.Na – Mae defnyddwyr yn ei drin yn annibynnol.Dewisiadau Popeth- Neu-Ddim a Cadw-Beth-Rydych-Chi’n-Ei-Godi
Crowdcube
Platfform cyllido torfol ecwiti blaenllaw yn y DU ar gyfer buddsoddi mewn busnesau.
Canllawiau manwl ar gyfer cyflwyniadau buddsoddi.Amherthnasol – Buddsoddiadau ecwiti.Popeth- Neu-Ddim (Buddsoddiad ecwiti)

Cynllunio

Paratowch staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr i gymryd rhan. Ystyriwch lansio o gwmpas dyddiad pwysig i gynnal momentwm a gwnewch fideo sy’n crynhoi’r apêl. Cynhaliwch yr apêl am 3 wythnos i 3 mis i gadw ymdeimlad o frys. Cynlluniwch eich ymgyrch cyn i chi lansio, gan gynnwys hysbysiad o’r ymgyrch ymlaen llaw cyn iddi gael ei lansio i sicrhau ei bod yn denu cefnogaeth yn gyflym; a hefyd, sut y bydd yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo ar-lein/all-lein, a phryd y byddwch chi’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd.

Gall cynnwys fideos a delweddau wella llwyddiant eich ymgyrch yn sylweddol. Mae astudiaethau amrywiol wedi dangos y bydd ymgyrchoedd sy’n cynnwys fideo yn codi 100% yn fwy na’r rhai heb fideo a gall delweddau o ansawdd da gynyddu’r rhoddion 40%

Awgrymiadau da

Er bod llawer o bethau yn gallu dylanwadu ar lwyddiant eich ymgyrch, dyma bump o’r pethau allweddol i’w gwneud yn gywir:

Adrodd stori gymhellol – Ewch ati i gyfathrebu eich achos, pwy mae’n helpu, a pham mae’n bwysig yn glir. Mae cynnwys angerddol yn annog rhoddion.

Gosod nodau a gwobrau realistig – Dewiswch darged cyraeddadwy a gwobrau deniadol i ysgogi rhoddwyr ar wahanol lefelau o gyfraniadau.

Ymgysylltu’n rheolaidd – Rhowch ddiweddariadau rheolaidd i gefnogwyr am gynnydd, cerrig milltir a straeon i gynnal momentwm a chyfranogiad.

Defnyddio deunydd gweledol – Ewch ati i gynnwys lluniau a fideos o ansawdd uchel i hybu ymgysylliad a chreu cysylltiad emosiynol cryf.

Manteisio i’r eithaf ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol – Defnyddiwch eich sianeli cymdeithasol presennol, gan ymgysylltu â dylanwadwyr lleol, ac annog cefnogwyr i rannu’n eang.

Mae llawer o blatfformau cyllido torfol yn galluogi/gofyn i chi roi gwobr i bobl sy’n cyfrannu at yr ymgyrch. Gall hyn amrywio o e-bost diolch i wahoddiad i ddigwyddiad lansio neu rodd fel crys-T. Sicrhewch nad yw cost unrhyw wobr yn fwy na’r rhodd.

Dyma rai enghreifftiau o wobrau y gallai ymgyrch cyllido torfol eu cynnig ar wahanol lefelau o gefnogaeth:

  1. £10 – Neges o ddiolch ar y cyfryngau cymdeithasol – Postiad yn diolch i’r rhoddwr yn bersonol neu gyfeiriad at y gefnogaeth mae wedi’i rhoi ar eich platfformau cyfryngau cymdeithasol.
  2. £25 – Pecyn cefnogwyr – Anfon cerdyn, sticer neu fathodyn diolch wedi’i frandio yn uniongyrchol at y cefnogwr i gydnabod ei gyfraniad
  3. £50 – Gwahoddiad arbennig i ddigwyddiad – Gwahoddiad i ddigwyddiad arbennig, gweithdy, neu daith y tu ôl i’r llenni sy’n gysylltiedig â gwaith eich elusen.
  4. £100+ – Cydnabyddiaeth amlwg – Enw’r rhoddwr yn ymddangos mewn man amlwg ar eich gwefan, cylchlythyr, neu adroddiad blynyddol fel cefnogwr allweddol, ynghyd â’r holl wobrau blaenorol.

Dechrau da

Unwaith y bydd apêl cyllido torfol yn cyrraedd 30% o’i tharged, mae’n llawer mwy tebygol o lwyddo ac mae’n annog rhoddwyr newydd. Symudwch oddi ar £0 yn gyflym trwy ychwanegu rhoddion all-lein (arian parod/grantiau) at y cyfanswm. Gallwch chi ddweud wrth gefnogwyr agos, ‘dim pwysau o gwbl ond, os oeddech chi’n bwriadu cyfrannu, yna byddai’n annog rhoddwyr newydd pe gallen ni, gyda’n gilydd, roi hwb i’r apêl a symud oddi ar £0 cyn ein lansiad cyhoeddus yr wythnos nesaf’.

Wrth i’ch ymgyrch fynd rhagddi, rhowch y diweddaraf i’ch cefnogwyr ar faint sy’n cael ei godi, pa effaith y bydd yr arian hwn yn ei chael a beth fydd codi mwy o arian yn ei wneud. Gallwch chi hefyd awgrymu ffyrdd y gallan nhw helpu eich ymgyrch, fel ei rhannu gyda’u rhwydweithiau cymdeithasol.

Awgrymiadau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Dau berson yn eistedd wrth fwrdd yn edrych ar gynnwys ar dabled gyda’i gilydd

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn hanfodol ar gyfer cynnal ymgyrch cyllido torfol lwyddiannus. Isod mae rhai awgrymiadau syml i’ch helpu chi i’w defnyddio’n effeithiol.

Postiadau adrodd straeon – creu a rhannu straeon byr, cymhellol neu fideos am unigolion a fydd yn elwa’n uniongyrchol ar yr ymgyrch.

Cyfri’r dyddiau tan y diwrnod lansio – creu cyffro ac ymdeimlad o frys trwy bostio negeseuon atgoffa dyddiol yn cyfri’r diwrnodau.

Ymgysylltu â dylanwadwyr – tagio neu ymgysylltu â dylanwadwyr neu gefnogwyr lleol er mwyn helpu i rannu eich neges â chynulleidfa ehangach.

Defnyddio delweddau – creu graffeg, ffeithluniau, neu fideos byr apelgar sy’n tynnu sylw at nodau neu gyflawniadau allweddol yr ymgyrch.

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn gyson – rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gefnogwyr am gynnydd eich ymgyrch yn rheolaidd, gan rannu cerrig milltir a llwyddiannau i gynnal momentwm.

Cynnwys rhyngweithiol – gallwch chi geisio defnyddio polau, sesiynau holi ac ateb, neu hyd yn oed sesiynau byw i ryngweithio â dilynwyr, gan sicrhau mwy o ymgysylltiad a gwelededd.

Hashnod y gellir ei rannu – creu #hashnod unigryw, hawdd ei gofio i annog rhannu ac olrhain ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol.

Galwadau i weithredu – cynnwys dolenni a galwadau uniongyrchol i roi, rhannu neu gefnogi yn glir ac yn rheolaidd. Mae hwn yn gam pwysig iawn, ond mae’n un sy’n cael ei hepgor yn aml hefyd!

Yn y cyfamser

Cofiwch ddiolch i roddwyr bob amser, gan eu hysgogi i gyfranogi ymhellach a gofyn iddyn nhw bostio ar eu cyfryngau cymdeithasol. Gall cyllido torfol helpu i sicrhau grantiau, cyllid cyfatebol neu nawdd corfforaethol. Gallai tudalennau codi arian o’u mentrau eu hunain fwydo i mewn i’ch targed cyllido torfol hefyd.

Codi arian yn y dyfodol

Cynlluniwch un neu ddwy ymgyrch y flwyddyn yn dibynnu ar angen, amser, yr hyn sy’n briodol a’ch gallu i roi’r sylw angenrheidiol i’r gwaith. Mae hyn yn amrywio’r ‘gofyniad’ codi arian, yn rhoi ffocws i ymdrechion ac yn caniatáu ar gyfer dysgu. Os cynhelir gormod o ymgyrchoedd, mae risg y bydd cefnogwyr yn diflasu. Bydd yr ymgyrchoedd hynny hefyd yn defnyddio llawer o syniadau ac egni o fewn y mudiad. Os byddwch chi’n lansio ymgyrchoedd byth a beunydd, efallai y bydd yn tarfu ar negeseuon eraill rydych chi’n ceisio eu rhannu a gallai hyd yn oed beri i bobl beidio â chefnogi.

Templed cynllunio ymgyrch cyllido torfol

1.Trosolwg o’r ymgyrch

  • Teitl: Cegin Gymunedol Helping Hands
  • Nod (£): £5,000
  • Hyd yr ymgyrch: 1 Mai 2025 – 30 Mehefin 2025

2. Amcan

  • Bydd yr arian yn helpu i sefydlu cegin gymunedol a fydd yn darparu prydau maethlon am ddim i deuluoedd agored i niwed ac unigolion sy’n wynebu tlodi bwyd yn ein cymuned.

3. Cynulleidfa darged

  • Trigolion cymunedau lleol, teuluoedd, busnesau, ac unigolion sy’n meddu ar ymwybyddiaeth gymdeithasol.
  • Bydd yr ymgyrch yn bwysig iddyn nhw oherwydd ei bod yn cefnogi cymdogion mewn angen, yn gwella llesiant cymunedol ac yn meithrin undod cymdeithasol.

4. Dewis platfform

  • JustGiving – oherwydd ei boblogrwydd yn y DU, y ffaith bod modd rhoi Rhodd Cymorth yn awtomatig, ac offer hwylus i’w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

5. Cynllun gwobrwyo

  • £10 | Neges i ddiolch i rywun yn bersonol ar y cyfryngau cymdeithasol
  • £25 | Bathodyn cefnogwr a cherdyn diolch
  • £50 | Gwahoddiad i ddigwyddiad agoriadol y Gegin Gymunedol
  • £100+ | Enw’r rhoddwr yn cael ei osod ar wal cefnogwyr y gegin gymunedol a chydnabyddiaeth ar-lein

 6. Negeseuon yr ymgyrch

  • Neges allweddol: “Gyda’n gilydd, gadewch i ni faethu ein cymuned a brwydro yn erbyn tlodi bwyd.”
  • Cysylltiad emosiynol: Rhannu straeon personol teuluoedd ac unigolion lleol a fydd yn elwa’n uniongyrchol ar yr ymgyrch.

7. Strategaeth marchnata a hyrwyddo

  • Cynllun cyfryngau cymdeithasol: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn wythnosol, straeon, fideos ar Facebook, Instagram, Twitter
  • Ymgyrch e-bost: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf bob pythefnos gan dynnu sylw at gerrig milltir a straeon
  • Y wasg leol/ymgysylltu â’r cyfryngau: Datganiad i’r wasg a chyfweliadau gyda phapurau newydd a radio lleol
  • Ymrwymiad dylanwadwyr neu lysgenhadon: Ymgysylltu â dylanwadwyr lleol ac arweinwyr cymunedol i ehangu negeseuon

 8. Creu cynnwys

  • Fideo(s) : Fideos byr sy’n tynnu sylw at straeon gan aelodau’r gymuned, yr angen, a’r effaith bosibl
  • Lluniau: Ffotograffau sy’n dangos ymgysylltiad â’r gymuned, digwyddiadau dosbarthu prydau bwyd, a chymeradwyaeth
  • Diweddariadau ysgrifenedig: Straeon a’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd bob wythnos ar y dudalen cyllido torfol a’r cyfryngau cymdeithasol

 9. Cyllideb

  • Treuliau marchnata: £400
  • Treuliau cynhyrchu (fideo/lluniau): £500
  • Ffioedd platfform: £200
  • Amrywiol: £150

10. Amserlen a cherrig milltir

  • Gweithgareddau cyn lansio: Creu cynnwys hyrwyddo (Ebrill 2025)
  • Dyddiad lansio’r ymgyrch: 1 Mai 2025
  • Adolygiad canol yr ymgyrch: 30 Mai 2025
  • Dyddiad gorffen yr ymgyrch: 30 Mehefin 2025
  • Gwaith dilynol ar ôl yr ymgyrch: Dechrau Gorffennaf 2025

11. Gwerthuso a gwaith dilynol

  • Sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur: Cyflawni’r targed o £5,000, metrigau ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, a phresenoldeb yn nigwyddiad agoriadol y gegin.
  • Cynlluniau i ddiolch i roddwyr ac ymgysylltu â nhw ar ôl yr ymgyrch: Negeseuon yn diolch iddyn nhw’n bersonol, cydnabyddiaeth gyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau cymunedol parhaus.