Canllaw i godwyr arian
Trosolwg
- Beth yw codwyr arian?
- Pam defnyddio codwyr arian?
- Sut allwch chi helpu?
- Recriwtio codwyr arian
- Digwyddiadau codi arian trydydd parti
- Digwyddiadau codi arian dan arweiniad cefnogwyr
- Digwyddiadau codi arian dan arweiniad elusennau
- Cael y gorau o godwyr arian
- Sut alla i fynd ati i godi arian ar gyfer elusen
- Adnoddau
Beth yw codwyr arian?

Mae codwyr arian yn unigolion sy’n ymrwymo i godi arian ar ran mudiad neu gefnogi achos da. Gall codwyr arian hefyd fod yn grŵp cymhellol o unigolion sy’n dod ynghyd i gael mwy o effaith a chodi mwy o arian.
Gall codwyr arian fod yn rhan ffurfiol o fudiad, neu gallan nhw fod yn unigolion sy’n ymgymryd â her codi arian. Efallai y bydd gan fudiadau eu prosesau eu hunain ar gyfer sicrhau bod y rhai sy’n codi arian ar eu rhan yn cadw at ddulliau penodol y cytunwyd arnynt neu efallai y bydd unigolion yn creu eu tudalen ar-lein eu hunain i ddenu rhoddion a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i roddwyr am eu hymdrechion.
Pam defnyddio codwyr arian?
Gall codwyr arian fod yn llysgenhadon hefyd a gallan nhw helpu i recriwtio rhoddwyr newydd i ddatblygu sylfaen rhoddwyr yr elusen a chyrraedd rhwydweithiau cymdeithasol newydd trwy eu cysylltiadau personol. Maen nhw hefyd yn ychwanegu capasiti i’ch tîm/adnoddau codi arian. Ni fydd pob codwr arian mor rhagweithiol â hyn, efallai y bydd rhai eisiau rhoi drwy arian a roddwyd iddynt fel cais pen-blwydd.
Mae rhai codwyr arian yn cael eu talu hefyd. Unigolion yw’r rhain fydd yn trefnu ac yn cynnal digwyddiadau ar eich rhan ond yn codi ffi a/neu ganran o’r incwm a gynhyrchir. Gall hyn leihau’r baich ar y mudiad yn sylweddol, ond rhaid i chi hefyd sicrhau bod y codwr arian yn cadw at eich polisïau/arferion ac yn hyrwyddo’ch mudiad yn ôl eich dymuniad. Heb reolaethau o’r fath, gall fod risg i enw da’r mudiad os na fydd yn cadw at y neges a/neu os bydd y digwyddiad yn mynd o chwith.
Sut allwch chi helpu?
Darparwch becyn cymorth gyda’ch logos, deunyddiau hyrwyddo, testun, datganiadau cenhadaeth, ac awgrymiadau ar gyfer postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gallwch chi helpu eich codwyr arian i ddod yn fwy effeithiol a chael profiad cadarnhaol mewn nifer o ffyrdd. Gall cadw mewn cysylltiad â nhw’n rheolaidd a’u cysylltu â chodwyr arian eraill helpu i’w hysgogi a’i gwneud yn haws iddyn nhw ofyn am gyngor neu syniadau ar hyd eu taith codi arian.
Bydd y rhan fwyaf o godwyr arian yn defnyddio rhyw fath o dudalen codi arian ar-lein, fel y rhai a gynigir gan JustGiving neu GoFundMe. Ewch ati i annog codwyr arian i bersonoli eu tudalen gyda lluniau a’r newyddion diweddaraf wrth i’w hymgyrch fynd rhagddi. Darparwch becyn cymorth gyda’ch logos, deunyddiau hyrwyddo, testun, datganiadau cenhadaeth, ac awgrymiadau ar gyfer postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gallwch chi hefyd ddathlu eu cerrig milltir, gan ddiolch i godwyr arian a’u rhoddwyr ar eich gwefan/cyfryngau cymdeithasol eich hun i hyrwyddo eu hymdrechion ymhellach.
Recriwtio codwyr arian
Gwahoddwch godwyr arian mewnol ac allanol, gan gynnwys gwirfoddolwyr, buddiolwyr a’u teuluoedd. Mae codi arian mewn grŵp yn caniatáu ar gyfer her ar y cyd, gan leihau’r pwysau a dod â sawl rhwydweithiau at ei gilydd. Mae digwyddiadau codi arian yn gyfle i bobl ddiolch i elusennau am eu help. Awgrymwch dargedau codi arian ystyrlon sy’n cyfateb i ganlyniadau gwirioneddol i’r achos, i gryfhau [darn ar goll?]
Digwyddiadau codi arian trydydd parti
Mae hyn fel arfer yn cyfeirio at ddigwyddiadau her blynyddol presennol y gall unigolion gofrestru’n annibynnol ar eu cyfer, fel digwyddiadau rhedeg. Gall elusennau gyfeirio pobl at y rhain, eu hannog neu brynu lleoedd noddedig ar gyfer codwyr arian sy’n ymrwymo i godi isafswm penodol. Mae gan rai digwyddiadau mwy (fel Marathon Llundain a’r Great North Run) restrau aros hir o bobl sydd eisiau cymryd rhan, felly gall fod yn well cyfeirio pobl at ddigwyddiadau mwy lleol.
Digwyddiadau codi arian dan arweiniad cefnogwyr
Mae unigolion yn cyflwyno eu syniad codi arian eu hunain sydd o ddiddordeb iddynt ac sy’n cael ei drefnu’n llwyr ganddynt. Nhw sy’n dewis y ffocws, y raddfa a’r capasiti. Gallant fod mor lleol a rhad ag y bo angen, gyda’r codwr arian yn galw am weithredu. Fodd bynnag, er mwyn bod yn fwyaf effeithiol, bydd rhywfaint o fewnbwn gan eich elusen o gymorth mawr, fel y nodwyd uchod.
Digwyddiadau codi arian dan arweiniad elusennau

Gall yr elusen ei hun gynnal digwyddiad codi arian er mwyn i eraill ymuno. Rhaid i’r rhain fod yn effeithlon o ran amser a rhaid gofyn i gefnogwyr bleidleisio dros eu hoff syniad, gan sicrhau bod diddordeb. (Gweler y daflen wybodaeth Digwyddiadau Codi Arian)
Efallai y bydd pobl yn codi arian ar eich cyfer heb yn wybod i chi hefyd. Mewn rhai achosion, gall hyn fod yn dwyll, lle mae unigolyn yn esgus codi arian ar eich rhan, ond yn cadw’r arian iddyn nhw eu hunain. Fodd bynnag, mae’n fwy tebygol eu bod eisiau gwneud rhywbeth cadarnhaol i chi a mynd ati i godi arian yn annibynnol. Er bod hyn yn beth da, mae angen i chi hefyd sicrhau bod unrhyw negeseuon maen nhw’n eu hyrwyddo yn adlewyrchu eich gwaith. Os ydych chi’n canfod bod pobl yn ymgymryd â gweithgareddau o’r fath ar eich rhan, dydych chi ddim eisiau eu rhwystro ond dylech chi roi deunydd ac adnoddau cywir iddyn nhw i gefnogi eu hymdrechion.
Cael y gorau o godwyr arian
I gael y gorau o’ch codwyr arian, meddyliwch am y rhwydweithiau sydd ganddyn nhw a/neu’r rhwydweithiau maen nhw’n rhoi mynediad atyn nhw. Sut allwch chi fanteisio i’r eithaf ar y rhain? Gallai hyn fod trwy roddwyr newydd, noddwyr gweithgareddau neu wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn tasgau. Dysgwch am yr hyn sy’n eu cymell i’ch cefnogi, a oes unrhyw beth y gall codi arian i chi ei wneud i helpu gyda’u diddordebau; er enghraifft, ydyn nhw eisiau dysgu sut i redeg/rheoli digwyddiadau?
A chofiwch ddiolch i’ch codwyr arian am eu holl ymdrechion; gallai hyn fod yn llythyr personol gan y Cadeirydd neu ddiolch cyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae methu â diolch iddyn nhw’n briodol yn sicr yn ffordd o golli eu cefnogaeth.
Sut alla i fynd ati i godi arian ar gyfer elusen
Os hoffech chi godi arian ar gyfer elusen neu fudiad, yna eich cam cyntaf fyddai cysylltu â nhw i esbonio’ch cynlluniau/syniadau. Rhowch wybod iddyn nhw pam rydych chi eisiau eu cefnogi ac a oes targed gennych o ran faint rydych chi’n credu y byddwch chi’n ei godi.
Byddan nhw eisiau gwybod beth rydych chi’n ei gynllunio, a phryd, er mwyn sicrhau bod eich gweithgaredd yn cyd-fynd ag arferion y mudiad ac nad yw’n gwrthdaro â digwyddiadau neu weithgareddau codi arian eraill maen nhw’n eu cynllunio.
Efallai y bydd ganddyn nhw ddeunydd cyhoeddusrwydd awgrymedig, geiriad y gallwch chi ei ddefnyddio i roi cyhoeddusrwydd i’ch ymdrechion, ac mae gan rai o’r elusennau mwy becynnau codi arian maen nhw’n eu rhoi i unigolion sy’n codi arian ar eu rhan.
Adnoddau
JustGiving
Adnoddau am ddim y gellir eu lawrlwytho i helpu a chefnogi codwyr arian
https://www.justgiving.com/for-charities/resources
Sefydliad Siartredig y Codwyr Arian
Mae llawer o adnoddau ac offer am ddim ar gael
https://ciof.org.uk
British Heart Foundation
Er bod y wefan wedi’i hanelu at eu codwyr arian eu hunain, mae’n cynnig adnoddau a syniadau am ddim sy’n addas i’r rhan fwyaf o fudiadau eu mabwysiadu neu eu defnyddio.
https://www.bhf.org.uk/how-you-can-help/fundraise
Cancer Research UK
Mae gan Cancer Research UK (fel llawer o elusennau mawr eraill) becynnau codi arian ar-lein a all helpu i ysbrydoli eich cefnogwyr.
https://www.cancerresearchuk.org/get-involved/do-your-own-fundraising