Cartref » Help ac arweiniad » Cyllido eich mudiad » Dulliau eraill o godi arian

Dulliau eraill o godi arian

Ar y dudalen hon

Group of women hold hands as they cross the finish line of a running race

Rhoi arian yn unigol

Y cyhoedd yw un o ffynonellau incwm mwyaf y sector gwirfoddol, a gellir cael cymorth gan roddwyr unigol mewn ffyrdd amrywiol. Mae angen i bobl sy’n codi arian ofyn i’r cyhoedd am arian mewn modd eglur, wedi’i dargedu. Mae gan roddwyr unigol eu cymhellion a’u nodweddion eu hunain a’u dulliau dewisol o gynnig eu cymorth, ac mae angen ystyried y rhain wrth gynllunio unrhyw ymgyrch codi arian.

Gyda phob math o weithgaredd codi arian, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod eich gweithgarwch codi arian yn cydymffurfio â’r Codau Ymarfer Codi Arian (Saesneg yn unig). Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddwch chi’n ymhél â rhoddwyr mewn lleoliadau cyhoeddus.

Gall unigolion gefnogi eu helusennau enwebedig mewn ffyrdd amrywiol;

  • rhodd untro
  • mynychu digwyddiadau a gweithgareddau
  • rhoddion arfaethedig a rheolaidd
  • bod yn ‘rhoddwr mawr’
  • gadael arian i’w mudiad yn eu hewyllys

Yn ddelfrydol, byddech chi eisiau ceisio meithrin cydberthnasau â’ch rhoddwyr fel eu bod yn symud i fyny’r ysgol o fod yn ddarpar roddwyr i fod yn bobl sy’n rhoi arian rheolaidd, rhoddion mawr a chymynroddion.

Gallwch chi annog unigolion i roi i’ch mudiad drwy drefnu digwyddiadau, rafflau a chasgliadau neu gynnal ymgyrchoedd.

Mae gennym nifer o daflenni gwybodaeth i’ch helpu chi gyda’r dulliau codi arian hyn.

Codi Arian – Cymynroddion

Mae hwn yn rhoi canllawiau i chi ar sut i annog pobl i gofio am eich mudiad yn eu hewyllys.

Codi Arian – Cymynroddion
Calculating income

Canllaw i ddenu rhoddwyr rheolaidd

Pwyntiau allweddol i’ch helpu chi i gynyddu eich rhoddion rheolaidd

Canllaw i ddenu rhoddwyr rheolaidd
Guide to fundraising

Canllaw i godwyr arian

Mae hwn yn cynnwys rhai syniadau da ar gyfer cefnogi unigolion sydd eisiau cyflawni her codi arian

Canllaw i godwyr arian
Reading

Canllaw i Apeliadau Cyllid Torfol

Mae hwn yn egluro’r pwyntiau hanfodol sy’n berthnasol i apeliadau cyllid torfol

Canllaw i Apeliadau Cyllid Torfol
Fun run

Codi arian – digwyddiadu

Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o bethau i feddwl amdanynt er mwyn cynnal digwyddiad codi arian llwyddiannus

Codi arian – digwyddiadu

Rhoi corfforaethol

Codi arian corfforaethol yw pan rydych chi’n gofyn i gwmnïau neu fusnesau eich cefnogi (yn hytrach nag unigolion).

Nid yw denu arian o fusnesau yn golygu y dylech newid yr hyn rydych chi’n ei wneud na sut rydych chi’n ei wneud. Yr unig beth fydd angen i chi ei wneud o bosibl yw ‘gwerthu’ eich hun mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Yn yr un modd â phob math arall o weithgarwch codi arian, awgrymwn eich bod yn cymryd yr amser i ystyried yr hyn rydych chi’n gobeithio ei gyflawni drwy ddefnyddio arian corfforaethol, a meddwl yn strategol am sut i gael y canlyniadau hynny gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael i chi.

Gall busnesau gefnogi mudiadau gwirfoddol am resymau amrywiol yn ymwneud ag ewyllys da ac adeiladu enw da i’w hunain yn lleol. Efallai y bydd busnesau yn chwilio am yr achosion hynny sy’n fwyaf perthnasol i’w busnes, fel cysylltiad daearyddol neu gysylltiad â chynnyrch.

Y math o help y mae cwmnïau yn ei roi

Rhoddion mewn nwyddau – yn aml, bydd cwmnïau yn cynnig rhai o’u gwasanaethau, cynhyrchion, deunyddiau neu hen gyfarpar swyddfa fel dodrefn a chyfrifiaduron. Mae rhai grwpiau yn cael swyddfeydd neu wasanaethau llungopïo neu argraffu am ddim neu’n rhatach gan gwmnïau lleol.

Arian – mae dwy brif ffordd o gael cymorth ariannol gan fusnesau:

  • Rhoddion – mae’r busnes yn rhoi arian i’ch grŵp fel ‘achos da’. Gall y busnes gael rhyddhad treth ar y rhoddion hyn, ond ni chânt unrhyw beth arall yn gyfnewid am ei arian.
  • Nawdd – mae hwn yn un ffordd o hyrwyddo brand ac enw da cwmni yn gyhoeddus, gan helpu ‘achos’ gwerth chweil ar yr un pryd. Mae’n wahanol i rodd oherwydd mae’r cwmni yn cael – ac yn disgwyl – rhywbeth yn gyfnewid am ei gymorth. Gallai hyn fod yn rhywbeth fel rhoi logo’r busnes ar grys-t neu raglen neu eu hyrwyddo ar eich gwefan.

Gall nawdd gael ei gynnig fel arian neu nwyddau. Er enghraifft, mae darparu cyfarpar, cynnig arbenigedd busnes neu secondio cyflogeion i gyd yn fathau o nawdd mewn nwyddau.

Gall busnesau helpu grwpiau gwirfoddol hefyd drwy sefydlu cynlluniau Rhoi drwy’r Gyflogres. Mae’r cynlluniau hyn yn caniatáu i gyflogeion gyflwyno rhoddion drwy’r gyflogres. Caiff rhoddion eu gwneud cyn treth, felly mae pob rhodd o £1 dim ond yn costio 80c i’r cyflogai (60c i enillwyr ar gyfradd uwch).

Mae gan y Sefydliad Siartredig Codi Arian ganllawiau ar sut i fynd ati i godi arian corfforaethol a’r pwyntiau cyfreithiol sydd yn rhaid i chi eu hystyried. Gallwch chi weld y canllawiau yma (Saesneg yn unig).

Mathau eraill o gymorth gan fusnesau

Efallai y gall busnesau gefnogi eich mudiad mewn ffyrdd eraill. Cofiwch feddwl am y canlynol:

  • Cyngor a chymorth – weithiau, gallwch chi gael cyngor neu wasanaethau arbenigol am ddim gan gwmnïau lleol fel cyfreithwyr neu gyfrifwyr
  • Cysylltiadau yn y byd busnes – gall help uwch-arweinwyr busnes fod yn ddylanwadol iawn wrth rwydweithio â phobl eraill yn y byd busnes a chael arian ganddyn nhw
  • Gwirfoddoli â chymorth cyflogwr – bydd rhai busnesau yn caniatáu i staff helpu grwpiau lleol neu drefnu i’w staff wirfoddoli gyda’ch grŵp am gyfnod penodol i gyflawni gweithgareddau dynodedig

Masnachu

Beth yw masnachu?

Mae llawer o wahanol fathau o fasnachu, ond fel arfer mae’n ymwneud â’r canlynol:

  • Codi tâl ar fuddiolwyr a grwpiau defnyddwyr eich mudiad am wasanaethau neu nwyddau rydych chi’n eu darparu a/neu
  • Gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar y farchnad agored

Dulliau masnachu

Gellir mynd ati i fasnachu mewn nifer o ffyrdd:

Masnachu sy’n ymwneud â chenhadaeth – Gwerthu nwyddau neu wasanaethau ‘craidd’ perthnasol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â nodau ac amcanion mudiad. Yn ogystal â datblygu cenhadaeth mudiad, gall y dull hwn o fasnachu gynhyrchu arian dros ben gwerthfawr. Er enghraifft, os yw prosiect crefft rydych chi’n ei redeg yn creu eitemau o ansawdd fel cardiau cyfarch, gallech chi eu gwerthu, neu efallai yr hoffech chi ystyried cyflwyno eich hyfforddiant arferol i grwpiau y tu allan i’ch buddiolwyr targed am ddim.

Masnachu amherthnasol – Pan na fydd hi’n bosibl i fudiad gyfuno ei wasanaethau a’i ymdrechion i gynhyrchu incwm, gellir ystyried masnachu amherthnasol; gwerthu nwyddau a gwasanaethau nad yw’n berthnasol iawn i’ch nodau craidd, ond sy’n cynhyrchu elw y gellir ei ddefnyddio i sybsideiddio’r gwaith craidd. Gallai enghraifft yma gynnwys dillad gyda’ch logo arnynt ac ati.

Adennill costau – Elfen o fasnachu sy’n ymwneud â chenhadaeth sy’n cynnwys codi tâl ar grwpiau defnyddwyr a buddiolwyr er mwyn talu cost sylfaenol gwasanaeth, nid i wneud elw ond er mwyn cyflwyno gwasanaeth â chymhorthdal.

Cwmnïau cymdeithasol – Yn aml, y model hwn yw’r llwybr i fasnachu, sy’n deillio o natur gweithgareddau mudiad. Nod cwmnïau cymdeithasol yw creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi go iawn i bobl ar gyrion y farchnad lafur neu geisio darparu gwasanaethau fforddiadwy o ansawdd uchel sydd y tu hwnt i’r rhai a ddarperir gan y wladwriaeth.

Contractau – Mae hyn yn ymwneud â chynhyrchu incwm drwy ddarparu’r nwyddau neu wasanaethau a amlinellir mewn cytundeb contractiol â’r prynwr.

Ystyriaethau

Gall incwm a gynhyrchir drwy fasnachu fod yn fuddiol oherwydd mae’n anghyfyngedig ac felly’n gallu cael ei ddefnyddio’n gyffredinol i gyllido costau rhedeg eich mudiad.

Fodd bynnag, bydd angen i chi edrych ar nifer o ystyriaethau difrifol cyn i chi ddechrau datblygu syniad masnachu:

Goblygiadau cyfreithiol – Rhaid i ddogfennau llywodraethu ganiatáu i chi ymgymryd â gweithgareddau masnachu. Yn ogystal â materion cyfreithiol, rhaid i elusennau cofrestredig hefyd ystyried materion trethiant ac mae rheolau ychwanegol ynghylch y mathau o fasnachu y gall elusennau eu gwneud. Mae’r rhain yn faterion manwl sydd angen eu hystyried yn drwyadl. Dylid cael cyngor cyfreithiol annibynnol ar y materion hyn ar bob adeg.

Diwylliant y mudiad – rhaid i fudiadau fod yn barod i ystyried dulliau cyllido newydd a mabwysiadu dulliau entrepreneuraidd. Gall amharodrwydd i wneud hyn achosi problemau’n fynych os na chaiff ymrwymiad a buddsoddiad priodol ei wneud, a bydd hyn yn effeithio ar debygolrwydd y fenter o lwyddo.

Cynllunio – rhaid cynllunio’n drwyadl er mwyn edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i fudiad a phennu unrhyw risgiau posibl. Bydd cynllunio’n effeithiol yn cyfrannu at lwyddiant a datblygiad parhaus gweithgarwch masnachu.

Cyllid – fel arfer, ni ellir osgoi costau cychwynnol wrth ymgymryd â gweithgaredd newydd. Mae’n hanfodol bod yr holl gostau cychwynnol yn cael eu cyfrifo’n gywir o’r cychwyn cyntaf er mwyn osgoi unrhyw bethau annisgwyl. Rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn sylweddoli beth yw cost wirioneddol unrhyw brosiect a’ch bod chi’n adennill yr holl gostau (adennill costau llawn), neu’n gallu ymrwymo cyllid wrth gefn neu arian arall i sybsideiddio’r masnachu nes iddo o leiaf adennill costau.

Trethiant – er bod elusennau yn elwa ar rai esemptiadau treth, gallai masnachu olygu y bydd angen talu treth gorfforaeth neu godi TAW. Bydd cael cyngor arbenigol yn hanfodol.

Anghenion hyfforddi – bydd cynnal archwiliad sgiliau a dadansoddiad o’r anghenion hyfforddiant yn pennu pa sgiliau ychwanegol a allai fod eu hangen er mwyn sicrhau llwyddiant menter newydd.

Awgrymwn eich bod yn cael cyngor pellach cyn bwrw iddi â’ch syniadau masnachu.

Mae cyngor am gyllid ar gael i fudiadau gwirfoddol drwy’r rhwydwaith o gynghorau gwirfoddol lleol (CVCs).  

Cysylltu

Mae gan wefan Busnes Cymdeithasol Cymru amrediad o gymorth i fusnesau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys canllawiau i bobl sy’n ystyried dechrau busnes cymdeithasol neu’r rheini sy’n chwilio am gymorth i weithredu neu dyfu busnes cymdeithasol.

Mae asiantaeth Cwmpas hefyd yn cynnig cyngor i’r sector busnesau cymdeithasol yng Nghymru.