Mae sicrhau bod gan fudiadau gwirfoddol y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnyn nhw i ddod o hyd i gyllid ac amrywio eu hincwm yn bwysicach nag erioed. Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru [insert link – Amdanom ni] yn ymdrechu i sicrhau trydydd sector ffyniannus a chynaliadwy, lle mae mudiadau
yn sicrhau ac yn cynhyrchu’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i oroesi, ffynnu a pharhau i fod yn berthnasol yn y dyfodol.
Yn yr adran hon, byddwch chi’n dod o hyd i ganllawiau ar y gwahanol fathau o weithgareddau codi arian a gwybodaeth am brosesau ariannol fel tendro, bod yn addas i gael eich cyllido a chodi arian ar-lein.
Waeth a ydych chi’n gobeithio gwella’ch systemau ariannol neu eisiau rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o godi arian, mae’r adnoddau hyn yma i’ch helpu.
Yn seiliedig ar eich diddordebau

Codi Arian – Digwyddiadau
Mae digwyddiadau yn ffyrdd cyhoeddus iawn o godi arian a gallant fod yn gyfle gwerthfawr i godi proffil eich elusen yn ogystal â chodi arian.

Codi Arian – Cymynroddion
Mae codi arian drwy gymynroddion yn cynnig ffrwd incwm sylweddol bosibl a ffordd effeithiol iawn i roddwyr gefnogi eich achos.

Cyflwyniad i Rodd Cymorth
Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy’n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob £1 a roddir gan drethdalwr cymwys.