Archwilio ffrydiau incwm amrywiol
Trosolwg
- Cyflwyniad
- Ar gyfer pwy mae’r daflen wybodaeth hon?
- Beth yw cynhyrchu incwm?
- Cyllid cynaliadwy: ar draws y sbectrwm incwm
- Economi roddion
- Cyllid grant
- Marchnad strwythuredig
- Marchnad agored
- Offeryn Cymysgedd Codi Arian Cyfredol (Taenlen Excel)
- Pam mae’n bwysig cael ffrwd incwm amrywiol?
- Man cychwyn
- Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm
Cyflwyniad
Cynhyrchwyd y daflen wybodaeth hon fel rhan o waith y Rhwydwaith Ymarferwyr Ariannu Cynaliadwy, CGGC a Swyddogion Datblygu Cynghorau Gwirfoddol Sirol, gan weithio fel rhan o bartneriaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru i gefnogi mudiadau’r trydydd sector. Gyda’i gilydd, mae’r bartneriaeth hon yn gweithio ar adnoddau a rennir i gefnogi’r sector gwirfoddol ledled Cymru.
Mae’r adnodd hon yn defnyddio’r Offeryn Sbectrwm Incwm, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan NCVO, sy’n cynnig canllaw gweledol defnyddiol i’r mathau allweddol o incwm y gall mudiad eu harchwilio.
Ar gyfer pwy mae’r adnodd hon?
Mae’r daflen hon wedi’i hanelu at fudiadau bach a chanolig, gan gynnwys y rhai a arweinir gan wirfoddolwyr ac sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth leol neu ranbarthol gyda thîm llai o faint. Gall hefyd fod yn offeryn gweledol defnyddiol i fudiadau mwy o faint â staff cyflogedig sy’n cael cymorth gan rwydwaith cenedlaethol neu riant elusen.
Un her y mae grwpiau’n ei hwynebu’n aml yw cydbwyso’r ddarpariaeth bresennol â chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gall cymryd amser i adolygu adnoddau fel hyn helpu i daro’r cydbwysedd hwn. Mae sicrhau bod cyllid ar gael yn ystyriaeth allweddol wrth gytuno ar gynlluniau a nodau ar gyfer y dyfodol.
Dywed Karen Chalk, Cyfarwyddwr Circus Eruption:
‘Mae arallgyfeirio incwm yn hollbwysig, ond nid yw byth yn ‘ateb sydyn’, ac mae llawer o bethau i’w hystyried. Mae ein taith ‘fasnachu’ yn enghraifft dda o hyn. Dechreuodd Eruption gynnig gweithdai syrcas i grwpiau a mudiadau eraill ar ddechrau’r 2010au, pan oeddem eisoes wedi bod yn rhedeg ers 20 mlynedd, ond doedd e ddim yn benderfyniad ‘ad hoc’. Fe’i datblygwyd o strategaeth ac roedd y twf cynlluniedig yn araf, gyda sylw yn cael ei roi i gapasiti. Yn gyffredinol, mae wedi darparu tua 1/3 i 1/4 o gyfanswm ein hincwm blynyddol yn weddol gyson yn ystod cyfnod o 10 mlynedd lle mae ein hincwm/gwariant refeniw, staffio ac ati wedi treblu.
Yn 2024, cawsom 10 sesiwn diwrnod llawn o hyfforddiant ‘hyfforddi’r hyfforddwyr’ er mwyn gallu cyflwyno cynnig masnachu newydd – hyfforddiant cynhwysiant/cyfranogiad – oherwydd rydym yn brofiadol iawn yn hyn o beth yn ymarferol, ond nid oeddem wedi gweithio ar rannu’r neges o’r blaen mewn gwirionedd. Roeddem yn gobeithio cynnig hwn yn barod (dechrau 2025) ond mae angen gwneud mwy o waith marchnata / adnoddau dynol cyn i ni lansio ‘cynnyrch’ newydd.
Mae’n hanfodol sicrhau bod unrhyw ymdrechion i sicrhau ffrydiau incwm cynaliadwy newydd yn cael effaith gadarnhaol ar eich mudiad ac nad yw byth ar draul eich amcanion elusennol. Dylai cynaliadwyedd cyffredinol fod yn gyson â’ch amcanion bob amser, ac mae’n rhaid i unrhyw incwm a gynhyrchir gyd-fynd â hynny, mewn theori ac yn ymarferol. Mae cymryd amser i feddwl am effeithiau yn y ffordd hon a sicrhau hyd eithaf eich gallu y byddant yn gadarnhaol – nid dim ond yn ariannol – yn allweddol i gynaliadwyedd sefydliadol/ariannol.’
Beth yw cynhyrchu incwm?
Cynhyrchu incwm yw’r weithred o wneud arian i’ch mudiad ac mae’n digwydd mewn gwahanol ffyrdd. Gall yr Offeryn Sbectrwm Incwm fod yn ddefnyddiol ar gyfer ystyried cynhyrchu incwm a pha ffynonellau eraill y gallai fod yn briodol eu harchwilio.
Ystyriwch y canlynol:
- Beth yw eich ffynonellau incwm presennol fel mudiad
- Beth yw eich asedau presennol – ystyriwch bobl a sgiliau yn ogystal ag adnoddau ffisegol
- Cyfleoedd posibl i gynhyrchu incwm gyda’r rhain
Mae angen adnoddau ar bob mudiad i gyrraedd a chyflawni ei nodau a’i amcanion ymhellach. Gall archwilio opsiynau gynnig cyfleoedd newydd i dyfu.
Beth yw’r manteision?
Cyllid cynaliadwy ar gyfer mudiad yw lle mae grŵp yn archwilio cymysgedd o opsiynau incwm ac yn elw arnynt, gan wasgaru dibyniaeth dros nifer o wahanol ffynonellau incwm. Mae mudiadau sydd â chymysgedd o linynnau incwm yn fwy cadarn os bydd ffactorau allanol yn effeithio ar y ffynhonnell ariannu.
Manteision incwm amrywiol:
- Gallu cynllunio ymlaen llaw
- Mudiad cryfach
- Llai dibynnol ar un ffynhonnell incwm os caiff honno ei thynnu’n ôl
- Efallai y bydd rhai ffynonellau incwm yn cyd-fynd yn dda â’r gwasanaethau a ddarperir gennych, ac yn helpu i rannu’r neges/angen am eich gwasanaeth hefyd h.y. darparu cyrsiau hyfforddi mewn maes rydych chi’n arbenigo ynddo
(Mae’r wybodaeth ganlynol yn cyfeirio at offeryn sbectrwm incwm NCVO)
Nodweddion allweddol offeryn sbectrwm incwm NCVO
- Mae’n disgrifio’r prif ffrydiau incwm sydd ar gael
- Mae’n diffinio’r perthnasoedd sy’n gysylltiedig â phob ffynhonnell incwm h.y. pobl neu fudiad
- Mae’n egluro’r disgwyliad sy’n ymwneud â’r hyn mae’r mudiad yn ei wneud ar gyfer yr incwm. Mae angen mwy o ddisgwyliad/ mewnbwn wrth i chi symud o’r chwith i’r dde ar y sbectrwm
- Mae’n helpu i nodi o ble mae cyllid yn dod/o ble y gallai ddod
Egluro’r adrannau
O’i ddefnyddio’n weithredol, gall yr Offeryn Sbectrwm Incwm helpu i nodi camau gweithredu i’ch mudiad eu cymryd. Allech chi ddefnyddio hwn fel rhan o Gyfarfod Bwrdd neu fel sesiwn datblygu wedi’i hwyluso?
Gallwch chi ei ddefnyddio i:
- Asesu eich ‘cymysgedd’ ariannu presennol
- Nodi ffrydiau incwm cyfredol
- Dechrau myfyrio ar nodweddion y ffynonellau a’u haddasrwydd
- Asesu a oes angen dull ariannu mwy amrywiol
- Ystyried pa mor ddibynnol y gallech chi fod ar unrhyw ffynhonnell
Pa ffynonellau incwm allai fod yn addas i’ch grŵp eu harchwilio?
Cyllid cynaliadwy: ar draws y sbectrwm incwm

Mae fersiwn PDF o’r infograffig ar gael yma.
O’r chwith i’r dde ar y Sbectrwm Incwm, mae’r adran ganlynol yn archwilio’r gwahanol ffynonellau ariannu.
Economi roddion
Mae’r Economi Roddion yn ymwneud â rhoddion gan roddwyr. Gall rhoddwyr fod yn unigol neu’n gorfforaethol. Fel arfer, cyllid anghyfyngedig ydyw i gefnogi eich gwaith, sy’n golygu y gall y mudiad ei ddefnyddio yn ôl ei ddisgresiwn i hyrwyddo ei nodau a’i weithgareddau cyffredinol. Mae cyllid anghyfyngedig yn ddefnyddiol iawn i fudiadau gan ei fod yn gallu talu costau sy’n llai deniadol i gyllidwyr grantiau h.y. costau rhedeg o ddydd i ddydd gan gynnwys amnewid eitemau sy’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau a allai fod yn anghymwys o dan geisiadau grant. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer costau annisgwyl sy’n codi, ar gyfer costau fel offer swyddfa neu gostau rhedeg a all fod yn fwy heriol i’w talu o ffynonellau ariannu eraill.
Mae ffynonellau economi roddion yn cynnwys:
- incwm a gynhyrchir o roddion dyngarol
- rhoddion gwirfoddol
- codi arian cymunedol
- rhoddion unigol
- rhoddion corfforaethol
Cofiwch fod y rhain yn wahanol i grantiau ar gyfer rhywbeth penodol y disgwylir iddynt gael eu gwario ar brosiect penodol i gyflawni canlyniadau sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau diffiniedig. Fel arfer lefel o adrodd ariannol a thelerau ac amodau gwariant.
Awgrymiadau:
Ystyriwch a ydych chi’n rhoi cyfleoedd ar gyfer rhoddion “economi roddion” megis rhoddion untro, debyd uniongyrchol rheolaidd ac ati.
Perthynas â rhoddwr yw hon. Mae ganddo ddisgwyliadau isel/y disgwyliadau lleiaf posibl ac nid yw’n disgwyl llawer yn gyfnewid am ei fod yn awyddus fel arfer i gefnogi’r hyn rydych yn ei wneud a’ch ethos fel mudiad. Efallai y gallech chi ystyried sut i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am y gwaith cadarnhaol mae eich mudiad yn ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ymgysylltu a’ch bod yn cadw ei gefnogaeth.
Cyllid Grant
Fel arfer, caiff cyllid grant ei ddyrannu drwy broses ymgeisio ffurfiol lle mae grŵp yn dangos ei fod yn bodloni blaenoriaethau penodol a diffiniedig y ffynhonnell ariannu ac yn gofyn am swm penodol o arian i gyflawni hyn. Rhoddir cyllid ar gyfer costau diffiniedig i gyflawni allbynnau/canlyniadau penodol fel y nodir yn y cais cymeradwy. Cyllid cyfyngedig yw hwn fel arfer, sy’n golygu ei fod yn cael ei roi i’w wario’n benodol iawn ar y costau a’r gweithgareddau a nodir yn y cais y’i dyrannwyd ar ei gyfer, yn unol â blaenoriaethau cyllidwyr.
Perthynas â chyllidwr yw hon. Mae’n debygol o fod eisiau monitro’r hyn sy’n cael ei wneud gyda’r arian a fuddsoddir. Mae disgwyliad clir ynghylch yr hyn a gaiff ei gyflawni gyda’r cyllid.
Mae ffynonellau grant yn cynnwys:
Grantiau statudol, grantiau loteri, ymddiriedolaethau a sefydliadau, grantiau corfforaethol, sefydliadau cymunedol
Awgrymiadau:
Cyllido Cymru – cofrestrwch yma i ddysgu mwy am y grantiau a all fod ar gael.
360Giving – 360Giving (threesixtygiving.org) adnodd defnyddiol i weld tueddiadau rhoi a gwybodaeth am y sawl sy’n rhoi grantiau
Yn aml, mae grantiau yn fwyaf addas ar gyfer:
- prosiectau peilot
- datblygu gwasanaeth/ongl gwasanaeth newydd
- sicrhau newid sylweddol yn y ffordd rydych chi’n gwneud rhywbeth
- eitem neu brosiect sy’n gyfyngedig o ran amser wedi’i nodi’n glir
Mae’n debygol y bydd cyllidwyr grant eisiau monitro adenillion i ddangos yr hyn mae’r buddsoddiad hwn wedi cyfrannu ato. Efallai y bydd ganddynt ofynion o ran cyhoeddusrwydd a disgwyliadau clir ynghylch adroddiad ar yr hyn a gyflawnwyd.

Marchnad strwythuredig
Mae cyllid drwy’r farchnad strwythuredig yn golygu talu am nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o dan delerau contract neu gytundeb lefel gwasanaeth rhwng mudiad a phrynwr trydydd parti. Fel arfer, parti o’r sector cyhoeddus ydyw.
Mae’r Farchnad Strwythuredig yn cynnwys:
- Darparu eich gwasanaethau craidd h.y. cymorth cwnsela
- Contractau i’w cyflawni gyda phartneriaid sector cyhoeddus h.y. awdurdod lleol/bwrdd iechyd
Awgrymiadau
I fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ariannu posibl drwy’r llwybr hwn, dewch i adnabod cylchoedd contractio gwahanol bartneriaid a’r llwyfannau a ddefnyddir i hysbysebu manylebau contract
Cyrsiau gan asiantaethau
Fel ‘Sut i Dendro’ gyda Busnes Cymru a’i dîm o Gynghorwyr Tendro
Porth caffael Llywodraeth Cymru yw gwefan GwerthwchiGymru. Mae’n hysbysebu cyfleoedd gwerth biliynau o bunnoedd mewn contractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau’r sector cyhoeddus.
edendrocymru: porth e-dendro Gwerth Cymru
eDendroCymru yw lle rydych chi’n gwneud cais am y cyfleoedd hyn. Mae gwefan Bravo Solutions eDendroCymru yn eich galluogi i gyflwyno cyfleoedd tendro ar-lein mewn amgylchedd diogel (noder: nid dyma eich manylion mewngofnodi GwerthwchiGymru).
Perthynas â phrynwr/comisiynydd y gwasanaeth hwnnw yw hon ac mae’r contract i ddarparu’r gwasanaeth hwn yn gyfreithiol rwymol. Un peth sydd wedi’i gynnwys yn y contract hwn yw swm yr incwm a ddarperir ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Gan fod contractau’n gyfreithiol rwymol, mae’r cyflenwr wedi’i rwymo gan y contract i gyflawni targedau penodol, o fewn amserlenni penodol ac yn unol â chyllideb benodol. Incwm cyfyngedig yw hwn h.y. incwm a roddir i gyflawni’r contract gyda nifer o ddisgwyliadau cysylltiedig gan gynnwys targedau, amserlen a chyllideb benodol.
Marchnad agored
Mae cynhyrchu cyllid drwy’r farchnad agored yn ymwneud â gweithgaredd masnachu ac yn cynnwys gwerthu nwyddau neu wasanaethau i ennill incwm. Mae hwn yn faes twf ac ymwybyddiaeth gynyddol yn y trydydd sector lle mae llawer o botensial. Efallai y bydd angen newid meddylfryd o gynnig pethau am ddim, ond gall olygu archwilio marchnadoedd newydd megis darparu gwasanaeth y telir amdano ochr yn ochr â’r rhai a gynigir am gost isel neu ddim cost o gwbl. Weithiau gall gweithgaredd masnachu gael ei alw’n fenter gymdeithasol hefyd – menter gyda model busnes cadarn a budd cymunedol.
Un o’r pethau cadarnhaol go iawn ynglŷn â chynhyrchu incwm ar y farchnad agored yw’r ffaith mai incwm anghyfyngedig ydyw. Gall masnachu helpu i ddatblygu dulliau newydd a gwella sgiliau mudiad hefyd.
Os yw masnachu yn rhywbeth yr hoffech ei archwilio, yna byddai angen i chi benderfynu ar y canlynol:
- Y categori masnachu y mae eich gweithgaredd yn perthyn iddo h.y. prif ddiben, ategol neu ansylfaenol
- A all gael ei gyflwyno gan yr elusen ei hun neu a oes angen is-gwmni masnachu
- Y sefyllfa dreth sy’n ymwneud ag elusennau sy’n masnachu
- Pryd i sefydlu is-gwmni masnachu
Ystyriwch a oes angen y canlynol arnoch a rhowch nhw ar waith:
- Cyfrif banc os ydych yn sefydlu mudiad ar wahân
- Sgiliau ar y bwrdd, set sgiliau gwahanol o bosibl gyda bwrdd gwahanol neu ehangu’r un presennol
- Archwilio sgiliau staff i weld beth sydd ganddynt i’w gynnig/masnachu
Rhai cwestiynau i’w gofyn wrth ystyried cyfleoedd incwm sy’n ymwneud â’r Farchnad Agored:
- Allwch chi werthu eich sgiliau, wedi’u cyflwyno mewn ffordd wahanol o bosibl i’ch gwasanaeth craidd/i gynulleidfa wahanol?
- Allwch chi gynnig fersiwn y telir amdano o unrhyw wasanaethau am ddim neu â chymhorthdal?
- Allwch chi gynnig rhywbeth o werth/defnydd i gynulleidfa wahanol?
- Allwch chi ddefnyddio’ch asedau mewn ffordd fwy effeithlon?
- Allwch chi godi tâl am ddarparu eich gwasanaethau craidd h.y. cymorth cwnsela?
- Beth yw’r costau sy’n gysylltiedig â datblygu’r cynnyrch/gwasanaeth, helpu i reoli unrhyw risg ariannol?
Awgrymiadau: gall archwilio sgiliau ac asedau fod yn ffordd ddefnyddiol o archwilio cyfleoedd i gael incwm o’r farchnad agored
Mae enghreifftiau’n cynnwys: siopau elusennau: cangen fasnachu, siop ar-lein, gwasanaeth siopa, hyfforddiant arbenigol, nwyddau
Mae masnachu yn cynhyrchu incwm anghyfyngedig i fudiad.
Mae gwahanol fathau o fasnachu, rhai er mwyn cynhyrchu elw yn unig (masnachu digyswllt) ac eraill sy’n ymwneud â masnachu fel rhan o’r gwaith o gyflawni’r nodau a’r amcanion (masnachu sy’n gysylltiedig â chenhadaeth neu fasnachu craidd) yn ogystal â chwmnïau cymdeithasol sy’n creu swyddi cynhwysol a chyfleoedd hyfforddi i’r rhai sydd angen amgylchedd gwaith â mwy o gefnogaeth.
Pan fydd incwm yn cael ei gynhyrchu ar y farchnad agored, y bobl rydym yn ymgysylltu â nhw yw defnyddwyr, sy’n gwneud dewis i brynu’r nwyddau neu’r gwasanaethau. Mae gan ddefnyddwyr ddisgwyliadau pan fyddant yn prynu ar y farchnad agored i gael safon benodol o gynnyrch neu wasanaeth yn gyfnewid am yr arian sy’n newid dwylo. Mae ymdeimlad o brynu i mewn i nodau’r hyn mae’r mudiad yn ei wneud yn ychwanegu gwerth ychwanegol, tra ei bod yn bwysig o hyd ystyried cystadleuaeth ehangach ochr yn ochr ag ansawdd er mwyn meithrin teyrngarwch defnyddwyr. Gall hyn helpu i sicrhau cynaliadwyedd y ffynhonnell incwm hon.
Deunydd darllen ychwanegol
CGS a CWMPAS: Busnes Cymdeithasol Cymru (sicrhau bod gofynion yn cael eu bodloni).
Good Finance
Busnes Cymdeithasol Cymru
https://busnescymru.llyw.cymru/busnescymdeithasolcymru/
https://busnescymru.llyw.cymru/busnescymdeithasolcymru/ffynonellau-cyllid
https://busnescymru.llyw.cymru/busnescymdeithasolcymru/cyllido-busnes-cymdeithasol
Offeryn Cymysgedd Codi Arian Cyfredol (Taenlen Excel)
Mae’r Offeryn hwn yn cynnig ffordd ddefnyddiol o asesu a oes gan eich mudiad incwm amrywiol, gan nodi’r meysydd mae eich mudiad yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd.
Gellir defnyddio’r offeryn fel man cychwyn ar gyfer datblygu strategaeth, nodi enillion cyflym, neu fel tystiolaeth ar gyfer sgyrsiau â Bwrdd Ymddiriedolwyr eich elusen.
Cyfarwyddiadau defnyddio:
Gallwch chi ddefnyddio rhagamcanion y flwyddyn gyfredol neu eich cyfrifon o flwyddyn flaenorol (bydd y wybodaeth ar y dudalen elw/colled. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn y golofn Elw). Gallwch chi hefyd ddefnyddio’ch Cyfrif Rheoli i ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol ar gyfer y Rhesi canlynol.
O’ch gwybodaeth ariannol, darganfyddwch werth y ffynonellau incwm canlynol ar gyfer eich mudiad, yna nodwch y gwerth (£) yn y golofn berthnasol:
RHODDION
1. Unigolion (rhoddion unigol, digwyddiadau a nawdd, cymynroddion, rhoddwr mawr)
2. Sector preifat/Corfforaethol
GRANTIAU
1. Ymddiriedolaethau a Sefydliadau
2. Asiantaethau’r sector cyhoeddus
3. Sector preifat
CONTRACTAU
1. Mudiadau gwirfoddol
2. Sector cyhoeddus
3. Sector preifat
MASNACHU
1. Unigolion
2. Gwirfoddol
3. Sector cyhoeddus
4. Sector preifat
Ar ôl nodi’r gwerthoedd, gallwch chi ddefnyddio’r wybodaeth hon i gwblhau SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd, Bygythiadau) ar gyfer eich mudiad. Cyfeiriwch at y Daflen Waith Sampl am enghraifft.
Pam mae’n bwysig cael ffrwd incwm amrywiol?
Mae elusennau, grwpiau cymunedol a chwmnïau budd cymunedol o bob lliw a llun wedi crynhoi rhai o’u pryderon ynghylch dibynnu ar un ffynhonnell incwm (arian grant fel arfer).
Arallgyfeirio: beth allai ei olygu o ran ffynonellau cyllid?
‘Mae hyd yn oed ein cyllid anghyfyngedig amlflwyddyn yn dod i ben. Allwn ni ddim dibynnu ar hwnna.’
‘Dydy ein prif gyllidwr ddim yn fodlon ariannu mwy na 25% o gyfanswm ein hincwm. Drwy gael arian yn dod i mewn o wahanol ffynonellau, gallwn ni liniaru’r risg.’
‘Mae bron pob un o’n ceisiadau am gyllid yn holi nawr am gynaliadwyedd y prosiect/mudiad pan ddaw’r cyllid i ben. Mae’n amlwg bod angen ffynonellau incwm gwahanol arnom er mwyn helpu i egluro sut y gallwn ni barhau â’r gwaith hwn, yn hytrach na dweud y byddwn ni’n gwneud cais am fwy o gyllid.’
‘Dim ond £5k oedd ei angen arnom, roedd yn haws ac yn gyflymach i wneud cais am grant ar gyfer hynny. Ond wrth feddwl am y peth, pe baen ni wedi codi arian mewn gwahanol ffyrdd, byddai wedi bod yno i ni ei ddefnyddio ac wedi achosi llai o straen i’r mudiad.’
‘Mae angen help arnom i gyfiawnhau i’n Bwrdd y bydd buddsoddi mewn codi arian o ffynonellau eraill yn gweithio. Ond mae’r holl waith ymchwil rydw i wedi’i weld yn dangos elw ar fuddsoddiad o rhwng £7 ac £20 am bob £1 sy’n cael ei gwario ar godi arian. Ac mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’r incwm hwn yn anghyfyngedig.’
Man cychwyn
Mae pob mudiad yn wahanol, a bydd eich incwm yn debygol o ddod o amrywiaeth o ffynonellau. Mae’n werth cymryd yr amser i gyfrifo’r ganran o gyfanswm eich incwm am y flwyddyn a gawsoch o’r ffynonellau hyn. Mae’r Offeryn Cymysgedd Codi Arian Cyfredol yn adnodd sy’n rhoi cipolwg ar yr hyn mae eich mudiad yn dibynnu arno fwyaf. Mae’n eich helpu i gynnal dadansoddiad SWOT cyflym ar y pedwar maes cynhyrchu incwm sef rhoddion, grantiau, contractau a masnachu. Mae sampl o’r gweithgaredd wedi’i wneud i chi.
Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm
Mae gwiriad iechyd, y cyfeirir ato hefyd fel archwiliad, adolygiad neu wiriad cryfder, yn ymarfer hunanasesu gyda rhestr o gwestiynau i’w hateb, er mwyn sicrhau eich bod yn y sefyllfa orau i allu cynhyrchu incwm. Mae nifer o bethau a ddylai fod ar waith gennych i wneud y broses o gynhyrchu incwm, drwy unrhyw lwybr, yn haws ac yn fwy effeithlon. Bydd cwblhau gwiriad iechyd a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau y byddwch yn eu nodi drwyddo yn helpu i wneud eich gweithgareddau cynhyrchu incwm mor ddidrafferth â phosibl, ac yn helpu eich mudiad i wneud y defnydd gorau o’i allu i gynhyrchu incwm.
Mae gwiriadau iechyd hefyd yn helpu i nodi meysydd i’w datblygu drwy dynnu sylw at wendidau a chyfleoedd. Gellir datblygu camau gweithredu ar gyfer y meysydd hyn yn gynllun i weithio arno dros gyfnod o amser sy’n gweithio i chi ac mewn ffordd sy’n briodol i’ch mudiad.
Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm
Mae’r adnodd hon yn esbonio sut i gynnal gwiriad iechyd cynhyrchu incwm. Drwy gynnal y gwiriad iechyd hwn, gallwch chi sicrhau bod gennych y polisïau, y gweithdrefnau a’r offer cywir ar waith i gryfhau galluoedd cynhyrchu incwm eich mudiad a gwella eich siawns o ddod ag incwm ychwanegol i mewn i’ch mudiad.