Cefnogi a Rheoli Gwirfoddolwyr
Cynefino gwirfoddolwyr
Pan fydd gwirfoddolwr newydd yn ymuno â’r mudiad, mae angen i chi gael proses ar waith i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arno i ddod i adnabod eich mudiad a theimlo’n gartrefol. Dylai cynefino gynnwys mwy na rhoi polisïau i wirfoddolwyr eu darllen a’u cyflwyno i wirfoddolwyr eraill a staff. Gall cael y broses gynefino’n gywir helpu eich mudiad i gadw ei wirfoddolwyr am hirach a sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael profiadau positif a gwobrwyol.
Recriwtio, Dethol a Chynefino Gwirfoddolwyr.
Gallwch gael manylion ar beth i’w gynnwys yn eich proses gynefino yn ein taflen wybodaeth, Recriwtio, Dethol a Chynefino Gwirfoddolwyr.
Cytundeb Enghreifftiol ar gyfer Gwirfoddolwyr
Un o’r elfennau o gynefino gwirfoddolwyr a argymhellir yw defnyddio ‘Cytundeb Gwirfoddolwyr’, i helpu i amlinellu’r hyn a ddisgwylir gan y gwirfoddolwr a’r hyn y gall y gwirfoddolwr ei ddisgwyl gennych chi. Edrychwch ar ein Cytundeb Enghreifftiol ar gyfer Gwirfoddolwyr y gallwch chi ei ddefnyddio fel templed.
Cefnogaeth a goruchwyliaeth
Bydd angen cefnogaeth ar wirfoddolwyr gan y mudiad i’w galluogi i wneud eu rolau’n dda. Bydd y lefel briodol o gefnogaeth a goruchwyliaeth yn dibynnu ar y rôl a’r amgylchiadau, y dylech eu hasesu o ran risg.
Ffordd dda o oruchwylio gwirfoddolwyr yw trefnu ‘sgyrsiau’ rheolaidd i siarad am eu profiadau gwirfoddoli, unrhyw lwyddiannau neu anawsterau ac unrhyw gefnogaeth neu hyfforddiant y maen nhw’n teimlo sydd eu hangen arnynt. Bydd hyn yn eich galluogi i ddeall sut mae pethau’n mynd a dod i adnabod y gwirfoddolwr, ac mae’n rhoi cyfle iddo ef roi adborth.
Gwnewch yn siŵr fod pawb yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am oruchwylio gwirfoddolwyr.
Dylech wneud yn siŵr bod gwirfoddolwyr yn gwybod pwy i gysylltu ag ef os oes ganddyn nhw broblem, a phryd mae’r help hwn ar gael.
Bydd rhai rolau gwirfoddol yn haws eu goruchwylio nag eraill. Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod yr oruchwyliaeth yn briodol i’r rôl ac yn caniatáu i’r gwirfoddolwr fod mor annibynnol â phosibl a bod y rôl yn rhoi profiad positif iddyn nhw.
Hyfforddi gwirfoddolwyr
Cyfrifoldeb eich mudiad yw gwneud yn siŵr y gall gwirfoddolwyr wneud eu rôl. Un ffordd o wneud yn siŵr eu bod yn fwy na pharod ar ei chyfer yw cynnig hyfforddiant anffurfiol neu ffurfiol (yn dibynnu ar y rôl).
Cadwch yr hyfforddiant yn berthnasol ac yn briodol i rôl y gwirfoddolwr a’i sgiliau a phrofiad cyfredol. Bydd hyn yn osgoi cymryd gormod o amser y gwirfoddolwr. Mae hefyd yn sicrhau nad yw’r hyfforddiant yn cael ei weld fel bonws neu wobr, a allai wneud i’r gwirfoddoli edrych fel gwaith â thâl.
Os yw eu hyfforddiant yn dda, bydd gwirfoddolwyr yn teimlo’n fwy abl i wneud eu rôl. Bydd hyn yn debygol o wneud iddynt eisiau parhau i wirfoddoli.
Gallwch chi hefyd gynnig cyfleoedd datblygu i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn cynyddu eu sgiliau a’u profiad er mwyn ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau neu symud ymlaen i rôl wirfoddoli arall. Gall y math hwn o gefnogaeth i wirfoddolwyr fod yn bwysig o ran cadw diddordeb a boddhad gwirfoddolwyr.
Treuliau gwirfoddolwyr
Mae’n arfer da i ad-dalu gwirfoddolwyr am dreuliau parod. Gellir cynnwys manylion yr hyn y gellir ei hawlio, a sut, yn eich polisi gwirfoddoli, neu eu cynnwys mewn polisi ar wahân. Bydd angen ffurflen hawlio ar wirfoddolwyr i hawlio eu treuliau, a all fod am dreuliau ymlaen llaw, neu ar ôl y digwyddiad.
Treuliau Gwirfoddolwyr
Mae ein taflen wybodaeth, Treuliau Gwirfoddolwyr, yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i wneud hyn a gallwch chi addasu ein Polisi Treuliau Enghreifftiol fel y bo’n addas i’ch mudiad.
Polisi Treuliau Enghreifftiol
Gallwch chi addasu ein Polisi Treuliau Enghreifftiol fel y bo’n addas i’ch mudiad.
Noder, mae’n bwysig nad ydych chi’n talu treuliau y tu hwnt i’r costau gwirioneddol yr aeth gwirfoddolwyr iddynt.
Diolch i wirfoddolwyr
Mae’n bwysig bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gwybod bod eu cyfraniad i’ch mudiad yn cael ei werthfawrogi.
Byddai llawer o wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser o’u gwirfodd i achos sy’n agos at eu calonnau yn gwerthfawrogi cael ‘diolch’ syml.
Meddyliwch am y ffordd orau o ddweud diolch i wirfoddolwr, yn dibynnu ar amgylchiadau a diwylliant y mudiad a phersonoliaethau eich gwirfoddolwyr. Efallai y byddai rhai unigolion yn gwerthfawrogi diolch cyhoeddus, ond efallai byddai hyn yn gwneud pobl eraill yn annifyr. Os ydych chi’n tynnu sylw at unigolion, gwnewch yn siŵr na fydd yn digio pobl na fydd yn cael diolch! Weithiau, gall diolch cyffredinol i ddathlu gwaith y tîm cyfan fod orau.
Cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel
Mae gennych chi gyfrifoldebau dros wirfoddolwyr i’w cadw’n ddiogel. Mae hyn yn ymwneud â’u hiechyd a diogelwch, ynghyd â phryderon diogelu ehangach.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd i’r afael â’r materion hyn yn ein hadrannau Iechyd a Diogelwch a Diogelu.
Cadw Gwirfoddolwyr yn Ddiogel.
Edrychwch hefyd ar ein taflen wybodaeth, Cadw Gwirfoddolwyr yn Ddiogel.
Ymdrin â phroblemau
Er ein bod yn gobeithio y byddwch chi’n gallu cynnig cyfleoedd gwirfoddoli gwobrwyol a gwerth chweil i wirfoddolwyr, gall pethau fynd o chwith weithiau.
Fel arfer, dylech geisio ymdrin â sefyllfaoedd anodd yn anffurfiol os yn bosibl, drwy siarad â’r rheini dan sylw, cael eglurhad o’r problemau a dod i gonsensws. Weithiau, fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon. Cynghorir mudiadau i gael ‘gweithdrefnau datrys problemau’ yn eu lle sy’n benodol i wirfoddolwyr.
Dylai eich dull o fynd ati i ymdrin â chwynion, anawsterau a phroblemau sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr ffurfio rhan o sesiynau cynefino gwirfoddolwyr a staff (ynghyd â pholisïau perthnasol eraill). Diben hyn yw sicrhau bod pawb yn gwybod y safonau a ddisgwylir a pha gamau gellid eu cymryd os na lynir at y rhain. Os ydych chi wedi llofnodi ‘cytundeb gwirfoddolwr’, gall hon fod yn ddogfen ddefnyddiol i gyfeirio yn ôl ati.
Mae prosesau goruchwylio, cefnogi a monitro da i gyd yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau mor gyflym â phosibl.
Rheoli Pryderon sy’n ymwneud â Gwirfoddolwyr
Mae ein taflen wybodaeth, Rheoli Pryderon sy’n ymwneud â Gwirfoddolwyr, yn edrych ar rai mathau o broblemau sy’n codi’n aml, a sut gall eich mudiad fod yn barod i ymdrin ag anawsterau mewn modd teg, cyson, tryloyw a pharchus.
Dylech wneud yn siŵr eich bod yn dilyn eich polisïau a’ch gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion ffurfiol. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y broblem, efallai y bydd angen i chi dynnu eich bwrdd ymddiriedolwyr neu bwyllgor rheoli i mewn i’r mater neu ofyn cyngor Adnoddau Dynol.
Rhagor o wybodaeth
Mae ein taflen wybodaeth, Sut i Sicrhau Bodlonrwydd Gwirfoddolwyr, yn rhoi trosolwg o’r materion sy’n cyfrannu at foddhad gwirfoddolwyr a beth all eich mudiad ei wneud i greu profiad positif i’r gwirfoddolwr.
Mae ein cwrs e-ddysgu am ddim, Rheolaeth a Chymorth ar gyfer gwirfoddoli, yn cynnig rhai argymhellion ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau yn ein hadran, Rhedeg eich mudiad.
Gwella eich ymarfer – Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw safon ansawdd y DU ar gyfer arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr.
Os ydych chi eisiau asesu ansawdd eich ymdrechion i reoli a chynnwys gwirfoddolwyr, profi a gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr, a gwella enw da eich mudiad, y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw’r fframwaith delfrydol.
Mae cyflawni’r safon yn dangos i’ch gwirfoddolwyr – a’ch darpar wirfoddolwyr – faint y maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi ac yn rhoi hyder iddynt yn eich gallu i gynnig profiad rhagorol i wirfoddolwyr.
I lawrlwytho copi am ddim o’r fframwaith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, neu i ddysgu mwy am sut i gyflawni’r nod ansawdd, ewch i’r wefan (Saesneg yn unig).