Yswiriant i wirfoddolwyr: canllaw i fudiadau
Nod y wybodaeth hon yw helpu mudiadau i ddeall y prif fathau o yswiriant a all fod yn berthnasol i wirfoddolwyr. Ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor proffesiynol a dylai mudiadau wirio eu polisïau eu hunain gyda’u hyswiriwr bob amser.
Mae yswiriant yn rhan o reoli risg yn dda. Mae’n cefnogi mesurau ymarferol fel gweithdrefnau iechyd a diogelwch, asesiadau risg, recriwtio effeithiol, cynefino, hyfforddiant, cymorth a goruchwyliaeth.
Mae yswiriant yn helpu i ddiogelu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, staff, buddiolwyr, y cyhoedd a’r mudiad os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.
Ar y dudalen hon
- Pam mae yswiriant yn bwysig
- Yswiriant craidd i’w wirio
- Gyrwyr gwirfoddol ac yswiriant cerbydau
- Yswiriant ychwanegol i’w ystyried
- Digwyddiadau a gweithgareddau untro
- Gwirfoddoli a lleoliadau a gefnogir gan gyflogwyr
- Rhestr wirio ymarferol ar gyfer yswiriant
- Cwestiynau i’w gofyn i’ch yswiriwr
- Rhagor o wybodaeth
Pam mae yswiriant yn bwysig
Mae gan fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ddyletswydd gofal i’w hamddiffyn rhag niwed y gellir ei osgoi. Mae’n hanfodol sicrhau yswiriant digonol i wirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr ac i ddiogelu pobl, asedau ac enw da’r mudiad. Mae mudiadau’n gyfrifol am ddarparu yswiriant, nid yn unig am golled, difrod neu anaf y gallai gwirfoddolwyr ei ddioddef, ond hefyd am unrhyw golled, difrod neu anaf i eraill a allai ddeillio o weithgarwch gwirfoddolwyr. Nid yw yswiriant yn dileu dyletswydd gofal, ond gall helpu i dalu costau ymchwilio, amddiffyn neu setlo hawliadau os bydd anaf, colled neu ddifrod yn digwydd.
Dylai yswiriant gael ei adolygu’n rheolaidd, yn enwedig pan fydd rolau gwirfoddolwyr, gweithgareddau, lleoliadau neu fuddiolwyr yn newid. Dylai mudiadau sicrhau bod gan yswirwyr wybodaeth gywir am yr hyn y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud, ble maen nhw’n ei wneud a gyda phwy maen nhw’n gwirfoddoli.
Mae angen rhywfaint o yswiriant yn ôl y gyfraith; mae yswiriant arall yn ddewisol. Mater i’ch mudiad chi yw penderfynu beth sy’n briodol a dylai penderfyniadau gael eu gwneud ochr yn ochr ag asesiadau risg.
Cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel
Am ragor o wybodaeth, gweler Cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel.
Yswiriant craidd i’w wirio
Mae’r canlynol yn fathau cyffredin o yswiriant y gall fod gan fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr. Cofiwch – mae polisïau yswiriant ac eithriadau yn amrywio, felly cadarnhewch a yw gwirfoddolwyr yn cael eu cwmpasu’n benodol.
Yswiriant atebolrwydd cyflogwyr ar gyfer gwirfoddolwyr
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i fudiadau sydd â staff cyflogedig gael Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr. Mae hyn yn cwmpasu cyflogeion yn achos damwain, salwch neu anaf a ddioddefir yn ystod eu gwaith. Nid yw gwirfoddolwyr bob amser yn cael eu cynnwys yn awtomatig, felly dylai mudiadau wirio a yw’r polisi yn ymestyn i wirfoddolwyr ac a yw’n cwmpasu’r holl rolau a gweithgareddau y mae gwirfoddolwyr yn ymgymryd â nhw.
Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer gwirfoddolwyr
Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, a elwir weithiau’n yswiriant trydydd parti, yn cwmpasu hawliadau a wneir gan aelodau o’r cyhoedd neu fudiadau eraill am anaf damweiniol, colled neu ddifrod sy’n gysylltiedig â gweithgareddau’r mudiad. Dim ond mewn achosion lle gellir dangos bod damwain neu golled yn deillio o esgeulustod ar ran y mudiad y mae’n darparu iawndal.
Sicrhewch fod yr yswiriant yn cwmpasu’r gweithgareddau gwirfoddol yn benodol, gan gynnwys unrhyw weithgareddau a gynhelir i ffwrdd oddi wrth brif safle’r mudiad, er enghraifft yng nghartrefi cleientiaid, lleoliadau preswyl neu gymunedol neu fannau awyr agored. Heb yswiriant priodol, gallai’r mudiad neu’r unigolion gael eu dal yn atebol yn bersonol.
Yswiriant damweiniau personol ar gyfer gwirfoddolwyr
Mae hyn yn darparu yswiriant os bydd rhywun yn cael ei anafu neu’n marw wrth weithio neu wirfoddoli, p’un a oes atebolrwydd cyfreithiol ai peidio. Gall y polisi gynnwys eithriadau, fel terfynau neu gyfyngiadau oedran neu gyfyngiadau ar fathau penodol o weithgareddau. Mae’r yswiriant hwn yn ddewisol ond efallai y bydd yn werth ei ystyried ar gyfer rolau gwirfoddoli risg uwch.
Gyrwyr gwirfoddol ac yswiriant cerbydau
Cerbydau sy’n eiddo i’r mudiad
Os yw gwirfoddolwyr yn gyrru cerbydau mudiad, rhaid i’r mudiad drefnu yswiriant priodol a gwirio bod gwirfoddolwyr yn gallu gyrru’r cerbydau ar gyfer y gweithgareddau sydd eu hangen.
Gwirfoddolwyr sy’n defnyddio eu cerbydau eu hunain
Dylai gwirfoddolwyr sy’n defnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer gwirfoddoli feddu ar yswiriant modur dilys, MOT lle y bo angen a thrwydded yrru ddilys.
Dylai gwirfoddolwyr roi gwybod i’w cwmni yswiriant eu bod yn defnyddio’r cerbyd i wirfoddoli ac ni ddylai hyn arwain at unrhyw bremiwm ychwanegol os yw’r yswiriwr wedi cofrestru i Ymrwymiad Gyrwyr Gwirfoddol Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI).
Dylai mudiadau ofyn i wirfoddolwyr gadarnhau bod eu hyswiriwr wedi derbyn bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i wirfoddoli.
Mae’n bwysig nad yw’r gwirfoddolwr yn derbyn mwy na chyfradd milltiroedd safonol CThEF ar gyfer milltiroedd gwirfoddoli. Fel arall, gallai hyn annilysu’r polisi a gallai fod angen iddo dalu treth.
Os oes gan wirfoddolwr yswiriant trydydd parti yn unig, efallai na fydd hyn yn cwmpasu dwyn eiddo’r mudiad o gar y gwirfoddolwr.
Os bydd gyrrwr yn cael damwain wrth wirfoddoli a bod problem gydag yswiriant y cerbyd, gallai’r mudiad gael ei ddal yn gyfrifol, p’un a yw’n berchen ar y cerbyd ai peidio.
Dylai mudiadau hefyd wirio a oes yswiriant ychwanegol ar gael i ddiogelu bonws dim hawliadau gwirfoddolwr yn dilyn digwyddiad wrth wirfoddoli.
Efallai yr hoffech ystyried ychwanegu gyrwyr gwirfoddol at eich polisi atebolrwydd cyhoeddus.
Bysiau mini a cherbydau arbenigol
Cymerwch ofal arbennig gyda bysiau mini, cerbydau wedi’u haddasu a cherbydau arbenigol. Efallai y bydd angen trwydded benodol ar yrwyr. Dylai’r mudiad wirio yswiriant, gofynion o ran y drwydded ac unrhyw gyfyngiadau cyn i’r gweithgaredd ddigwydd.
Yswiriant ychwanegol i’w ystyried
Yswiriant indemniad proffesiynol
Os yw gwirfoddolwyr yn ymwneud â rhoi cyngor, arweiniad neu gymorth proffesiynol i’r cyhoedd, efallai yr hoffech ystyried yswiriant indemniad proffesiynol. Gall yr yswiriant hwn helpu i gwmpasu hawliadau am anaf, difrod neu golled sy’n deillio o gyngor anghywir neu wael neu gamgymeriad. Os oes gan eich mudiad y math hwn o bolisi, gwiriwch fod gwirfoddolwyr wedi’u cwmpasu’n benodol.
Yn dibynnu ar y polisi, gall yswiriant atebolrwydd proffesiynol hefyd gynnwys materion fel difenwi, torri hawlfraint yn anfwriadol, torri cyfrinachedd a cholli dogfennau.
Yswiriant atebolrwydd / indemniad ymddiriedolwyr
Mae’n bosibl trefnu yswiriant i gwmpasu ymddiriedolwyr yn achos colled ariannol sy’n deillio o weithredoedd ymddiriedolwr. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn cwmpasu gweithredoedd diofal, anonest neu droseddol felly ni ddylid ei ddefnyddio yn lle llywodraethu cadarn a goruchwyliaeth briodol.
Yswiriant atebolrwydd cynnyrch
Os yw eich mudiad yn cynhyrchu, yn atgyweirio, yn gosod neu’n gwerthu nwyddau, ystyriwch a oes angen yswiriant atebolrwydd cynnyrch. Gall hyn gynnwys nwyddau fel bwyd a brynir trwy gaffi cymunedol, lluniaeth mewn digwyddiad, cynhyrchion wedi’u gwneud â llaw neu nwyddau a roddir i’r cyhoedd.
Digwyddiadau arbennig a gweithgareddau untro
Os yw digwyddiad y tu allan i’ch ystod arferol o weithgareddau, efallai na fydd yswiriant presennol yn ei gwmpasu. Gwiriwch gyda’ch yswiriwr cyn cynnal digwyddiadau fel gwyliau, partïon stryd cymunedol, caffis atgyweirio, teithiau grŵp, heriau noddedig neu ddigwyddiadau cyhoeddus untro mawr.
Os yw offer yn cael ei logi e.e. castell bownsio, pabell neu lwyfan (gyda neu heb weithredwr), gwiriwch pwy sy’n gyfrifol am yswiriant a goruchwyliaeth. Hyd yn oed os yw gweithredwr yn bresennol, efallai y bydd gan y mudiad gyfrifoldebau o hyd. Darllenwch ac adolygwch unrhyw ymwadiadau sydd angen eu llofnodi yn ofalus.
Gwirfoddoli â chymorth cyflogwyr
Gwirfoddoli â chymorth cyflogwyr
Mae gwirfoddoli â chymorth cyflogwyr yn disgrifio lle mae mudiad yn cefnogi cyflogeion i wirfoddoli.
Fel y mudiad lletyol, gwnewch yn siŵr bod yswiriant priodol ar waith i gyflogeion mudiadau allanol ymgymryd â gweithgarwch gwirfoddoli i’ch mudiad. Hefyd, cadarnhewch a ydynt wedi’u cwmpasu gan eich polisïau, polisïau eu cyflogwr neu’r ddau.
Os yw myfyriwr ar leoliad gwirfoddol, mae angen i’r cwmni yswiriant wybod oherwydd efallai y bydd cyfyngiadau oedran, gofynion goruchwylio neu eithriadau sy’n effeithio ar eich yswiriant.
Rhestr wirio ymarferol ar gyfer yswiriant
- Gwiriwch a yw gwirfoddolwyr wedi’u cwmpasu’n benodol gan bolisïau yswiriant presennol.
- Cadarnhewch fod yr holl weithgareddau, lleoliadau a rolau gwirfoddoli yn cael eu cwmpasu.
- Adolygwch yr yswiriant pryd bynnag y bydd rolau gwirfoddoli, grwpiau buddiolwyr neu weithgareddau yn newid.
- Siaradwch â’ch yswiriwr cyn dechrau gweithgareddau newydd, anarferol neu risg uwch.
- Gwiriwch a oes terfynau oedran neu a oes unrhyw eithriadau neu weithgareddau risg uchel yn berthnasol.
- Cadwch gofnodion o wiriadau ar gyfer gyrwyr gwirfoddol, gan gynnwys trwydded yrru, MOT a chadarnhad yswiriant.
- Sicrhewch fod gwirfoddolwyr yn gwybod pa weithgareddau sy’n cael eu cwmpasu a phwy i gysylltu â nhw os nad ydynt yn siŵr.
- Gwnewch yn siŵr bod ymddiriedolwyr yn deall beth sy’n cael ei gwmpasu a beth nad yw’n cael ei gwmpasu gan yswiriant indemniad ymddiriedolwyr.
Cwestiynau i’w gofyn i’ch yswiriwr
- A yw gwirfoddolwyr wedi’u cwmpasu’n benodol o dan ein polisïau?
- A yw ymddiriedolwyr wedi’u cwmpasu ar wahân neu o dan yr un polisïau?
- A yw gwirfoddolwyr wedi’u cwmpasu oddi ar y safle, ar-lein, yn yr awyr agored, yng nghartrefi pobl ac mewn digwyddiadau?
- A oes terfynau oedran neu unrhyw eithriadau neu gyfyngiadau ar weithgareddau risg uwch?
- A yw gyrwyr gwirfoddol wedi’u cwmpasu wrth ddefnyddio cerbydau sy’n eiddo i’r mudiad neu eu cerbydau eu hunain?
- A oes angen yswiriant ychwanegol arnom ar gyfer digwyddiadau, teithiau neu weithgareddau cyhoeddus untro?
- Pa gofnodion sydd angen i ni eu cadw i ddangos bod yr yswiriant yn ddilys?
- A yw’r terfynau polisi yn ddigonol ar gyfer y risgiau sy’n gysylltiedig â’n gweithgareddau?