Pam mae angen yswiriant ar fudiadau?

Mae’n ddyletswydd gyffredinol ar aelodau corff llywodraethol i amddiffyn y mudiad, gan gynnwys trefnu yswiriant digonol ar ei gyfer.

Caiff y lefel a’r math o yswiriant sydd ei angen ar eich mudiad ei bennu gan:

  • Y gyfraith – mae rhai mathau o yswiriant yn ofynnol yn statudol ac mae peidio â chael yswiriant yn ei le pan ddylech wneud yn torri’r gyfraith.
  • Y ddogfen lywodraethol – gallai gynnwys dyletswydd bendant i brynu yswiriant.
  • Yr ystod a’r math o weithgareddau a gyflawnir gan eich mudiad – megis yr asedau y mae’n berchen arnynt neu’n eu rheoli a p’un ai a oes ganddo staff a/ neu wirfoddolwyr.

Oes rhaid i ni gael yswiriant?

Pobl yn cymryd rhan mewn gêm tynnu rhaff mewn digwyddiad cymunedol awyr agored

Lle bo yswiriannau’n orfodol, fe ddylech sicrhau’r lleiafswm cyfreithiol, o leiaf. Bydd y rhan fwyaf o yswirwyr sy’n cynnig yswiriant gorfodol yn darparu o leiaf yr hyn sy’n ofynnol yn
gyfreithiol. Mae yswiriannau eraill yn ddewisol, rhai’n hanfodol, a gallai fod yn werth eu codi, yn ddibynnol ar amgylchiadau’r elusen.

Mae modd yswirio yn erbyn pob math o ddigwyddiadau posibl, a gallai hyn fod yn gostus iawn i fudiad. O’r herwydd, wrth ystyried yswiriant meddyliwch am y risgiau go iawn y byddwch yn agored iddynt.

Byddai’n ddoeth cael dyfynbrisiau yswiriant lluosog a gwirio a yw yswirwyr yn cytuno ar ba yswiriant sy’n angenrheidiol yn seiliedig ar weithgareddau eich mudiad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau yswiriant priodol ac o bosibl yn lleihau costau.

Mae gwerth hefyd mewn siopa o gwmpas er mwyn dod o hyd i bolisïau cyfun sy’n cynnig yswiriant ar gyfer yr amrywiaeth o risgiau sy’n berthnasol i’ch mudiad.

Beth am gymalau eithrio?

Gallai’r angen am yswiriant gael ei leihau ac, mewn amgylchiadau arbennig, eu hosgoi gyda defnydd gofalus o gymalau eithrio neu ymwadiadau. Gallai’r rhain ymddangos fel nodyn ar docyn, arwydd wrth fynedfa’r adeilad, yng nghorff dogfen gytundebol neu mewn telerau ac amodau ysgrifenedig ar wahân.

Fodd bynnag, mae’r gyfraith yn cyfyngu ar effeithlonrwydd cymalau eithrio a dylid cael cyngor cyfreithiol cyn gwneud ymgais i eithrio atebolrwydd yn y modd hwn. Mae cymalau eraill mewn termau safonol ysgrifenedig neu lle bo’r prynwr yn ddefnyddiwr yn atebol i brawf ‘rhesymoldeb’.

Deddf Telerau Cytundeb Annheg 1977

Under the provisions of the Unfair Contract Terms Act 1977, liability cannot be excluded for negligently causing death or personal injury or causing loss or damage to a consumer who uses negligently manufactured or distributed goods.

Er enghraifft, ni fyddai dweud yn syml nad yw’r mudiad yn atebol i gyngor anghywir o anghenraid yn darparu amddiffyniad nac yn rhyddhau’r mudiad o’i rwymedigaeth i gymryd camau rhesymol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a chyngor yn gywir a chyfredol.

Ar gyfer pwy y dylid trefnu yswiriant?

Mae’n bwysig trefnu yswiriant ar gyfer staff, aelodau pwyllgorau rheoli, gwirfoddolwyr ac aelodau cyffredin ar gyfer unrhyw beryglon y gallent eu hwynebu wrth gyflawni gwaith i’r mudiad.

Yswiriant ar gyfer meysydd cyfrifoldeb allweddol ymddiriedolwyr

Yswiriant gorfodol:

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr – Os yw’ch mudiad yn cyflogi staff mae hyn yn ofyniad cyfreithiol. Rhaid i’r lleiafswm o yswiriant a drefnir fod ar gyfer £5 miliwn ar gyfer anaf neu afiechyd a ddioddefwyd neu a ddaliwyd gan weithwyr tra’n cyflawni eu dyletswyddau. Rhaid i’r dystysgrif fod ar gael i bawb sy’n dod o dan yr yswiriant. Mae’r math hwn o yswiriant ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yn unig, nid ar gyfer aelodau o’r cyhoedd.
  • Yswiriant Cerbydau – os yw’ch mudiad yn defnyddio cerbyd, mae’n ofyniad cyfreithiol arnoch i drefnu yswiriant yn erbyn atebolrwydd i drydydd parti. Os yw’r cerbyd ar brydles, gallai fod yn ofynnol i chi drefnu yswiriant ar gyfer colled neu ddifrod i’r cerbyd yn ogystal.

Yswiriant dewisol:

  • Salwch staff – gallech fod eisiau yswiriant ar gyfer costau talu tâl salwch i weithwyr hefyd.
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus – mae’n hanfodol ar gyfer elusennau sy’n berchen ar neu’n defnyddio adeiladau neu sy’n cynnig gwasanaethau i’r cyhoedd, yn erbyn hawliadau gan aelodau o’r cyhoedd (gan gynnwys gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr) am anaf, colled neu ddifrod a achoswyd o ganlyniad i esgeulustod mudiad. Argymhellir yswiriant o leiafswm o £5 miliwn.

Mae gennych gyfrifoldeb arbennig am wirfoddolwyr. Wrth drefnu yswiriant, gwnewch yn siŵr bod yr yswiriwr yn ymwybodol bod gwirfoddolwyr yn cymryd rhan weithredol wrth ddarparu gwasanaethau neu wrth weithio ar y safle, gan fod rhai polisïau yn eu trin yn wahanol i weithwyr.

  • Yswiriant eiddo – argymhellir yn gryf eich bod yn yswirio adeilad ar gyfer ei werth adfer llawn lle bo elusen yn berchennog rhydd-ddaliadol ac yn gyfrifol am yr yswiriant; dylid yswirio cynnwys yr adeilad gan bolisi ‘pob risg’ ar gyfer dodrefn, cyfarpar ac asedau eraill megis arian parod. Os ydych yn prydlesu adeilad, efallai y byddwch eisiau ystyried Gwelliannau Tenantiaid.
  • Yswiriant Digollediad Proffesiynol – yn darparu yn erbyn rhoi cyngor neu wasanaeth proffesiynol arall i aelodau o’r cyhoedd sy’n arwain at ddifrod neu golled i ddefnyddiwr y gwasanaeth.
  • Yswiriant Cywirdeb – yn amddiffyn yn erbyn lladrad neu golled yn deillio o weithredoedd anonest staff neu wirfoddolwyr.
  • Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a’r Comisiwn Elusennau wedi rhyddhau canllawiau ar elusennau ar leihau risg seiber. Dylid ystyried yswiriant ochr yn ochr â mesurau ataliol fel hyfforddiant staff, dilysiad dau ffactor, a chopïau o ddata wrth gefn.
  • Yswiriant Digollediad Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwyr – mae hyn yn darparu yswiriant cyfyngedig i ymddiriedolwyr yn erbyn tor-ymddiriedaeth. Mae ar elusennau’r angen am hawl i brynu Yswiriant Digolledu Ymddiriedolwyr (TII). Gellir cael hwn o’r ddogfen lywodraethu, o dan Ddeddf Elusennau 1993, a.73F (lle mae’r ymddiriedolwyr yn credu ei fod er budd yr elusen) a gan y Comisiwn Elusennau lle ceir gwaharddiad pendant ar ei brynu yn y ddogfen lywodraethu.

Gellir awdurdodi hyn drwy ddogfen lywodraethu eich elusen neu, os yw’n dawel, o dan adran 189 o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y’i diweddarwyd gan Ddeddf Elusennau 2022). Mae canllawiau diweddaredig Y Comisiwn Elusennau (CC49) yn amlinellu’r amodau y gellir prynu Yswiriant Indemniad Ymddiriedolwyr (TII) o danynt.

Nodwch: nid yw’r math hwn o yswiriant yn berthnasol i ymddiriedolwyr sydd wedi ymddwyn yn ddiofal ac yn anonest, ond mae hynny’n hynod brin beth bynnag, i ymddiriedolwyr sydd wedi ymddwyn yn gall a gonest ddioddef colled ariannol o ganlyniad i fod yn ymddiriedolwr.

  • Yswiriant Seibr – gall gynnwys colledion a ddigwydd i chi o ganlyniad i ddigwyddiad seibr yn ogystal â cholledion a ddigwydd i Drydydd Parti y gallai eu data personol gael ei beryglu yn ystod digwyddiad seibr. Bydd y rhan fwyaf o bolisïau hefyd yn cynnwys archwiliad fforensig ac adferiad system lle bo’n bosibl, costau hysbysu, cyngor cysylltiadau cyhoeddus a cholledion Ymyrraeth Busnes.

Pwyntiau cyffredinol

  • Mae’n bwysig eich bod yn adolygu polisïau er mwyn sicrhau bod yr yswiriant yn parhau’n ddigonol a bod y premiymau’n gystadleuol.
  • Mae gwerth hefyd mewn penodi aelod o’r pwyllgor rheoli i fod yn gyfrifol am yswiriant y grŵp er mwyn sicrhau nad yw’r mater yn cael ei esgeuluso.
  • Gall mudiadau corfforedig drefnu yswiriant yn enw’r mudiad. Dylai mudiadau anghorfforedig drefnu yswiriant yn enw’r pwyllgor ond wedi’i arwyddo gan unigolyn ar ran y pwyllgor rheoli.
  • Ni chaiff mudiadau anghorfforedig lofnodi contractau yn enw’r mudiad. Rhaid i unigolyn a enwir lofnodi ar ran y pwyllgor rheoli, ac mae gan y pwyllgor gyfrifoldeb cyfreithiol ar y cyd.
  • Fel gydag unrhyw yswiriant bydd yna amgylchiadau nad ydynt yn gymwys i gael eu hyswirio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall y gwaharddiadau hyn (y print mân).
  • Wrth drefnu yswiriant mae dyletswydd ar y cynigydd i ddarparu cyflwyniad teg o’r risg i’r cwmni yswiriant. Gallai’r cwmni osgoi talu hawliad o ganlyniad i ddiffyg datguddio os yw’r cynigydd naill ai wedi methu â datgelu neu wedi camgyflwyno gwybodaeth wrth dderbyn amcanbris neu wrth adnewyddu’r yswiriant.
  • Mae’n hanfodol eich bod yn trefnu yswiriant ar gyfer y swm cywir. Gall yr yswiriant fod ar gyfer gwerth amnewid ar adeg colled neu ddifrod neu’r gost amnewid (y cyfeirir ato’n aml fel ‘y newydd yn lle’r hen’). Os nad ydych wedi’ch yswirio’n ddigonol, bydd rhai polisïau’n caniatáu i gwmni yswiriant ddefnyddio’r cyfartaledd sy’n gostwng y swm taladwy yn ôl cyfran.
  • Cadwch restr gyfredol o eiddo, dodrefn a chyfarpar.
  • Mae Deddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023 yn cyflwyno rheolau newydd ar dryloywder a gwirio hunaniaeth cyfarwyddwyr. Dylai mudiadau sicrhau bod y bobl sy’n trefnu ac yn rheoli polisïau yswiriant yn cael eu rhestru’n gywir gyda Tŷ’r Cwmnïau (os ydynt wedi’u hymgorffori), a bod newidiadau mewn personau cyfrifol yn cael eu diweddaru’n brydlon.
  • Dylai elusennau adolygu eu portffolio yswiriant yn flynyddol ac ar ôl unrhyw newid sylweddol mewn gweithgareddau, staffio, adeiladau neu adeiledd. Mae hyn yn sicrhau bod yr yswiriant yn parhau i fodloni risgiau esblygol a chyfrifoldebau cyfreithiol y mudiad.
  • Fel rhan o’ch adolygiad blynyddol, gwnewch yn siŵr bod eich yswiriant yn adlewyrchu unrhyw fodelau gweithio hybrid, asedau o bell, neu fodelau darparu gwasanaethau ar-lein a gyflwynwyd ers y pandemig.

Elusennau ac Yswiriant (Charities and Insurance) (CC49)

Ceir arweiniad penodol i elusennau yng nghyhoeddiad y Comisiwn Elusennol, Elusennau ac Yswiriant (Charities and Insurance) (CC49).

Yswirwyr elusennau arbenigol

Mae’r isod yn rhestr anghyflawn o yswirwyr a broceriaid elusennau arbenigol, gan gynnwys cynllun Encompass a gydnabyddir yn genedlaethol ac a hyrwyddir gan CGGC.

Keegan & Pennykid

Keegan & Pennykid (Insurance Brokers) Ltd 50 Queen Street, Caeredin/Edinburgh EH2 3NS
Ffôn: 0800 731 8030
Ffacs: 0800 731 8448

www.keegan-pennykid.com
[email protected]

Thomas Carrol

Thomas Carroll Group plc
Tŷ Pendragon, Heol Cilgant, Caerffili CF83 1XX
Ffôn: 029 2088 7733
Ffacs: 029 2085 5230

www.thomas-carroll.co.uk

Ansvar Connect

Ansvar Insurance Co Ltd
Ansvar House, St Leonards Road, Eastbourne, Gorllewin Sussex/East Sussex BN21 3UR
Ffôn: 01323 737541
Ffacs: 01323 739355

www.ansvar.co.uk

Ecclesiastical

Ecclesiastical Insurance Group Beaufort House, Brunswick Road, Caerloyw/Gloucester GL1 1JZ
Ffôn: 0845 777 3322

www.ecclesiastical.com

Zurich Municipal

Community Insurance Centre Mountbatten House, Grosvenor Square Southampton SO15 2RP
Ffôn: 0845 600 3184

https://www.zurich.co.uk/en/charity-insurance

Ladbrook

Ladbrook,
Rhadbost NEA9003, Sheffield S25 3ZZ
Ffôn: 01909 565858
Ffacs: 01909 550840

www.ladbrook.co.uk

Endsleigh

Endsleigh Insurances (Brokers) Ltd Shurdington Road, Cheltenham Spa, Gaerloyw/Gloucestershire GL51 4UE
Ffôn: 01242 866800

www.endsleigh.co.uk/

Norris & Fisher

Norris & Fisher Insurance Brokers
58 Abbey Enterprise Centre, Romsey, Hampshire, SO51 9DF
Ffôn: 01794 518855

www.norrisandfisher.com www.villagehallinsurance.co.uk

Gwybodaeth bellach

Comisiwn Elusennol Cymru a Lloegr

Ffôn: 0845 3000 218

https://www.gov.uk/government/organisations/charity-commission


Ymwadiad

Pobl mewn cae yn edrych tua'r machlud haul

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â
https://thirdsectorsupport.wales/cy/cysylltu/

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw’n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy’n gweithredu neu’n gwrthod gweithredu arno.