Cynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn gweithgareddau gwirfoddoli: Canllaw i reolwyr gwirfoddolwyr yng nghymru
Trosolwg
- Cyflwyniad
- Gwirfoddoli i bobl sy’n ceisio lloches (a elwir hefyd yn ‘geiswyr lloches’ neu ‘ffoaduriaid’)
- A all ‘ceiswyr lloches’ wirfoddoli yn y DU?
- Arferion da ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr ‘ceiswyr lloches’ neu ‘ffoaduriaid’
- Creu a hysbysebu rolau priodol ac ystyrlon
- Prosesau recriwtio
- Gwirio hunaniaeth, Gwiriadau DBS ac asesu risg
- Hyfforddiant cynefino, hygyrchedd a dealltwriaeth
- Goruchwyliaeth
- Ad-dalu treuliau – enghraifft o arfer da a mater o gydraddoldeb
- Beth yw ‘ceisiwr lloches’, ‘ffoadur’ a ‘mudwr’?
- Mewnwelediadau gan wirfoddolwyr a mudiadau sy’n ymwneud â ‘cheiswyr lloches’ a ‘ffoaduriaid’
- Rhagor o wybodaeth
Cyflwyniad

Mae croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid i’ch mudiad yn cyfoethogi eich tîm ac yn darparu cysylltiadau cymunedol hanfodol i’r rhai sy’n cyrraedd Cymru. Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor ymarferol i Reolwyr Gwirfoddolwyr ar reolau gwirfoddoli ceiswyr lloches, recriwtio, a chreu amgylchedd cynhwysol.
Noder: Mae’n well gennym ddefnyddio’r term ‘pobl sy’n ceisio lloches’ wrth gyfeirio at ‘geiswyr lloches’ neu ‘ffoaduriaid’ gan ei fod yn adlewyrchu dull croesawgar Cymru yn well ac yn canolbwyntio ar y daith i ddiogelwch, perthyn, ac integreiddio yn hytrach na statws cyfreithiol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod ein bod mewn cyfnod o newid iaith ac er mwyn galluogi cynulleidfaoedd i ddod o hyd i’r wybodaeth hon, rydym yn defnyddio’r term ‘ceisiwr lloches’ a ‘ffoaduriaid’ o bryd i’w gilydd yn y fersiwn hon o wybodaeth.
Gwirfoddoli i bobl sy’n ceisio lloches (a elwir hefyd yn ‘geiswyr lloches’ neu ‘ffoaduriaid’)
Mae Cymru’n falch o fod yn Genedl Noddfa, sy’n croesawu’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau. I bobl sy’n chwilio am noddfa, gall gwirfoddoli fod yn arbennig o bwysig – ffordd o deimlo’n rhan o gymuned, adennill pwrpas, ac ailadeiladu bywyd gydag urddas. Mae gwirfoddoli o fudd i fudiadau, cymunedau ac unigolion.
Mae Polisi Gwirfoddoli Llywodraeth Cymru 2015 yn diffinio gwirfoddoli fel gweithgaredd sy’n cael ei gynnal yn rhydd a thrwy ddewis, er budd y cyhoedd/cymuned, ac nid er budd ariannol.
A all ‘ceiswyr lloches’ wirfoddoli yn y DU?
Gallant. Caniateir i bobl sy’n ceisio lloches yn y DU wirfoddoli. Mae’r Swyddfa Gartref yn annog gwirfoddoli i elusennau neu fudiadau’r sector cyhoeddus fel ffordd gadarnhaol i geiswyr noddfa integreiddio i’w cymunedau lleol.
Er nad yw polisi lloches wedi’i ddatganoli i Gymru, mae dull ‘Cenedl Noddfa’ Cymru yn cefnogi’n llawn cynnwys ceiswyr noddfa yn y sector gwirfoddol.
‘Gwirfoddoli’ v ‘gwaith gwirfoddol’
Mae’n hanfodol defnyddio’r derminoleg gywir. Mae’r Swyddfa Gartref yn gwneud gwahaniaeth cyfreithiol rhwng bod yn wirfoddolwr a bod yn weithiwr gwirfoddol.
- Gwirfoddoli: Di-dâl, dim contract, a dim disgwyliad o ran taliad. Caniateir hyn i geiswyr lloches.
- Gwaith Gwirfoddol: Yn aml yn cynnwys contract neu “daliad mewn nwyddau” (buddion heblaw treuliau). Gellir dosbarthu hwn fel gwaith ac efallai na chaiff ei ganiatáu yn dibynnu ar statws yr unigolyn.
Awgrym Arbenigol
Dulliau gweithredu allweddol ar gyfer rheolwyr gwirfoddolwyr
Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau’r Swyddfa Gartref, gwnewch yn siŵr bod eich mudiad yn dilyn y tair rheol hyn:
- Dim taliadau na gwobrau – Rhaid i unigolion beidio â derbyn arian na “buddion mewn nwyddau” (fel talebau rhodd).
- Ad-dalu treuliau yn unig – Gallwch (a dylech) ad-dalu treuliau ‘allan o boced’ gwirioneddol, fel teithio a bwyd. Cadwch dderbynebau bob amser.
- Am fanylion swyddogol, gweler canllawiau Fisâu’r DU a Chanllawiau Mewnfudo ar GOV.UK.
For official details, see the UK Visas and Immigration guidance on GOV.UK
Arferion da ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr ‘ceiswyr lloches’ neu ‘ffoaduriaid’
Mae pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru yn aml yn dod â llawer o sgiliau, llawer o brofiad, amser a brwdfrydedd sydd o fudd i fudiadau.
Ymwybyddiaeth

- Byddwch yn wybodus – Datblygwch ddiwylliant o groeso drwy ddarparu hyfforddiant i’r holl staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr ynghylch ceisio noddfa, cynyddu dealltwriaeth ynghylch y broses loches, cydlyniant a chwalu mythau. Canfyddwch ragor o wybodaeth am gymorth arall er mwyn i chi allu cyfeirio at wasanaethau lleol.
- Deall – Efallai bod llawer wedi ffoi rhag profiadau trawmatig neu erledigaeth a gallent fod yn wynebu prosesau cyfreithiol hir a chymhleth yma yn y DU. Mae bod yn ystyriol o drawma ac yn sensitif yn ddiwylliannol yn hanfodol i gydnabod heriau y gall gwirfoddolwyr eu hwynebu. Dathlu amrywiaeth, parchu ffiniau, ac osgoi rhagdybiaethau. Dylech gydnabod y gallai ansicrwydd cyfreithiol effeithio ar hwyliau eich gwirfoddolwr.
Byddwch yn groesawgar
- Crëwch amgylchedd cyfeillgar, parchus. Gwnewch yn glir eich bod yn croesawu pawb yn eich negeseuon recriwtio, gan gynnwys pobl sy’n dysgu Saesneg. Sicrhewch fod gwirfoddolwyr yn rhannu eu straeon dim ond os ydynt yn dewis gwneud hynny. Cofiwch fod cyfleoedd cyfnewid diwylliannol yn cyfoethogi’r tîm ond heb roi pwysau ar unigolion.
Ystyriwch y pethau ymarferol isod
Creu a hysbysebu rolau priodol ac ystyrlon
- Cynigiwch rolau sy’n cyd-fynd â sgiliau a diddordebau i wneud i wirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn effeithiol.
- Negeseuon recriwtio – meddyliwch am ddefnyddio iaith glir ar hysbysebion a phosteri recriwtio gwirfoddolwyr. Bloeddiwch am eich diwylliant croesawgar a’ch dull hyblyg
- Darparwch amrywiaeth o rolau hyblyg addas.
- Crëwch rolau pwrpasol lle bo angen a chaniatáu i wirfoddolwyr feithrin cyfrifoldebau.
Prosesau recriwtio
Recriwtio yw’r cam cyntaf i wneud i wirfoddolwyr deimlo bod croeso iddynt. Mae proses glir, gefnogol a hygyrch yn helpu gwirfoddolwyr i deimlo’n hyderus a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Negeseuon recriwtio:
- Byddwch yn glir ac yn dryloyw – Amlinellwch rolau, tasgau, ymrwymiadau amser, hyfforddiant a chefnogaeth.
- Cefnogaeth gydag iaith – Defnyddiwch iaith syml, heb jargon, deunyddiau wedi’u cyfieithu, neu amser ychwanegol ar gyfer trafodaeth i wneud gwybodaeth yn hygyrch.
- Gwnewch y broses yn un groesawgar – Symleiddiwch geisiadau a chynnig sgyrsiau un-i-un neu sesiynau anffurfiol.
- Annog cwestiynau – Sicrhewch wirfoddolwyr ei bod hi’n iawn i beidio â bod â gwybodaeth am bopeth ar y dechrau.
Gwirio hunaniaeth, Gwiriadau DBS ac asesu risg
Efallai y bydd rhai ceiswyr noddfa yn cael trafferth darparu geirda lleol neu gwblhau gwiriadau safonol. Mae dull hyblyg, meddylgar yn helpu i osgoi eithrio gwirfoddolwyr parod yn anfwriadol.
Awgrymiadau:
- Bod yn greadigol: Derbyniwch eirdaon tramor, cymuned, neu gymeriad.
- Addasu i ofynion: Gofynnwch am wiriadau neu eirdaon sy’n hanfodol ar gyfer y rôl yn unig.
- Cynnig dewisiadau amgen: Defnyddiwch broses gysgodi, cyfnodau prawf, neu gynllun cyfeillio i adeiladu ymddiriedaeth.
- Cyfathrebu’n agored: Esboniwch yn glir beth yw diben gwiriadau, mae’n ymwneud â diogelu, nid gwahardd.
Mae dull sy’n canolbwyntio ar y person yn ehangu cyfleoedd gan gadw gwirfoddoli yn ddiogel ac yn gefnogol.
Trwy fabwysiadu dull hyblyg sy’n canolbwyntio ar y person, gall mudiadau gynnig cyfleoedd i ystod ehangach o bobl, gan barhau i gynnal amgylcheddau gwirfoddoli diogel a chefnogol.
Gwiriadau DBS (gwasanaeth datgelu a gwahardd)
- Mae tryloywder yn hanfodol. Bydd gan bob mudiad ei bolisïau DBS ei hun, ond mae’n bwysig bod yn glir ac yn onest am y broses o’r cychwyn cyntaf.
- Byddwch yn ymwybodol o drawma. Gall y broses DBS fod yn heriol i geiswyr noddfa, gan y gall sbarduno trawma o’r gorffennol neu gynnwys biwrocratiaeth gymhleth sy’n llawn straen. Pan fo’n bosibl, darparwch gefnogaeth sensitif i helpu i lywio’r broses.
- Mae llwybrau amgen ar gael. Os nad oes gan geiswyr noddfa y dogfennau adnabod safonol sy’n ofynnol ar gyfer gwiriad DBS, efallai y byddant yn gallu defnyddio’r llwybr olion bysedd i gadarnhau eu hunaniaeth. Efallai y bydd llawer yn gyfarwydd â’r dull hwn ac yn barod i’w ddefnyddio wrth wneud cais am rôl.
- Eglurwch beth yw diben gwiriadau hunaniaeth. Er y gofynnir i wirfoddolwyr ddarparu dogfennau adnabod at ddibenion DBS, dylai mudiadau roi sicrwydd i ymgeiswyr mai dim ond i gadarnhau hunaniaeth yw diben hyn, nid i wirio neu ddatgelu statws mewnfudo.
Hyfforddiant cynefino, hygyrchedd a dealltwriaeth

Mae proses gynefino hygyrch, gynhwysol yn gosod y naws ar gyfer profiad gwirfoddoli cadarnhaol yn cefnogi amrywiaeth ac yn dangos bod cyfraniad pob gwirfoddolwr yn cael ei werthfawrogi.
Trwy wneud hyfforddiant cynefino yn gynhwysol ac yn hygyrch, mae mudiadau’n dangos o’r cychwyn cyntaf bod cyfraniad pob gwirfoddolwr yn cael ei werthfawrogi. Mae hyn nid yn unig yn cefnogi ceiswyr noddfa i setlo yn eu rôl ond hefyd yn cryfhau diwylliant agored ac o amrywiaeth y mudiad.
- Lleoliad hygyrch – Dewiswch leoliadau hawdd eu cyrraedd neu gynnig opsiynau teithio neu ar-lein.
- Cyfathrebu clir – Defnyddiwch iaith syml gan osgoi jargon, a darparu cyfieithiadau neu gymorth gan gymheiriaid.
- Cyflawni hyblyg – Cynigiwch sesiynau grŵp, sesiynau un-i-un, neu systemau cyfeillio wrth gynefino.
- Awyrgylch croesawgar – Crëwch amgylchedd cyfeillgar, cefnogol lle mae gwirfoddolwyr yn teimlo’n gyfforddus wrth ofyn cwestiynau.
- Ystyriwch gynnwys cynlluniau cyfeillio – gwirfoddolwyr profiadol i’w cefnogi. A oes yna wirfoddolwyr presennol sy’n siarad yr un iaith a fyddant yn gallu bod yn bartneriaid er mwyn helpu mynediad at yr wybodaeth a ddarperir a helpu gyda dealltwriaeth?
Goruchwyliaeth
Mae darparu cyfarfodydd gwirio byr cyfeillgar a rheolaidd, yn ffordd syml ond pwerus o ddod i adnabod eich gwirfoddolwyr a meithrin ymddiriedaeth. Mae’n gyfle i wirio bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a bod â lefelau cymhelliant sy’n helpu eu cadw. Ar gyfer ceiswyr noddfa, a allai fod yn llywio drwy lawer o brofiadau newydd, gall y sgyrsiau hyn wneud gwahaniaeth mawr wrth adeiladu ymddiriedaeth a hyder.
- Gwnewch amser i bawb! Darparwch gyfarfodydd byr gyda’r holl wirfoddolwyr; cydnabod eu cyflawniadau a chynnig unrhyw hyfforddiant neu gymorth sydd ei angen. Cyfeiriwch at eraill os oes angen.
- Anogwch amgylchedd agored: Crëwch le diogel ar gyfer cwestiynau neu bryderon.
- Gwiriwch i sicrhau bod gwirfoddolwyr wedi derbyn eu had-daliadau o dreuliau
Ad-dalu treuliau – enghraifft o arfer da a mater o gydraddoldeb
Gall gwirfoddolwyr sy’n ceisio noddfa wynebu heriau ariannol penodol, felly mae’n bwysig gwneud ad-daliad treuliau yn syml, yn brydlon ac yn hyblyg. Ni ddylai unrhyw wirfoddolwr fyth fod allan o boced am roi eu hamser a’u sgiliau.
- Ad-dalwch yn brydlon ac yn deg: Ad-dalwch gyda derbynneb bob amser gan osgoi oedi. Mae ad-daliad prydlon yn dangos parch.
- Systemau hyblyg: Efallai nad oes gan lawer o geiswyr noddfa gyfrif banc eto, felly ystyriwch arian parod ar gyfer ad-daliadau llai, yr un diwrnod.
- Amseru: Pan fo’n bosibl, ad-dalwch ar y diwrnod neu’n wythnosol yn hytrach na misol, gan helpu’r rhai ar incwm isel iawn.
- Cymorth ymarferol: Darparwch fwyd mewn sesiynau neu docynnau teithio ymlaen llaw i leihau costau ymlaen llaw.
- Byddwch yn gefnogol ac yn glir: Gwnewch yn siŵr bod gwirfoddolwyr yn deall y broses ac yn teimlo’n sicr na fyddant allan o boced.
Mae diwylliant o ad-daliadau i bob gwirfoddolwr, yn sicrhau bod eich mudiad yn deall gwir gost gwirfoddoli ac nad oes neb yn cael ei ystyried yn wahanol am wneud cais amdano.
Am ragor o wybodaeth ynghylch ‘Treuliau Gwirfoddolwyr’ – gweler y dudalen hon
Beth yw ‘ceisiwr lloches’, ‘ffoadur’ a ‘mudwr’?
Ceisiwr Lloches – Rhywun sydd wedi ffoi o’i wlad gartref ac sy’n ceisio amddiffyniad rhyngwladol. Yn y DU, nid yw’r rhan fwyaf o geiswyr lloches yn gallu gweithio ond caniateir iddynt wirfoddoli.
Ffoadur – Person y mae ei gais am loches wedi’i gymeradwyo o dan y Confensiwn Ffoaduriaid. Gall ffoaduriaid weithio, gwirfoddoli, a chael mynediad at wasanaethau fel dinasyddion y DU.
Mudwr – Rhywun sy’n dewis symud am resymau gwaith, astudio neu deuluol, yn hytrach na ffoi rhag erledigaeth. Mae mudwyr yn aml yn gweithio mewn sectorau allweddol a gallant wirfoddoli i ennill profiad. Gall mudwyr wirfoddoli fel arfer, ond mae’n arfer da gwirio amodau fisa
NRPF (Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus) – Ni all rhai sydd â statws mewnfudo cyfyngedig gael mynediad at rai budd-daliadau gwladwriaethol neu dai, ond nid yw hyn yn effeithio ar gymhwysedd i wirfoddoli.
Bydd dod â cheiswyr noddfa i’ch mudiad yn cyfoethogi safbwyntiau, yn meithrin cydlyniant diwylliannol, ac yn gwella amrywiaeth eich tîm.
Mae sawl statws arall yn bodoli, fel Amddiffyniad Dyngarol, Cynlluniau Ailsefydlu, neu Absenoldeb yn ôl Disgresiwn, ond caniateir gwirfoddoli ar draws pob categori.
Bydd gwneud newidiadau tuag at well cynhwysiant ym maes recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr o fudd i bawb. Mae galluogi ceiswyr noddfa i wasanaethu fel gwirfoddolwyr yn fuddsoddiad nid yn unig yn nyfodol yr unigolyn ond yn nyfodol eich mudiad. Bydd dod â cheiswyr noddfa i’ch mudiad yn cyfoethogi safbwyntiau, yn meithrin cydlyniant diwylliannol, ac yn gwella amrywiaeth eich tîm. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu cymuned gryfach, fwy cynhwysol sy’n gwerthfawrogi ein dynoliaeth a rennir ac yn dathlu ein gwahaniaethau.
Mewnwelediadau gan wirfoddolwyr a mudiadau sy’n ymwneud â ‘cheiswyr lloches’ a ‘ffoaduriaid’
Mae pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru yn aelodau gweithgar o gymunedau Cymreig sydd â chymaint i’w roi, trwy eu croesawu i’n mudiadau fel gwirfoddolwyr, rydym yn adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol lle gall pawb ffynnu.
“Mae bod yn wirfoddolwr wedi fy helpu i ddysgu sgiliau gwerthfawr, cwrdd â phobl, teimlo’n rhan o’r gymuned a’m cadw’n iach wrth fynd trwy’r cyfnod anodd hwn – diolch am fy helpu i deimlo fy mod yn cael fy nghroesawu a theimlo fy mod o ddefnydd!” – Gwirfoddolwr Croeso Gwell i Abertawe
“Mae gwirfoddolwyr sydd â phrofiad bywyd o chwilio am noddfa yn dod â safbwyntiau a syniadau newydd, mae gweithio gyda’n gilydd yn ein helpu ni i gyd i ddeall a chefnogi ein gilydd yn well” Hazel Nixon – Dinas Noddfa Abertawe
“Rydym yn ddiolchgar i’r ceiswyr noddfa sy’n gwirfoddoli gyda ni, nid yn unig am yr hyn maen nhw’n ei wneud yn y siop, ond hefyd am yr effaith maen nhw’n ei chael ar gymuned y siop, gan wneud ein siop yn lle mwy diddorol, bywiog ac amrywiol i gyd-wirfoddolwyr, cwsmeriaid a rhoddwyr fel ei gilydd.” Phil Broadhurst, Rheolwr Siop, Oxfam, Abertawe.
Rhagor o wybodaeth
Fusion Films yn cyflwyno – Sanctuary – Ffilm sy’n archwilio Abertawe fel Dinas Noddfa.
https://www.youtube.com/watch?v=s2F2Eix6ZJc
Podlediad Croeso i Abertawe:
EDI wrth Wirfoddoli
Canllaw i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i Reolwyr Gwirfoddolwyr