Cartref » Help ac arweiniad » Rhedeg eich mudiad » Rheoli risg ac yswiriant
Hands hold up some collapsing dominos in front of a pile of coins

Y broses Rheoli Risg

Risg yw’r siawns, mawr neu fach, y bydd y mudiad yn cael ei niweidio mewn rhyw fodd o ganlyniad i berygl penodol. Er enghraifft, mae cebl sy’n llusgo ar y llawr yn berygl baglu, sy’n cyflwyno’r risg o ddamwain neu anaf, a allai arwain at ymgyfreithiad a chostau ariannol i’ch mudiad.

Gall risgiau godi o sefyllfaoedd amrywiol, ac mae materion iechyd a diogelwch fel yr enghraifft uchod yn bryder cyffredin. Ond dylech hefyd fod yn effro i risgiau eraill a all godi mewn gwahanol feysydd o waith eich mudiad. Gallai’r risgiau hyn fod yn ariannol, yn weithredol, yn rheoleiddiol, yn ymwneud â’ch llywodraethu neu ffactor allanol. Dylech geisio meddwl am yr holl feysydd risg hyn wrth wneud penderfyniadau.

Weithiau, edrychir ar reoli risg fel proses feichus iawn. Ond mae camau syml y gallwch chi eu cymryd i weithio drwy broses rheoli risg. Ni ddylech boeni’n ormodol na fyddwch chi’n cael popeth yn gywir, oherwydd mae unrhyw gamau rydych chi’n eu cymryd i leihau risg yn bendant yn well na pheidio â chymryd yr un cam.

Y gylchred rheoli risg

Mae rheoli risg yn broses gylchol ac iddi bedwar cam.

  1. Adnabod risg – nodwch yr holl ffactorau, digwyddiadau a sefyllfaoedd a allai gyflwyno risg i’r mudiad.
  2. Dadansoddi risg – ewch ati i ddidoli, sgorio a graddio’r risgiau fel sail i wneud penderfyniadau ynghylch sut i fynd i’r afael â nhw. Pan fyddwch chi’n dadansoddi’r risg, mae angen i chi feddwl am ba mor debyg yw’r risg o ddigwydd a’r effaith bosibl.
  3. Rheoli risg – cymerwch gamau i leihau neu osgoi pa mor debyg yw’r risg o ddigwydd ac i leihau ei heffaith. Gallwch chi hefyd feddwl am gynlluniau wrth gefn ar gyfer rheoli’r senarios gwaethaf y gall ddigwydd.
  4. Monitro risg – ewch ati i fonitro ac adolygu’r risgiau er mwyn pennu a yw’r camau rheoli risg o dan bwynt 3 uchod yn effeithiol, ac a yw eu natur a/neu eu tebygolrwydd wedi newid dros amser.

Rheoli risg

Wrth benderfynu ar sut i ymdrin â risg, mae gennych nifer o opsiynau, a bydd eich camau gweithredu yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac ar faint o risg y mae eich mudiad yn fodlon ei derbyn (eich ‘awydd am risg’). Dyma’r prif opsiynau sydd gennych chi:

Wrth benderfynu ar sut i ymdrin â risg, mae gennych nifer o opsiynau, a bydd eich camau gweithredu yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac ar faint o risg y mae eich mudiad yn fodlon ei derbyn (eich ‘awydd am risg’). Dyma’r prif opsiynau sydd gennych chi:

  • Osgoi – peidio â gwneud y gweithgaredd lle nodwyd risg.
  • Atal – cymryd camau i leihau’r tebygolrwydd o golled, er enghraifft, gosod meddalwedd gwrthfeirysau ar gyfarpar TGCh. Mae datblygu polisïau mewnol cadarn yn allweddol i atal.
  • Lleihau– cymryd camau i leihau canlyniadau colled os bydd yn digwydd, er enghraifft, gosod system chwistrellu i arafu lledaeniad tân.
  • Derbyn – efallai y bydd y mudiad yn barod i dderbyn rhai risgiau, er enghraifft, pan fydd cost camau ataliol yn llawer uwch na thebygolrwydd ac effaith bosibl y risg.
  • Trosglwyddo – trosglwyddo’r atebolrwydd am y risg i gorff arall. Gallai hyn fod drwy drefniadau contractiol, er enghraifft, is-gontractwr sy’n derbyn y risgiau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r contract. Fel arall, gall risgiau sy’n llifo o golled ariannol gael eu trosglwyddo i gwmni yswiriant allanol pan fyddwch chi’n cael yswiriant. Cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw sicrhau bod gan y mudiad yswiriant digonol, a byddwn ni’n edrych ar hyn yn ein hadran Yswiriant.

Ffynonellau eraill o wybodaeth

Canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar sut i asesu risg, gan gynnwys gwybodaeth am sut i asesu a sgorio risgiau

Mae gan NCVO hefyd wybodaeth am sut i asesu risg (Saesneg yn unig)

Rheoli risg yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) (Saesneg yn unig)

Gofynion yswiriant

Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb dros ddiogelu eu mudiad. Gall yswiriant fod yn ffordd briodol o reoli risg a diogelu rhag unrhyw golled, ddifrod neu atebolrwydd sy’n codi o’r risgiau a nodwyd. Bydd rhai yswiriannau yn ofynnol gan y gyfraith, ac eraill yn opsiynol, a bydd yr hyn y bydd ei angen yn dibynnu ar faint a chymhlethdod eich mudiad a’r gweithgareddau y mae’n ei wneud.

Yswiriannau sydd eu hangen yn ôl y gyfraith

  • Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fudiadau sy’n cyflogi staff brynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr
  • Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fudiadau sy’n berchen ar, neu’n defnyddio, cerbydau modur brynu yswiriant cerbyd

Mathau eraill o yswiriant

Dyma enghreifftiau o fathau o yswiriant a allai fod eu hangen i ddiogelu eiddo mudiad rhag colled neu ddifrod:

  • yswiriant adeiladau
  • yswiriant cynnwys
  • yswiriant digwyddiadau

Dyma enghreifftiau o fathau o yswiriant a allai fod eu hangen i ddiogelu rhag atebolrwyddau trydydd parti mudiad:

  • yswiriant indemniad proffesiynol
  • yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

Mae hefyd modd prynu yswiriant sy’n diogelu Ymddiriedolwyr mudiad rhag gorfod mynd i’w pocedi eu hunain i dalu unrhyw hawliadau sy’n cael eu gwneud yn eu herbyn am fethu â chyflawni eu dyletswyddau. Gelwir hyn yn yswiriant indemniad ymddiriedolwyr.

Gwirfoddolwyr ac yswiriant

At ddibenion yswiriant, cynghorir mudiadau gwirfoddol i drin gwirfoddolwyr yn yr un modd â’u cyflogeion ac i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu gan y mathau arferol o yswiriant y gallai mudiad eu prynu, fel atebolrwydd cyflogwyr neu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Dylech chi wirio unrhyw bolisi yswiriant er mwyn gwneud yn siŵr o’r pethau canlynol:

  • ei fod yn bendant yn cynnwys gwirfoddolwyr
  • sut diffinnir y term ‘gwirfoddolwr’ at ddibenion y polisi hwnnw
  • a oes unrhyw derfynau oedran uwch neu is yn berthnasol
  • bod y polisi yn cynnwys y mathau o weithgareddau y bydd gwirfoddolwyr yn eu gwneud

Cael cyngor

Wrth feddwl am gymryd unrhyw fath o yswiriant allan, dylech chi feddwl o ddifrif am gael cyngor annibynnol a phroffesiynol priodol. Fel arfer, y ffordd orau o fynd ati yw defnyddio brocer yswiriant sydd â dealltwriaeth o anghenion y sector gwirfoddol ac sydd mewn sefyllfa i drefnu busnes gydag unrhyw un neu fwy o gwmnïau yswiriant amrywiol. Gall mudiadau hefyd fynd yn uniongyrchol at yswiriwr elusennau arbenigol. Y pwynt pwysig yw defnyddio brocer neu yswiriwr sydd â gwybodaeth arbenigol o ofynion yswiriant elusennau a mudiadau gwirfoddol i sicrhau bod y lefel gywir o ddiogelwch yn cael ei threfnu am bris cystadleuol.

Am ragor o wybodaeth am y pethau i’w hystyried wrth gael yswiriant, edrychwch ar ein taflenni gwybodaeth:

Colleagues going through documents

Yswiriant

Yswiriant

Gwirfoddolwyr ac Yswiriant

Gwirfoddolwyr ac Yswiriant

Ffynonellau eraill o wybodaeth

Canllawiau’r Comisiwn Elusennau – Elusennau ac yswiriant (Saesneg yn unig)