Cartref » Help ac arweiniad » Cyllido eich mudiad » Grantiau

Paratoi ar gyfer cyllid

Cyn dechrau ymgeisio am gyllid, mae’n bwysig edrych ar eich mudiad o safbwynt rhywun o’r tu allan a gofyn rhai cwestiynau syml i chi’ch hun ynghylch y ffordd y caiff eich mudiad ei redeg.

Mae angen gwneud hyn oherwydd mae cyllidwyr angen gwybod y gallant ymddiried ynoch gyda’u harian, a bod eich prosiect yn debygol o lwyddo.

Y prif gwestiynau y bydd gan gyllidwr ddiddordeb ynddyn nhw yw’r rhain:

  • A ydych chi’n fudiad sy’n cael ei reoli’n dda?
  • A ydych chi’n rheoli eich arian yn dda?
  • A yw eich holl ddogfennau llywodraethu’n gyfredol?
  • A yw’r holl bolisïau priodol yn eu lle?

Addas ar gyfer cyllido

Mae ein taflen wybodaeth, ‘Addas ar gyfer cyllido’ yn eich tywys drwy’r meysydd y bydd angen i chi eu hystyried.

Gweld adnodd

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth i’ch helpu chi gyda’r meysydd hyn yn ein hadrannau ar Ymddiriedolwyr a Llywodraethiant, Rheoli arian a chyllidebau a Rhedeg eich mudiad.

Mae cyngor ynghylch bod yn addas ar gyfer cyllido ar gael i fudiadau gwirfoddol drwy’r rhwydwaith o gynghorau gwirfoddol lleol (CVCs).  

Cysylltu

Ble i ddod o hyd i gyllid grant?

Ysgrifennu eich cais

Cyn i chi ddechrau eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich ymchwil, ac yn bendant y bydd eich prosiect yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cyllidwr. Edrychwch eto dros feini prawf y gronfa, hyd yn oed os ydych chi wedi cyflwyno cais iddyn nhw o’r blaen, oherwydd gall meini prawf newid.

Peidiwch ag edrych ar y pethau y maen nhw’n eu cyllido yn unig; gwiriwch y pethau nad ydynt yn gymwys – er enghraifft, efallai nad ydynt yn cyllido elusennau cofrestredig, neu’n gwrthod cyllido gwaith cyfalaf, neu efallai eu bod yn gwrthod cyllido rhai gweithgareddau penodol fel ymgyrchu.

Hefyd, gwiriwch y dyddiad cau a sicrhewch eich bod yn cyflwyno cais o fewn yr amser hwn.

Dyma rai awgrymiadau da ar gyfer cwblhau’r cais:

  • Dilynwch y cyfarwyddiadau, darllenwch unrhyw wybodaeth ganllaw, ac yna darllenwch bopeth eto. Amlygwch y prif dermau a’r hyn y mae’r cyllidwyr eisiau ei gefnogi
  • Rhowch sylw i’r holl bwyntiau y gofynnir amdanynt mewn unrhyw gwestiwn. Peidiwch â chael eich temtio i ysgrifennu llawer yn y rhannau hawdd eu hateb a lliwio ffeithiau pan fydd y pwnc yn anoddach. Os ydyn nhw wedi gofyn y cwestiwn, maen nhw wedi gwneud hyn am eu bod eisiau gwybod yr ateb
  • Mae ymatebion sydd wedi’u strwythuro’n wael yn anodd eu hasesu. Cadwch bethau’n syml; weithiau, mae’n helpu i ddechrau drwy roi eich ateb mewn pwyntiau bwled ac yna ymhelaethu ar bob un i roi ychydig mwy o wybodaeth a ffeithiau. Sicrhewch fod eich ymatebion yn parhau i ganolbwyntio ar ganlyniadau’r prosiect a’r anghenion rydych chi’n gobeithio eu diwallu. Os yw’r cwestiwn wedi’i rannu’n bwyntiau bwled, ymatebwch i bob pwynt bwled gyda pharagraff/pwynt newydd
  • Sicrhewch nad ydych chi’n defnyddio jargon ac acronymau. Mae angen i’r cais fod yn ddealladwy i rywun heb wybodaeth flaenorol am eich gwaith
  • Rhowch sylw i ramadeg, atalnodi a sillafu. Gofynnwch i drydydd parti ddarllen eich cais cyn i chi ei anfon. Bydd pâr newydd o lygaid hefyd yn eich helpu i wneud yn siŵr bod eich cais yn gwneud synnwyr ac nad ydych chi wedi ailadrodd eich hun heb angen
  • Hyrwyddwch eich pwyntiau gwerthu unigryw a’ch arloesedd. Meddyliwch am yr hyn sy’n gwneud eich prosiect chi’n wahanol i brosiectau tebyg – a yw’r dull gweithredu’n newydd, a ydych chi wedi cael canlyniadau ardderchog yn y gorffennol, a oes angen neu frys difrifol? Pam mai chi yw’r mudiad iawn, a hwn yw’r prosiect iawn, i gyflawni’r canlyniadau rydych chi neu’r cyllidwr wedi mynd ati i’w cyflawni?
  • Peidiwch ag ysgrifennu ffurflen gais â llaw oni bai ei fod yn gwbl ddiosgoi. Cysylltwch â’r cyllidwr os oes angen cymorth ffisegol arnoch i allu defnyddio’r ffurflen neu’r system ymgeisio

Cynnwys eich cais

Bydd yr hyn y bydd cyllidwyr yn gofyn amdano i gefnogi’ch cais yn amrywio o un gyllidwr i’r llall, ond gallwch chi ddisgwyl i’ch cais gynnwys adrannau sy’n ymdrin â’r canlynol:

Teitl

A allwch chi feddwl am deitl prosiect bachog sy’n cyfleu’r hyn rydych chi eisiau ei wneud?

Crynodeb o’r prosiect

Dyma’r peth olaf y dylech chi ei ysgrifennu. Mae angen iddo gyfathrebu prif bwyntiau eich prosiect, a dangos sut mae’n gweddu â blaenoriaethau’r cyllidwr.

Datganiad o broblemau

Mae angen i chi egluro’r problemau rydych chi’n ceisio mynd i’r afael â nhw.

  • Siaradwch am bobl – dangoswch eich bod yn cael eich arwain gan angen
  • Gwnewch y broblem yn soled ac nid yn haniaethol; amlinellwch yr effeithiau drwg, ond yn nhermau bob dydd. Ceisiwch nodi’r broblem ac yna gofyn ‘wel, beth am hynny?’ er mwyn treiddio’n ddyfnach i’r effeithiau hirdymor
  • Nodwch y brys, yr achos dros ymyrryd ar unwaith
  • Dangoswch fod modd datrys y broblem
  • Rhowch dystiolaeth i gefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddefnyddio ystadegau, ond mae ffyrdd eraill – beth am astudiaethau achos, neu ddyfyniadau gan gyn-gleientiaid?

Rhaglen a dulliau

Beth ydych chi’n mynd i’w wneud, a sut ydych chi’n mynd i’w wneud? Ar ôl diffinio’r broblem, mae angen i chi egluro sut rydych chi’n bwriadu gwneud gwahaniaeth.

  • Beth yw eich amcanion – a allwch chi nodi canlyniadau penodol, mesuradwy? Byddwch yn benodol wrth ddisgrifio’r bobl rydych chi’n eu helpu, maint y gwasanaeth, a’r effaith a ddisgwylir: beth yw’r newid rydych chi’n ceisio ei greu?
  • Pa weithgareddau byddwch chi’n eu gwneud i gyflawni’r amcanion? A allwch chi gyfiawnhau eich dull gweithredu? A allwch chi ddangos y bydd eich gweithgareddau yn mynd i’r afael â’r broblem rydych chi wedi’i nodi?

Gwerthuso

Sut byddwch chi’n gwybod eich bod wedi llwyddo? Beth fyddwch chi’n ei fesur neu’n ei gofnodi? Sut byddwch chi’n canfod a yw’r gwasanaeth wedi gwneud gwahaniaeth?

Cyllideb

Efallai y bydd angen i chi atodi dadansoddiad manwl o’r costau, ond hyd yn oed os mai dim ond amlinelliad syml y bydd angen i chi ei ddarparu, dylech wybod y manylion er mwyn gwneud yn siŵr y bydd yr arian rydych chi’n gwneud cais amdano yn ddigon i dalu am y costau gwirioneddol o gyflawni’r prosiect. Os ydych chi’n gwneud cais am grant dros nifer o flynyddoedd, yna dangoswch y costau ar gyfer pob blwyddyn a chofiwch gyfrifo chwyddiant. Os na fyddwch chi’n cynnwys cynyddiadau chwyddiannol, bydd eich cyllid yn werth llai erbyn diwedd eich prosiect, ac efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i gyllid ychwanegol i dalu am eich costau. Mae gan rai cyllidwyr ffyrdd penodol o ymdrin â hyn. Defnyddiwch adennill costau llawn bob amser, oni bai bod y cyllidwr yn nodi’n benodol na fydd yn cyllido hyn.

Adennill costau llawn yw dull o gyllidebu prosiectau neu wasanaethau sy’n caniatáu i fudiadau adennill yr holl gostau sy’n gysylltiedig â chyflenwi prosiect neu wasanaeth. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n ystyried cyfran o gost y cymorth cyffredinol y bydd ei angen gan y mudiad i gyflawni’r prosiect.

Gallwch chi ddyrannu costau cymorth i gyllideb prosiect mewn gwahanol ffyrdd a cheir rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i wneud hyn yn ein taflen wybodaeth Adennill Costau Llawn.

Cynllun cyllido

Os nad ydych chi’n gofyn am y swm llawn, yna mae angen i chi ddangos o ble rydych chi’n bwriadu cael gweddill yr arian. Os yw’r prosiect yn un parhaus, mae angen i chi egluro o ble rydych chi’n bwriadu dod o hyd i gyllid ar ôl y cyfnod cychwynnol. Fel arall, bydd disgwyliadau cyllidwyr yn cynyddu am strategaeth ymadael strwythuredig sydd wedi’i datblygu’n llawn.

Cais a rhesymeg

Peidiwch ag ofni gofyn am swm penodol – gwnewch yn siŵr ei fod yn rhesymol o’i gymharu â’r hyn rydych chi’n ei wybod o ganllawiau’r ymddiriedolaeth neu grantiau eraill.

Gall eich CVC lleol hefyd ddarparu cymorth gydag ysgrifennu ceisiadau am gyllid.

Cysylltu

Planning and writing a successful funding application

Mae gennym gwrs e-ddysgu am ddim, ‘Cynllunio ac ysgrifennu cais llwyddiannus am gyllid’, a fydd yn eich helpu i lunio cais cyllido cryfach ac yn cyflwyno adnoddau y gallwch chi eu defnyddio i gefnogi’r broses cynllunio prosiect.

Planning and writing a successful funding application

Ar ôl y penderfyniad cyllido

Os caiff eich cais ei wrthod

Mae’r cyfraddau llwyddo ar gyfer ceisiadau grant yn isel a bydd angen i chi fod yn barod am benderfyniadau siomedig. . Os bydd eich cais yn cael ei wrthod:

  • o Gofynnwch am adborth ac os cewch chi ef, darllenwch ef yn drwyadl (yn anffodus, nid oes gan bob cyllidwr y capasiti i ddarparu hyn). Edrychwch eto ar eich cais yn sgil sylwadau’r cyllidwr a meddyliwch am sut gallwch chi gryfhau’r cais ar gyfer y dyfodol. Gallech chi gysylltu â’ch CVC lleol a chael eu help nhw i wella eich cais.
  • Gwiriwch eich gwaith ymchwil a meini prawf cymhwysedd y cyllidwr. A wnaethoch chi golli rheswm pam na allai’r cyllid hwn fod yn iawn i chi? A oeddech chi’n anlwcus bod yna geisiadau eraill yr oedd y cyllidwr yn eu ffafrio?
  • Os oeddech chi’n meddwl bod y cyllid yn ffitio’n dda â’ch anghenion, edrychwch ar eu rheolau ynghylch pa mor hir sydd angen i chi aros cyn ymgeisio eto. Efallai y byddwch chi’n gallu ymgeisio ar unwaith, ond bydd y mwyafrif o gyllidwyr yn gofyn i chi aros am gyfnod cyn ailymgeisio.
  • Cofiwch fod llawer o ffactorau a allai beri i’ch cais gael ei wrthod, gan gynnwys faint o geisiadau a dderbyniwyd yn y cylch cyllido penodol hwnnw, faint o arian oedd ar gael, pa brosiectau tebyg allai fod yn cael eu cyllido yn rhywle arall a faint o geisiadau a dderbyniwyd o’ch ardal chi. Dysgwch o’r profiad ac ystyriwch y pethau hyn pan fyddwch chi’n gwneud eich cais nesaf.

Os yw eich cais yn llwyddiannus

Os yw eich cais yn llwyddiannus, yna gallwch chi weithio ar gyflawni’ch prosiect a meithrin cydberthynas â’r cyllidwr. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i reoli’r gydberthynas gyllido honno:

  • Gwiriwch yr amodau ar eich cadarnhad o grant a rhowch bopeth y mae’r cyllidwr yn gofyn amdano iddo cyn gynted â phosibl.
  • Gwiriwch yr wybodaeth ynghylch sut mae’r cyllidwr eisiau i chi gydnabod ei grant (mewn cyhoeddusrwydd ac ati). Gwnewch yn siŵr bod pawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn gwybod beth sydd angen, a gwiriwch fod y gofynion yn cael eu dilyn.
  • Gwiriwch erbyn pryd y mae’r cyllidwr eisiau adroddiadau neu wybodaeth gennych chi a lluniwch gynllun i gadw at y dyddiadau cau hynny. Hyd yn oed os na fydd y cyllidwr yn gofyn am adroddiadau, dylech fonitro eich cynnydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd targedau allweddol y prosiect, ac ewch ati i adolygu eich perfformiad yn fuan ar ôl i’r prosiect ddod i ben fel eich bod yn dysgu o’r profiad.
  • Dylai’r cyllidwr roi manylion cyswllt yr unigolyn a fydd yn rheoli eich grant yn ei fudiad i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich holl gyfathrebiadau at yr unigolyn hwn ac yn ceisio meithrin cydberthynas bositif ag ef.
  • Dylech chi gyfathrebu â’ch cyllidwr pryd bynnag y bo angen. Nid yw hyn yn ymwneud â chadw at ddyddiadau cau yn unig; dylech chi hefyd roi gwybod i’ch cyllidwr am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau neu broblemau sy’n codi gyda’r prosiect fel y gallwch chi gytuno ar sut i fynd i’r afael â’r rhain gyda’ch gilydd. Mae’r cyllidwyr eisiau i chi lwyddo, a byddant yn eich cynorthwyo â hyn ym mha bynnag fodd y gallant.
  • Cofiwch am ofynion monitro a gwerthuso. Bydd angen i chi ddangos bod eich prosiect wedi cyflawni ei nodau ac amcanion, felly mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych chi drefniadau monitro yn eu lle ar ddechrau’r prosiect fel na fyddwch chi’n hepgor unrhyw wybodaeth a thystiolaeth sydd angen eu casglu.