Gweinyddu a hybu rhaglenni grantiau
Cymorth i ddatblygu’r gallu i recriwtio a chefnogi sylfaen gynaliadwy o wirfoddolwyr yng Nghymru.
Gwybodaeth, arweiniad a chysylltu mudiadau â chymorth arbenigol
Darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth i fudiadau ddatblygu arferion gwirfoddoli da, eich cysylltu â gwybodaeth arbenigol a chyngor sy’n diwallu eich anghenion orau.
Roedd 92% o’r unigolion a oedd wedi manteisio ar gymorth i wirfoddolwyr yn teimlo ei fod wedi eu helpu i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.
Rhwydweithiau, dysgu a datblygu
Bod yn gyfrwng i rannu gwybodaeth, deallusrwydd, arfer da, a chyfleoedd dysgu a datblygu sy’n cefnogi cynnydd parhaus.
Hybu arfer da ac arloesedd mewn gwirfoddoli
Gweithio gyda phartneriaid i alluogi datblygiadau gwirfoddoli strategol, hybu arfer da a threialu dulliau newydd.
Llwyfan digidol gwirfoddoli
Galluogi mudiadau i ddatblygu a hybu cyfleoedd gwirfoddoli o safon sydd o fewn cyrraedd pawb, dod o hyd i rôl sy’n gweddu i’r dim i’r gwirfoddolwr a darparu offer digidol i reoli gwirfoddolwyr. Darganfod mwy.
Digwyddiadau, hyrwyddo a chydnabyddiaeth
Codi proffil llwyddiannau gwirfoddolwyr unigol a’u cyfraniad cyfunol at lesiant Cymru.
Gwirfoddoli – Gwybodaeth
Datblygu strategaeth wirfoddoli
Diben y daflen wybodaeth hon yw eich arwain drwy broses feddwl strwythuredig i’ch galluogi i lunio strategaeth gwirfoddolwyr.
Gwirfoddolwyr ac Yswiriant
Mae’r daflen wybodaeth hon yn amlinellu’r mathau gwahanol o yswiriant y gellir eu cael ar gyfer gwirfoddolwyr a ble arall y gallwch fynd i gael rhagor o wybodaeth.
Creu polisi gwirfoddoli
Mae’r daflen wybodaeth hon ar gyfer mudiadau sydd wedi canfod rôl i wirfoddolwyr ac sy’n barod i ddatblygu eu polisïaugwirfoddoli.