Cael mwy o bobl i wirfoddoli yw’r gyfrinach i lesiant unigolion, cymunedau a Chymru fel cenedl. Nod Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwirfoddoli a helpu mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i recriwtio a chefnogi eu gwirfoddolwyr.
Yn yr adran hon, byddwch chi’n dod o hyd i ganllawiau i’ch helpu i ddatblygu eich strategaeth gwirfoddolwyr, polisïau sy’n benodol i wirfoddolwyr ac adnoddau i gefnogi ymgysylltiad â gwirfoddolwyr.
Os ydych chi’n fudiad sy’n gobeithio denu mwy o wirfoddolwyr neu’n fudiad sydd eisiau gwella’r ffordd rydych chi’n rheoli gwirfoddolwyr, mae’r adnoddau hyn yma i’ch helpu.
Yn seiliedig ar eich diddordebau
MS Society – Llais Niwro gwerthusiad o’r prosiect adroddiad terfynol
Wedi’i ariannu drwy grant strategol Gwirfoddoli Cymru, prosiect peilot oedd Neuro Voice/Llais Niwro a gafodd ei redeg ledled Cymru yn 2021-2022, gyda seilwaith strategol a chynaliadwy wedi’i arwain gan wirfoddolwyr.
Meddwl am Wirfoddoli
Gall gwirfoddoli fod yn brofiad gwych. Defnyddiwch eich sgiliau ac ennill rhai newydd wrth i chi helpu i wella eich cymuned leol drwy wirfoddoli.
Academi Iechyd a Gofal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Cynorthwyo Gwirfoddolwyr a Gofalwyr
Cafodd y prosiect ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru CGGC, i adeiladu ar waith a gafodd ei wneud yn 2021 yn llunio’r adroddiad Dyfodol Gwirfoddoli ym Mhowys, y Strategaeth Wirfoddoli gysylltiedig.