Cartref » Help ac arweiniad » Diogelu » Camau gweithredu i’w cymryd
Woman stands in front of whiteboard talking to two men

Pum cam allweddol

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi nodi pum cam allweddol i elusennau eu cymryd i gyflawni eu cyfrifoldebau diogelu, rydyn ni wedi egluro’r rhain isod oherwydd credwn eu bod yn ddefnyddiol i bob mudiad gwirfoddol.

1. Nodi a rheoli risgiau diogelu

Meddyliwch am sut mae eich mudiad yn gweithredu, y gweithgareddau y mae’n ei wneud a’r bobl y mae’n dod i gysylltiad â nhw. Nodwch yr amgylchiadau lle mae risgiau diogelu ac ewch ati wedyn i ystyried pa gamau y gallwch chi eu cymryd i gael gwared â’r perygl hwnnw neu leihau’r tebygolrwydd y bydd y niwed hwnnw’n digwydd. Mae angen i chi gofnodi’r risgiau a’r camau rydych chi’n eu cymryd, ac adolygu’r rhain yn rheolaidd.

2. Cael polisïau ac arferion priodol ar waith

Mae’n rhaid i’ch elusen gael polisïau diogelu cadarn y mae pawb yn eu deall ac yn eu defnyddio. Dylai’r rhain gynnwys gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod sut i adnabod ac adrodd pryder neu ddigwyddiad.

Ewch i’n hadran ar bolisïau diogelu i gael rhagor o help gyda hyn.

Gweld

3. Gwneud gwiriadau angenrheidiol

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff yn addas i weithio yn eu rolau drwy wneud gwiriadau perthnasol. Mae recriwtio neu ddod â phobl newydd i mewn i’ch mudiad, boed hynny fel gwirfoddolwyr neu mewn rolau â thâl, yn gyfle i fynd ati mewn modd ataliol i wirio a yw’n ddiogel ac yn addas iddyn nhw ymuno â chi. Bydd rhai camau sylfaenol yn eich helpu chi i gael dealltwriaeth well o bwy rydych chi’n ei roi yng ngofal eich gwaith a’ch enw da.

Gall gwneud y gwiriadau priodol hefyd gynnwys gwneud gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae rheolau manwl ynghylch pryd y mae’n briodol i ddefnyddio gwiriadau’r DBS a gallwch chi gael rhagor o wybodaeth yn yr adran Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Mae ein taflen wybodaeth, Recriwtio mwy diogel, yn rhoi canllawiau pellach i chi ar sut i fynd ati i wneud hyn.

Gweld

4. Diogelu eich gwirfoddolwyr a’ch staff

Mae’n bwysig rhoi cymorth a goruchwyliaeth barhaus iddyn nhw, i’w helpu i wneud eu gorau i chi, a pharhau i gadw pawb yn ddiogel. Bydd angen hyfforddiant diogelu arnyn nhw hefyd sy’n gymesur â’u rôl a faint o gyswllt uniongyrchol y disgwylir iddyn nhw ei gael â phlant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl.

5. Trin ac adrodd digwyddiadau’n briodol

Wrth drin a chofnodi digwyddiadau diogelu, dylech chi ymddwyn mewn modd diogel a chyfrifol ac ymateb yn gyflym.

Disgwylir i bob mudiad cymunedol a gwirfoddol fod yn barod i wneud adroddiad diogelu i adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol os oes ganddyn nhw bryderon sy’n ymwneud â chamdriniaeth neu esgeulustod.

Cyfrifoldebau ychwanegol – plant ac oedolion mewn perygl

Os yw eich mudiad yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc o dan 18 oed neu oedolion a all fod ag anghenion gofal a chymorth, yna mae’n rhaid i chi ddilyn cyfrifoldebau diogelu ychwanegol.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein hadran, Gweithio gyda phobl a allai fod mewn perygl

Gweld

Os yw pethau’n mynd o’i le…

Yn bwysig iawn – os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, ac mae’n bur debyg o wneud (dim ond bodau dynol ydyn ni wedi’r cyfan), beth ddylech chi ei wneud?

  • Dilynwch y polisïau sydd gennych chi yn eu lle
  • Gofynnwch am gyngor ac arweiniad gan eich CVC neu Wasanaeth Diogelu, neu asiantaethau eraill y gallech fod yn gweithio gyda nhw eisoes
  • Byddwch yn onest. Cydnabyddwch na wnaeth rhywbeth weithio cystal â’r disgwyl, a chymerwch gamau i wneud pethau’n iawn. Holwch am gyngor
  • Ewch ati i adolygu’r polisïau a ganiataodd i’r peth ddigwydd a cheisiwch eu gwella