Cartref » Help ac arweiniad » Diogelu » Gweithio gyda phobl a allai fod mewn perygl

Gweithio gyda phobl a allai fod mewn perygl

Ar y dudalen hon

Gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Diffiniad

Mae gennym ni ddyletswydd cyffredin i ddiogelu pawb o dan 18 oed, fel y mae ganddyn nhw’r hawl i gael eu diogelu gan yr oedolion o’u cwmpas (o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn). Ni ddisgwylir i blant ddiogelu eu hunain.

Mae plant penodol a elwir yn blant mewn perygl y mae’n rhaid i ni gymryd camau ychwanegol i’w diogelu; plant o dan 18 oed sy’n cael, neu mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu niweidio mewn ffyrdd eraill; a’r rheini ag anghenion gofal a chymorth (waeth a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny neu beidio).

Cyfrifoldebau

Mae’n rhaid i fudiadau gydnabod eu cyfrifoldebau i bob plentyn o dan 18 oed, i’w cadw’n ddiogel ac i adnabod y rheini a allai fod yn blant mewn perygl. Mae’n rhaid i’r mudiad sicrhau bod yr oedolion y maen nhw’n eu penodi i weithio/gwirfoddoli gyda phlant

  • yn unigolion diogel ac addas
  • yn unigolion diogel ac addas o eu bod wedi cael, neu’n mynd i gael eu hyfforddi’n briodol ar gyfer y rôl, i ddiwallu anghenion y plentyn, ac yn deall eu cyfrifoldebau diogelu
  • yn glynu at god ymddygiad sy’n sicrhau y byddant yn esiamplau priodol i blant, ac na fyddant yn cyflawni unrhyw weithred a fydd yn niweidio’r plant yn eu gofal

Gweithio gydag oedolion mewn perygl

Mae’n rhaid cael gweithdrefnau yn eu lle i sicrhau y gall adroddiad diogelu gael ei wneud i’r gwasanaethau cymdeithasol pan fydd amheuon bod plentyn mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed.

Diffiniad

Mae gan fudiadau ddyletswydd gofal cyfraith gyffredin i gadw pawb sy’n ymweld â’u hadeiladau/tiroedd/safleoedd ar-lein yn ddiogel, waeth a ydynt yn ymwelydd rheolaidd, yn gontractwr neu’n dod i ddigwyddiad untro. Efallai y byddwch chi’n gweld bod gan rai pobl anghenion gofal a chymorth (e.e. gwirfoddolwr â symptomau covid hir), gallech fod yn darparu gwasanaethau neu weithgareddau yn arbennig ar gyfer pobl ag anghenion gofal a chymorth (e.e. y rheini â chyflwr iechyd penodol) neu ar gyfer gofalwyr ag anghenion cymorth.

Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n ffactor o adnabod oedolyn mewn perygl:

  • unrhyw un dros 18 oed sy’n cael, neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac sydd ag anghenion gofal a chymorth (waeth a yw’r awdurdod yn diwallu’r anghenion hynny neu beidio), ac o ganlyniad i’r anghenion hynny, nid yw’n gallu diogelu ei hun rhag y gamdriniaeth neu’r esgeulustod y mae mewn perygl o ddioddef

Mae’r trydydd ffactor yn golygu na all unrhyw un gymryd yn ganiataol bod rhywun yn oedolyn mewn perygl, ond dylai weithio gydag ef mewn cydberthynas gefnogol i’w helpu i adnabod y risgiau a’i allu i ddiogelu ei hun. Efallai y bydd rhai camau sylfaenol y gall eich mudiad eu cymryd i’w helpu, ond os nad yw’r oedolyn yn gallu diogelu ei hun rhag y perygl neu’r bygythiad o gamdriniaeth, yna mae’n rhaid cael gweithdrefnau yn eu lle a fydd yn sicrhau y gellir gwneud adroddiad diogelu i’r gwasanaethau cymdeithasol pan fydd amheuon bod oedolyn mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Cyfrifoldebau

Mae’n rhaid i fudiadau sicrhau bod yr oedolion y maen nhw’n eu penodi i weithio/gwirfoddoli gydag oedolion ag anghenion gofal a chymorth

  • yn unigolion diogel ac addas
  • eu bod wedi cael, neu’n mynd i gael eu hyfforddi’n briodol ar gyfer y rôl, i ddiwallu’r anghenion gofal os mai dyma ddiben y gweithgaredd, ac yn deall eu cyfrifoldebau diogelu
  • yn glynu at god ymddygiad sy’n sicrhau y byddant yn ymddwyn yn briodol ac na fyddant yn cyflawni unrhyw weithred a fydd yn niweidio’r oedolion yn eu gofal

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ganllaw i ymarferwyr (gweithiwr/gwirfoddolwr sy’n cael ei roi mewn cysylltiad uniongyrchol â phobl a allai fod mewn perygl) i’r gweithdrefnau i’w dilyn os oes gennych chi bryderon yn eu cylch sy’n cynnwys perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod. Mae’r gweithdrefnau ar gael ar wefan Gweithdrefnau Diogelu Cymru a gellir hefyd eu cyrchu’n hawdd drwy lawrlwytho ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru drwy’r Apple App Store a’r Google Play Store.

Sicrhewch fod eich hyfforddiant diogelu yn dilyn argymhellion Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu Cymru a Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu Cymru.