Creu disgrifiadau rôl gwirfoddolwr

Mae’r dudalen wybodaeth hon yn esbonio pwrpas disgrifiadau rôl gwirfoddolwyr, ar gyfer pwy maen nhw, a pham maen nhw’n bwysig.

Trosolwg

Cyflwyniad

Person yn gweithio ar liniadur wrth ddesg

Gall disgrifiad rôl sydd wedi’i ysgrifennu’n dda gefnogi recriwtio, helpu i reoli risg a darparu pwynt cyfeirio defnyddiol yn ystod amser cynefino gwirfoddolwr a chyfranogiad parhaus.

Trwy amlinellu pwrpas, tasgau a ffiniau’r rôl yn glir, gallwch sicrhau bod gwirfoddolwyr yn teimlo’n wybodus, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn hyderus yn eu cyfraniad.

Isod mae templed y gellir ei ddefnyddio i sicrhau bod mudiadau’n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol y byddai darpar wirfoddolwr yn hoffi ei chael am ei rôl.

Os ydych chi’n teimlo yr hoffech gael rhywfaint o gymorth i greu Disgrifiad Rôl Gwirfoddoli, gallwch gysylltu â’ch Canolfan Wirfoddoli leol.

Cysylltwch

Ar gyfer pwy mae disgrifiad rôl gwirfoddolwr?

Mae disgrifiadau rôl gwirfoddolwr yn bennaf ar gyfer gwirfoddolwyr – presennol a phosibl – gan eu helpu i ddeall beth mae rôl yn ei olygu ac a yw’n addas iddyn nhw. Maent hefyd yn ddefnyddiol i staff a rheolwyr gwirfoddoli, gan ddarparu eglurder wrth recriwtio, cefnogi a goruchwylio gwirfoddolwyr. Yn ogystal, efallai y bydd cyllidwyr yn eu gweld yn ddefnyddiol i ddeall cwmpas ac effaith cyfranogiad gwirfoddolwyr.

Gallwch ddefnyddio disgrifiad rôl wedi’i llunio’n dda i:

  • Hyrwyddo cyfleoedd ar y platfform gwirfoddoli digidol, Gwirfoddoli Cymru
  • Llunio negeseuon cyfryngau cymdeithasol, neu
  • Arwain ffyrdd eraill o hysbysebu eich rôl.

Pam creu disgrifiadau rôl gwirfoddolwr?

Trwy amlinellu beth mae’r rôl yn ei gynnwys – ac yr un mor bwysig, beth nad yw’n ei gynnwys – mae’n darparu fframwaith ar gyfer goruchwylio, gan alluogi’r ddau barti i drafod cwmpas y rôl a’r tasgau sydd wedi’u cynnwys ar hyn o bryd.

Mae creu disgrifiadau rôl gwirfoddolwr clir a strwythuredig yn rhan hanfodol o reoli gwirfoddolwyr yn dda. Mae’r disgrifiadau hyn yn helpu i sefydlu dealltwriaeth gyffredin o’r rôl, yn darparu eglurder, ac yn cefnogi gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n eu cydlynu.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod rolau gwirfoddolwyr yn wahanol i swyddi â thâl -mae gwirfoddoli yn drefniant a roddir am ddim, heb dâl, ac yn ddigontract. Er mwyn adlewyrchu hyn, ceisiwch osgoi termau fel ‘gwaith’ neu ‘meini prawf hanfodol,’ a allai awgrymu cyflogaeth.

Mae disgrifiad rôl gwirfoddolwr sydd wedi’i strwythuro’n dda yn offeryn allweddol ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr yn effeithiol. Mae’n helpu gwirfoddolwyr a rheolwyr i ddeall pwrpas, ffiniau a chyfrifoldebau’r rôl. Trwy amlinellu beth mae’r rôl yn ei gynnwys – ac yr un mor bwysig, beth nad yw’n ei gynnwys – mae’n darparu fframwaith ar gyfer goruchwylio, gan alluogi’r ddau barti i drafod cwmpas y rôl a’r tasgau sydd wedi’u cynnwys ar hyn o bryd. Gall hyn helpu i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi tra bod rheolwyr yn gallu goruchwylio eu cyfraniad yn hyderus.

Mae disgrifiadau rôl hefyd yn helpu i nodi anghenion hyfforddi a chymorth.

Trwy ddiffinio tasgau allweddol, gall fudiadau nodi meysydd lle gall fod angen arweiniad neu ddatblygiad ar wirfoddolwyr, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r hyder i gyflawni eu rôl yn llwyddiannus.

Ar gyfer mudiadau sy’n cynnig hyblygrwydd, mae disgrifiadau rôl yn darparu pwynt cyfeirio defnyddiol. Os oes angen addasu rôl gwirfoddolwr, mae cael amlinelliad clir yn ei gwneud hi’n haws teilwra wrth gadw cysondeb a sicrhau bod tasgau hanfodol yn cael eu cwmpasu.

Yn ogystal, mae disgrifiadau rôl gwirfoddolwr yn cefnogi cynllunio adnoddau trwy helpu mudiadau i asesu’r hyn sydd ei angen – boed hynny’n offer, cymorth staff, neu ystyriaethau cyllideb – er mwyn galluogi gwirfoddolwyr i gyflawni eu rolau yn effeithiol.

Trwy ddarparu strwythur gan hefyd ganiatáu hyblygrwydd, mae disgrifiadau rôl yn creu profiad gwirfoddoli cadarnhaol a rheoledig, gan sicrhau bod gwirfoddolwyr a mudiadau yn manteisio i’r eithaf ar eu partneriaeth.

Sut i greu disgrifiad rôl gwirfoddolwr

Gwirfoddolwyr gyda’i gilydd

Cyd-greu

Wrth ddatblygu disgrifiad rôl gwirfoddolwr, ystyriwch gynnwys y rhai yr effeithir arnynt gan y rôl – staff, rhanddeiliaid, defnyddwyr gwasanaethau, a gwirfoddolwyr. Mae cyd-greu disgrifiadau rôl, pan fo capasiti’n caniatáu, yn sicrhau eu bod yn realistig, yn gynhwysol, ac yn adlewyrchu’r hyn y gall gwirfoddolwyr ei gyfrannu a’r hyn a hoffent ei gyfrannu’n wirioneddol.

Meddyliwch am hyblygrwydd

Mae hyblygrwydd yn allweddol. Mae rôl sy’n gallu addasu ar gyfer gwahanol sgiliau, diddordebau ac argaeledd yn gwneud gwirfoddoli yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl. Os yw disgrifiad rôl yn rhy hir, ystyriwch a ddylid ei rannu’n rolau lluosog i weddu’n well i gryfderau ac amgylchiadau gwahanol wirfoddolwyr.

Pwy allai fod â diddordeb yn y rôl

Mae’n werth ystyried pwy fyddai’n gallu cael eu denu gan y rôl hon, neu sut y gellid teilwra’r rôl i ddenu gwirfoddolwr mwy penodol h.y. a fyddai’r rôl hon yn gweithio’n dda fel gweithgaredd gorchwyl a gorffen byr y gellid ei gwblhau mewn cyfnod cyfyngedig o amser neu, os yw ar gael ar amser neu leoliad penodol, a fyddai’n annog gwirfoddolwr o gefndir neu o gam bywyd gwahanol?

Eglurder

Cadwch ddisgrifiadau’n glir, yn gryno ac yn atyniadol. Defnyddiwch iaith glir a fframio’r rôl fel cyfle cyffrous yn hytrach na rhestr lethol o ofynion.

Meddyliwch amdano fel adnodd marchnata – rydych chi eisiau denu gwirfoddolwyr, nid eu dychryn.

Dylai disgrifiad rôl da fod ar un dudalen ac yn darparu cipolwg ar yr hyn y mae’r rôl yn ei olygu heb orlwytho gwybodaeth.

Trwy flaenoriaethu eglurder, hyblygrwydd a chynhwysiant, gallwch greu disgrifiadau rôl sy’n annog mwy o bobl i gymryd rhan a theimlo’n hyderus yn eu cyfraniad.

Disgrifiad rôl gwirfoddolwr [Templed]

Teitl:

Insert role title

Rheolwr/Tîm/Cymorth Gwirfoddolwr:

Rhowch fanylion yr unigolyn y mae’r gwirfoddolwr yn atebol iddo, gan gynnwys manylion cyswllt

Lleoliad:

Rhowch fanylion ynghylch ble fydd y gwirfoddolwr yn cyflawni ei dasgau. Swyddfa, o bell, hybrid

Pryd:

Pa mor aml, pa ddiwrnod neu amseroedd, neu fathau o amseroedd e.e. oriau swyddfa/yn bennaf dyddiau’r wythnos ond rhai penwythnosau a nosweithiau. Mae’n bwysig dangos hyblygrwydd yn y defnydd o iaith er mwyn osgoi contract cyflogaeth anfwriadol.

Pwrpas:

Amlinellwch bwrpas y rôl wirfoddoli. Pwy mae’r rôl yn ei gefnogi? Sut mae’r rôl hon yn helpu’r mudiad, y gymuned neu’r unigolion? Dylai’r crynodeb hwn fod yn ddeniadol ac yn gyffroadol. Dyma’ch broliant ar gyfer y rôl.

Yr hyn sydd ynghlwm â’r rôl:

Amlinellwch y tasgau allweddol/prif dasgau y bydd y gwirfoddolwr yn eu gwneud. Efallai y byddai’n syniad da rhestru’r rhain yn nhrefn eu blaenoriaeth. Gallent fod yn hyblyg a dylid eu trafod fel rhan o gyfweliad neu gynefino gwirfoddolwr. Gallwch ddewis llunio’r rhain fel pwyntiau bwled neu restr wedi’i rhifo er hwylustod.

Yr hyn rydym ni’n ei gynnig:

Rhestrwch y manteision a’r gefnogaeth a gynigir i ddarpar wirfoddolwr yn y rôl hon.

Gallwch ddod o hyd i rai enghreifftiau isod.

  • Bod yn rhan o’n mudiad a’n cefnogi i wneud gwahaniaeth mwy arwyddocaol gyda’n gilydd
  • Ymuno â thîm cyfeillgar sy’n angerddol am [RHOWCH ACHOS]
  • Cymorth gan gymheiriaid
  • Cynefino a hyfforddiant
  • Ad-dalu treuliau
  • Cyfle i ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiadau
  • Cwrdd â phobl newydd

Ystyriaethau allweddol:

(Defnyddiwch yr adran hon i restru unrhyw ofynion ar gyfer y rôl y mae’n bwysig i ddarpar wirfoddolwr wybod amdanynt cyn iddynt fynegi eu diddordeb.)

I ymuno â’n mudiad yn y rôl wirfoddol hon rydym yn chwilio am unigolion,

  • Sy’n frwdfrydig dros y rôl wirfoddol
  • Sy’n barod i ddysgu.

(Gallai enghreifftiau eraill gynnwys y canlynol, fodd bynnag, rydym yn annog mudiadau i restru’r hyn sydd wir yn angenrheidiol ar gyfer ymgymryd â’r rôl i sicrhau bod y rôl yn parhau i fod yn gynhwysol)

  • Yn barod i ymgymryd â gwiriad DBS (os yw’n berthnasol i’r rôl)
  • Oedran penodol (os yw’r rôl yn gofyn am oedran cyfyngedig)
  • Bod â thrwydded yrru a/neu gar (os yw’r rôl yn gofyn am hyn)
  • Byw o fewn ‘x’ milltir i [lleoliad penodol] (os yw lleoliad y gwirfoddolwr yn berthnasol)
  • Yn gallu cyfathrebu mewn [iaith benodol] (os oes ei hangen ar gyfer y rôl)
  • Yn gallu ac yn barod i ymgymryd â [rhowch unrhyw hyfforddiant achrededig neu ddwys, neu ofynion arholiad penodol]
  • [sgil(iau) allweddol os yn angenrheidiol ar gyfer y prif dasgau]

Lluniwyd y disgrifiad rôl: [dd/mm/bb]

Dyddiad adolygu disgrifiad rôl: [dd/mm/bb]

Rhagor o wybodaeth

Pan fydd eich disgrifiad rôl gwirfoddolwr yn barod, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ei rannu ar www.volunteering-wales.net i ddechrau recriwtio’r gwirfoddolwyr sydd eu hangen arnoch.

Os hoffech ddarganfod mwy am ddarparu rhaglenni gwirfoddoli o ansawdd uchel, dysgwch fwy am y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – https://investinginvolunteers.co.uk/

Am ganllawiau ar Greu Polisi Gwirfoddoli https://knowledgehub.cymru/cy/resources/creu-polisi-gwirfoddoli/

I gael arweiniad ar baratoi eich Polisi Gwirfoddoli, gallwch ddefnyddio’r templed hwn i ddechrau arni
https://knowledgehub.cymru/cy/resources/polisi-gwirfoddoli-enghreifftiol/