Strwythurau Cyfreithiol
Coeden benderfynu
Os ydych chi’n meddwl am sefydlu mudiad gwirfoddol neu newid strwythur cyfreithiol eich mudiad ac nad ydych chi’n siŵr pa strwythur fyddai orau i chi, bydd yr adnodd hwn yn eich helpu.
Os oes angen cymorth pellach arnoch yn y maes hwn, cysylltwch â’ch cyngor gwirfoddol sirol lleol neu CGGC.
Mae bod yn ymddiriedolwr yn rôl wirfoddol. Dyma sy’n gwneud mudiad yn elusen.
Er mwyn lleihau’r risg i’ch elusen, rhaid i chi sicrhau eich bod yn dilyn y rheolau sy’n gysylltiedig â thaliadau o’r fath.
Bydd y ddogfen hon yn eich helpu i sicrhau mai dim ond taliadau a ganiateir sy’n cael eu cyhoeddi:
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC) sydd ag Ymarferwyr Llywodraethu sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo.
______________________________________________________________
Os yw eich mudiad wedi’i sefydlu fel Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC), gellir gwneud taliadau i gyfarwyddwyr.
Os bydd taliadau yn cael eu gwneud, rhaid ystyried y canlynol:
- Gall cyfarwyddwyr gael eu talu (gan gynnwys cyflog am eu gwasanaethau) ond ni ddylai’r tâl a dderbynnir fod yn fwy na’r hyn sy’n rhesymol ar unrhyw adeg.
- Dylai taliadau cyfarwyddwyr fod yn dryloyw
- Os yw’r taliad yn rhy uchel gall rheoleiddiwr y CIC gymryd camau.
Am ragor o wybodaeth am hyn, dilynwch y dolenni isod:
Canllawiau’r CIC (Saesneg yn unig)
Swyddfa Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Mae elusen yn fudiad a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig ac mae’n ddarostyngedig i reolaeth awdurdodaeth cyfraith elusennol yr Uchel Lysoedd.
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i wybod a yw bod yn elusen yn iawn i chi:
Comisiwn Elusennau: Beth sy’n gwneud elusen CC4
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC) sydd ag Ymarferwyr Llywodraethu sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo.
I fod yn Elusen mae’n rhaid i chi fod â dibenion elusennol. Mae’r fideo byr hwn yn esbonio’r rhain yn fanylach:
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC) sydd ag Ymarferwyr Llywodraethu sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo.
Ystyriwch Cymdeithas neu Ymddiriedolaeth Anghorfforedig.
Mae ymddiriedolwyr yn gyfreithiol gyfrifol am reoli a gweinyddu elusen. Mae’r ddogfen hon yn esbonio rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yn fanwl. Os yw elusen wedi’i hymgorffori, gellir lleihau atebolrwydd yn sylweddol cyn belled â bod yr Ymddiriedolwyr yn dilyn y rheolau.
Atebolrwydd Dirprwyol Ymddiriedolwyr
Ar gyfer cymdeithasau ac ymddiriedolaethau heb eu Hymgorffori nid yw atebolrwydd yn gyfyngedig. Gall ymddiriedolwyr fodd bynnag gymryd yswiriant atebolrwydd ymddiriedolwyr i’w cynorthwyo. Fodd bynnag, yn union fel mudiadau corfforedig, os nad yw’r ymddiriedolwyr yn dilyn y rheolau byddent yn dal i fod yn atebol a byddai’r yswiriant yn annilys.
Mudiad anghorfforedig (Grŵp cymunedol)
Fel arfer yn cael ei sefydlu gan grŵp o bobl sy’n dod at ei gilydd am reswm heblaw am wneud elw. Enghreifftiau da fyddai grŵp cymorth bach neu glwb chwaraeon. Nid yw’n costio dim i sefydlu un ac nid oes angen i chi gofrestru gydag unrhyw un. Fodd bynnag, atebolrwydd yr ymddiriedolwyr yw unrhyw ddyledion. Am fwy o wybodaeth ar fod yn gymdeithas anghorfforedig, gwelwch y nodyn cyfarwyddyd hwn.
Os oes gan fudiad, sydd â nodau elusennol er budd y cyhoedd yn unig, incwm o £5000 neu fwy y flwyddyn, rhaid iddynt gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau.
Ymddiriedolaeth Elusennol
Ffordd i grŵp o bobl reoli asedau fel arian, buddsoddiadau, tir neu adeiladau.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC) sydd ag Ymarferwyr Llywodraethu sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo.
Ystyriwch Fudiad Corfforedig Elusennol.
Os ydych chi’n bwriadu bod ag incwm o dros £5000 y flwyddyn a bod yn elusen, rhaid i’ch mudiad fod wedi’i gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Gallwch hefyd gofrestru elusen sydd â llai na £5000 o incwm (er enghraifft os ydych yn fudiad newydd ond yn bwriadu cynyddu eich incwm) os byddwch chi’n dod yn Fudiad Corfforedig Elusennol.
Mae Mudiad Corfforedig Elusennol yn strwythur sydd wedi’i gynllunio ar gyfer elusennau nad ydynt hefyd eisiau bod yn gwmni. Felly, nid oes angen i chi gofrestru gyda Tŷ’r Cwmnïau; dim ond i’r Comisiwn Elusennau y byddwch yn adrodd. Unwaith y byddwch yn cael cymeradwyaeth ar gyfer eich mudiad, bydd gofyn i chi ddilyn rheolau Elusen. Os byddwch yn dilyn popeth yn gywir, bydd gan eich ymddiriedolwyr atebolrwydd cyfyngedig.
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i benderfynu ai hwn yw’r opsiwn yn iawn ar eich cyfer chi:
Comisiwn Elusennau – sefydlu strwythurau elusen
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC) sydd ag Ymarferwyr Llywodraethu sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo.
Ystyriwch Fudiad Corfforedig Elusennol.
Mae elusen gorfforedig yn ffurf gyfreithiol sy’n rhoi personoliaeth gyfreithiol ei hun i’r elusen. Mae hyn yn golygu y gall mudiadau wneud cais am gyllid yn enw’r elusen. Mae ymgorffori yn rhoi mwy o amddiffyniad i ymddiriedolwyr ar gyfer atebolrwydd personol. Dylid ymgorffori elusen sy’n cyflogi pobl, sy’n berchen ar eiddo a/neu ddarparu gwasanaethau (ac felly â mwy o rwymedigaethau).
Gydag ymgorffori daw rheoleiddio.
Mae mudiad corfforedig elusennol wedi’i gynllunio ar gyfer elusennau. Mae’n ofynnol i fudiadau corfforedig elusennol gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yn unig. Mae gan ymddiriedolwyr atebolrwydd cyfyngedig neu ddim am ddyledion a rhwymedigaethau mudiad corfforedig elusennol. Bydd angen i chi anfon eich cyfrifon a’ch ffurflen flynyddol i’r Comisiwn bob blwyddyn waeth beth fo’i incwm. Gall mudiad corfforedig elusennol fod ag aelodaeth ehangach gan gynnwys aelodau pleidleisio heblaw ymddiriedolwyr yr elusen (model cymdeithas), neu dim ond bod ag ymddiriedolwyr fel aelodau pleidleisio (model sylfaen).
Ystyriwch Gwmni Elusennol (Cyfyngedig trwy Warant).
Mae elusen gorfforedig yn ffurf gyfreithiol sy’n rhoi personoliaeth gyfreithiol ei hun i’r elusen. Mae hyn yn golygu y gall mudiadau wneud cais am gyllid yn enw’r elusen. Mae ymgorffori yn rhoi mwy o amddiffyniad i ymddiriedolwyr ar gyfer atebolrwydd personol. Dylid ymgorffori elusen sy’n cyflogi pobl, sy’n berchen ar eiddo a/neu ddarparu gwasanaethau (ac felly â mwy o rwymedigaethau).
Gydag ymgorffori daw rheoleiddio.
Mae’n ofynnol i gwmni Elusennol cyfyngedig trwy warant gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau a Tŷ’r Cwmnïau ac felly mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r ddau ofyniad deddfwriaethol. Mae gan ymddiriedolwyr atebolrwydd cyfyngedig neu ddim atebolrwydd am ddyledion neu rwymedigaethau cwmni elusennol. Gellir sefydlu Cwmni Elusennol cyfyngedig trwy warant gyda neu heb aelodaeth ehangach. Ni all Cwmni Elusennol cyfyngedig trwy warant ddosbarthu ei warged i’w aelodau o gyfranddalwyr, dim ond i gyflawni ei ddibenion elusennol y gall ddefnyddio ei asedau ac mae’n rhaid iddo weithredu er budd gorau’r elusen.
Bydd y canllawiau canlynol yn eich helpu wrth wneud eich penderfyniad ar y strwythur elusen sy’n iawn ar eich cyfer chi:
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC) sydd ag Ymarferwyr Llywodraethu sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo.
Cysylltwch â Busnes Cymru.
Os ydych yn dymuno masnachu ac ail-fuddsoddi elw at ddiben cymdeithasol, y strwythur sefydliadol i chi fyddai menter gymdeithasol (Busnes sydd â chenhadaeth gymdeithasol).
Mae menter gymdeithasol yn fusnes sy’n bodoli i gyflawni cenhadaeth gymdeithasol neu amgylcheddol yn hytrach na dim ond i wneud elw i’w berchnogion neu ei gyfranddalwyr. Felly, mae’n masnachu’n fasnachol fel unrhyw fusnes arall, ond mae’n ail-fuddsoddi’r rhan fwyaf neu’r cyfan o’i elw er budd pobl, cymunedau neu’r amgylchedd.
Os mai dyma’r fformat o fudiad y mae gennych ddiddordeb yn ei sefydlu cysylltwch am gymorth:
Ystyriwch Gwmni Buddiannau Cymunedol Cyfyngedig gan Gyfranddaliadau neu Gymdeithas Budd Cymunedol.
Os ydych yn dymuno dosbarthu elw i gyfranddalwyr, dylech ystyried dod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol neu Gymdeithas Budd Cymunedol.
Cwmni Buddiannau Cymunedol Cyfyngedig gan Gyfranddaliadau
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol cyfyngedig gan gyfranddaliadau yn fusnes sy’n cyhoeddi cyfranddaliadau i’w fuddsoddwyr ond mae’n ofynnol iddo ddefnyddio ei elw a’i asedau er lles y cyhoedd. Mae wedi’i gofrestru gyda Tŷ’r Cwmnïau ond wedi’i reoleiddio gan reoleiddiwr Cwmni Buddiannau Cymunedol.
I sefydlu Cwmni Buddiannau Cymunedol byddwch angen:
- Datganiad budd cymunedol sy’n esbonio beth mae’r busnes yn bwriadu ei wneud.
- ‘Clo asedau’ sy’n addewid cyfreithiol sy’n nodi y bydd asedau’r cwmni yn cael eu defnyddio ar gyfer ei amcanion cymdeithasol yn unig ac yn gosod terfynau ar yr arian y caiff ei dalu i gyfranddalwyr.
- Cyfansoddiad
- A chyflwyno cais i reoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol.
Gall y canllawiau hyn eich helpu:
Canllawiau Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
Os ydych:
- Yn dymuno talu difidendau i fuddsoddwyr
- Yn credu y bydd y gallu i dalu difidendau yn cael effaith ffafriol ar eich cyllid neu statws treth
- Yn deall y cyfyngiadau ar gap difidend ar dalu difidendau
Yna efallai mai Cwmni Buddiannau Cymunedol cyfyngedig gan gyfranddaliadau yw’r dewis gorau i chi.
Sylwer: Rhaid i chi ystyried eich dewis yn ofalus oherwydd unwaith y byddwch wedi penderfynu cael eich cyfyngu gan gyfranddaliadau ni allwch newid i gyfyngedig trwy warant neu i’r gwrthwyneb.
Peth arall i’w ystyried yma yw eich gweithgareddau cynhyrchu incwm arfaethedig – nid yw’r mwyafrif helaeth cyllidwyr elusennol yn ariannu mudiadau sydd wedi’u cyfyngu gan gyfranddaliadau, ac nid yw rhai yn ariannu Cwmni Buddiannau Cymunedol wedi’u cyfyngu trwy warant chwaith.
Os mai dyma’r fformat o fudiad y mae gennych ddiddordeb yn ei sefydlu, cysylltwch â Cwmpas am gymorth:
Cymdeithas Budd Cymunedol
Mae Cymdeithas Budd Cymunedol yn gymdeithas gofrestredig sy’n cynnal busnes er budd y gymuned ac nid er budd ei haelodau yn bennaf.
Mae’n ofynnol i’r math hwn o fudiad gofrestru a chael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Efallai y bydd y canllaw hwn gan Cwmpas yn ei egluro ymhellach:
Cwestiynau Cyffredin – Beth yw Cymdeithas Budd Cymunedol
Os mai dyma’r fformat o fudiad sydd gennych ddiddordeb yn ei sefydlu, cysylltwch am gymorth:
Ystyriwch Gymdeithas Budd Cymunedol neu Gymdeithas Gydweithredol.
Cymdeithas Budd Cymunedol
Mae Cymdeithas Budd Cymunedol yn gymdeithas gofrestredig sy’n cynnal busnes er budd y gymuned ac nid er budd ei haelodau yn bennaf.
Mae’n ofynnol i’r math hwn o fudiad gofrestru a chael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Efallai y bydd y canllaw hwn gan Cwmpas yn eich helpu ymhellach
Cwestiynau Cyffredin – Beth yw Cymdeithas Budd Cymunedol
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC) sydd ag Ymarferwyr Llywodraethu sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo.
Os mai dyma’r fformat o fudiad y mae gennych ddiddordeb yn ei sefydlu, gallwch hefyd cysylltu am gymorth:
Cymdeithas Gydweithredol
Mae Cymdeithas Gydweithredol yn fudiad sy’n eiddo yn ddemocrataidd i’w haelodau ac yn cael ei reoli ar gyfer eu hanghenion ar y cyd. Gall eu haelodau fod yn weithwyr, cwsmeriaid, preswylwyr a’r personau hyn sy’n penderfynu sut mae’r cwmni cydweithredol yn cael ei redeg. Maen nhw’n codi arian trwy gyfranddaliadau cymunedol.
Mae gan Gymdeithas gydweithredol saith egwyddor sy’n dweud wrthi sut i weithredu:
- Yn eiddo i’w haelodau ac yn cael ei rheoli ganddynt
- Yn ddemocrataidd.
- Mae pob aelod yn cyfrannu’n ariannol.
- Mae’n fusnes annibynnol.
- Mae’n cynnig addysg a hyfforddiant.
- Mae’n cydweithredu ac yn gweithio gyda chwmnïau cydweithredol eraill.
- Mae’n cefnogi’r cymunedau y mae’n gweithio gyda nhw
I ddod yn gymdeithas gydweithredol mae’n rhaid i chi:
- Ffurfio pwyllgor sefydlu.
- Datblygu eich syniad, gweledigaeth a rheolau busnes.
- Cofrestru gyda’r awdurdod ymddygiad ariannol.
Ystyriwch Gwmni Buddiannau Cymunedol Cyfyngedig trwy Warant.
Cwmni Buddiannau Cymunedol
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol yn fusnes a sefydlwyd er budd y gymuned, nid ei pherchnogion yn unig. Mae’n masnachu’n fasnachol ond mae’n rhaid iddo ail-fuddsoddi’r rhan fwyaf o’i elw i gyflawni diben cymdeithasol neu gymunedol. Mae wedi’i gofrestru gyda Tŷ’r Cwmnïau ond wedi’i reoleiddio gan reoleiddiwr Cwmni Buddiannau Cymunedol.
I sefydlu Cwmni Buddiannau Cymunedol byddwch angen:
- Datganiad budd cymunedol sy’n esbonio beth mae’r cynlluniau busnes yn mynd i’w wneud.
- ‘Clo asedau’ sy’n addewid cyfreithiol sy’n nodi y bydd asedau’r cwmni yn cael eu defnyddio ar gyfer ei amcanion cymdeithasol yn unig ac yn gosod terfynau ar yr arian y caiff ei dalu i gyfranddalwyr.
- Cyfansoddiad.
- A chyflwyno cais i’r rheoleiddiwr Cwmni Buddiannau Cymunedol.
Efallai y bydd y canllawiau hyn yn eich helpu:
Canllawiau Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
Sylwer: Rhaid i chi ystyried eich dewis yn ofalus oherwydd unwaith y byddwch wedi penderfynu bod yn gyfyngedig gan warant, ni allwch newid i fid yn gyfyngedig gan gyfranddaliadau neu i’r gwrthwyneb.