Nodyn Cyfarwyddyd ar Gymdeithasau Anghorfforedig

Trosolwg

Paratowyd y ddogfen ganllaw hon gyda chefnogaeth Faegre Drinker Biddle & Reath LLP. Mae’r deunydd yn y ddogfen hon at ddibenion gwybodaeth yn unig, yn gyffredinol ei natur, ac nid yw’n gyngor cyfreithiol. Ni ddylid dibynnu ar y deunydd yn y ddogfen hon na’i ddefnyddio heb ymgynghori â chyfreithiwr i ystyried eich amgylchiadau penodol. Cyhoeddwyd y ddogfen hon ar y dyddiad a nodir ac nid yw’n cynnwys unrhyw newidiadau i’r pynciau, y cyfreithiau, y rheolau na’r rheoliadau a gwmpesir ers y dyddiad hwnnw.

Crynodeb

Rydym wedi crynhoi atebion i rai cwestiynau cyfreithiol allweddol y gall fod gan gymdeithasau anghorfforedig mewn perthynas â sut maent yn gweithredu.

Gall cymdeithasau anghorfforedig fod yn syml, yn hyblyg ac yn rhad i’w sefydlu, gan olygu eu bod yn strwythur delfrydol ar gyfer rhai elusennau llai o faint. Fodd bynnag, dylai’r aelodau hynny sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau rheoli mewn cymdeithasau elusennol anghorfforedig (yr ydym yn eu galw’n “Ymddiriedolwyr Rheoli”) neu’n dal tir neu eiddo ar ran y gymdeithas elusennol anghorfforedig (yr ydym yn eu galw’n “Ymddiriedolwyr Daliannol”) fod yn ymwybodol o’r atebolrwydd personol sylweddol a allai ddod gyda’u swydd. O ganlyniad, nid yw hwn yn strwythur elusennol y dylid ei ddefnyddio ar gyfer mudiadau mwy o faint, y rhai sy’n cyflogi gweithwyr, na’r rhai sy’n delio â rhoddion neu asedau nodedig

Mae llawer o gymdeithasau elusennol anghorfforedig yn dechrau’n fach a, thros amser, gallant dyfu ynghynt na’u strwythur anghorfforedig. Mewn achosion o’r fath, dylai Ymddiriedolwyr Rheoli ystyried o ddifrif a ddylid diweddaru ffurf gorfforedig eu cymdeithas, er enghraifft, i fudiad corfforedig elusennol neu gwmni preifat cyfyngedig trwy warant.

Ystyriaethau Cyffredinol

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng mudiad anghorfforedig a mudiad corfforedig?

Mae llawer o sefydliadau elusennol bach, fel clybiau chwaraeon cymunedol, yn anghorfforedig. Mae hyn, yn gyffredinol, am eu bod yn hawdd ac yn rhad i’w sefydlu, ac nid yw’n ofynnol iddynt ffeilio ffurflenni a chyfrifon blynyddol gyda Thŷ’r Cwmnïau fel y byddai cwmni cyfyngedig preifat yn ei wneud (er bod yn rhaid i gymdeithas elusennol anghorfforedig gydymffurfio o hyd â’u rhwymedigaethau o dan gyfraith elusennau o ran ffeilio ffurflenni ac adroddiadau blynyddol a datganiadau o gyfrifon gyda’r Comisiwn Elusennau). Nid oes gan y gymdeithas elusennol anghorfforedig ei hun hunaniaeth gyfreithiol ar wahân ac, yn wahanol i fudiad corfforedig, nid oes ganddi allu cyfreithiol i ddal asedau a delio â nhw, ymrwymo i gontractau na chyflogi cyflogeion yn ei rhinwedd ei hun. Yn lle hynny, bydd yn rhaid i unigolion (Ymddiriedolwyr Rheoli a/neu Ymddiriedolwyr Daliannol fel arfer) gyflawni’r rôl hon yn bersonol “ar ran” y gymdeithas anghorfforedig.

Mewn cyferbyniad, mae gan fudiad corfforedig ei hunaniaeth gyfreithiol ei hun a gall ddal asedau a delio â nhw yn ei rinwedd ei hun ac ymrwymo i drefniadau cyfreithiol, gan gynnwys contractau. Fel arfer, mae statws corfforedig yn darparu atebolrwydd cyfyngedig i’w aelodau, ac ni fydd gan gyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr atebolrwydd personol am y mudiad a’i drafodion (ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, megis torri dyletswyddau cyfarwyddwr).

Beth yw anfanteision strwythur cymdeithas anghorfforedig?

Dyma rai o’r prif anfanteision:

  • Diffyg hunaniaeth gyfreithiol ar wahân: Gan nad oes gan gymdeithasau anghorfforedig hunaniaeth gyfreithiol ar wahân (ar wahân i’r casgliad o unigolion sy’n ffurfio aelodaeth y mudiad), gall fod yn anodd iddynt ymrwymo i gontractau a delio â thrydydd partïon. Bydd aelodau’n dod ar draws problemau tebyg wrth ddelio ag asedau ar ran y gymdeithas, na all fod yn berchen ar asedau yn ei henw ei hun.
  • Atebolrwydd anghyfyngedig posibl i aelodau: Mae’r diffyg hunaniaeth gyfreithiol ar wahân hwn yn golygu bod gan yr unigolion hynny sy’n gyfrifol am reoli’r gymdeithas anghorfforedig neu ddal eiddo ar ei rhan, h.y. Ymddiriedolwyr Rheoli ac Ymddiriedolwyr Daliannol, atebolrwydd anghyfyngedig a’u bod yn atebol ar y cyd ac yn unigol am ddyledion a rhwymedigaethau’r mudiad. O ganlyniad, bydd Ymddiriedolwyr Rheoli ac Ymddiriedolwyr Daliannol yn gyfrifol yn bersonol os caiff y mudiad ei erlyn. Yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau cytundebol a negodwyd yn benodol, nid oes unrhyw derfyn ar atebolrwydd Ymddiriedolwyr Rheoli neu Ymddiriedolwyr Daliannol, felly mae eu hamlygiad posibl yn ddiderfyn a gall eu hasedau personol fod mewn perygl. Mae hyn yn ystyriaeth bwysig iawn i unrhyw un sy’n sefydlu neu’n rheoli clwb neu gymdeithas elusennol.
  • Gweinyddiaeth gymhleth / anymarferol: Os yw’r mudiad elusennol yn debygol o ymgymryd â rhwymedigaethau ac atebolrwydd sylweddol – er enghraifft, os yw’n gweithredu fel cyflogwr, yn berchennog eiddo neu’n ddarparwr gwasanaeth – yna, yn gyffredinol, bydd yn fwy priodol i’r mudiad gael ei gorffori er mwyn osgoi atebolrwydd personol o’r fath.
  • Llai o opsiynau ar gyfer cyllid allanol: Gall y diffyg corffori hefyd olygu bod banciau yn annhebygol o fenthyg arian i’r gymdeithas ac efallai na fydd cyllidwyr grant yn fodlon dyfarnu symiau mawr o arian. Gall hefyd ei gwneud hi’n anoddach derbyn rhoddion unigol a chodi arian trwy ddigwyddiadau gan fod aelodau’r cyhoedd eisiau gweld tystiolaeth yn aml bod eu harian yn mynd i fudiad o sylwedd.

Cyflogaeth

A all cymdeithasau anghorfforedig gyflogi cyflogeion?

Gallant, ond dim ond trwy unigolion sy’n gweithredu ar ran y gymdeithas anghorfforedig. Nid oes gan y gymdeithas ei phersonoliaeth gyfreithiol ei hun, felly ni all weithredu fel cyflogwr yn ei rhinwedd ei hun.

Pwy ddylai lofnodi’r contract cyflogaeth?

Gan nad oes gan gymdeithas anghorfforedig bersonoliaeth gyfreithiol, ni all ymrwymo i gontractau – gan gynnwys contractau cyflogaeth – yn ei henw ei hun. Yn hytrach, rhaid i gontractau cyflogaeth gael eu llofnodi gan un neu fwy o unigolion (Ymddiriedolwyr Rheoli fel arfer) “ar ran” y gymdeithas. Fel arfer, bydd y llysoedd yn ystyried mai contract rhwng y cyflogai ac aelodau’r pwyllgor rheoli neu’r bwrdd ymddiriedolwyr sydd ar waith ar unrhyw adeg yw’r contract cyflogaeth. Felly, er y bydd yr Ymddiriedolwyr Rheoli yn newid dros amser, mae’r rhai sydd yn eu swydd ar yr adeg berthnasol yn debygol o gael eu dwyn yn gyfrifol am y contract cyflogaeth, hyd yn oed os nad oeddent yn ymgymryd â swydd Ymddiriedolwr Rheoli pan lofnodwyd y contract cyflogaeth yn wreiddiol.

Beth os yw’r gymdeithas anghorfforedig yn dod yn rhan o anghydfod cyfreithiol gyda chyflogai?

Ymddiriedolwyr Rheoli sy’n gyfrifol am y contractau cyflogaeth yn y pen draw. Os na all asedau’r gymdeithas anghorfforedig nac unrhyw bolisi yswiriant a drefnwyd gwmpasu’r atebolrwydd am ddyfarniad llys neu dribiwnlys a wneir o blaid y cyflogai, efallai y bydd yn rhaid i’r Ymddiriedolwyr Rheoli gyfrannu’n bersonol tuag at daliad.

Contractau

A all cymdeithas anghorfforedig ymrwymo i gontractau yn ei henw ei hun, neu oes rhaid i unigolion wneud hynny ar ei rhan?

Ni all cymdeithas anghorfforedig ymrwymo i gontractau yn ei henw ei hun ac felly nid yw’n bosibl i drydydd parti ymrwymo i gontract gyda’r gymdeithas anghorfforedig ei hun. Yn lle hynny, rhaid i Ymddiriedolwyr Rheoli lofnodi’r contractau. Fel gyda chontractau cyflogaeth uchod, maent yn gwneud hyn yn eu henw eu hunain, fel arfer ar ran yr aelodau yn eu cyfanrwydd neu’r Ymddiriedolwyr Rheoli eraill (fel grŵp) yn dibynnu ar sail eu hawdurdod i ymrwymo i gontract fel y’i nodir yng nghyfansoddiad y gymdeithas. Wrth wneud hynny, maent yn cymryd cyfrifoldeb personol ac atebolrwydd am y rhwymedigaethau yn y contract (yn amodol ar unrhyw gymal cyfyngu atebolrwydd yn y contract). Yn dibynnu ar y rheolau penodol sy’n llywodraethu’r gymdeithas anghorfforedig a’r ffordd yr ymrwymwyd i gontractau penodol, gall hyn greu beichiau neu anawsterau gweinyddol ychwanegol os bydd unigolion o’r fath yn gadael y mudiad (o ran aseinio’r contractau neu ymrwymo i gontractau newydd).

Mae hyn yn cyferbynnu â hunaniaeth gyfreithiol ar wahân mudiad anghorfforedig lle bydd y mudiad yn parhau i fodoli yn yr un ffurf hyd yn oed os bydd unigolion penodol (fel cyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr) yn gadael.

Sut ddylai cymdeithasau anghorfforedig lofnodi contractau?

Byddai’n arferol i’r rheolau neu’r cyfansoddiad sy’n llywodraethu’r gymdeithas anghorfforedig roi awdurdod i rai o’r aelodau (h.y. yr Ymddiriedolwyr Rheoli) lofnodi ar ran y gymdeithas anghorfforedig. Dylai’r cymal gweithredu nodi enwau’r unigolion ac ym mha rinwedd maent yn llofnodi, e.e. fel aelod o bwyllgor rheoli (neu debyg) y gymdeithas anghorfforedig.

Beth ddylem ei wneud os byddwn yn darganfod ein bod wedi llofnodi contract yn enw’r gymdeithas anghorfforedig?

Gan na all y gymdeithas anghorfforedig fod yn barti i’r contract ac ni all lofnodi contractau yn ei henw ei hun, y ffordd fwyaf priodol o weithredu, fwy na thebyg, yw ail-lofnodi’r contract yn y modd cywir, yn unol â’i rheolau cyfansoddiadol a’i hegwyddorion cyfreithiol cyffredinol.

Beth ddylai cymdeithas gorfforedig ei wneud os bydd angen iddi amrywio neu aseinio contract, ond mae’r llofnodwr gwreiddiol wedi gadael y gymdeithas neu nad oes modd cysylltu ag ef mwyach?

Nodyn ar yr hyn a olygir wrth ‘amrywio’ neu ‘aseinio’ contract. Mae ‘amrywio’ contract yn golygu newid un rhan neu fwy ohono ar ôl iddo gael ei wneud, er enghraifft, faint o arian sy’n daladwy, yr amserlen y mae rhywbeth yn ddyledus neu’r hyn sydd angen ei wneud. Mae ‘aseinio’ contract yn golygu trosglwyddo’r hawliau a’r buddion oddi tano i rywun arall.

Yn gyntaf, mae’n werth gwirio’r contract i gadarnhau a yw’n nodi y gall y contract gael ei amrywio neu ei aseinio gan unigolion eraill (h.y. un o’r Ymddiriedolwyr Rheoli presennol) ar ran pwyllgor rheoli (neu gyfwerth) y gymdeithas anghorfforedig yn hytrach na’r llofnodwr gwreiddiol. Os oedd y llofnodwr gwreiddiol yn gweithredu fel cynrychiolydd neu asiant awdurdodedig ar ran aelodau (neu bwyllgor rheoli) y gymdeithas anghorfforedig yn unol â’i rheolau neu ei chyfansoddiad, yna efallai y bydd rheolau tebyg sy’n caniatáu penodi cynrychiolydd neu asiant awdurdodedig newydd a all amrywio, aseinio neu gymryd unrhyw gamau eraill sy’n angenrheidiol mewn cysylltiad â’r contract.

Pwy sy’n gyfrifol yn gyfreithiol os bydd y gymdeithas anghorfforedig yn torri contract?

Yn gyffredinol, yr Ymddiriedolwyr Rheoli (y rhai sy’n rheoli ac sydd â rheolaeth dros weinyddu’r gymdeithas anghorfforedig) fydd yn wynebu’r risg o atebolrwydd personol, er yn dibynnu ar gyfansoddiad y mudiad a’r contractau y maent wedi ymrwymo iddynt, mae’n bosibl i’r aelodaeth ehangach gael ei chysylltu â hyn hefyd mewn rhai amgylchiadau.

A fydd Ymddiriedolwr Rheoli unigol sy’n llofnodi contract yn atebol yn bersonol, neu a fyddai’n cael ei ystyried yn atebol ar y cyd â’r aelodau yn eu cyfanrwydd neu’r holl Ymddiriedolwyr Rheoli gyda’i gilydd?

Bydd yr Ymddiriedolwr Rheoli sy’n llofnodi’r contract yn atebol yn bersonol fel llofnodwr sy’n ymrwymo i rwymedigaethau o dan y contract. Bydd p’un a fyddai Ymddiriedolwyr Rheoli eraill neu’r aelodaeth ehangach yn atebol ar y cyd â’r Ymddiriedolwr Rheoli sy’n llofnodi yn dibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau pob achos penodol. Bydd nifer o ffactorau yn berthnasol. Y cyntaf yw a oes gan y gymdeithas anghorfforedig unrhyw reolau neu unrhyw gytundeb ynghylch sut y dylid rhannu atebolrwydd a beth mae’r rheolau hynny’n ei ddweud. Gall atebolrwydd aelodau’r pwyllgor neu aelodau cyffredinol, er enghraifft, gael ei gyfyngu gan delerau penodol yn y rheolau neu’r cyfansoddiad. Bydd yr amgylchiadau y llofnodwyd y contract oddi tanynt yn berthnasol hefyd. Gall unigolion sy’n ymrwymo i gontract ar ran y gymdeithas fod yn atebol yn bersonol neu gallant fod yn gweithredu fel asiantau i’r aelodau yn eu cyfanrwydd neu’r pwyllgor rheoli (neu gyfwerth). Os rhoddwyd awdurdod i ymrwymo i’r contract gan y pwyllgor rheoli, yna gall yr Ymddiriedolwyr Rheoli fod yn atebol hefyd.

Dyma un rheswm pam ei bod yn bwysig sicrhau bod ‘rheolau’ sylfaenol yn cael eu hysgrifennu i lawr sy’n nodi nodau’r gymdeithas anghorfforedig, y pwerau sydd ganddi i gyflawni’r nodau hyn a’r gweithdrefnau rheoli, gan gynnwys sut i gau’r gymdeithas, hyd yn oed os nad oes gan y gymdeithas anghorfforedig gyfansoddiad llawn. Mae gan y Comisiwn Elusennau gyfansoddiad enghreifftiol ar gyfer cymdeithasau anghorfforedig y gellir ei ddefnyddio at y diben hwn.

A yw’n bosibl cyfyngu ar atebolrwydd unigol wrth ymrwymo i gontractau?

Gall y contract gynnwys cymal sy’n cyfyngu atebolrwydd i swm penodol. Gallai atebolrwydd personol yr unigolion gael ei gyfyngu i’r arian sydd gan y gymdeithas anghorfforedig, er enghraifft. Fodd bynnag, mae trydydd partïon yn debygol o wthio’n ôl ar hyn os ydynt o’r farn nad yw’r arian sydd gan y gymdeithas yn ddigonol i gwmpasu unrhyw hawliadau posibl.

Os oes gennym hawliad cyfreithiol yn erbyn trydydd parti o dan un o’n contractau, sut allwn ni ei ddwyn? A oes unrhyw risg i’r Ymddiriedolwyr Rheoli?

Gan nad oes gan fudiad anghorfforedig ei bersonoliaeth gyfreithiol ei hun, ni all ddwyn hawliad ei hun. Yn lle hynny, byddai’n rhaid i Ymddiriedolwyr Rheoli ddwyn hawliadau yn bersonol ac yn eu henwau nhw eu hunain. Y risg wrth wneud hynny yw, os nad yw’r hawliad yn llwyddiannus, gall y llys orchymyn i’r hawlydd/hawlwyr dalu costau cyfreithiol y diffynnydd. O ganlyniad, byddai’r Ymddiriedolwyr Rheoli unigol yn atebol am gostau o’r fath. Yn y sefyllfa hon, byddai’n hanfodol sicrhau bod digon o yswiriant wedi’i drefnu i gwmpasu risg atebolrwydd o’r fath.

Tir

A all cymdeithas anghorfforedig fod yn berchen ar eiddo neu ei brydlesu?

Ni all cymdeithas anghorfforedig fod yn berchen ar eiddo na’i brydlesu. Yn hytrach, rhaid i eiddo gael ei ddal gan unigolion ar ran y gymdeithas. Gall hyn gael ei wneud mewn sawl ffordd, gan gynnwys, yn aml, gan rai o’r aelodau fel ymddiriedolwyr ar ymddiriedolaeth ar gyfer yr holl aelodau.

Mae sut mae tir yn cael ei ddal, ac unrhyw rwymedigaethau cysylltiedig, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y gymdeithas anghorfforedig a’r contractau perthnasol. Dylid gofyn am gyngor cyfreithiol os yw’r gymdeithas anghorfforedig yn dal unrhyw eiddo.

Pwy sy’n atebol am rwymedigaethau o dan brydles neu gytundeb eiddo?

Bydd yr unigolion a lofnododd y brydles neu’r cytundeb eiddo perthnasol, sef Ymddiriedolwyr Daliannol, yn atebol yn bersonol am y rhwymedigaethau o dan y cytundeb (er enghraifft, taliadau rhent).

A all cymdeithas anghorfforedig forgeisio tir?

Os nad oes gan gymdeithas anghorfforedig bŵer penodol o dan ei rheolau i fenthyca arian, ni all roi morgais dros ei heiddo i sicrhau gorddrafft neu fenthyciad gan fanc neu drydydd parti (gan gynnwys ei haelodau ei hun). Os oes gan y gymdeithas anghorfforedig bŵer penodol, yna gall benthyciwr ofyn am brawf o’r pŵer hwnnw a phrawf o sut mae’r teitl i’r eiddo yn cael ei ddal.

Beth fydd yn digwydd i’r eiddo os caiff y gymdeithas anghorfforedig ei diddymu?

Os caiff y gymdeithas anghorfforedig ei diddymu ac na fydd yn bodoli mwyach, yna mae’r cwestiwn ynghylch beth fydd yn digwydd i unrhyw asedau sy’n weddill (gan gynnwys eiddo) yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y gymdeithas anghorfforedig. Os yw rheolau’r gymdeithas anghorfforedig yn ymdrin yn benodol â dosbarthu ei heiddo ar yr adeg y caiff ei diddymu (er enghraifft, ei fod yn cael ei gymhwyso at ddiben elusennol arall), yna y rheolau hynny fydd drechaf. Fel arfer, byddai dogfen lywodraethu cymdeithas elusennol anghorfforedig yn cynnwys geiriad i atal unrhyw asedau rhag cael eu dosbarthu i’r aelodau. Yn ymarferol, mae’n debygol y bydd yr eiddo yn cael ei werthu, a byddai’r arian sy’n deillio o hynny yn cael ei roi tuag at ddiben elusennol arall, tebyg unwaith y bydd holl rwymedigaethau’r gymdeithas anghorfforedig wedi’u bodloni.

Beth ddylem ei wneud os byddwn yn darganfod bod tir/eiddo’r gymdeithas anghorfforedig yn cael ei ddal yn enw Ymddiriedolwr Daliannol sydd wedi marw neu y mae’r gymdeithas wedi colli cysylltiad ag ef?

Pan fydd Ymddiriedolwyr Daliannol yn newid (er enghraifft, am eu bod yn ymddeol neu’n marw), mae’r gyfraith gyffredinol ar newid ymddiriedolwyr yn berthnasol. Os nad yw’r Ymddiriedolwyr Daliannol ymadawol yn trosglwyddo’r tir, gall achosi problemau sylweddol yn ddiweddarach, yn enwedig os oes mwy nag un newid wedi bod o ran Ymddiriedolwyr Daliannol neu os yw cyn-Ymddiriedolwr Daliannol yn marw. Er enghraifft, os yw Ymddiriedolwyr Daliannol eisiau gwerthu neu drosglwyddo tir sydd wedi’i gofrestru yn enwau cyn-Ymddiriedolwyr Daliannol, rhaid iddynt ddod o hyd i’r Ymddiriedolwyr Daliannol hynny neu gael tystiolaeth o’u marwolaeth. Byddai hyn yn golygu cysylltu â chynrychiolwyr personol neu ysgutorion yr Ymddiriedolwr ymadawedig. Fel arall, efallai y bydd angen i’r Ymddiriedolwyr Daliannol sy’n weddill wneud cais i’r llys am orchymyn breinio i drosglwyddo perchnogaeth y tir i Ymddiriedolwr arall. Nid yw’r un o’r senarios hyn yn arbennig o ddymunol.

Gellir osgoi rhai o’r anawsterau posibl hyn drwy wneud cais i’r Comisiwn Elusennau am orchymyn i freinio tir a ddelir ar ymddiriedolaeth ar gyfer cymdeithas elusennol anghorfforedig yn y Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau. Bydd y Ceidwad Swyddogol yn dal teitl i dir yr elusen ar ei rhan ac mae’n golygu nad oes angen i Ymddiriedolwyr Daliannol ddal tir yn eu henwau eu hunain (er ar gyfer cymdeithasau anghorfforedig, rhaid i’r Ymddiriedolwyr Daliannol fod yn barti i’r dogfennau cyfreithiol perthnasol, e.e. trawsgludo neu drosglwyddo, prydles neu forgais). Mae hyn yn symleiddio teitl i’r tir ac yn osgoi:

  • Yr angen i drosglwyddo’r tir bob tro y penodir Ymddiriedolwr Daliannol newydd i’r elusen;
  • Y risg y bydd tir elusennol yn parhau i gael ei freinio mewn unigolion nad ydynt yn ymwneud â’r elusen mwyach ac y gallai fod yn anodd dod o hyd iddynt.

Pan fo tir elusennol wedi’i freinio mewn unigolion sydd wedi marw neu na ellir dod o hyd iddynt, efallai mai gwneud cais llwyddiannus am orchymyn i freinio tir elusennol yn y Ceidwad Swyddogol fydd y ffordd orau o berffeithio teitl yr elusen i’r tir. Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn a ddarperir gan y Ceidwad Swyddogol, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y llywodraeth.

Sylwer, hyd yn oed lle mae tir wedi’i freinio yn y Ceidwad Swyddogol, mae’r pŵer a’r ddyletswydd i reoli’r tir yn aros gyda’r Ymddiriedolwyr Rheoli. Hefyd, nid yw’r ffaith bod y tir wedi’i freinio yn y Ceidwad Swyddogol yn rhyddhau’r Ymddiriedolwyr Rheoli o’u rhwymedigaethau mewn perthynas â’r tir. Mae rhwymedigaethau sy’n orfodadwy gan neu yn erbyn y Ceidwad Swyddogol oherwydd bod y tir wedi’i freinio yn y Ceidwad Swyddogol yn orfodadwy gan neu yn erbyn yr Ymddiriedolwyr Rheoli fel pe bai’r tir wedi’i freinio ynddyn nhw.

Trosi

Os yw cymdeithas anghorfforedig yn dymuno corffori, beth all ei wneud?

Os yw cymdeithas elusennol yn penderfynu nad strwythur anghorfforedig yw’r ffurf gyfreithiol orau ar ei chyfer mwyach, yna gall gorffori i ffurfio strwythur arall, megis cwmni cyfyngedig trwy warant, neu fudiad corfforedig elusennol (CIO), er enghraifft. Mae gan y strwythurau hyn bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân ac maent yn elwa o atebolrwydd cyfyngedig. Gall yr elusen ymrwymo i gontractau yn ei henw ei hun yn gyfreithlon, yn hytrach nag yn enwau ei hymddiriedolwyr unigol.

I drosi i CIO, byddai angen i chi sefydlu a chofrestru CIO newydd, trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau eich elusen i’r CIO newydd a chau’r gymdeithas anghorfforedig. Dylid cymryd cyngor cyfreithiol wrth ystyried trosi, gan fod ystyriaethau cyfreithiol ychwanegol yn debygol lle mae cyflogeion a thir yn cael eu trosglwyddo.

Sylwch y bydd y penderfyniad i gorffori yn cynnwys sefydlu endid corfforedig, trosglwyddo asedau’r gymdeithas anghorfforedig iddo, a diddymu’r gymdeithas anghorfforedig. Yn dibynnu ar y rheolau sy’n llywodraethu cymdeithas anghorfforedig, mae’n debygol y bydd angen cymeradwyaeth aelodau’r gymdeithas anghorfforedig ymlaen llaw i wneud hyn. Dylid gofyn am gyngor cyfreithiol cyn bwrw ymlaen lle bo angen.

Beth fydd yn digwydd i gontractau cymdeithas anghorfforedig os bydd yn penderfynu corffori?

Byddai angen i’r contractau hyn gael eu trosglwyddo i’r endid sydd newydd ei gorffori. Gellir gwneud hyn trwy “newyddu’r” contractau perthnasol. Mae newyddiad yn ffordd o drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau parti o dan gontract i drydydd parti. Mae’r broses hon yn gymharol syml a bydd angen caniatâd yr holl bartïon i’r contract gwreiddiol a’r endid newydd y mae’r contract yn trosglwyddo iddo. Fel arall, gellid terfynu’r contractau (os yn bosibl) a llunio contractau newydd gyda’r endid newydd.

Os nad yw cymdeithas anghorfforedig yn corffori, a all yr Ymddiriedolwyr Daliannol neu’r Ymddiriedolwyr Rheoli ddibynnu ar yswiriant i dalu eu rhwymedigaeth bersonol?

Mae llawer o gymdeithasau anghorfforedig yn trefnu yswiriant i amddiffyn unigolion rhag atebolrwydd personol. Mae yswiriant indemniad ymddiriedolwyr a chynhyrchion yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn opsiwn i geisio cwmpasu rhai o’r risgiau. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o risgiau ariannol nad yw yswiriant ar gael ar eu cyfer fel arfer. Er enghraifft, efallai na fydd atebolrwydd o dan gontractau cyflogaeth, cytundebau masnachol neu brydles yn cael ei gwmpasu gan y cynhyrchion yswiriant rydych chi wedi’u dewis. Mae’n hanfodol gwirio a deall cwmpas eich polisi yn ofalus.

Un o’r anfanteision allweddol sydd ynghlwm wrth ddibynnu ar gynhyrchion yswiriant yw y gall trydydd partïon ochel rhag ymrwymo i gontract gyda chymdeithas anghorfforedig (neu roi arian iddi). O ganlyniad, efallai y byddant yn gofyn am fanylion y polisi yswiriant (er mwyn deall i ba raddau y mae’r rhwymedigaethau posibl yn cael eu cwmpasu), yn gofyn am warantau personol gan Ymddiriedolwyr Rheoli, neu hyd yn oed yn gwrthod ymrwymo i gontract gyda’r gymdeithas anghorfforedig.

Er y gall dibynnu ar gynhyrchion yswiriant fod yn ymarferol, y risg gynhenid yw bod atebolrwydd terfynol yn parhau i fod gyda’r Ymddiriedolwyr Rheoli a/neu’r Ymddiriedolwyr Daliannol (yn ôl y digwydd). Yn ymarferol, gall y cwmni yswiriant oedi neu wrthod taliad mewn achos o hawliad neu efallai na fydd unrhyw daliad yswiriant yn cwmpasu’r holl atebolrwydd a wynebir, a allai gael effeithiau ariannol difrifol i’r Ymddiriedolwyr Rheoli neu’r Ymddiriedolwyr Daliannol dan sylw.