| | Hygyrchedd | | nodiadau |
| | Mynedfeydd ac Allanfeydd | | |
| | A yw pob mynedfa yn hygyrch i gadeiriau olwyn gyda rampiau neu fynedfeydd heb risiau? | | |
| | A yw’r drysau’n ddigon llydan i gadeiriau olwyn a dyfeisiau symudedd eraill (lleiafswm lled o 32 modfedd)? | | |
| | A yw drysau’n hawdd eu hagor, o bosibl gydag agorwyr drysau awtomataidd? | | |
| | Parcio a Thrafnidiaeth | | |
| | A oes mannau parcio dynodedig i bobl anabl, ac a ydynt yn agos at fynedfa’r adeilad? | | |
| | A oes trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch gerllaw, neu a oes mannau gollwng ar gyfer pobl ag anableddau? | | |
| | Symud o Gwmpas yn Fewnol | | |
| | A yw cynteddau a choridorau yn ddigon llydan i gadeiriau olwyn (o leiaf 36 modfedd o led)? | | |
| | A yw lloriau’n rhai gwrth-lithr ac yn rhydd rhag rhwystrau? | | |
| | A oes arwyddion clir ar gael i arwain ymwelwyr i wahanol rannau o’r adeilad? | | |
| | Lifftiau a Grisiau | | |
| | Os oes gan yr adeilad nifer o loriau, a oes lifft sy’n hygyrch i’r rhai â namau symudedd? | | |
| | A oes gan y grisiau ganllawiau ar y ddwy ochr? | | |
| | Toiledau | | |
| | A oes toiledau hygyrch gyda lle priodol ar gyfer symud? | | |
| | A oes modd i unigolion sy’n defnyddio cadeiriau olwyn gyrraedd cyfleusterau fel sinciau, peiriannau sebon a sychwyr, a’u defnyddio? | | |
| | Seddi a Darpariaethau | | |
| | A oes seddi dynodedig ar gyfer pobl ag anableddau yn ystod digwyddiadau? | | |
| | A yw’r dodrefn wedi’u gosod i adael lle i gadeiriau olwyn a dyfeisiau symudedd? | | |
| | Systemau Argyfwng | | |
| | A oes larymau argyfwng gweledol a chlywedol ar waith? | | |
| | A oes cynllun ar gyfer gadael yr adeilad sy’n ymdrin ag anghenion pobl ag anableddau? | | |
| | A oes ffordd arall y gall pobl ag anableddau adael yr adeilad pan na fydd y lifft yn gweithio? | | |
| | Cyfathrebu | | |
| | A yw gwybodaeth a gwasanaethau ar gael mewn fformatau sy’n hygyrch i unigolion â nam ar eu golwg neu eu clyw (e.e., Braille, print bras, sain)? | | |
| | A yw staff wedi’u hyfforddi i gynorthwyo pobl ag anableddau amrywiol? | | |
| | Cyfleusterau Cyhoeddus | | |
| | A yw ffynhonnau yfed a ffonau cyhoeddus ar uchder hygyrch? | | |
| | A oes offer hygyrch mewn ardaloedd ffitrwydd, pyllau, a chyfleusterau eraill? | | |
| | Gwefan ac Adnoddau Ar-lein | | |
| | A yw gwefan yr adeilad cymunedol yn hygyrch, gan ddilyn safonau Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG)? | | |
| | A yw adnoddau ar-lein a systemau cadw wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch i bob defnyddiwr? | | |