Rheoli adeiladau – rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Bwriad yr adnodd hon yw rhoi trosolwg o’r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried mewn perthynas â chyflawni eu hymrwymiadau cyfreithiol ac atebolrwydd cost wrth redeg eu hadeilad(au).

Dylid darllen y dudalen hon ar y cyd â ‘Rheoli adeiladu – Gweithrediadau o ddydd i ddydd’ sy’n ymdrin â chyfrifoldebau cyfreithiol eraill megis Iechyd a Diogelwch.

Cyflwyniad

Mae’r wybodaeth yn ymdrin yn benodol â’r canlynol:

  • Ardrethi a threthi
  • Cyflenwadau tanwydd ac ynni
  • Yswiriant

Bydd rhai o’r goblygiadau cyfreithiol a’r atebolrwydd cost hyn yn bethau cyffredinol i bob mudiad, ond bydd eraill yn amrywio yn ôl statws cyfreithiol eich mudiad. Caiff unrhyw amrywiadau eu hesbonio.

Noder, trosolwg yw’r wybodaeth a ddarperir yma. Dylai bwrdd ymddiriedolwyr / rheolwyr eich mudiad ystyried bob amser eu hymrwymiadau fel y cânt eu nodi yn nogfen llywodraethu eu mudiad ac, os oes unrhyw amheuaeth, dylid cael cyngor gan y cyrff perthnasol a / neu’r bobl broffesiynol gymwys, yn enwedig lle caiff risgiau eu nodi. Ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon, rhestrir rhai ffynonellau allweddol sy’n darparu gwybodaeth fanylach ychwanegol.

Ardrethi a Threthi

Fel rheolwyr adeilad cymunedol, rhaid i chi ystyried eich atebolrwydd i dalu ardrethi a threthi i un neu fwy o gyrff cyhoeddus.

Ardrethi

Caiff ardrethi eu casglu gan eich awdurdod lleol ac mae pob mudiad y mae ei amcanion yn rhai elusennol (pa un a yw’n elusen gofrestredig ai peidio) yn gymwys i gael rhyddhad gorfodol o 80% ar Ardrethi Annomestig Cenedlaethol lle defnyddir yr adeilad yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol. Rhaid gwneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn ac mae gan awdurdodau lleol y pwerau i roi rhyddhad ardrethi ychwanegol yn ôl disgresiwn hyd at 100%. Bydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu ar bob achos ar sail teilyngdod. Mae’r meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniad yn cynnwys pethau fel:

  • Hygyrchedd – ar gyfer yr ystod lawn o bobl / grwpiau o fewn cymuned;
  • Y mathau o wasanaethau a ddarperir – er enghraifft, er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau pobl sy’n byw’n lleol, yn enwedig y rheini sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd;
  • A yw ei ddarpariaeth yn rhyddhau’r awdurdod o’r angen i wneud ei ddarpariaeth ei hun, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Mae angen gwneud ceisiadau i’r awdurdod lleol am y rhyddhad ychwanegol yn ôl disgresiwn bob blwyddyn hefyd.

Treth Gorfforaeth

Treth gorfforaeth yw’r dreth a osodir ar elw busnesau a mudiadau sy’n ymwneud â masnachu. Mae’r gyfradd yn amrywio ac fe’i hamlinellir yng nghyllidebau’r llywodraeth. O fis Ebrill 2023/4, gosodwyd y gyfradd ar 25%. Gallai elusennau sy’n ymgymryd â masnach gael eu heithrio o dalu Treth Gorfforaeth mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig:

  • Mae’r gweithgareddau masnachu yn cyd-fynd yn uniongyrchol ag amcanion eich elusen – gelwir hyn yn ‘masnachu prif ddiben’
  • Mae’r gweithgaredd masnachu yn ymwneud yn uniongyrchol â’ch buddiolwyr, er enghraifft; pan fyddwch yn gwerthu nwyddau wedi’u gwneud ganddyn nhw mewn gweithdy gwarchod neu gynllun hyfforddi.
  • Pan fyddwch yn ‘masnachu’n achlysurol’, megis mewn ffair sborion fel rhan o ddigwyddiad codi arian.
  • Pan na fydd eich masnachu yn ‘brif ddiben’ ond ar raddfa fach yn ei hanfod a heb fod yn fwy na ‘Therfynau Trosiant Blynyddol’ penodedig – ar hyn o bryd, mae’r rhain wedi’u gosod ar £5,000 neu 25% o incwm gros yr elusen hyd at uchafswm o £50,000.

Os yw incwm masnachu elusen yn fwy na’r terfynau hyn, gall fod yn ddarostyngedig i Dreth Gorfforaeth ar yr elw o’r gweithgareddau masnachu sydd y tu allan i brif ddiben yr elusen. Bydd masnachu gan fusnesau corfforedig (gan gynnwys Cwmnïau Buddiannau Cymunedol) sydd â nodau cymdeithasol neu fel arall, yn ddarostyngedig i Dreth Gorfforaeth yn naturiol.

Mae’r gyfraith sy’n ymwneud â Threth Gorfforaeth a masnachu ar gyfer elusennau a chwmnïau elusennol yn gymhleth a dylid ond defnyddio’r crynodeb uchod o’r prif ddarpariaethau fel man cychwyn i’ch ymchwil ar nodi atebolrwydd eich mudiad i dalu Treth Gorfforaeth. Mae gan CThEF dudalen benodol ar gyfer elusennau ar ei wefan – gweler ‘Gwybodaeth Bellach’ isod. Fe’ch cynghorir yn gryf i gael cyngor proffesiynol yn y maes hwn bob amser.

Gwybodaeth bwysig

Os bydd CThEF yn gofyn i chi lenwi Ffurflen Treth Gorfforaeth, rhaid i chi ymateb hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus gennych. Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen mewn pryd, gallech gael dirwy.

TAW

Yn aml, mae camsyniad nad yw elusennau yn talu TAW. Er bod rhai eitemau a all fod wedi’u heithrio rhag TAW ar gyfer elusen, nid oes eithriad cyffredinol.

TAW ar Bryniannau: Ychwanegir TAW at bryniannau ar gyfer defnydd personol a busnes, gan gynnwys y rhai ar gyfer adeiladau cymunedol neu elusennau. Fodd bynnag, gall elusennau a mudiadau nid-er-elw fod yn gymwys ar gyfer eithriadau TAW neu ryddhad ar rai pryniannau, megis costau ynni neu nwyddau cymwys. Y cwestiwn allweddol yw a oes angen i chi godi TAW ar gwsmeriaid ar gyfer y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir gennych chi ai peidio?

Yr ateb syml yw y bydd angen i chi gofrestru i gasglu a thalu TAW:

Trothwy Cofrestru TAW: os yw cyfanswm trosiant trethadwy eich mudiad yn fwy na’r trothwy cofrestru TAW (sef £85,000 ym mis Ebrill 2020), yna rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW. Mae hyn yn cynnwys yr holl incwm o weithgareddau nad ydynt wedi’u heithrio rhag TAW, megis gwerthu nwyddau neu wasanaethau (ond nid yw’n cynnwys grantiau, rhoddion, ac ati). Mae’n hanfodol monitro trosiant yn ofalus i sicrhau cydymffurfedd.

Incwm wedi’i Eithrio ac Incwm Di-dreth: Pan fyddwch yn cyfrifo trosiant, mae incwm o weithgareddau fel llogi ystafelloedd, grantiau, rhoddion, ac incwm buddsoddi fel arfer wedi’i eithrio rhag TAW. Mae bob amser yn syniad da cadarnhau hyn gyda CThEF neu arbenigwr TAW, oherwydd gall rheolau TAW fod yn gymhleth iawn, yn enwedig yn achos incwm defnydd cymysg (e.e. llogi a gosod ystafelloedd).

Fe’ch cynghorir i ofyn cyngor CThEF neu rywun proffesiynol sydd â gwybodaeth arbenigol. Os yw cyfanswm eich trosiant yn agosáu at y trothwy a/neu os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi gofrestru ai peidio, byddai’n werth holi CThEF gan fod y dirwyon am beidio â chofrestru neu gofrestru’n hwyr yn gallu bod yn sylweddol.

Ffurflenni TAW a Chadw Cofnodion: Ar ôl cofrestru ar gyfer TAW, rhaid i fudiadau gadw cofnodion manwl o’r TAW a dalwyd ar bryniannau (TAW wrth brynu) a’r TAW a godir ar werthiannau (TAW wrth werthu). Fel arfer caiff ffurflenni TAW eu ffeilio bob chwarter, a byddwch yn talu’r gwahaniaeth rhwng TAW wrth werthu a TAW wrth brynu i CThEF. Os ydych wedi talu mwy o TAW wrth brynu na’r TAW a godwyd wrth werthu, gallwch adennill y gwahaniaeth.

Mae faint o TAW rydych yn ei chodi ar eich cwsmeriaid yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n ei werthu. Ym mis Ebrill 2020 ceir tair cyfradd TAW:

Y ‘gyfradd safonol’ a osodir ar 20%,

‘Cyfradd is’ o 5%

‘Cyfradd sero’ sy’n golygu bod TAW yn dechnegol berthnasol ond y gyfradd yw 0%. Mae angen i chi gofnodi pryniannau cyfradd sero ar eich ffurflenni TAW o hyd.

Mae nifer o fudiadau’n cael eu dal allan gyda TAW pan fyddant yn gwneud prosiectau wedi’u cyllido gan grant ac, yn achosion prosiectau adeiladu, gall hyn weithiau ddod i ddegau o filoedd o bunnoedd. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn astudio’r canllawiau gan gyllidwyr ar TAW pan fyddwch yn gwneud cais am y grant. Dylech hefyd ystyried sut y gallai prosiect wedi’i gyllido gan grant effeithio ar statws cofrestru TAW eich mudiad. Unwaith eto, dylech geisio’r cyngor perthnasol gan CThEF a siarad â chyfrifydd neu arbenigwr TAW.

Os mai elusen yw eich mudiad, yna bydd gofyn i chi dalu TAW o hyd os bydd eich mudiad wedi cyrraedd y trothwy trosiant, ond gallai rhai o’r nwyddau a’r gwasanaethau a gyflenwir gennych fod â chyfradd sero. Mae’r rhain yn cynnwys consesiynau ar ddigwyddiadau codi arian penodol, gwerthu nwyddau a roddwyd, mathau penodol o brosiectau adeiladu, cymhorthion anabledd, hysbysebu, ac ati (am ragor o arweiniad ar hyn dylech gysylltu â CThEF). Hefyd, mae’n werth cadarnhau nad yw’r gyfradd safonol yn cael ei chodi ar yr eitemau hyn.

I grynhoi – mae TAW ar gyfer elusennau a mudiadau cymunedol yn gymhleth, yn enwedig o ran yr hyn sydd wedi’i eithrio neu sydd ar gyfradd sero. Mae’n hanfodol deall eich rhwymedigaethau TAW penodol, yn enwedig os yw eich incwm yn nesáu at y trothwy cofrestru TAW, neu os ydych yn ymgymryd â phrosiectau adeiladu sylweddol neu brosiectau sylweddol a ariennir gan grantiau. Cofiwch bob amser ofyn cyngor CThEF neu arbenigwr TAW i sicrhau cydymffurfedd ac i osgoi costau annisgwyl.

Dyn yn gwneud DIY mewn ystafell mewn tŷ wrth i gi bach ei wylio

Gwybodaeth

Os oes gennych chi is-gorff masnachol, bydd yn elwa ar rai ond nid pob un o freiniau TAW ei riant elusen, cyhyd â bod cytundeb ffurfiol i elw masnachol ar werthiannau perthnasol gael ei drosglwyddo i’r elusen.

Cyflenwadau tanwydd ac ynni

Caiff cyflenwadau tanwydd ac ynni adeilad a ddefnyddir yn gyfan gwbl at ddibenion domestig neu ar gyfer gweithgareddau elusennol nad ydynt yn rhai busnes (‘dibenion cymwys’) eu trethu ar 5% (mae llogi ystafelloedd yn weithgaredd busnes, felly hefyd aelodaeth sy’n rhoi buddion sylweddol).

Os defnyddir o leiaf 60% o’r adeilad at ddiben cymwys, yna gellir prisio’r cyflenwadau tanwydd ac ynni ar 5%; os defnyddir llai, gellir dosrannu cyflenwadau tanwydd ac ynni rhwng defnyddiau cymwys ac anghymwys, gyda’r gyfran anghymwys wedi’i threthu ar 20%. Yn ogystal â’r enghreifftiau hyn, caiff cyflenwadau tanwydd ac ynni o dan symiau isel penodol a nodir eu trethu ar 5%, beth bynnag fo’r defnydd a wneir o’r adeilad.

Treth yw’r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL) a osodir ar yr ynni a ddefnyddir gan fusnesau a’r sector cyhoeddus. Daeth i rym ar 1 Ebrill 2001, a chafodd ei chyflwyno fel rhan o ymrwymiad Prydain o dan Gytundeb Kyoto i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Fel arfer, mae’r CCL yn daladwy ar gyflenwadau trydan, nwy (gan gynnwys nwy petroliwm hylifol – LPG) a glo i fusnesau.

Nid yw olew tanwydd yn ddarostyngedig i CCL, gan ei fod eisoes yn ddarostyngedig i dollau cartref. Mae’r rheolau atebolrwydd i dalu’r dreth hon yn dilyn rheolau TAW cyfredol, fel na fydd CCL yn cael ei chodi ar gyflenwadau y codir treth ar gyfradd o 5% arnynt ar hyn o bryd, ond bydd cyflenwadau y codir tâl o 20% arnynt ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i CCL.

Felly, nid yw’r ardoll yn berthnasol i ynni a ddefnyddir gan elusennau cofrestredig at ddibenion nad ydynt yn rhai busnes. Caiff y dreth ei chasglu gan gyflenwyr ynni a’i thalu ganddynt i Dollau Tramor a Chartref EF. Caiff ei hychwanegu at filiau ynni cyn TAW ac, er nad oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny, mae’n debygol y bydd cyflenwyr yn ei dangos fel eitem ar wahân ar filiau.

Ni chodir CCL ar gyflenwadau tanwydd at ddefnydd domestig, a chaiff safleoedd busnes eu heithrio lle mai dim ond ychydig o danwydd a ddefnyddir. Gellir lliniaru atebolrwydd i dalu CCL hefyd drwy fesurau i leihau defnydd o ynni – drwy well inswleiddio, gosod ffenestri gwydr dwbl, defnyddio bylbiau golau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, prynu cyfarpar sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, ac yn y blaen. Gellir hefyd leihau atebolrwydd i dalu CCL drwy dderbyn opsiwn i gymryd cyflenwad trydan cyfan, neu ran ohono, o ffynonellau ynni adnewyddadwy sydd wedi’u hieithrio.

Bydd CThEF yn pennu union ddiffiniad y ffynonellau hyn, a bydd y diffiniad yn newid o bryd i’w gilydd wrth i dechnoleg ddatblygu. Byddant yn cynnwys ffynonellau megis ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, ynni dŵr ar raddfa fach, cnydau ynni, ynni o wastraff, nwyon tirlenwi, ynni tonnau ac ynni’r haul.

Fel arfer, mae trydan a gynhyrchir yn y ffyrdd hyn yn ddrytach na thrydan a gynhyrchir drwy ddulliau mwy confensiynol, o ganlyniad i’r costau cyfalaf uchel a (fel arfer) graddfa gymharol fach gosodiadau newydd, ond bwriedir i’r eithriad rhag talu CCL wrthbwyso’r costau hyn.

Os ydych yn credu nad oes angen i chi dalu CCL ond mae eich cyflenwr ynni yn codi amdani, dylech gysylltu â’ch cyflenwr yn y lle cyntaf.

Yn yr un modd, dylai eich cyflenwr allu rhoi cyngor a chymorth i chi ar faterion eraill yn ymwneud â CCL. Fel arall, dylai eich swyddfa CThEF allu eich helpu.

Costau dŵr a charthffosiaeth

Codir costau dŵr a charthffosiaeth gan gwmnïau dŵr wedi’u preifateiddio. Mae gennych chi’r opsiwn o gael eich cyflenwad dŵr drwy fesurydd er mwyn talu am y dŵr a ddefnyddir gennych. Bydd angen i chi dalu tâl sefydlog o hyd, waeth faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio. Does dim cyfradd dreth ar gyflenwadau dŵr, oni bai bod y cyflenwad ar gyfer cwsmer diwydiannol.

Mae angen i chi wneud cais bob blwyddyn i’r cwmni dŵr er mwyn cael eich cyflenwad dŵr ar y gyfradd sero. Cyfrifoldeb y cyflenwr dŵr yw penderfynu a yw’r cwsmer yn defnyddio dŵr mewn cysylltiad â gweithgaredd diwydiannol ai peidio. Os ydych yn credu bod TAW yn cael ei hychwanegu’n anghywir, dylech gysylltu â’r cwmni dŵr perthnasol yn y lle cyntaf.

Dylai eich cwmni dŵr allu rhoi syniad bras i chi o faint o ddŵr y byddwch yn ei ddefnyddio, a’r gost. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am osod y mesurydd hefyd, ond bydd rhai cwmnïau’n gosod mesurydd yn rhad ac am ddim, ac yn caniatáu blwyddyn i chi gymharu costau.

Gwybodaeth

Gall naill ai’r awdurdod dŵr neu beirianwyr preifat osod y mesurydd dŵr. Mae rhai cwmnïau’n cynnig arbedion gwarantedig.

Argymhellir eich bod yn darllen y ‘print mân’ cyn llofnodi unrhyw gytundeb.

OFWAT – y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr – yw’r mudiad sy’n gwarchod buddiannau defnyddwyr dŵr. Mae ganddi 11 o swyddfeydd rhanbarthol.

Yswiriant

Mae angen i fudiadau drefnu yswiriant ar gyfer adeiladau sy’n eiddo iddynt. Os oes ganddynt brydles, y landlord sydd fel arfer yn yswirio’r adeilad, ond dylid cadarnhau telerau’r brydles bob amser er mwyn nodi’r sawl sy’n gyfrifol am yswiriant. Y risgiau neu’r peryglon yr yswirir yn eu herbyn fel arfer yw: dinistr neu ddifrod a achosir gan dân, mellt, ffrwydrad, storm a thymestl, llifogydd ac ymsuddiant.

Wrth drefnu yswiriant ar gyfer adeilad dylid ystyried y canlynol:

  • Rhaid yswirio yn erbyn cost adfer llawn yr adeilad, sy’n ymgorffori eitemau megis cynnydd mewn costau o ganlyniad i chwyddiant (e.e. os caiff y gwaith adeiladu ei atal tra ymgeisir am ganiatâd cynllunio); cost ffioedd proffesiynol (e.e. penseiri), a chost dymchwel/clirio safle.
  • Mae ymddiriedolwyr elusennau o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd yr holl gamau rhesymol i amddiffyn asedau’r elusen, gan gynnwys darparu yswiriant digonol. Mae ganddynt bwerau o dan Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925, a.19(1) a

Deddf Ymddiriedolwyr 2000 i yswirio unrhyw adeilad elusennol a thalu’r premiymau o gronfeydd yr elusen.

Pan fo’r mudiad yn landlord ac yn gyfrifol am yswirio’r adeilad, neu’n denant sydd am gadarnhau addasrwydd yr yswiriant a ddarperir gan y landlord, dylid ystyried y canlynol:

  • Os nad oes modd i rywun ddefnyddio’r adeilad, mae’r polisi yn gwarchod colledion rhent am gyfnod rhesymol (e.e. 2 flynedd). Caiff y landlord sicrwydd o rent, a delir yn uniongyrchol gan yr yswirwyr, ac ni fydd y tenant yn gorfod ysgwyddo’r baich o dalu am adeilad nad yw’n gallu ei ddefnyddio.
  • Dylid gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu arian yswiriant rhwng y landlord am gost adfer yr adeilad a’r tenant i wneud yn iawn am gostau unrhyw welliannau.

Yswiriant cynnwys

Dylid yswirio cynnwys adeiladau busnes yn erbyn difrod a cholled. Gallai fod yn well trefnu polisi ‘pob risg’ ar gyfer yswirio eitemau gwerthfawr, sy’n gwarchod yn erbyn difrod a achosir gan y rhan fwyaf o ddigwyddiadau (ac sy’n gallu yswirio eiddo pan fo y tu allan i’r adeilad), ond nad yw, yn gyffredinol, yn gwarchod yn erbyn rhyfel; halogiad niwclear; ôl traul, cythrwfl a therfysg sifil.

Mae ymddiriedolwyr elusennau o dan rwymedigaeth gyfreithiol i drefnu yswiriant digonol, ond mewn sefyllfaoedd penodol gallai hyn fod yn rhy ddrud os yw gwerth yr eitemau i’w hyswirio yn rhy uchel (e.e. arddangosfeydd mewn amgueddfa). Mewn sefyllfaoedd o’r fath, rhaid cael arweiniad gan y Comisiwn Elusennol.

Wrth drefnu yswiriant cynnwys bydd angen i chi benderfynu a ddylai’r polisi:

  • Fod ar sail ‘hen am newydd’
  • Bod yn gysylltiedig â mynegai
  • Cynnwys colledion a achoswyd drwy ladrad
  • Cynnwys difrod damweiniol
  • Cynnwys nwyddau neu arian parod wrth gael eu cludo
  • Cynnwys eitemau penodol o werth uchel, megis cyfrifiaduron.

Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

Nid yw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn orfodol ond caiff ei ystyried yn hanfodol os yw’ch mudiad yn ymwneud â’r cyhoedd drwy ddefnyddio’i adeilad, y gwasanaethau a ddarperir ganddo neu ei weithwyr. Mae’r math hwn o yswiriant yn cynnwys marwolaeth, anaf, salwch neu ddifrod i eiddo gan aelodau o’r cyhoedd o ganlyniad i weithgarwch y mudiad.

Mae nifer o gontractau gwasanaeth yn gofyn i ddarparwr drefnu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Fel arfer, ni fydd yn cynnwys atebolrwydd a gynhwysir mewn polisïau eraill, megis:

  • Atebolrwydd cyflogwr
  • Cerbydau modur
  • Atebolrwydd sy’n codi o dan gontract
  • Esgeuluster proffesiynol
  • Atebolrwydd cynnyrch

Fel arfer, mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn ymestyn i wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr (er y dylid cadarnhau hyn gyda’ch brocer/cynghorydd).

Pan gaiff gwirfoddolwyr eu cynnwys, mae’n bwysig bod yr yswiriant yn eu gwarchod pan fyddant yn gweithio yn nhai pobl eraill, neu mewn eiddo arall neu wrth ymgymryd â gweithgareddau allanol, megis cynlluniau chwarae neu brosiectau amgylcheddol.

Dylech gadarnhau hefyd nad yw gwirfoddolwyr sy’n hŷn neu’n iau nag oed penodol wedi’u hepgor o dan y polisi, yn ogystal â hysbysu gwirfoddolwyr bob amser ynglŷn â’r yswiriant sy’n berthnasol iddyn nhw’n gyffredinol.

Fel arfer, nid yw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn cynnwys contractwyr sy’n darparu gwasanaeth i elusen yn awtomatig. Fel arfer, mae contractwyr yn gyfrifol am eu hyswiriant eu hunain, gan gynnwys atebolrwydd cyhoeddus, oni nodir fel arall yn y contract gyda’r elusen. Mewn rhai achosion pan fo’r yswiriant yn cynnwys contractwr, fe’i cynghorir i gael ei yswiriant ei hun oherwydd gallai’r elusen wneud hawliad yn erbyn y contractwr.

Gwybodaeth bellach

Elusennau a Threth (Saesneg yn unig) CThEF

Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig)

Cydnabyddiaeth: Mae rhywfaint o’r canllaw uchod wedi’i dynnu a’i grynhoi at ein defnydd o ‘Managing Your Community Building’ gan Community Matters a Peter Hudson (2000)

Ymwadiad: Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un yn gweithredu neu’n gwrthod gweithredu arni.