Rheoli adeiladau – Gweithrediadau bob dydd (1)
Wedi diweddaru Medi 2025
Trosolwg
- Cyflwyniad
- Hygyrchedd
- lechyd a Diogelwch
- Diogelwch tân
- Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
- Gwybodaeth bellach
Cyflwyniad
Mae’r adnodd hon wedi’i dylunio i roi trosolwg o’r prif bethau y bydd angen i reolwyr adeiladau cymunedol eu hystyried mewn perthynas â rhedeg eu hadeilad(au) bob dydd. Dylid ei darllen ar y cyd â ‘Rheoli adeiladau – Rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwydd cost” a’r taflenni gwybodaeth “Rhestr wirio Adeiladau Cymunedol’ (ar gael yn fuan).
Rheoli adeiladau – Rhwymedigaethau cyfreithiol ac atebolrwyddau cost
Mae’r wybodaeth yn ymdrin yn benodol â’r canlynol:
- Hygyrchedd
- Iechyd a Diogelwch
- Diogelwch tân
- Yr amgylchedd a chynaliadwyedd
Bydd rhai o’r materion hyn yn gymwys i bob mudiad yn gyffredinol, ond bydd eraill yn amrywio yn ôl y gwasanaethau a’r gweithgareddau penodol a ddarperir.
Noder, trosolwg yw’r wybodaeth a ddarperir yma. Dylai bwrdd ymddiriedolwyr / rheolwyr eich mudiad ystyried bob amser eu hymrwymiadau fel y cânt eu nodi yn nogfen llywodraethu eu mudiad ac, os oes unrhyw amheuaeth, dylech gael cyngor gan y cyrff perthnasol a / neu’r bobl broffesiynol gymwys, yn enwedig lle caiff risgiau eu nodi. Ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon, nodir rhai ffynonellau allweddol sy’n darparu gwybodaeth fanylach ychwanegol.
Hygyrchedd

Mae cynllunio ar gyfer ‘mynediad cynhwysol’ at adeiladau cymunedol yn rhan greiddiol o rôl rheolwr adeiladau cymunedol – wedi’r cwbl, diben adeiladau cymunedol yn eu hanfod yw bod yn hygyrch i bawb
dylid edrych y tu hwnt i’r mynediad ffisegol at adeilad yn eu cymuned. Fodd bynnag, wrth ystyried hygyrchedd, adeilad, mynediad ffisegol at adeilad, ac ystyried y ffordd y caiff eich adeilad ei reoli a sut y caiff eich staff a’ch gwirfoddolwyr eu hyfforddi hefyd.
Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) 1995, sydd bellach yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb (2010), yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i unrhyw un wahaniaethu yn erbyn unigolyn ar sail ei anabledd. O dan y Ddeddf, mae gan bwyllgorau rheoli sy’n gyfrifol am adeiladau cymunedol ddyletswydd gyfreithiol i wneud ‘addasiadau rhesymol’ i’w hadeilad(au) er mwyn sicrhau nad yw rhywun anabl yn cael ei drin yn llai ffafriol na rhywun arall.
Archwiliadau Mynediad
Byddai’n syniad da i reolwyr adeiladau sydd eisiau cydymffurfio â’r Ddeddf gynnal ‘Archwiliad Mynediad’ fel man cychwyn. Gall cynnal archwiliad llawn fod yn broses gymhleth sy’n cymryd amser – byddai’n well gadael y broses hon i rywun proffesiynol sydd â’r wybodaeth a’r profiad gofynnol. Mae adnoddau gwych ar gael gan Anabledd Cymru i helpu gyda hyn.
Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu na allwch ddechrau edrych ar rai o’r materion allweddol mwy amlwg sy’n gymharol hawdd i’w datrys tra eich bod yn aros i archwiliad llawn gael ei gynnal. Mae digonedd o lenyddiaeth a chanllawiau ar gael ar sut i fynd ati, a darperir rhai cyfeiriadau at arferion gorau ar ddiwedd y Daflen Wybodaeth hon.
Pan fydd eich mudiad yn adolygu (archwilio) hygyrchedd y gwasanaethau rydych chi’n eu darparu, bydd angen i chi ystyried sut mae eich adeilad yn gweithio o ran pethau fel:
Materion hygyrchedd ffisegol:
- Cyrraedd a pharcio. Y dirwedd a chelfi stryd. Llwybrau at y fynedfa.
- Grisiau, rampiau a newidiadau eraill i lefel y tir. Arwynebau. Mynedfeydd a throthwyon.
- Cyfleusterau derbynfa a chynteddau. Cynllun mewnol a hwylustod symud o gwmpas y tu mewn
- Lifftiau, grisiau, rampiau a newidiadau eraill i lefel y tir.
- Drysau mewnol. Arwynebau mewnol.
- Arwyddion a dynodi llwybrau.
- Celfi.
- Gwasanaethau a chyfleusterau.
- Toiledau, ystafelloedd newid ac ati.
- Gwresogi, golau, awyru ac aerdymheru. Acwsteg.
- Cyfarpar a gweithdrefnau brys. Allanfeydd a mannau lloches.
- Cynnal a chadw.
Materion hygyrchedd ehangach:
- Diwallu anghenion aelodau staff/gwirfoddolwyr ag anableddau.
- Gwasanaeth cwsmeriaid er mwyn sicrhau bod eich staff a’ch gwirfoddolwyr yn groesawgar ac yn gymwynasgar.
- Sicrhau bod holl bolisïau eraill eich mudiad yn mynd i’r afael â hygyrchedd.
- Hyrwyddo a marchnata eich gwasanaeth a chyfleuster cymunedol mewn modd cynhwysol sydd wedi’i ddylunio i fod yn addas i bawb.
- Mae cynnwys hygyrchedd yn ystyriaeth allweddol wrth wneud penderfyniadau prynu.
- Darparu’r holl wybodaeth mewn fformatau hygyrch yn ôl yr angen a sicrhau bod digon o wybodaeth ar gael i bobl nad ydynt wedi ymweld â’r lle eto.
Ar ôl i chi gynnal archwiliad, neu o leiaf adolygiad, o hygyrchedd eich adeilad gan ystyried yr uchod, mae’n siŵr y byddwch wedi nodi nifer mawr o faterion a chamau gweithredu y gallwch eu cymryd i roi sylw iddynt. Mae’n bosibl na fydd eich mudiad yn gallu cyflawni’r holl gamau gweithredu ar unwaith, ond dylech allu dangos bod gennych gynllun clir ar waith gydag amserlenni i fodloni ysbryd y Ddeddf.
Hefyd, bydd asesu pa mor bell y byddwch chi’n mynd i wneud ‘addasiadau rhesymol’ yn benderfyniad y bydd angen i chi ei wneud drosoch chi’ch hun. Mae amrywiaeth o gyrff cyllido a fydd yn fodlon ystyried cefnogi’r addasiadau drytach sydd angen i chi eu gwneud, ac mae consesiynau TAW ar gael hefyd ar nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir i elusen at ddibenion gwella’r mynediad i bobl ag anableddau.
Prosiectau i godi estyniadau ac adeiladau newydd
Os yw eich mudiad yn awyddus i ymestyn eich adeilad(au) cymunedol neu ddatblygu cyfleuster cymunedol newydd, bydd ystyried hygyrchedd hefyd yn dod o dan gylch gwaith Rhan M y Rheoliadau Adeiladu, sy’n gofyn i adeiladau fod yn ‘ddiogel ac yn gyfleus o fewn rheswm ar gyfer pobl anabl’ o ran mynediad ffisegol i’r adeilad, y tu mewn i’r adeilad ac o ran defnyddio ei gyfleusterau.
Iechyd a Diogelwch
Mae gan reolwyr adeiladau ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â darpariaethau dau ddarn pwysig o ddeddfwriaeth: Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd.
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Bydd y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn gymwys i’ch adeilad cymunedol hyd yn oed os nad oes gennych chi staff cyflogedig, oherwydd mae hefyd yn ymwneud â phobl eraill sy’n defnyddio adeilad a chyfarpar mudiad, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, gwirfoddolwyr ac aelodau pwyllgor. Mae’r rheoliadau o dan y Ddeddf yn ymdrin â saith maes:
- Rheoli iechyd a diogelwch
- Iechyd, diogelwch a llesiant yn y gweithle
- Sgriniau arddangos (er enghraifft, sgriniau cyfrifiaduron)
- Cyfarpar diogelu personol
- Darparu a defnyddio cyfarpar gwaith
- Codi a chario
- Rhagofalon tân
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynhyrchu amrywiaeth eang o wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cyfrifoldebau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a dylech gyfeirio at ei lenyddiaeth i gael trosolwg mwy cynhwysfawr nad yw’n bosibl yma. Wedi dweud hynny, isod ceir crynodeb byr o rai o’r prif ddarpariaethau a fydd yn berthnasol i reolwyr adeiladau cymunedol:
- Dylech gynnal ymarfer ‘asesu risg’. Mae’r HSE wedi cynhyrchu taflen wybodaeth ‘Rhestr Wirio Iechyd a Diogelwch ar gyfer Neuaddau Pentref a Chymunedol’ sy’n darparu man cychwyn gwych ar gyfer hyn. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio a/neu gymryd camau yn erbyn y risg a achosir gan asbestos, clefyd y llengfilwyr a Phrofion PAT Blynyddol. Mae angen llawer o bolisïau a gweithdrefnau i gydymffurfio â’r gwahanol reoliadau, a thrwy fynd drwy’r rhestr wirio byddwch yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio.
- Dylid adolygu’r trefniadau ar gyfer iechyd a diogelwch yn rheolaidd a nodi’n ysgrifenedig os oes gennych chi bum cyflogai neu fwy.
- Dylai fod gennych weithdrefnau priodol ar waith hefyd os bydd argyfwng – gan gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl anabl yn ogystal â phobl nad ydynt yn anabl.
- Rhaid cadw eich adeilad cymunedol a’i gyfarpar mewn cyflwr da.
- Rhaid i’r system awyru fod yn effeithiol ac yn addas, a rhaid cadw tymheredd rhesymol (yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu tymheredd o 16°C o leiaf) a rhaid cael thermomedr ar y safle.
- Rhaid i’r golau fod yn addas ac yn ddigonol — gyda golau naturiol lle bynnag y bo’n bosibl.
- Rhaid cadw eich safle’n lân, ac ni ddylid gadael i sbwriel gasglu.
- Rhaid i’ch staff a’ch gwirfoddolwyr allu mynd a dod o’u desgiau a symud o amgylch eu hystafelloedd gwaith yn hawdd ac yn ddiogel. Rhaid i unrhyw weithfan (e.e. desg, cadair, cyfrifiadur) fod yn addas i’r defnyddiwr a’i waith.
- Rhaid i’r lloriau fod yn addas ac yn ddiogel; rhaid cael canllawiau ar risiau (os na fyddant yn achosi rhwystr). Rhaid cymryd camau i atal unrhyw un rhag cael ei anafu gan wrthrych sy’n cwympo a rhaid nodi unrhyw ardaloedd peryglus yn glir.
- Rhaid gallu agor a chau ffenestri, ffenestri to ac awyrwyr a’u glanhau yn ddiogel ac yn hawdd.
- Sicrhau bod Boeleri Nwy yn cael eu gwasanaethu’n flynyddol.
- Ni ddylai cerddwyr fod mewn perygl oherwydd cerbydau.
- Rhaid cael toiledau addas sydd wedi’u hawyru a’u goleuo’n ddigonol.
- Rhaid darparu dŵr yfed hygyrch a chwpanau a chael arwyddion clir ar eu cyfer.
- Lle y bo’n briodol, rhaid darparu cyfarpar a dillad diogelu personol (PPE) i staff a gwirfoddolwyr er mwyn eu diogelu rhag risgiau iechyd a diogelwch, a rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol er mwyn sicrhau bod y cyfarpar a’r dillad yn cael eu defnyddio.
- Rhaid i gyfarpar gwaith fod yn briodol ar gyfer ei ddiben a’i gadw mewn cyflwr da. Rhaid cadw cofnod cynnal a chadw llawn a rhaid rhoi hyfforddiant llawn i ddefnyddwyr a’u rheolwyr.
Dylai cyflogwyr, lle bynnag y bo’n bosibl, osgoi’r angen i staff godi a chario pethau a allai achosi anaf.
Hylendid Bwyd Yng Nghymru, rhaid i grwpiau cymunedol sy’n darparu bwyd i’r cyhoedd, boed hynny drwy gaffis, digwyddiadau, neu fentrau elusennol, gydymffurfio â chyfreithiau hylendid bwyd i sicrhau diogelwch bwyd. Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (FHRS) a chofrestru busnes bwyd yn ofynion allweddol:
- Cofrestru Busnes Bwyd:
- Rhaid i unrhyw fudiad sy’n trin, yn paratoi, neu’n gweini bwyd yn rheolaidd (e.e., caffis neu ddigwyddiadau cymunedol) gofrestru fel busnes bwyd gyda’i awdurdod lleol.
- Mae cofrestru am ddim a rhaid ei gwblhau o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau gweithrediadau bwyd.
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (FHRS):
- Ar ôl cofrestru, mae awdurdodau lleol yn archwilio’r safle i asesu arferion hylendid, gan gynnwys glendid, storio bwyd, paratoi, a chadw cofnodion.
- Rhoddir sgôr hylendid bwyd rhwng 0 (angen gwella ar frys) a 5 (da iawn), y mae’n rhaid ei harddangos yn gyhoeddus.
- Pwy Sydd Angen Cofrestru?
- Grwpiau cymunedol sy’n darparu gwasanaethau bwyd rheolaidd neu ddigwyddiadau untro yn ymwneud â bwyd.
- Mae’n arbennig o ofynnol i grwpiau sy’n paratoi bwydydd risg uchel (e.e. prydau wedi’u coginio) gofrestru.
- Hyfforddiant a Chydymffurfedd:
- Dylai gwirfoddolwyr a staff sy’n trin bwyd gwblhau hyfforddiant hylendid bwyd sylfaenol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
- Efallai y bydd angen dogfennaeth briodol, megis gwybodaeth am alergenau a chofnodion rheoli tymheredd.
Cymorth Cyntaf
Fel rheolwr adeilad cymunedol, mae’n ofyniad cyfreithiol arnoch i gael rhyw fath o ddarpariaeth cymorth cyntaf, ond gall lefel y ddarpariaeth honno amrywio’n fawr. Felly, fe’ch cynghorir i gael o leiaf un (dau yn ddelfrydol) o swyddogion cymorth cyntaf cymwys yn yr adeilad (neu o leiaf ar alwad) lle y bo’n bosibl.
Rhaid i focsys cymorth cyntaf gynnwys eitemau y mae swyddog cymorth cyntaf wedi’i hyfforddi i’w defnyddio yn unig, ac ni ddylent gynnwys unrhyw feddyginiaeth (er enghraifft, aspirin neu
baracetamol). Gwnewch yn siŵr bod rhywun yn gyfrifol am sicrhau bod y bocs cymorth cyntaf yn llawn (cadwch restr ar y bocs yn nodi’r hyn y dylai ei gynnwys).
Cofiwch
Sicrhewch fod yr holl ddefnyddwyr yn gwybod lle mae’r bocs cymorth cyntaf yn cael ei gadw ac, os oes yna swyddogion cymorth cyntaf cymwys, eu bod yn gwybod pwy ydynt a sut i gysylltu â nhw.
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Mae’r Rheoliadau’n gosod dyletswydd ar reolwyr adeiladau cymunedol i asesu a oes unrhyw sylweddau peryglus neu risgiau yn y gweithle ac, os felly, i ymdrin â nhw’n ddiogel.
Rhaid i chi sicrhau nad oes neb yn dod i gysylltiad ag unrhyw sylweddau peryglus sy’n bresennol ar eich safle neu, os nad yw hyn yn bosibl, fod y cysylltiad yn cael ei reoli.
Diogelwch tân
Ymdrinnir â diogelwch tân mewn adeiladau cymunedol yng Ngorchymyn Diogelwch Tân 2005. O dan y Gorchymyn, pwyllgor rheoli eich adeilad(au) sy’n gyfrifol am gynnal ei asesiad risg diogelwch tân ei hun, a gallai eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol gadarnhau hwn a’ch safle er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio.
Mae angen i’r asesiad risg gael ei gynnal gan un neu fwy o ‘Unigolion Cymwys’ fel y’u penodir gan eich ‘Unigolyn Cyfrifol’ – y pwyllgor rheoli fydd hwn ar gyfer adeilad cymunedol.
Ar ddiwedd y Daflen Wybodaeth hon, cyfeirir at ganllaw manwl ar gyfer pobl cymwys ar gynnal Asesiad Risg Diogelwch Tân ar gyfer eich adeilad.
Wedyn, mae angen i’r unigolyn/unigolion cymwys a benodir wneud y canlynol:
- Sicrhau bod yr adeilad a’r cyfarpar diogelwch tân angenrheidiol yn cael eu cadw mewn cyflwr effeithlon ac yn gweithio’n iawn ac, os bydd angen, yn cael eu trwsio gan rywun cymwys ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau gan y gwneuthurwyr.
- Gwneud yn siŵr bod yr holl bwyllgor yn cael eu hymgynghori a’u hysbysu ynghylch materion sy’n ymwneud â diogelwch tân, yn benodol; darparu cyfarwyddiadau priodol ar sut i ddefnyddio’r cyfarpar, sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o unrhyw risgiau a nodwyd a’r camau a gymerwyd i leihau’r risg, sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol o unrhyw gynigion ar gyfer gwella rhagofalon tân, presenoldeb sylweddau peryglus a’r risg i ddefnyddwyr ar y safle, y system y cytunwyd arni ar gyfer cysylltu â’r gwasanaethau brys a gadael yr adeilad os oes angen, sicrhau bod y pwyllgor yn cydweithio i gadw’r adeilad yn ddiogel rhag tân a’i effeithiau, a pheidio â gwneud dim sy’n rhoi eu hunain, pobl eraill neu’r adeilad mewn perygl.
Dylai’r rhai sy’n llogi’r adeilad gael cyfarwyddiadau ar y gweithdrefnau tân a sut i ddefnyddio’r cyfarpar. Mae’r Pwyllgor Rheoli yn gyfrifol am sicrhau bod y rhai sy’n llogi’r adeilad yn ymwybodol o’r gweithdrefnau hyn a’u bod yn penodi rhywun i fod yn gyfrifol am hyn yn y digwyddiad. Mae’n arfer da i gynnwys hyn yn eich Cytundeb Llogi a sicrhau bod y rhai sy’n llogi’r adeilad yn llofnodi copi ohono ac yn ei ddychwelyd i’r pwyllgor.
Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Gall gwneud gwelliannau i berfformiad amgylcheddol y gwasanaethau a’r cyfleusterau rydych chi’n eu cynnig yn eich adeiladau cymunedol nid yn unig helpu i leihau eich ôl-troed amgylcheddol, ac felly effaith eich mudiad ar yr amgylchedd, ond gall hefyd arbed arian i’ch mudiad – llawer o arian mewn rhai amgylchiadau.
Os nad ydych eisoes wedi dechrau mynd ati i wneud hyn, yna’r peth cyntaf i’w wneud yw cynnal ‘Prawf Iechyd Cynaliadwyedd’ – adolygiad syml o’ch sefyllfa bresennol o ran amrediad o ffactorau sy’n ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Gallai fod yn ddefnyddiol gofyn am gymorth gweithiwr proffesiynol i wneud hyn, ond bydd y rhan fwyaf o’r problemau y byddwch chi’n ymdrin â nhw ond yn gofyn am synnwyr cyffredin, felly ni fydd angen gwybodaeth arbenigol bob amser.
Gweler wedi’u rhestru isod y prif bethau y dylech edrych arnynt gyda’ch gilydd, ynghyd â rhai awgrymiadau defnyddiol ar sut i fwrw ati:
- Defnydd o ynni – Dewch i ddeall faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio drwy ddarllen eich mesuryddion yn rheolaidd neu gael mesuryddion deallus wedi’u gosod. Edrychwch ar batrymau’r defnydd o ynni (bob dydd / wythnos / tymor) a nodwch lle gellid gwneud arbedion. Gosodwch reolyddion ynni a defnyddiwch nhw’n gyson – thermostatau ystafell a/neu falfiau thermostat ar reiddiaduron. Ewch ati i raglennu amserau gwresogi ar eich boeler a gosodwch dymheredd eich dŵr poeth ar 60°C (dim mwy, dim llai). Newidiwch hen osodiadau golau ac offer eraill sy’n defnyddio ynni am fodelau newydd sy’n arbed ynni. Uwchlaw popeth, anogwch eich holl staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i ‘leihau a diffodd’.
- Ffynonellau ynni adnewyddadwy – gallai fod potensial ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle ar raddfa fach e.e. solar thermol neu baneli solar ffotofoltaig gyda lle i gadw batri, neu o bosibl cynnwys boeler biomas. Fodd bynnag, argymhellir bod asesiad dichonoldeb manwl yn cael ei gomisiynu sy’n cynnwys: arfarniad o’r safle a’r cyfleoedd posibl, asesiad o dechnolegau penodol, dadansoddiad ariannol ar gyfer pob technoleg hyfyw sy’n seiliedig ar amcangyfrifon cost cyfalaf ac arbedion posibl. Gallai gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru fod yn fan cychwyn da.
- Defnydd o ddŵr – Darllenwch eich mesurydd dŵr yn rheolaidd a gwirio’ch system am ollyngiadau. Ystyriwch osod dyfeisiau arbed dŵr ar dapiau dŵr, toiledau, troethfeydd, cawodydd ac ati. Ceisiwch annog eich holl staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i ‘arbed dŵr’ lle bynnag y gallant. Dylech ymgyfarwyddo â ble mae eich draeniau’n arllwys ac atal unrhyw un rhag taflu unrhyw beth i lawr y sinc neu’r draen a allai fod yn niweidiol / gwenwynig.
- Gwastraff – Cofiwch y tri pheth hyn – ‘Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu’ – wrth gyflawni pob un o’ch gweithgareddau a gwasanaethau. Yn y swyddfa, ceisiwch leihau gwastraff pan allwch chi drwy argraffu llai a mynd yn ddi-bapur lle bynnag y bo’n bosibl.
- Pan fydd angen i chi argraffu dogfen, defnyddiwch y swyddogaeth argraffu dwy ochr ar eich argraffydd ac ailddefnyddiwch hen bapur lle y bo’n bosibl.
- Ewch ati i gael gwared â’r defnydd o blastigau untro.
- Pan fydd gwastraff, gwnewch yn siŵr bod gan eich staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid gyfle i’w ailgylchu drwy ddarparu biniau i’w wahanu.
- Trefnwch fod eich holl wastraff ailgylchu a gwastraff ‘bin du’ yn cael eu gwaredu gan gludydd gwastraff trwyddedig. Sicrhewch fod unrhyw wastraff peryglus posibl, e.e. batris wedi’u defnyddio, tiwbiau fflworolau, hen baent, yn cael ei waredu ar wahân ac yn unol â’r canllawiau a ddarparwyd gan eich cludydd gwastraff trwyddedig.
- Pryniadau – Rhowch bolisi ‘prynu gwyrdd’ ar waith ar gyfer yr holl nwyddau swyddfa a brynir a phrynwch bapur wedi’i ailgylchu. Os oes gennych chi gaffi, prynwch gyflenwadau o siopau lleol a phrynwch fwydydd organig a masnach deg pan fyddan nhw ar gael. Amnewidiwch unrhyw gemegau cryf y gallech chi fod yn eu defnyddio ar hyn o bryd i lanhau am fersiynau sy’n fwy ecogyfeillgar. Ceisiwch weithio tuag at sicrhau bod eich holl ddeunyddiau crai yn 100% naturiol ac yn dod o ffynonellau moesegol.
- Teithio – Os ydych chi’n rhedeg cerbydau ‘cwmni’ o’ch adeiladau, gwnewch yn siŵr bod eich staff a’ch gwirfoddolwyr yn cynllunio llwybrau er mwyn osgoi teithiau diangen, ac anogwch nhw i yrru mewn modd sy’n arbed tanwydd (ac yn ddiogel!). Gwnewch wiriadau cynnal a chadw rheolaidd ar eich cerbydau – gan wneud gwiriad wythnosol hanfodol o bwysedd teiars. Anogwch staff, gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhannu ceir, cerdded neu feicio yn ôl ac ymlaen i’ch adeilad pan fo’n ymarferol i wneud hynny.
Yr unig ddeddfwriaeth bwysig sydd angen i reolwyr adeiladau fod yn ymwybodol ohoni yw Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, y mae angen iddynt gydymffurfio â hi, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i bob mudiad sy’n cynhyrchu gwastraff sicrhau ei fod yn cael gwared ag ef drwy Gludydd Gwastraff Trwyddedig – gallai hwn olygu’r awdurdod lleol drwy ei wasanaeth ‘gwastraff busnes’ neu gontractwr gwastraff preifat.
Mae cael rheolaeth dros yr holl bethau uchod yn hanfodol. Byddai’n syniad da i enwebu rhywun – aelod o staff neu wirfoddolwr – i fod yn ‘Hyrwyddwr Gwyrdd’ i’r mudiad. Rhywun a fyddai’n gallu helpu i ysgogi’r ‘gwelliant parhaus’ sydd wrth wraidd arfer da wrth reoli’r amgylchedd.
Os ydych chi eisiau mynd gam ymhellach wedyn, mae nifer o systemau rheoli amgylcheddol achrededig y gallech edrych arnynt, ond bydd eich camau mewnol eich hun yn ddigonol gan amlaf. Wedi dweud hynny, dylech sicrhau bod gan eich mudiad ‘Bolisi Amgylchedd a Chynaliadwyedd’ sy’n nodi’r hyn rydych chi’n ei wneud i atal llygredd, lleihau eich effaith ar yr amgylchedd a chydymffurfio â’r rhwymedigaethau cyfreithiol.
Gall materion gwyrdd fod yn blatfform ar gyfer cysylltu â phobl hefyd. Mae pobl yn llawer mwy ymwybodol o’r materion y dyddiau hyn ac, o ganlyniad, maen nhw’n llawer mwy tebygol o gymryd rhan mewn ymgyrch werdd wedi’i chynllunio’n dda. Ceir digonedd o syniadau da ar y rhyngrwyd os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, felly ewch ati o ddifrif i arbed arian wrth achub y blaned!
Gwybodaeth bellach
Hygyrchedd
Pecyn Cymorth Y Ffordd Ymlaen (Saesneg yn unig) – Anabledd Cymru
Adnoddau (Saesneg yn unig) – Anabledd Cymru
Canllawiau ar y rheoliadau adeiladu: Rhan M (Saesneg yn unig) – Llywodraeth Cymru
Iechyd a Diogelwch
Diogelwch tân
Asesiad Risg Diogelwch Tân: Mannau Ymgynnull Bach a Chanolig (Saesneg yn unig) – Llywodraeth y DU
Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Gwybodaeth ac Adnoddau (Saesneg yn unig) – Canolfan y Dechnoleg Amgen
Adnoddau (Saesneg yn unig) – Centre of Sustainable Energy
Adnoddau (Saesneg yn unig) – Yr Ymddiriedolaeth Garbon
Cydnabyddiaeth:
Mae rhywfaint o’r canllaw uchod wedi’i dynnu a’i grynhoi at ein defnydd o:
‘Managing Your Community Building’ gan Community Matters a Peter Hudson (2000)