Llais y Goedwig – Adroddiad Gwerthuso Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru
Mae Llais y Goedwig wedi derbyn Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru CGGC ers Hydref 2023, gan eu galluogi i weithio gyda grŵp ymroddedig o Awdurdodau Lleol yng Nghymru i’w helpu i ddiffinio a gwella dulliau a phrosesau ar gyfer gwirfoddoli ar wahanol lefelau.
Mae hyn wedi amrywio o gefnogi grwpiau gwirfoddoli dan reolaeth yr awdurdod lleol mewn ardaloedd gwyrdd, hyfforddiant a marchnata, cymorth gyda recriwtio a chylchlythyrau a helpu gyda chytundebau rheoli ar gyfer grwpiau gwirfoddoli awtonomaidd sydd eisiau rheoli ardaloedd gwyrdd sy’n eiddo i’r Awdurdod Lleol.
Yn y 3 mis olaf o’r cyllid grant cychwynnol, rydym hefyd wedi ehangu cwmpas a chyrhaeddiad y wybodaeth rydym yn ei gasglu i bob Awdurdod Lleol ar draws Cymru drwy weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) er mwyn arolygu holl Gynghorau Cymru a’u Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol ynghylch eu hanghenion gwirfoddoli
Nodau’r Prosiect
- Helpu awdurdodau lleol i wneud eu mannau gwyrdd yn fwy hygyrch i wirfoddolwyr a sefydliadau amgylcheddol drwy gyfleoedd gwirfoddoli da
- Darparu cefnogaeth wedi’i theilwra gyda systemau a phrotocolau ar gyfer gwirfoddoli, gan ychwanegu at eich strategaeth eich hun ar fannau gwyrdd.
- Helpu gyda chysylltiadau adrannol mewnol i gefnogi cyfleoedd gwirfoddoli ac iechyd a llesiant i holl drigolion eich sir.
Adnoddau