Hybu’r Gymraeg drwy wirfoddoli
Trosolwg
- Cyflwyniad
- Marchnata eich cyfleoedd gwirfoddoli
- Y Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau a gweithrediadau o ddydd i ddydd
- Creu cyfleoedd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg
- Rhagor o wybodaeth
Cyflwyniad
Deddfwriaeth
Mae Cymru’n wlad ddwyieithog ac mae ganddi uchelgais gref i gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg. Yng Nghymru, mae gan y Gymraeg statws swyddogol sy’n golygu na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw’r ddeddfwriaeth a greodd safonau’r Gymraeg. Maent yn berthnasol i bob corff cyhoeddus gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Pharciau Cenedlaethol. Mae’r safonau’n fodel o arfer da i bob mudliad yng Nghymru.
Comisiynydd y Gymraeg
Crëwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Mesur yn rhoi swyddogaethau a phwerau rheoleiddio penodol i’r Comisiynydd, gan gynnwys gosod a gorfodi safonau’r Gymraeg a phenderfynu ar gwynion ac ymchwiliadau. Mae’r Comisiynydd bellach yn cefnogi Mudiadau Trydydd Sector i gynhyrchu eu Cynlluniau Hybu’r Gymraeg.
Y Cynnig Cymraeg yw’r gydnabyddiaeth a roddir gan y Comisiynydd i sefydliadau sydd â chynllun cryf. Mae’n gyfle i drawsnewid eich ymgysylltiad â’r cyhoedd drwy ddangos cymaint rydych yn ymfalchïo yn y ffaith eich bod yn cynnig gwasanaethau yn Gymraeg.
Pam ystyried y Gymraeg?
“Mae’r Gymraeg yn un o drysorau Cymru. Mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Ein huchelgais ni fel Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o bobl yn gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050. Does dim dwywaith fod hon yn uchelgais heriol, ond rydym yn credu ei bod yn her werth chweil a bod angen i ni osod uchelgais o’r fath os ydym am sicrhau hyfywedd yr iaith ar gyfer cenedlaethau i ddod.” (Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr)
Mae gan y sector gwirfoddol ran amlwg i’w chwarae yn yr uchelgais hon yn enwedig wrth i ni drafod cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, mewn gwasanaethau ac, wrth gwrs, yn gymdeithasol. Gyda bron i 44,000 o fudiadau gwirfoddol yn gweithio yng Nghymru a 124,800 yn gweithio yn y trydydd sector, does dim amheuaeth bod ganddo ddylanwad sylweddol.
Marchnata eich cyfleoedd gwirfoddoli
Deunyddiau hyrwyddo
Yn yr un modd â hysbysebion ar-lein a gwefannau dwyieithog, mae darparu deunyddiau marchnata ffisegol fel posteri a thaflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg yn cael ei annog yn fawr. Mae cymorth ar gael gan Gomisiynydd y Gymraeg a gwasanaethau fel ‘Helo Blod’, gwasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg cyflym a chyfeillgar am ddim a fydd yn eich helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich mudiad. Gall defnyddio ychydig o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ymchwilio i fanteision marchnata dwyieithog gan fudiadau’r sector gwirfoddol, yn fwy cyffredinol a chanfuwyd ei bod yn fuddiol. Mae’n helpu i sefydlu ethos Cymraeg mudiad, sy’n cael ei werthfawrogi gan siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd.
Roedd 70% o’r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg o’r farn y dylai elusennau sy’n gweithredu yng Nghymru farchnata’n ddwyieithog. Mae cyfathrebu dwyieithog o’r fath yn ychwanegu hygrededd ac yn dangos ymrwymiad i gymdeithas a diwylliant Cymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran mudiadau Trydydd Sector sydd â phencadlys y tu allan i Gymru.
Y Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau a gweithrediadau o ddydd i ddydd
Wrth i fudiadau geisio gwella’r ffyrdd y maent yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, bydd potensial cynyddol i wirfoddolwyr ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg i gynorthwyo gyda hyn.
Er enghraifft, mae canllawiau ar gael, yn seiliedig ar ymchwil, ar sut i gynnal hyfforddiant chwaraeon yn ddwyieithog. Gellir trosglwyddo’r technegau a ddatblygir yn y maes hwn i feysydd eraill lle byddai’n addas cyfathrebu’n ddwyieithog â grwpiau.
Wrth i’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol barhau i gynyddu, mae yna le i bostio sylwadau yn Gymraeg a Saesneg ac efallai y bydd gwirfoddolwyr yn gallu cynorthwyo gyda hyn.
Dylid egluro anghenion penodol ar gyfer sgiliau Cymraeg wrth hysbysebu rolau gwirfoddoli, gan gynnwys y math o sgìl (gwrando a siarad, darllen, ysgrifennu) a lefel hyfedredd.
Cofiwch: Efallai y bydd gan wirfoddolwyr presennol sgiliau iaith gwerthfawr hefyd y gellid eu defnyddio’n well er budd eich mudiad a’i fuddiolwyr.
Creu cyfleoedd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg
Mae gwirfoddoli’n cael ei gydnabod fel proses ddwyffordd sydd o fudd i’r mudiad gwirfoddoli a’r gwirfoddolwyr eu hunain. Bydd rhaglenni gwirfoddoli da yn chwilio am ffyrdd y gall gwirfoddolwyr dyfu a datblygu, boed hynny er budd personol a mwynhad, i ennill sgiliau bywyd neu i wella eu gallu i gael gwaith.
Y nod wrth gyflwyno mesurau’r Gymraeg yw bod y rhai sy’n dymuno byw eu bywydau bob dydd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru yn gallu gwneud hynny.
Drwy wirfoddoli, gall mudiadau gynnig amgylchedd lle gall pobl gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg neu ymarfer eu sgiliau ieithyddol er mwyn gwella eu hyder a’u hyfedredd mewn lleoliad anffurfiol. Gallant roi cyfle i bobl ifanc sy’n gadael y system addysg Gymraeg barhau i ddefnyddio eu Cymraeg ac, i’r rhai sy’n dal mewn addysg, gall fod yn ffordd o ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Rhagor o wybodaeth

’Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg: Canllaw i fudiadau yn y trydydd sector’
Wedi’i ariannu gan Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, mae’r fframwaith hwn yn rhan o gynllun ehangach gan Mentrau Iaith Cymru i greu sefyllfa lle mae gan fudiadau gwirfoddol ddealltwriaeth lawn o sut i fynd ati i ddenu gwirfoddolwyr sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg, a lle mae cynnydd yn nifer y bobl sy’n gwirfoddoli ac yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.