Grant Strategol Hwb Gwirfoddoli – Adolygiad o’r Prosiect

Yn wreiddiol, dyfarnwyd cyllid i Innovate Trust drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru ar gyfer eu prosiect Insight Investigators. Sicrhaodd y prosiect hwn werthusiad trylwyr o Insight dan arweiniad cymheiriaid.

Ap cymunedol rhad ac am ddim Innovate Trust yw Insight ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Yma, gall unigolion ymuno â gweithgareddau, nodi diweddariadau a gwneud ffrindiau. Nod Insight yw mynd i’r afael ag arwahanrwydd trwy ddarparu ap sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn lle gellir cynnwys unigolion yn ddigidol mewn lle diogel a chefnogol.

Trwy’r gwerthusiad hwn, fe wnaethon nhw canfod fod unigolion eisiau gwirfoddoli a chael mynediad at wybodaeth addas am wirfoddoli mewn man lle maent eisoes yn teimlo’n ddiogel. Yma, daeth y syniad o’r Hwb Gwirfoddoli.

Dyfarnwyd eu hail rownd o gyllid i Innovate Trust a wnaeth eu cynorthwyo drwy’r gwaith o greu’r Hwb Gwirfoddoli. Darganfyddwch fwy yma. Mae’r Hwb Gwirfoddoli yn ofod ar-lein wedi’i gyd-gynhyrchu lle gall oedolion ag anableddau dysgu edrych ar adnoddau wedi’u teilwra, rhannu syniadau a straeon gyda’u cyfoedion a darganfod cyfleoedd addas sydd wedi’u rhestru mewn ffordd hygyrch.

Lawrlwytho adnoddau