Denu gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg

Trosolwg

Cyflwyniad

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnig syniadau ymarferol ar sut i ddenu gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg i’ch mudiad.

Mae Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru (Cymraeg 2050) yn rhagweld y bydd nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn cynyddu, gyda tharged o 1 filiwn erbyn y flwyddyn 2050.

Drwy ddenu mwy o wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith, gall mudiadau chwarae eu rhan yn y strategaeth genedlaethol hon drwy gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau anffurfiol, cymdeithasol a thrwy gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog.

Creu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg

Yn gyntaf, mae’n bwysig nodi’r angen yn eich mudiad. Ar gyfer mudiadau lle nad Cymraeg yw’r brif iaith, gofynnwch i chi’ch hun:

  • Pam rydych chi eisiau denu gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg
  • Beth yw natur y gymuned rydych chi’n ei gwasanaethu
  • Beth yw anghenion neu sgiliau’r rhai sy’n cymryd rhan (staff a gwirfoddolwyr)

Gofal Cymdeithasol Cymru

Gallwch chi wneud hyn gan ddefnyddio modelau amrywiol, a all gynnwys archwiliad sgiliau iaith mewnol ar gyfer eich mudiad. Dyma adnodd enghreifftiol gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Darllen mwy

Holiadur Sgiliau Iaith

Gall cynnal ‘Holiadur Sgiliau Iaith’ fod yn broses syml ac yn gyfle i helpu i nodi unrhyw fwlch sgiliau neu lefel Cymraeg staff a gwirfoddolwyr.

Darllen mwy

Wrth hysbysebu cyfle i wirfoddoli, gwnewch yn glir pa lefel o hyfedredd sydd ei hangen a ph’un a oes angen sgiliau cyfathrebu llafar a/neu ysgrifenedig. Er enghraifft, ydych chi’n awyddus i recriwtio siaradwr Cymraeg rhugl ar gyfer rôl cyfeillio, cynnig cyfle i wirfoddolwyr ddysgu ac ymgolli yn yr iaith, neu allwch chi gynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn achlysurol.

Cofiwch

Mae cyfieithu’n sgìl arbenigol ac mae’n well gadael gwaith cyfieithu ffurfiol i’r rhai sy’n gymwys i wneud y gwaith ac sy’n cael eu talu i wneud hyn. Gall fod yn anodd cynrychioli eich mudiad wrth ddelio â’r cyfryngau. Dylid cynnig hyfforddiant i gynrychiolwyr a’u briffio ar yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Efallai na fydd rhai siaradwyr Cymraeg yn teimlo’n hyderus. Drwy baratoi a chael sgwrs ymlaen llaw â chynrychiolydd y cyfryngau ni ddylai hyn fod yn broblem, yn enwedig os mai dim ond ‘adrodd ei stori’ mae rhywun yn ei wneud.

Cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn eich mudiad

Dangoswch fod eich mudiad yn gweld gwerth siarad Cymraeg drwy wneud yn siŵr bod deunyddiau Cymraeg wrth law ac yn cael eu harddangos a nodi siaradwyr Cymraeg (gan ddefnyddio’r bathodyn Iaith Gwaith) fel bod aelodau’r cyhoedd, staff a gwirfoddolwyr eraill yn gallu siarad â nhw yn Gymraeg.

Mae’n golygu creu diwylliant lle mae defnyddio Cymraeg a Saesneg yw’r norm, wrth gyfathrebu’n ffurfiol ac yn anffurfiol. Drwy wneud hyn, gallwch chi roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg wella eu sgiliau. Gall rolau lle gellid defnyddio Cymraeg mwy anffurfiol fod yn gyfle da i ddysgwyr ‘roi cynnig arni’ a magu hyder. Gellid annog gwirfoddolwyr i ddefnyddio cymaint o Gymraeg ag y gallant mewn digwyddiadau. Gellid defnyddio cortynnau gwddf ‘Dysgwr’ (sydd ar gael i’w harchebu am ddim ar wefan Comisiynydd y Gymraeg gyda’r brand Iaith Gwaith).

Cyrraedd siaradwyr Cymraeg

Mae gwirfoddoli’n rhan naturiol o fywyd mewn cymunedau yng Nghymru lle mae pobl wedi bod yn gyfarwydd â helpu ei gilydd a chymryd rhan yn eu cymunedau. Yn aml, mae hyn yn digwydd heb iddo gael ei gydnabod fel ‘gwirfoddoli’. Mae ‘gwirfoddoli’ yn aml yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy’n ymwneud â’r sefydliad a mudiadau ffurfiol.

Efallai y bydd angen i fudiadau fabwysiadu dull gwahanol a sensitif wrth recriwtio gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg.

  • Sicrhau bod gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg yn teimlo bod croeso iddynt yn eich mudiad. Gellid gwneud hyn yn amlwg yn eich polisi cyfle cyfartal neu amrywiaeth.
  • Bydd delwedd ddwyieithog ar gyfer y mudiad yn dangos ei ymrwymiad i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
  • Bydd darparu gwybodaeth ddwyieithog gan ddefnyddio iaith anffurfiol, gyfeillgar yn dangos ymrwymiad y mudiad i gynnig dewis iaith yn fewnol ac yn allanol.
  • Cysylltwch yn Gymraeg yn gyntaf, er enghraifft drwy rwydweithiau a grwpiau Cymraeg, cylchlythyrau neu’r cyfryngau cymdeithasol. Rhestrir rhai sianelau posibl yn adran 5 isod.

Cyfleu cyfleoedd i wirfoddoli yn Gymraeg

Chwiliwch i weld pa fudiadau Cymraeg eu hiaith sy’n gweithio yn eich ardal (gall eich Menter Iaith leol roi rhestr o gysylltiadau i chi) a gweithiwch gyda nhw i gyrraedd y gymuned Gymraeg ei hiaith, trefnwch gyfarfodydd, arddangosfeydd ac apeliwch am wirfoddolwyr.

Er enghraifft, gallech chi gysylltu â’r canlynol:

  • Clybiau Ffermwyr Ifanc
  • Urdd Gobaith Cymru (mae grwpiau lleol ledled Cymru)
  • Capeli ac eglwysi Cymraeg
  • Ysgolion lleol (gan gynnwys Cymdeithasau Rhieni/Athrawon)
  • Darparwyr Dysgu Cymraeg
  • Merched y Wawr (Mudliad Menywod Cymru)
  • Gwawr (Mudiad Menywod Cymru)
  • Mentrau Iaith
  • Mudiad Ysgolion Meithrin (mae grwpiau lleol ledled Cymru)
  • Cynghorau gwirfoddol sirol a chanolfannau gwirfoddoli lleol
  • Corau a chymdeithasau Cymraeg
  • Eisteddfodau lleol ac is-bwyllgorau’r Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau cerdd cenedlaethol (fel yr Ŵyl Cerdd Dant) sy’n ymweld â’r ardal. Bydd is-bwyllgorau’n cynnwys pobl leol.

Cysylltu â’r cyfryngau Cymraeg

Er enghraifft:

  • Radio Cymru
  • Slot Cymraeg ar yr orsaf radio leol
  • Slot Cymraeg mewn papurau newydd lleol
  • Papurau Bro misol – mae rhestr o’r rhain ar wefan Y Lolfa
  • Golwg (cylchgrawn Cymraeg cenedlaethol)
  • Y Cymro (papur newydd Cymraeg cenedlaethol)
  • Yr Herald Gymraeg (atodiad yn y Daily Post erbyn hyn)
  • Rhaglenni S4C fel Prynhawn Da a Heno
  • Golwg360
  • Lleol.net
  • Gwahanol dudalennau Cymraeg ar Facebook a Twitter, fel Radio Beca, Be sy ‘mlaen
  • Yr Awr Gymraeg – awr Gymraeg ar Twitter bob nos Fercher (#yagym)

Gallant chwilio yn y ddwy iaith, er mai dim ond cyfleoedd sydd wedi’u hysbysebu’n ddwyieithog y gellir chwilio amdanynt yn y ddwy iaith.

Dylai cyfleoedd gwirfoddoli sy’n cynnig y cyfle i siarad Cymraeg gael eu tagio gyda ‘Cymraeg’ er mwyn gallu dod o hyd iddynt mewn canlyniadau chwilio. Mae’n ddefnyddiol i ychwanegu cymaint o wybodaeth â phosibl yn y disgrifiad naratif, megis ‘Mae’r swydd hon yn gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd/achlysurol’.

Recriwtio

Dylid dilyn arferion cyfle cyfartal wrth recriwtio a dethol gwirfoddolwyr Cymraeg neu Saesneg eu hiaith. Ceisiwch sicrhau bod aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i helpu gwirfoddolwyr os bydd angen.

Mae gwirfoddoli’n fater o ddewis a dylai gwirfoddolwyr gael yr amser a’r cyfle i ystyried a ydynt am ymgymryd â’r tasgau a gynigir iddynt. Ni ddylent deimlo o dan unrhyw bwysau i ymgymryd â thasgau os ydynt yn teimlo eu bod yn amhriodol.

Dylai mudiadau ymdrechu i ddarparu cyfnod cynefino a chyrsiau hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg os bydd angen. Efallai y bydd angen hyfforddiant ar wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg i’w galluogi i gyflawni eu gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg, er enghraifft, i ddysgu sgiliau ysgrifennu neu eirfa arbenigol.

Rhagor o wybodaeth

Hyrbu’r Gymraeg drwy Wirfoddoli

Hyrbu’r Gymraeg drwy Wirfoddoli
Woman holds a Welsh flag

Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg: Canllaw i fudiadau yn y trydydd secto

Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg: Canllaw i fudiadau yn y trydydd secto
Group of volunteers

Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr

Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr