Mae’r sampl hyn o gytundebau gwirfoddolwyr yn fan cychwyn i’ch helpu i ddrafftio un sy’n addas ar gyfer eich mudiad. Mae croeso ichi eu haddasu i weddu’ch gofynion. Mae’r cyntaf yn fwy ffurfiol a mwy manwl na’r ail. Mae cytundeb gwirfoddolwyr yn helpu’r mudiad a’i wirfoddolwyr drwy sicrhau bod disgwyliadau yn eglur. Mae hefyd yn mynd i’r afael â’r posibilrwydd annhebygol o ystyried gwirfoddolwyr yn gyflogai yng ngolwg y gyfraith. Fel rheol mae cytundeb gwirfoddolwyr yn un o gyfres o ddogfennau gwirfoddoli, sydd yn cynnwys, er enghraifft, polisi gwirfoddolwyr a disgrifiad rôl.

Lawrlwytho adnoddau