Cynnwys Pobl Ifanc fel Gwirfoddolwyr

Trosolwg

Mae’r daflen wybodaeth hon wedi’i chynllunio i helpu eich mudiad i gydnabod gwerth cynnwys pobl ifanc (14–25 oed) fel gwirfoddolwyr a chynnig cyngor ymarferol ar sut i greu amgylchedd cynhwysol, sy’n gyfeillgar i ieuenctid. P’un a ydych chi’n newydd i gynnwys pobl ifanc neu’n bwriadu gwella eich dull presennol, bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i ddenu, ymgysylltu, amddiffyn a chefnogi gwirfoddolwyr ifanc mewn ffyrdd ystyrlon.

Ar y dudalen hon

Pam cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr?

Meddyliwch y tu hwnt i’r prosiect. Gall cynnwys pobl ifanc helpu’ch mudiad i gyrraedd ei genhadaeth a’i nodau mewn ffyrdd arloesol. Mae gwirfoddolwyr ifanc yn dod â syniadau newydd, egni, a safbwyntiau ffres. Pan fyddant yn gwirfoddoli yn ifanc, maen nhw hefyd yn fwy tebygol o barhau i wirfoddoli fel oedolion – dod yn gefnogwyr, ymddiriedolwyr ac eiriolwyr yn y dyfodol.

Manteision gwirfoddoli i bobl ifanc

  • Ennill profiadau ystyrlon a chael hwyl
  • Cael effaith gadarnhaol yn eu cymuned
  • Datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu
  • Hybu iechyd meddwl a llesiant
  • Meithrin cysylltiadau ar draws cenedlaethau
  • Archwilio llwybrau gyrfa ac ennill profiad ymarferol
  • Dysgu sgiliau newydd a meithrin hunanhyder
  • Mynediad at hyfforddiant, achrediad neu gymwysterau
  • Cryfhau gobeithion addysg a chyflogaeth yn y dyfodol

Manteision i fudiadau wrth gynnwys gwirfoddolwyr ifanc

  • Dod â syniadau ffres, creadigrwydd, a safbwyntiau amrywiol
  • Cynyddu amrywiaeth yn eich sylfaen wirfoddolwyr
  • Ymgysylltu â rhwydweithiau newydd, gan gynnwys teuluoedd ac ysgolion
  • Cael mynediad at gyfleoedd cyllido amgen ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar ieuenctid
  • Datblygu arweinwyr ac eiriolwyr y dyfodol dros eich achos

Paratoi i gynnwys gwirfoddolwyr iau (dan 18 oed)

A all pobl dan 18 oed wirfoddoli?

Gallant! Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran cyfreithiol ar gyfer gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod y rolau yn addas ac yn ymarferol i bobl ifanc, gan ystyried eu hymrwymiadau fel ysgol neu waith.

Iechyd a Diogelwch

Mae gennych ‘ddyletswydd gofal’ i bob gwirfoddolwr, gan gynnwys pobl dan 18 oed. Argymhellir y canlynol:

  • Cwblhewch asesiadau risg unigol ar gyfer gwirfoddolwyr ifanc
  • Ystyriwch eu haeddfedrwydd a’u lefel o brofiad
  • Gwiriwch is-ddeddfau neu ganllawiau lleol gyda’ch awdurdod lleol

Yswiriant

Gwnewch yn siŵr bod eich yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus neu Gyflogwyr yn cynnwys eich gwirfoddolwyr. Os oes gan eich polisi derfyn oedran, fel o leiaf 18 oed, siaradwch â’ch yswiriwr gan esbonio’r rolau y byddai gwirfoddolwyr iau yn ymgymryd â nhw a’u hoedran. Efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am yr oruchwyliaeth a fydd yn cael ei darparu. Gall hyn fod yn broses syml ac yn aml fe’i gwneir heb unrhyw gost ychwanegol.

Diogelu

Mae angen diogelu gwirfoddolwyr ifanc wrth iddyn nhw wirfoddoli. Bydd angen DBS ar staff neu wirfoddolwyr a fydd yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain gyda gwirfoddolwyr iau a byddant yn elwa ar hyfforddiant a chefnogaeth ynghylch goruchwylio gwirfoddolwyr iau. Yn yr un modd, mae yna faterion diogelu pan fydd y person ifanc ei hun yn gwirfoddoli gyda grwpiau agored i niwed gan gynnwys plant eraill. Mae’n arfer da cael polisi diogelu ar waith pan fyddwch yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed, boed fel gwirfoddolwr neu’n ddefnyddiwr gwasanaethau.

Cynghorir nad yw unrhyw weithgaredd gwirfoddoli sydd â mynediad heb oruchwyliaeth i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys plant, yn addas i wirfoddolwyr dan 18 oed.

Fodd bynnag, os yw gwirfoddolwr ifanc dros 16 oed yn ymwneud â gweithgareddau o’r fath, bydd angen i chi ystyried a ddylid mynd trwy weithdrefnau recriwtio mwy diogel eraill fel gwiriadau Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau gwirio darparwyr DBS ar gael ar wefan CGGC.

Cyngor diogelu

Mae Gwasanaeth Diogelu CGGC yn darparu gwybodaeth, cyngor, adnoddau a hyfforddiant i sefydliadau’r trydydd sector

Darganfod mwy

Caniatâd rhieni

Ar gyfer gwirfoddolwyr dan 18 oed, ymgysylltwch â rhieni neu warcheidwaid drwy wneud y canlynol:

  • Rhannu gwybodaeth am y rôl, gan gynnwys amseroedd a lleoliadau
  • Cael caniatâd ar gyfer cymryd rhan ac ar gyfer lluniau (os o dan 16) Gall pobl ifanc sy’n byw’n annibynnol (16+) roi eu caniatâd eu hunain.

Syniadau ar gyfer cynnwys pobl ifanc fel gwirfoddolwyr

Mae’n bwysig gofyn i bobl ifanc ym mha ffordd y maen nhw eisiau cymryd rhan. Mae rhoi llais i bobl ifanc yn dangos eich bod chi’n parchu eu barn ac eisiau gwrando arnyn nhw.
Mae cyd-gynhyrchu rolau a phrosiectau gyda phobl ifanc yn creu ymdeimlad o berchnogaeth a chysylltiad â’ch mudiad a’ch achos. Gall eu mewnbwn arwain at syniadau arloesol a mwy o foddhad i’r ddau barti.

Enghreifftiau o rolau

  1. Cyfleoedd creadigol – gallai person ifanc sydd â diddordeb mewn dylunio weithio fel ‘Dylunydd Arddangosfa Gwirfoddol’ mewn siop elusen.
  2. Cyfleoedd tymor byr – rôl wirfoddol ym maes marchnata chwe wythnos i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau i’ch strategaeth cyfryngau cymdeithasol.
  3. Cyfleoedd grŵp – Gall rolau fel garddio, casglu sbwriel, neu greu parseli bwyd fod yn briodol ar gyfer grwpiau cyfoedion neu deuluoedd.

Prosiectau gwirfoddoli dan arweiniad ieuenctid

Ystyriwch wahodd gwirfoddolwyr ifanc i arwain prosiect, fel trefnu digwyddiad codi arian neu ddatblygu ymgyrch ymwybyddiaeth. Mae prosiectau gweithredu cymdeithasol dan arweiniad ieuenctid yn aml yn gymwys i gael cyllid penodol, gan greu cyfle lle mae pawb ar ei ennill i’ch mudiad a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan.

Sut i recriwtio gwirfoddolwyr ifanc

Mae pobl ifanc ym mhobman! Dyma rai ffyrdd i’w cyrraedd:

  • Ysgolion, colegau a phrifysgolion – creu partneriaeth ag athrawon a chynghorwyr gyrfa ac archwilio cyfleoedd i ymuno â ffeiriau neu arddangosfeydd gyrfaoedd (mae’r rhain fel arfer ym mis Medi a mis Hydref)
  • Grwpiau a chlybiau ieuenctid – meithrin perthynas â chanolfannau ieuenctid lleol neu unedau ieuenctid mewn lifrai fel Sgowtiaid neu Geidiaid
  • Cyfryngau cymdeithasol – defnyddio llwyfannau sy’n gyfeillgar i ieuenctid i hyrwyddo cyfleoedd.
  • Ar lafar – annog gwirfoddolwyr ifanc presennol i ledaenu’r gair.
  • Cysylltwch â’ch Canolfan Wirfoddoli leol i ddarganfod pa rwydweithiau sydd ganddynt eisoes
  • Defnyddio’r gronfa ddata wirfoddoli genedlaethol, Gwirfoddoli Cymru, i hyrwyddo eich cyfleoedd gwirfoddoli
  • Gwirio eich cyhoeddusrwydd presennol, a yw’n ddeniadol i bobl ifanc ac yn cyrraedd y gynulleidfa ieuenctid? Os nad yw’n cyflawni hyn, gall rhai deunyddiau penodol ac wedi’u targedu fod yn ddefnyddiol. (Os nad yw pobl ifanc yn gallu gweld eu hunain yn eich cyhoeddusrwydd, efallai y byddant yn cymryd yn ganiataol nad yw ar eu cyfer nhw)

Sicrhau bod pobl ifanc yn deall y rôl ac yn cytuno bod hon yn addas iddyn nhw

Myth cyffredin yw bod pobl ifanc yn annibynadwy ac yn anaeddfed. Nid yw hyn yn wir, mae darparu rolau ystyrlon a darparu cefnogaeth wych yn arwain at gyfraniadau gwerthfawr.

Mae pobl ifanc yn bobl; fel pawb arall, nid oes dau yr un fath. Os nad ydych yn siŵr a ydyn nhw’n deall y rôl yn ystod y cyfnod recriwtio, beth am eu gwahodd i sesiwn flasu a rhoi cyfle iddynt ddarganfod mwy ac i weld a yw’r rôl yn addas iddyn nhw?

Bydd angen i chi ystyried pwysau gwaith ysgol, swyddi ac amser cymdeithasol. Gellir trafod hyn yn ystod y sgwrs gychwynnol neu ar ôl sesiwn flasu neu hyfforddiant (a gellir ailymweld â hyn yn y sesiwn oruchwylio i wirio am unrhyw newidiadau) fel y gallwch drafod rôl, pa mor aml bydd rhywun yn cymryd rhan ac anghenion cymorth. Mae’n arfer gorau bod mor hyblyg â phosibl fel mudiad fel y gallwch gael gwared ar unrhyw rwystrau posibl a sicrhau’r profiad gorau i’ch gwirfoddolwyr.

Byddai’n well gan rai pobl ifanc wirfoddoli gyda’u grwpiau cyfeillion, felly mae’n werth ystyried a oes rolau a allai fod ar gael i barau neu grwpiau o wirfoddolwyr er mwyn eu cynnwys gyda’i gilydd.

Boddhad gwirfoddoli i bobl ifanc

Sut allwch chi ddangos i’ch gwirfoddolwyr ifanc eich bod chi’n eu gwerthfawrogi a’u hannog i barhau i wirfoddoli gyda chi?

Yn gyntaf, cael y pethau sylfaenol yn iawn! Ad-dalu costau teithio, darparu byrbrydau, cynnig cymorth croesawgar a goruchwyliaeth barhaus.

Ystyriwch pam eu bod yn gwirfoddoli. A yw oherwydd eu bod eisiau,

  • gwneud rhywbeth hwyliog?
  • ennill sgiliau newydd?
  • gwneud ffrindiau neu gysylltiadau?
  • ychwanegu at eu CV neu fel rhan o raglen? (h.y. Bagloriaeth Cymru neu Wobr Dug Caeredin)
  • rhoi rhywbeth yn ôl neu deimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth?

Allwch chi helpu i ddiwallu’r anghenion hyn yn y ffordd rydych chi’n creu a llunio’r rôl?

Os yw gwirfoddolwyr yn chwilio am hwyl, neu wneud ffrindiau newydd, allech chi greu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau anffurfiol, efallai trwy ddefnyddio dechreuwyr sgwrs hwyliog, neu annog ffyrdd o gwblhau tasgau mewn ffordd fwy doniol? Efallai y byddwch yn cynnig digwyddiadau cymdeithasol, a all helpu gwirfoddolwyr i ymgartrefu ac i feithrin cysylltiadau. Gall pobl ifanc fod yn wych am ddod o hyd i syniadau ar gyfer hyn.

Os yw gwirfoddolwyr yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu gael mynediad at hyfforddiant neu gymwysterau, allech chi gynnig hyfforddiant a chymwysterau? Os nad yw’r hyfforddiant wedi’i achredu’n allanol, gallech ei achredu’n fewnol trwy osod sawl safon a chanlyniad i’r person ifanc eu cyflawni.

Os yw gwirfoddolwyr eisiau gwneud gwahaniaeth, sut allwch chi alluogi gwirfoddolwyr i ddeall y cyfraniad maen nhw’n ei wneud? Er enghraifft, a wnaeth arddangosfa ffenestr siop elusen ddod â 50% o gwsmeriaid ychwanegol, a helpu’r elusen i godi £100 ychwanegol a fydd yn darparu sawl noson o ofal i anifail mewn lloches?

Mae’r cymhellion a’r ffyrdd y mae pobl yn gwirfoddoli, yn enwedig pobl ifanc, wedi newid. Mae’n dod yn fwy nodweddiadol i unigolion wirfoddoli mewn arddull sydd fwy fel ‘portffolio’, gan ddewis mathau o wirfoddoli, neu brosiectau penodol sy’n galluogi gwirfoddolwyr i ennill profiadau penodol neu i ddangos eu gallu. Gall newid neu rannu eich rolau gwirfoddoli yn dasgau hygyrch a dymunol fod yn fwy deniadol i rai unigolion. Gallai hyn fod yn berthnasol i fyfyrwyr, gweithwyr sy’n chwilio am ymyrraeth tymor byr i gefnogi gwirfoddolwr sy’n cynnwys mudiad neu rywun sy’n cymryd blwyddyn i ffwrdd neu sydd ar gynllun sabothol sy’n ceisio cael amrywiaeth o brofiadau.

Mae cydnabod cyflawniadau gwirfoddolwyr ifanc yn ffordd wych o wneud i wirfoddolwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i ddathlu eu llwyddiant. Gallwch gynnal gwobrau gwirfoddoli mewnol y gallech enwebu gwirfoddolwyr ar eu cyfer.

Gan fod pob mudiad yn wahanol, efallai y byddwch chi’n gallu dathlu a chydnabod eich gwirfoddolwyr mewn ffyrdd eraill hefyd. Lle bo hynny’n bosibl, mae bob amser yn werth gofyn i’ch gwirfoddolwyr sut yr hoffent ddathlu eu cyflawniadau er mwyn sicrhau’r hapusrwydd a’r boddhad mwyaf posibl yn eich mudiad.

Yn olaf, peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i bobl ifanc eich bod chi ac unrhyw fuddiolwyr yn gwerthfawrogi eu bod yn rhoi o’u hamser. Gall gweld y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud a gwybod ei fod yn cael ei werthfawrogi, helpu person ifanc i ddod yn fwy hyderus, ei helpu i deimlo’n rhan o’r gymuned a chael ymdeimlad o gyfrifoldeb amdani. Gall dangos gwerthfawrogiad fod mor syml â dweud diolch, rhoi cerdyn neu dystysgrif, neu rywbeth sy’n fwy o sbloets fel trefnu seremoni wobrwyo i ddathlu cyfraniadau gwirfoddolwyr.

Darllen ychwanegol

Image: college students

Cynnwys Pobl Ifanc mewn Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol

Cynnwys Pobl Ifanc mewn Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol
Group of young people plant trees in a field

Gwirfoddoli Ieuenctid: Pecyn Cymorth i’r Trydydd Sector

Gwirfoddoli Ieuenctid: Pecyn Cymorth i’r Trydydd Sector