Cyflwyniad i Rodd Cymorth

Trosolwg

  1. Beth yw Rhodd Cymorth a sut mae’n gallu helpu?
  2. Sut i fanteisio i’r eithaf ar Rodd Cymorth
  3. Rhodd Cymorth wrth godi arian
  4. Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth (GASDS)
  5. Beth os aiff pethau o’i le?
  6. Syniadau syml i’ch helpu chi i gael mwy o arian drwy Rodd Cymorth
  7. Adnoddau pellach

Beth yw Rhodd Cymorth a sut mae’n gallu helpu?

Mae Rhodd Cymorth yn gynllun sy’n galluogi elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs) i hawlio 25c ychwanegol gan Gyllid a Thollau EF (CthEF) am bob £1 a roddir gan drethdalwr cymwys. Er mwyn hawlio Rhodd Cymorth ar gyfer rhodd, rhaid i’r mudiad sy’n derbyn y rhodd a’r rhoddwr fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.

Gall trethdalwyr hawlio’r gwahaniaeth rhwng y gyfradd dreth sylfaenol (20%) a’u cyfradd treth uwch (40% neu 45%) fel bod y rhodd yn costio llai iddynt, er eich bod dim ond yn derbyn 25%.

Er mwyn i chi hawlio Rhodd Cymorth am rodd, rhaid i’r rhoddwr fod yn drethdalwr yn y DU a darparu datganiad sy’n nodi yr hoffent i’r elusen hawlio. Nid yw hawlio Rhodd Cymorth yn costio mwy i’r rhoddwr.

Rhaid i elusennau gadw cofnodion am chwe blynedd i gefnogi eu hawliadau Rhodd Cymorth

Mudiadau sy’n gymwys i hawlio:

Elusennau

  • Rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gyda rheoleiddiwr elusen (e.e. y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr, yr OSCR yn yr Alban neu’r CCNI yng Ngogledd Iwerddon) oni bai eu bod yn esempt neu wedi’u heithrio.
  • Rhaid iddynt fod yn fudiad nid-er-elw a defnyddio’u hincwm at ddibenion elusennol yn unig.
  • Gallant gynnwys mudiadau crefyddol, elusennau addysgol, elusennau gofal iechyd a mudiadau cymorth rhyngwladol.

Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASCs)

  • Rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru â CthEF fel CASC.
  • Rhaid i’r mudiad hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon amatur.
  • Rhaid iddynt fodloni meini prawf penodol, fel bod ar agor i bawb a gweithredu er budd y gymuned

Elusennau esempt

  • Mae rhai mudiadau yn esempt rhag cofrestru ond yn parhau i fod yn gymwys am Rodd Cymorth (e.e. prifysgolion, academïau a sefydliadau crefyddol penodol).

Elusennau wedi’u heithrio

  • Mae’n bosibl nad oes angen i elusennau penodol, fel mudiadau crefyddol llai, gofrestru ond maen nhw’n gymwys os ydynt yn bodloni’r meini prawf Rhodd Cymorth.

Sut i fanteisio i’r eithaf ar Rodd Cymorth

Mae cefnogwyr yn fwy tebygol o ddefnyddio Rhodd Cymorth os gofynnir iddynt wneud hynny ac os byddant yn deall y budd ychwanegol gwerthfawr y bydd hwnnw’n ei roi i’ch elusen heb iddynt orfod talu’r un geiniog yn fwy.

Defnyddiwch enghreifftiau ymarferol i egluro beth fydd yr arian Rhodd Cymorth yn eich galluogi chi i’w wneud mewn termau real. Os bydd elusennau yn egluro hyn mewn modd cyson ac yn gwneud hynny bob tro y gofynnir i’r rhoddwr roi, bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth gyffredinol ac yn cynyddu nifer y cyhoedd a fydd yn cytuno i roi Rhodd Cymorth.

Gallai hyrwyddo Rhodd Cymorth i’ch rhoddwyr edrych yn debyg i hyn:

‘Defnyddiwch Rodd Cymorth a bydd eich rhodd yn werth mwy. Am bob punt y byddwch chi’n ei roi i ni, gallwn ni hawlio 25c yn ôl o Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Felly ticiwch yma. Mae mor syml â hynny’.

neu

‘Mae defnyddio Rhodd Cymorth yn golygu y gallwn hawlio 25c yn ôl o Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi am bob £1 y byddwch chi’n ei roi, sy’n helpu eich rhodd i fynd ymhellach. Mae hyn yn golygu y gall £100 droi’n £125, cyn belled â bod rhoddion yn cael eu gwneud drwy Rodd Cymorth. Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai hynny ei wneud, ac ni fydd yn rhaid i chi dalu’r un geiniog. Felly, os ydych chi eisiau i’ch rhodd fynd ymhellach, gwnewch ef drwy Rodd Gymorth. Ticiwch yma. Mae mor syml â hynny’.

Os ydych chi’n talu’r gyfradd dreth uwch (40% neu 45%), rydych chi hefyd yn elwa drwy hawlio’r gwahaniaeth rhwng eich cyfradd dreth uwch a’r gyfradd sylfaenol o 20%. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, fel trethdalwr 40%, er enghraifft, yn gallu hawlio’n ôl 20% o’r rhodd gros (£125), a fydd yn arbed £25 i chi. Felly bydd eich rhodd o £100 dim ond yn costio £75 i chi, ond bydd yr elusen yn parhau i dderbyn £125

Rhodd Cymorth wrth godi arian

Gall Rhodd Cymorth gael ei ddefnyddio’n llwyddiannus gyda gwahanol ddulliau codi arian, a gellir ei weld fel ychwanegiad i’ch strategaeth codi arian gyfredol.

Datblygu strategaeth codi arian effeithiol

Gellir dod o hyd i adnoddau pellach ar gyfer datblygu strategaeth codi arian effeithiol ar y cwrs hwn.

Datblygu strategaeth codi arian effeithiol

Mae llwyddiant Rhodd Cymorth yn dibynnu ar sicrhau ei fod yn cael ei hyrwyddo’n rheolaidd ac yn gyson, felly meddyliwch am y dulliau cyfathrebu rydych chi eisoes yn eu defnyddio lle gallech chi hyrwyddo Rhodd Cymorth.

Dyma rai ffyrdd o gynnwys Rhodd Cymorth mewn gweithgareddau y gallech chi fod yn eu defnyddio eisoes:

Aelodaeth

Gallwch chi hawlio Rhodd Cymorth ar ffioedd aelodaeth, ar yr amod nad yw’r buddion yn fwy na Rheolau buddion CThEF (Saesneg yn unig). Cofiwch fod Rhodd Cymorth yn berthnasol i roddion lle na chaiff y rhoddwr unrhyw fudd yn gyfnewid am y rhodd, h.y. nid yw’n berthnasol pan mae arian yn cael ei dalu am nwyddau neu wasanaethau fel tocyn i ddigwyddiad.

Fodd bynnag, caniateir rhoi rhywbeth bach i ddangos gwerthfawrogiad neu i ddweud ‘diolch’, er enghraifft, cylchlythyr ar gyfer aelodau neu anrheg rad. Ar gyfer rhoddion hyd at £100, ni all gwerth y buddion fod yn fwy na 25% o’r rhodd

Digwyddiadau a noddir

Gwnewch yn siŵr fod gan ffurflenni noddi flwch ticio ar gyfer Rhodd Cymorth ac eich bod yn cael enw a chyfeiriad cartref yr holl noddwyr, gan gynnwys y cod post.

Gellir adhawlio Rhodd Cymorth ar y rhan fwyaf o ddigwyddiadau a noddir, oni bai bod y cyfranogwr yn derbyn budd (fel teithiau tramor neu ddigwyddiadau her). Os mai hyn yw’r achos, ni ellir hawlio Rhodd Cymorth ar gyfer rhoddion gan eu hunain nac ‘unigolion cysylltiedig’.

Atyniadau elusennol

Daeth rheolau newydd ar gyfer hawlio Rhodd Cymorth ar roddion a gyflwynir i eiddo elusennol gan ymwelwyr i rym ar 6 Ebrill 2006. Mae’r canllawiau’n berthnasol i unrhyw elusen sy’n codi tâl yn draddodiadol i bobl weld eiddo sy’n cael ei warchod, cynnal a chadw, cadw neu ei greu gan yr elusen er mwyn ehangu ei diben elusennol.

Mae’r canllawiau’n galluogi mwy o elusennau sy’n codi tâl mynediad, fel gerddi, galerïau celf a chanolfannau anifeiliaid, i fanteisio ar Rodd Cymorth.

Bydd rhoddion a wneir yn lle tâl mynediad dim ond yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth os yw’r ymwelydd yn talu o leiaf 10% yn fwy na’r pris mynediad arferol, neu os ydynt yn rhoi’r hawl i ymwelwyr gael mynediad i atyniad pryd bynnag y maen nhw ar agor dros gyfnod o 12 mis, er enghraifft, drwy gynllun aelodaeth, er enghraifft, pe bai’r tâl mynediad yn £10, byddai hwn dim ond yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth pe bai’r ymwelydd yn talu £11 neu’n fwy, neu os oedd y tâl o £10 yn caniatáu mynediad am o leiaf 12 mis.

Rhaid i elusennau gynnig dewis i ymwelwyr dalu’r tâl mynediad arferol yn unig neu’r pris mynediad a rhodd wrth iddynt gael mynediad, ac ni fydd dewis peidio â thalu rhodd yn effeithio ar eu hawl i gael mynediad.

Os na fyddwch chi’n rhoi dewis clir i ymwelwyr i dalu’r tâl mynediad safonol neu dalu 10% neu ragor fel rhodd, yna ni fydd unrhyw daliad sy’n fwy na 10% neu ragor o’r tâl mynediad safonol yn rhodd y gwnaethant ddewis eu rhoi. Felly, ni fydd y taliad yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth.

Nwyddau a roddwyd

Gellir adhawlio Rhodd Cymorth ar eitemau a roddir i siopau elusen. Mae hyn yn golygu trosi’r eitem yn rhodd ariannol, gyda’r elusen fel asiant ar gyfer y rhoddwr, yn gwerthu’r eitem ac yna’n cynnig yr arian yn ôl i’r rhoddwr. Os bydd y rhoddwr wedyn yn dewis rhoi’r arian i’r elusen, gellir hawlio Rhodd Cymorth.

Bydd yn rhaid cael cofnod eglur sy’n cysylltu’r rhoddwyr â phob eitem a’r arian y maen nhw wedi’i godi, yn ogystal â chaniatâd i hawlio Rhodd Cymorth ar yr arian a godwyd ar yr eitem honno. Gall y gwaith gweinyddol fod yn drwm felly, ond mae pecynnau meddalwedd i helpu i reoli’r broses.

Sue Ryder Care wnaeth gyflwyno’r syniad o hawlio Rhodd Cymorth ar nwyddau a roddir. Gellir gweld sut maen nhw’n cofrestru rhoddwyr ar gyfer y math hwn o Rodd Cymorth ar eu gwefan (Saesneg yn unig).

Byddwch yn ymwybodol na ellir hawlio Rhodd Cymorth ar daliadau i brynu nwyddau fel cardiau Nadolig, ond gellir hawlio Rhodd Cymorth ar roddion gwirfoddol ychwanegol.

Casgliadau

Ni ellir hawlio Rhodd Cymorth ar gasgliadau bwced neu din ar hyn o bryd lle nad oes datganiad Rhodd Cymorth na llwybr archwilio sy’n cysylltu’r rhoddwr â’i rodd, oni bai yr hawlir hyn o dan Gynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth (gweler isod).

Fodd bynnag, os byddwch chi’n defnyddio amlenni casglu â sêl gyda’r datganiad Rhodd Cymorth wedi’i argraffu arnyn nhw ac yn cadw cofnodion priodol, yna gallwch hawlio Rhodd Cymorth ar gasgliadau. Yn yr un modd, gallwch chi hawlio Rhodd Cymorth ar flychau casglu sydd wedi’u dylunio i’w defnyddio yng nghartrefi’r rhoddwyr iddynt roi eu harian mân ynddyn nhw.

Ocsiynau

Mewn rhai achosion, gellir cynyddu rhan o’r arian a gynigir am eitem mewn ocsiwn elusennol drwy Rodd Cymorth. Gellir dim ond gwneud hyn ar gyfer eitem sydd â gwerth marchnadol clir, a rhaid nodi hyn ar adeg yr ocsiwn. Er enghraifft, os caiff £700 ei gynnig am bâr o docynnau teithio sy’n costio £500 yn y siop deithio ar y stryd fawr, yna gellir trin y £200 sy’n weddill fel rhodd sy’n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth.

Dylech chi gael datganiad Rhodd Cymorth gan y rhoddwr o ran yr elfen rodd hon, os nad oes gennych chi un eisoes. Nid oes gan eitemau a lofnodwyd gan bobl enwog nac eitemau unigryw werth marchnadol clir, ond maen nhw’n werth faint bynnag y telir amdanynt. Nid yw’r pris a gynigir am y rhain, felly, yn cynnwys elfen a roddwyd ac nid yw Rhodd Cymorth yn gymwys.

Mae’n werth nodi na ellir hawlio Rhodd Cymorth ar rafflau na loterïau. Mae prynu tocyn ar gyfer raffl, loteri neu wobr ‘Clwb 100’ yn talu am yr hawl i roi cynnig ar gystadleuaeth, waeth pwy sy’n ennill a waeth beth yw gwerth y wobr. Nid yw’n rhodd felly ac ni ellir defnyddio Rhodd Cymorth.

Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth (GASDS)

Mae’r Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth yn galluogi’r Rhodd Cymorth i gael ei hawlio heb ddatganiad Rhodd Cymorth ar roddion o £30 neu’n llai mewn arian parod a rhoddion o £30 neu’n llai ar gardiau digyffwrdd a gesglir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2019.

O’r 6 Ebrill 2016, gallwch hawlio hyd at £2,000 mewn blwyddyn dreth neu £1,250 ar flynyddoedd cynt.

Er mwyn hawlio’r arian hyn, mae angen i chi gofnodi cyfanswm y rhoddion ariannol a gasglwyd, dyddiad y casgliad a’r dyddiad y cafodd ei dalu i mewn i gyfrif banc (neu fod ym meddiant cofnodion o’r fath).

Bydd angen i chi gadw cofnod o unrhyw roddion rydych chi wedi’u cymryd drwy gardiau digyffwrdd, er enghraifft, derbynebau o’ch peiriant cardiau. Gallwch dim ond hawlio GASDS os ydych wedi gwneud hawliadau Rhodd Cymorth llwyddiannus mewn o leiaf dwy o’r pedair blwyddyn dreth flaenorol, heb broblemau mawr.

Hawlio Rhodd Cymorth fel elusen (Saesneg yn unig)

Gweler gwefan Llywodraeth y DU am ragor o wybodaeth am y cynllun rhoddion bach.

Hawlio Rhodd Cymorth fel elusen (Saesneg yn unig)

Beth os aiff pethau o’i le?

Pan mae gennych chi ddatganiad Rhodd Cymorth, ond nad yw’r rhoddwr wedi talu digon o dreth i dalu’r dreth rydych chi wedi’i hadhawlio gan CThEF, y rhoddwr fydd â’r atebolrwydd treth am y diffyg.

Nid yw hawliad treth yr elusen yn cael ei effeithio’n gyfreithiol. Ond efallai yr hoffech chi drafod y mater gyda CThEF i weld a ellir trefnu unrhyw beth ar ran y rhoddwr.

Syniadau syml i’ch helpu chi i gael mwy o arian drwy Rodd Cymorth

Enwebwch lysgennad Rhodd Cymorth (staff neu wirfoddolwr)

Enwebwch rywun yn eich elusen i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y mudiad yn cael cymaint â phosibl o arian drwy Rodd Cymorth, ac efallai hyd yn oed cael rhoddion treth-effeithiol yn gyffredinol.

Dylai’r unigolyn friffio’r holl staff a gwirfoddolwyr, hen a newydd, am fuddion Rhodd Cymorth ac effeithiolrwydd treth. Byddai hwn yn bwnc defnyddiol mewn cyfarfodydd staff a chynadleddau.

Ysgrifennwch gyflwyniad syml ar Rodd Cymorth (a ffyrdd eraill treth-effeithiol o roi) ar gyfer pob cefnogwr.

Yn aml, caiff Rhodd Cymorth ei gamddeall neu ei osgoi oherwydd anwybodaeth. Mae’n naturiol y gallai fod gan roddwyr gwestiynau neu bryderon ynghylch Rhodd Cymorth, ac mae cyflwyniad ar ffurf cwestiwn ac ateb yn ffordd hawdd o fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Ystyriwch ddatblygu ffrydiau incwm sy’n gymwys am Rodd Cymorth

Ewch ati i ddatblygu ffrydiau incwm ar bethau y gellir hawlio Rhodd Cymorth arnynt, e.e. digwyddiadau a noddir, rhoddion rheolaidd ac ocsiynau.

Cynhwyswch eich targedau Rhodd Cymorth yn eich strategaeth codi arian

Gellid cynnwys targedau Rhodd Cymorth yn eich adroddiad blynyddol, mewn cynlluniau strategol ac mewn amcanion perfformiad unigol pobl.

Pa darged sy’n briodol ar gyfer Rhodd Cymorth?

Mae rhai elusennau cenedlaethol wedi llwyddo i gyrraedd cyfradd drosi o 80% o roddion (sy’n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth). Er nad yw hyn yn realistig i fudiadau llai o faint, mae llawer o godwyr arian proffesiynol yn credu bod 75% (o roddwyr cymwys) yn darged realistig a chyraeddadwy.

Er nad yw hawlio Rhodd Cymorth yn costio unrhyw beth i chi’n ariannol, bydd angen amser staff. Cofiwch gynnwys hwn yn eich cynlluniau gwaith, disgrifiadau rôl staff/gwirfoddolwyr neu’ch amcanion er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr adnoddau priodol. Gweler y canllawiau isod am gyfarwyddiadau ac arweiniad ar sut i hawlio Rhodd Cymorth.

Adnoddau pellach

Canllawiau ar Rodd Cymorth – Hawlio Rhodd Cymorth fel Elusen
Llywodraeth y DU

Canllawiau ar Rodd Cymorth – Hawliadau Rhodd Cymorth ar gyfer Elusennau (Saesneg yn unig)
Llywodraeth y DU

Lawrlwytho adnoddau