Cartref » Help ac arweiniad » Sefydlu grŵp » Strwythur Cyfreithiol

Pa fath o fudiad ddylem ni fod?

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu eich bod am ffurfioli eich grŵp a mabwysiadu strwythur cyfreithiol, a’ch bod chi wedi ystyried y cwestiynau yn yr adran Penderfynwch ar sut byddwch chi’n rhedeg eich grŵp, bydd angen i chi feddwl am ba fath o strwythur cyfreithiol fydd eich mudiad. Mae amrywiaeth o strwythurau cyfreithiol a all fod yn briodol ar gyfer gwahanol fathau o fudiadau gwirfoddol.

Mae cyngor am strwythurau cyfreithiol ar gael i fudiadau gwirfoddol drwy’r rhwydwaith o gynghorau gwirfoddol lleol (CVCs).  

Cysylltu

Gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau ynghylch sut bydd eich grŵp yn cael ei redeg, a sicrhau eich bod yn ystyried yr holl oblygiadau. Bydd eich cyngor gwirfoddol sirol lleol yn gallu eich helpu i weithio drwy’r opsiynau hyn, felly argymhellwn eich bod yn cysylltu â nhw.

Gallech chi hefyd edrych ar ein cwrs e-ddysgu am ddim, Cyflwyniad i strwythurau cyfreithiol a statws elusennol yn y Sector Gwirfoddol

Adnoddau cysylltiedig

Image: volunteers chatting

Cyflwyniad i strwythurau cyfreithiol a statws elusennol y Sector Gwirfoddol

Crëwyd y cwrs hwn i roi cyflwyniad i strwythurau cyfreithiol a statws elusennol y sector gwirfoddol

Cyflwyniad i strwythurau cyfreithiol a statws elusennol y Sector Gwirfoddol

Ffynonellau eraill o wybodaeth

Fersiwn NCVO (Saesneg yn unig)

Gweld adnodd

Canfyddwch y ddogfen lywodraethu gywir ar gyfer eich grŵp

Set o reolau ysgrifenedig ar gyfer sut bydd eich grŵp yn cael ei redeg yw ‘dogfen lywodraethu’. Bydd yn cynnwys diben eich grŵp, y gweithgareddau y gallwch (ac na allwch) ei wneud ynghyd â nodi rheolau fel sut bydd eich Ymddiriedolwyr yn cael eu penodi, pa mor aml sydd angen i chi gael cyfarfodydd, sut gallwch chi newid y rheolau yn y dyfodol a beth i’w wneud os bydd angen i chi gau’r grŵp.

Gall dogfen lywodraethu hefyd gael ei galw’n ‘gyfansoddiad’ neu’n ‘erthyglau cymdeithasu’.

Mae eich dogfen lywodraethu wedi’i chysylltu’n agos â’r math o strwythur y byddwch chi’n ei ddewis ac mae templedi o ddogfennau ar gael i chi eu defnyddio.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Rydyn ni wedi nodi rhai dolenni isod sy’n eich tywys i’r templedi o ddogfennau llywodraethu, ond byddem yn eich argymell i gael cyngor cyn bwrw iddi â’r rhain.

Adnoddau eraill

Y Gynghrair Elusennau Bach – tudalen ganllaw ar ddogfennau llywodraethu i elusennau (Saesneg yn unig)

Y Comisiwn Elusennau – Sefydlu elusen: dogfennau llywodraethu enghreifftiol

Swyddfa’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol – Cwmnïau Buddiannau Cymunedol: cyfansoddiadau enghreifftiol (Saesneg yn unig) Chwaraeon Cymru – dogfennau llywodraethu