Cyfansoddiad enghreifftiol ar gyfer sefydlu elusen fach

Trosolwg

I bwy mae hwn?

Mae’r cyfansoddiad hwn wedi’i baratoi’n arbennig ar gyfer elusennau sy’n disgwyl parhau i fod yn fach, a chael incwm blynyddol o dan £5,000. Nid yw wedi’i anelu at elusennau sy’n berchen ar adeilad, yn cyflogi pobl neu sy’n bwriadu cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Mae croeso i grwpiau bach sydd heb fod yn elusennau ddefnyddio’r cyfansoddiad enghreifftiol hwn hefyd, ond ni fyddent wedi’u cynnwys o dan y gyfraith elusennau.

Mae nifer o elusennau cenedlaethol yn cynhyrchu eu cyfansoddiadau enghreifftiol eu hunain

Gan gynnwys Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, Pre-School Learning Alliance, Sefydliadau’r Merched, Sgowtiaid a Geidiaid. Os ydych yn sefydlu un o’r elusennau hyn, cysylltwch â nhw am gyngor a defnyddiwch eu cyfansoddiad enghreifftiol nhw yn hytrach na’r un yma.

Gweld sefydliadau

Sefydlu elusen – y cyfansoddiad

Menywod yn eistedd o amgylch gliniadur

Os ydych chi eisiau dechrau elusen fach, bydd angen cyfres o reolau arnoch sy’n esbonio beth mae’r elusen yn ei wneud a sut y caiff ei rhedeg. I’ch helpu, mae’r Comisiwn Elusennau wedi cydweithio â naw corff ymbarel a restrir ar ddiwedd y cyflwyniad i fynd ati ar y cyd i ysgrifennu a hybu cyfansoddiad ar gyfer elusen fach. Wrth gwrs, nid dyma’r unig gyfansoddiad fyddai’n briodol, ac mae cyfansoddiadau enghreifftiol eraill wedi’u cynhyrchu gan y Comisiwn a sefydliadau eraill.

Rydym wedi defnyddio profiadau ein gilydd i sicrhau bod y cyfansoddiad yn hawdd ei ddeall, yn fyr (dim ond 700 o eiriau) ac yn diwallu anghenion elusennau bach. Y nod yw annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o redeg yr
elusen a rhoi’r hyder iddynt trwy wybod yn union beth mae eu cyfansoddiad yn ei ddweud y dylai gael ei wneud er mwyn ei rhedeg yn briodol.

Y bobl ar y pwyllgor fydd ymddiriedolwyr yr elusen. Byddant yn gyfrifol am yr arian y mae pobl eraill wedi’i roi a rhaid iddynt sicrhau ei fod yn cael ei wario’n briodol ac y cyfrifir amdano yn gywir.

Cyflwynodd Deddf Elusennau 2022 broses symlach i elusennau anghorfforedig ddiwygio eu dogfennau llywodraethu, gan gynnwys eu dibenion elusennol. Mae hi dal yn ofynnol i newidiadau gael caniatâd y Comisiwn Elusennau pan fyddant yn effeithio ar elfennau allweddol fel dibenion neu fuddion ymddiriedolwyr. Rhaid i ymddiriedolwyr ddangos bod unrhyw newidiadau yn parhau i fod yn elusennol ac yn adlewyrchu anghenion presennol yr elusen ac yn y dyfodol.

Diweddarodd y Comisiwn Elusennau ei ganllawiau yn 2023 i ddarparu cymorth ychwanegol i ymddiriedolwyr elusennau bach a heb eu cofrestru. Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau hyn yn:
Gweld canllawiau’r comisiwn elusennau

Cyhoeddiad Yr Ymddiriedolwr Hanfodol

Cliciwch yma

Sut gallwn ni gael cymorth a chyngor?

Mae bob amser yn syniad da i geisio cyngor a chefnogaeth – a thrwy lwc, mae digon ohono ar gael. Siaradwch â mudiadau datblygu cymunedol lleol yn eich ardal a gofynnwch am eu cymorth. Byddai gwefan eich awdurdod lleol yn lle da i gael gwybodaeth a chymorth hefyd. Mae gwefan gan bob un o’r mudiadau a fu’n ymwneud â chynhyrchu’r cyfansoddiad hwn sy’n cynnwys cyfoeth o gyhoeddiadau a gwybodaeth. Mae ymrwymiad cyffredin gan bob un o’r mudiadau hyn i helpu elusennau bach i redeg yn briodol, sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, yn agored i bobl o bob math ac yn ffynnu ym mhob cymuned.

Sut ydym ni’n cwblhau ein cyfansoddiad?

Mae angen i chi drafod y rheolau a gwneud yn siŵr bod pawb yn eu deall ac yn cytuno â nhw. Rhaid i chi nodi’r ‘Dibenion’ i ddisgrifio beth y cafodd yr elusen ei sefydlu i’w wneud. Efallai y bydd rhaid i chi ddweud pa ardal ddaearyddol y bydd yr elusen yn gweithio ynddi hefyd.

Mae’r cyfansoddiad hwn yn addas ar gyfer elusen fach, ond mae’n bwysig cydnabod nad yw ei fabwysiadu yn golygu bod y grŵp yn elusen o
reidrwydd. Er mwyn bod yn elusen, rhaid i’r holl ddibenion fod yn elusennol a rhaid i’r mudiad gael ei sefydlu er budd y cyhoedd. I’ch helpu gyda hyn, mae’r geiriad enghreifftiol ar gyfer dibenion elusennol wedi’i ddarparu gan y Comisiwn Elusennau yn Dibenion a Rheolau

Nodyn Pwysig

Er mwyn mabwysiadu’r cyfansoddiad, rhaid i’r bobl sy’n sefydlu’r elusen ei lofnodi a’i ddyddio. Drwy wneud hyn nhw fydd ymddiriedolwyr yr elusen tan y cyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf.

Derbynnir llofnodion digidol nid yn unig ar gyfer mabwysiadu’r cyfansoddiad ond hefyd ar gyfer ffeilio dogfennau allweddol gyda rheoleiddwyr fel y Comisiwn Elusennau a Tŷ’r Cwmnïau, lle bo’n berthnasol.

Beth sy’n digwydd os ydym yn tyfu?

Nid yw’n ofynnol i elusennau sydd ag incwm o dan £5,000 gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gallant wneud hynny. Fodd bynnag, gallant wneud cais i CThEF am gydnabyddiaeth fel elusen i gael mynediad at fuddion treth a hawlio Rhodd Cymorth.

Os yw’ch mudiad yn mynd yn fwy, eisiau cyflogi pobl neu brynu adeilad, neu os hoffai gofrestru gyda’r Comisiwn yn y dyfodol, bydd rhaid i chi gael dogfen lywodraethol enghreifftiol mwy cynhwysfawr yn lle’r cyfansoddiad hwn oherwydd ni fydd yn briodol mwyach.

Rhestr o fudiadau a fu’n ymwneud â chynhyrchu a hybu’r cyfansoddiad hwn:

  • ACRE
  • BASSAC
  • Bach CGGC
  • Y Comisiwn Elusennau
  • Community Matters
  • CTN
  • NAVCA
  • NCVO
  • Clymblaid Elusennau
  • Cynghorau Gwirfoddol Sirol

Mae fersiwn Microsoft Word ar gael yma.

Cyfansoddiad elusen fach (Templed)

Addas ar gyfer elusennau bach gydag incwm blynyddol o dan £5,000 nad ydynt yn berchen ar adeilad na’n cyflogi pobl ac nad ydynt yn bwriadu cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau.

1. Enw

Enw’r elusen yw [MEWNOSODWCH ENW ELUSEN]

2. Dibenion yr elusen yw

Rhaid i ddibenion elusennol ddod o fewn categorïau a ddiffinnir yn y gyfraith, megis hyrwyddo addysg, iechyd, dinasyddiaeth, neu liniaru tlodi. Rhaid i’r diben fod o fudd i’r cyhoedd

[AMLINELLWCH DDIBENION YR ELUSEN]

3. Ymddiriedolwyr

Caiff yr elusen ei rheoli gan bwyllgor o ymddiriedolwyr a benodir yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) yr elusen.

4. Cyflawni’r dibenion

Er mwyn cyflawni’r dibenion elusennol, mae gan yr ymddiriedolwyr y pŵer i:

  1. Godi arian, derbyn grantiau a rhoddion
  2. Defnyddio arian i gyflawni gwaith yr elusen
  3. Cydweithio ag elusennau eraill sydd â dibenion tebyg, a’u cefnogi
  4. Gwneud unrhyw beth arall o fewn y gyfraith sy’n ofynnol i gyflawni’r dibenion

5. Aelodaeth

Bydd aelodaeth gan yr elusen. Gall pobl sy’n cefnogi gwaith yr elusen ac sy’n 18 oed neu’n hŷn wneud cais i’r ymddiriedolwyr i fod yn aelod. Ar ôl cael eu derbyn gan yr ymddiriedolwyr, bydd aelodaeth yn para am dair blynedd a gellir ei hadnewyddu. Bydd yr ymddiriedolwyr yn cadw rhestr aelodaeth gyfoes.

Gall yr ymddiriedolwyr derfynu aelodaeth unigolyn os ydynt yn credu ei fod er lles gorau’r elusen. Mae hawl gan yr aelod i gael ei glywed gan yr
ymddiriedolwyr cyn y gwneir y penderfyniad a gall ddod yng nghwmni ffrind.

6. CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL – AGM

  1. Rhaid i’r AGM gael ei gynnal bob blwyddyn, gan roi 14 diwrnod o rybudd i bob aelod a dweud wrthynt beth sydd ar yr agenda. Rhaid cadw cofnodion o’r AGM.
  2. Rhaid bod o leiaf [000] aelod yn bresennol yn yr AGM
  3. Bydd un bleidlais gan bob aelod.
  4. Bydd yr ymddiriedolwyr yn cyflwyno’r adroddiad a chyfrifon blynyddol.
  5. Gall unrhyw aelod gynnig ei hun i’w ethol fel ymddiriedolwr.
  6. Bydd yr aelodau yn ethol rhwng 3 a 10 ymddiriedolwr i wasanaethu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddant yn ymddeol yn yr AGM nesaf ond gallant sefyll i gael eu hailethol.

7. Cyfarfodydd ymddiriedolwyr

  1. Rhaid i’r ymddiriedolwyr gynnal o leiaf 3 chyfarfod bob blwyddyn. Yn ystod eu cyfarfod cyntaf ar ôl yr AGM byddant yn ethol cadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd. Gall ymddiriedolwyr weithredu drwy benderfyniad y mwyafrif.
  2. Rhaid i o leiaf 3 ymddiriedolwr fod yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn gallu gwneud penderfyniadau. Cedwir cofnodion ar gyfer pob cyfarfod.
  3. Os oes gwrthdaro buddiannau gan yr ymddiriedolwyr rhaid iddynt ddatgan hyn a gadael y cyfarfod tra bod y mater hwn yn cael ei drafod neu ei benderfynu.
  4. Yn ystod y flwyddyn, gall yr ymddiriedolwyr benodi hyd at 2 ymddiriedolwr ychwanegol. Byddant yn ymddiswyddo yn yr AGM nesaf.
  5. Gall yr ymddiriedolwyr lunio rheolau ychwanegol rhesymol i helpu rhedeg yr elusen. Ni all y rheolau hyn fod yn groes i’r cyfansoddiad hwn neu’r gyfraith.

8. Arian ac eiddo

  1. Rhaid defnyddio arian ac eiddo at ddibenion yr elusen yn unig.
  2. Rhaid i’r ymddiriedolwyr gadw cyfrifon. Gall unrhyw un weld y cyfrifon blynyddol diweddaraf ar gais.
  3. Ni all ymddiriedolwyr dderbyn unrhyw arian neu eiddo gan yr elusen, ac eithrio i ad-dalu mân dreuliau rhesymol.
  4. Rhaid cadw’r arian yng nghyfrif banc yr elusen. Rhaid i bob taliad, boed yn electronig neu drwy siec, gael ei awdurdodi gan ddau ymddiriedolwr nad ydynt yn gysylltiedig.

9. Cyfarfodydd cyffredinol

Os yw’r ymddiriedolwyr yn teimlo bod angen newid y cyfansoddiad, neu ddirwyn yr elusen i ben, rhaid iddynt alw Cyfarfod Cyffredinol er mwyn i’r aelodau allu gwneud y penderfyniad. Rhaid i’r ymddiriedolwyr alw Cyfarfod Cyffredinol hefyd os ydynt yn derbyn cais ysgrifenedig gan y mwyafrif o’r aelodau. Rhaid rhoi 14 diwrnod o rybudd i bob aelod ac esbonio’r rheswm dros gynnal y cyfarfod. Rhaid cael mwyafrif o ddwy ran o dair ar gyfer pob penderfyniad. Rhaid cadw cofnodion.

  1. Dirwyn i ben – rhaid i unrhyw arian neu eiddo sy’n weddill ar ôl talu dyledion gael ei roi i elusen â dibenion tebyg i’r elusen hon.
  2. Newidiadau i’r Cyfansoddiad – gellir eu gwneud mewn AGM neu Gyfarfodydd Cyffredinol. Ni ellir gwneud unrhyw newid a fyddai’n golygu nad yw’r mudiad yn elusen mwyach.
  3. Cyfarfod Cyffredinol – yn cael ei alw ar gais ysgrifenedig gan y mwyafrif o’r aelodau.
  4. Gall ymddiriedolwyr alw Cyfarfod Cyffredinol hefyd i ymgynghori â’r aelodaeth.

10. Sefydlu’r elusen

Mabwysiadwyd y cyfansoddiad hwn ar [00/00/0000] gan y bobl sydd
wedi llofnodi isod. Y bobl yma fydd aelodau cyntaf yr elusen a nhw fydd yr ymddiriedolwyr tan yr AGM, y mae’n rhaid ei gynnal cyn pen blwyddyn o’r dyddiad hwn.

Llofnodwyd

[MEWNOSODWCH LOFNOD DIGIDOL]

Printiwch eich enw a’ch cyfeiriad

[RHOWCH YR ENW A’R CYFEIRIAD]

Dyma fudiadau eraill a allai fod o gymorth

Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr

Ffôn: 0845 300 0218
https://www.gov.uk/government/organisations/charity-commission

Ymwadiad

Pobl mewn cae yn edrych tua'r machlud haul

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â
https://thirdsectorsupport.wales/cy/cysylltu/

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon ar gyfer cyfarwyddyd yn unig. Nid yw’n amnewid am gyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o ganlyniad i unrhyw un sy’n gweithredu neu’n gwrthod gweithredu arno.