Yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru

Esbonio’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoed yn nodi fframwaith syml yn seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi ymgysylltiad ystyrlon ac effeithiol â chymunedau yng Nghymru.

10 i’r brig: Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru

  1. Gwnewch ymgysylltiad yn bwysig
  2. Gwahoddwch y bobl gywir
  3. Cynlluniwch yn dda
  4. Gweithiwch gyda mudiadau eraill
  5. Darparwch gwybodaeth hygyrch
  6. Gwnewch gymryd rhan yn hawdd
  7. Gwerthfawrogwch cyfraniad pobl
  8. Mae adnoddau a chapasiti yn hanfodol
  9. Mae adborth yn hanfodol
  10. Dysgwch a rhannu i wella

Pam maen nhw’n bwysig nawr

  • Maen nhw’n cefnogi’r gwaith o gyflawni Polisi Cymunedau Llywodraeth Cymru ac agendâu cyfranogi ehangach
  • Maen nhw’n helpu cyrff cyhoeddus i fodloni disgwyliadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Adran 16), a dyletswyddau eraill sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu.
  • Maen nhw’n helpu i gynnal cysondeb ac ansawdd beth bynnag fo’r newid gwleidyddol
  • Maen nhw’n ymateb i angen clir sydd wedi’i nodi ledled Cymru ar gyfer cyfranogiad cryfach, ymgynghori ystyrlon a chydweithio’n well

Yr hyn maen nhw’n helpu mudiadau i’w wneud

  • Sicrhau bod ymgynghori yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn realistig
  • Cryfhau perthnasoedd rhwng cyrff cyhoeddus, cymunedau a’r sector gwirfoddol
  • Cynllunio a chyflawni gweithgarwch ymgysylltu sy’n arwain at well penderfyniadau a chanlyniadau
  • Cryfhau perthnasoedd rhwng cyrff cyhoeddus, cymunedau a’r sector gwirfoddol
  • Ymwreiddio newid diwylliant o amgylch cyfranogiad, nid cydymffurfio yn unig

Yr Egwyddorion

1. Dylunio eich gweithgarwch ymgysylltu i wneud gwahaniaeth – ymgysylltwch dim ond pan fydd hyn yn digwydd.

Byddwch yn glir am eich pwrpas:
  • Sut fydd mewnbwn pobl yn cael ei ddefnyddio?
  • Beth ydych chi’n ceisio dylanwadu arno neu ei newid?
  • Pa benderfyniadau sy’n agored i ddylanwad?

2. Gwahodd pobl i gymryd rhan, os ydynt yn dewis gwneud hynny – dylai cymryd rhan fod yn gynhwysol ac yn groesawgar bob amser.

Byddwch yn glir ynglŷn â’r gwahoddiad:
  • Ydych chi’n cyrraedd y bobl gywir?
  • A yw eich gwahoddiad yn hygyrch ac yn groesawgar?
  • Ydych chi’n mynd i ble mae pobl?

3. Cynllunio a chyflawni eich gweithgarwch ymgysylltu mewn ffordd amserol a phriodol – cynlluniwch yn effeithiol.

Byddwch yn glir yn eich cynllunio:
  • Ydych chi wedi cynllunio’r lefel gywir o ymgysylltu o’r cychwyn?
  • Sut ydych chi’n cyrraedd pobl?
  • Pa ddulliau ydych chi’n eu defnyddio?

4. Gweithio gyda mudiadau partner perthnasol – nodi pwy arall sy’n gwneud hyn neu sydd â’r arbenigedd

Byddwch yn glir ynglŷn â phwy allwch fod yn bartner:
  • Allwch chi ddefnyddio gwybodaeth sy’n bodoli eisoes o rywle arall?
  • Pwy all helpu?
  • Beth fyddai’n lleihau amser ac adnoddau?

5. Darparwch wybodaeth sy’n rhydd o jargon, sy’n briodol, ac yn ddealladwy – a yw’n hawdd ei defnyddio?

Byddwch yn glir am y wybodaeth sydd ei hangen:
  • A oes gan bobl y wybodaeth sydd ei hangen?
  • A yw’r wybodaeth yn glir ac yn hygyrch?
  • A yw ar gael yn y Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd gofynnol eraill?

6. Ei gwneud yn hawdd i bobl gymryd rhan – nodwch y rhwystrau a gweithiwch i’w dileu

Byddwch yn glir am beth allai atal pobl rhag cymryd rhan:
  • Gofynnwch i bobl beth sy’n eu hatal rhag cymryd rhan
  • Ydych chi’n defnyddio dull cymysg?
  • Ydych chi angen cymorth arbenigol ychwanegol?

7. Sicrhau bod pobl yn elwa ar y profiad – beth mae pobl yn ei gael ohono?

Byddwch yn glir am ba fudd y bydd pobl yn ei gael o’r ymgysylltiad:
  • Sut fyddwch chi’n gwneud yr ymgysylltiad yn ystyrlon i bobl?
  • Beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi?
  • Pa sgiliau y gallai pobl eu hennill?

8. Sicrhau bod yr adnoddau a’r amser cywir yn cael eu rhoi – oes gennych chi ddigon o’r hyn sydd ei angeni i sicrhau bod eich ymgysylltiad yn effeithiol?

Byddwch yn glir ynglŷn â’r adnoddau sydd gennych ar waith cyn dechrau:
  • Oes gennych chi ddigon o adnoddau i wneud hyn yn effeithiol?
  • Beth yw’r risgiau o ddiffyg adnoddau?
  • A yw eich staff yn barod i ymgysylltu’n effeithiol?

9. Rhoi gwybod i bobl am effaith eu cyfraniad – gwnewch yn siŵr bod yr adborth yn amserol

Byddwch yn glir ynglŷn â sut y byddwch yn rhoi adborth:
  • Beth fyddwch chi’n ei roi yn ôl, i bwy a phryd?
  • Sut fyddwch chi’n rhoi adborth?
  • Pa amrywiaeth o ddulliau fyddwch chi’n eu defnyddio?

10. Dysgu a rhannu i wella’r ffordd rydych yn ymgysylltu – myfyriwch i wella

Byddwch yn glir am beth rydych chi wedi’i ddysgu:
  • Ydych chi’n monitro cynnydd yn barhaus?
  • Sut ydych chi’n cynnwys pobl mewn gwerthuso’r broses?
  • Sut fyddwch chi’n rhoi’r gwersi a ddysgwyd ar waith?

Y camau nesaf

Archwiliwch fwy o gefnogaeth:

Offer a thempledi ar gyfer ymgysylltu cynllunio

Pecyn cymorth i werthuso gwaith ymgysylltu

Pecyn cymorth i werthuso gwaith ymgysylltu

Egwyddorion Cenedlaethol ar Gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru – Fersiwn hawdd ei darllen

Egwyddorion Cenedlaethol ar Gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru – Fersiwn hawdd ei darllen
Group of people wearing headphones sit around a table with microphones on it

Llawlyfr ar gyfer ymgysylltu a’r cyhoedd

Llawlyfr ar gyfer ymgysylltu a’r cyhoedd

Training and events

Ennyn diddordeb y cyhoedd: damcaniaeth ac ymarfer

Nod y cwrs tri diwrnod cynhwysfawr hwn yw rhoi mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymgysylltu cyfranogol.

Ennyn diddordeb y cyhoedd: damcaniaeth ac ymarfer
Young man sitting with laptop he's showing to older woman

Rhywdwaith Cyd-gynhurchy Cymru

Rhywdwaith Cyd-gynhurchy Cymru