Pecyn cymorth i werthuso gwaith ymgysylltu

Y pecyn cymorth hwn

Rydych chi newydd orffen eich proses ymgysylltu, neu ydych chi?

‘Egwyddor 10: Dysgu a rhannu gwersi i wella’r broses ymgysylltu.’

Mae’n ddigon anodd cynllunio a chynnal proses ymgysylltu’n iawn felly nid yw’n syndod nad yw pawb yn rhoi egwyddor 10, ynglŷn â gwerthuso a dysgu, ar waith ar hyn o bryd.

Nod y pecyn cymorth hwn yw gwneud y broses o werthuso gwaith ymgysylltu mor hawdd â phosibl a galluogi pawb i fyfyrio ar eu harferion a dysgu a rhannu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Mae’n disgrifio proses syml, tri cham i helpu ymarferwyr i werthuso eu gweithgareddau ymgysylltu gan ddefnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru.

Datblygwyd y 10 Egwyddor Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar y cyd rhwng asiantaethau’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, dan arweiniad CGGC yn 2011. Cafodd yr egwyddorion eu hadolygu a’u hailgyhoeddi drwy broses debyg yn 2022.

Mae’r Egwyddorion Cenedlaethol yn ganllaw arfer da i alluogi gwaith ymgysylltu effeithiol, moesegol ac ystyrlon â’r cyhoedd a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau. Mae pob egwyddor wedi’i hysgrifennu fel datganiad syml ac wedi’i datblygu drwy’r nodiadau canllaw. Mae’r Egwyddorion Cenedlaethol wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr mewn ystod eang o leoliadau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, swyddogion y llywodraeth, llunwyr polisi, gweinyddwyr cyhoeddus, cyrff sy’n darparu gwasanaethau ac ymarferwyr ymgysylltu.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys rhai cwestiynau ysgogol yn seiliedig ar yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd a allai fod yn ddefnyddiol i chi (Atodiad Un).

Mae’r pecyn cymorth yn cynnig canllawiau hanfodol i gynnal gwerthusiad syml o’ch arferion ymgysylltu. Mae’n rhan o gyfres o adnoddau sydd wedi’u hadolygu, ac mae wedi’i ategu gan ganllaw gwerthuso newydd TSSW (enw a dolen). I’r rheini sydd eisiau dysgu mwy am arferion gwerthuso da yn gyffredinol, mae gwybodaeth yn y canllaw am nifer o agweddau ar arferion da i helpu i gynllunio a chynnal gwerthusiad effeithiol, gan gynnwys; beth a phryd i werthuso, moeseg gwerthuso, cynnal ymchwil ansoddol a meintiol, termau a diffiniadau allweddol, astudiaethau achos a chyfeiriadau at ragor o wybodaeth.

Mae’r pecyn cymorth hwn hefyd yn cynnwys astudiaeth achos (Atodiad Dau), o werthusiad o ymgynghoriad a gynhaliwyd yng Nghymru yn 2024, sy’n dangos yr hyn y gellid ei ystyried yn fodel realistig a chyraeddadwy ar gyfer gwerthuso darn o waith ymgysylltu.

Diolchiadau

Ariannwyd y canllaw hwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’i reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a gomisiynodd Ymgynghoriaeth Alain Thomas a C.A.R.P. Collaborations i’w ddatblygu. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Dinas Abertawe ac Innes Associates am gael defnyddio’r astudiaeth achos, ac i’r unigolion hynny a ddarllenodd ddrafftiau cynharach o’r pecyn cymorth i gynnig adborth adeiladol.

Lawrlwytho adnoddau